Rhoi gwybod i CThEF am dwyll treth neu arbed treth

Rhowch wybod am berson neu fusnes nad yw’n talu digon o dreth yn eich barn chi neu sy’n cyflawni math arall o dwyll yn erbyn Cyllid a Thollau EF (CThEF).

Mae hyn yn cynnwys:

  • arbed treth neu osgoi treth

  • twyll Budd-dal Plant neu dwyll credydau treth

  • cuddio neu symud asedion, arian neu grypto

  • tanwydd ffordd, tybaco ac alcohol anghyfreithlon

  • smyglo metelau gwerthfawr

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Rhoi gwybod am fathau eraill o dwyll neu drosedd

Mae ffordd wahanol o roi gwybod am y canlynol: 

Os ydych mewn perygl neu os yw’n argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.

Sut i roi gwybod i ni

Llenwch y ffurflen ar-lein er mwyn rhoi gwybod i CThEF am yr hyn rydych yn ei wybod am y person neu’r busnes.

Bydd yn helpu os ydych yn rhannu’ch enw, lleoliad a manylion cyswllt. Yna, bydd CThEF yn gallu cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Does dim rhaid i chi roi’ch manylion personol. Cedwir unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi yn breifat ac yn gyfrinachol.

Peidiwch ag anfon gwybodaeth ategol. Gallwch roi gwybod i CThEF os oes gennych wybodaeth ategol pan fyddwch yn cyflwyno’ch adroddiad. Os ydych yn rhoi’ch manylion cyswllt, byddant yn gofyn am ragor o wybodaeth os oes ei hangen arnynt.

I’ch diogelu, ni ddylech geisio dod o hyd i ragor o wybodaeth na rhoi gwybod i unrhyw un eich bod yn cyflwyno adroddiad.

Dechrau nawr

Dulliau eraill o roi gwybod i ni

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.

Ffôn: 0300 200 1900
O’r tu allan i’r DU: +44 300 200 1900
Dydd Llun i ddydd Gwener, 08:30 i 17:00 (ac eithrio gwyliau banc)
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Peidiwch â chyflwyno’ch adroddiad drwy ddull arall, er enghraifft drwy’r post neu sgwrs dros y we.