Canllawiau

Rhoi gwybod am weithgarwch amheus yn eich cyfrif ar-lein CThEF

Dysgwch sut i roi gwybod am weithgarwch amheus sy’n digwydd yn eich cyfrif ar-lein a sut i gadw’ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel rhag twyll hunaniaeth.

Enghreifftiau o weithgarwch amheus

Mae arwyddion i’ch helpu i adnabod gweithgarwch amheus yn cynnwys:

  • codau mynediad yn cael eu hanfon i’ch ffôn pan nad ydych wedi ceisio mewngofnodi

  • methu cael mynediad at eich cyfrif ar-lein oherwydd bod eich cyfrinair wedi’i newid

  • newidiadau i’ch cofnodion treth nad oeddech wedi’u gwneud

  • llythyrau neu daliadau annisgwyl gan CThEF

Os oes rhywun wedi defnyddio’ch gwybodaeth bersonol i gael mynediad at eich cyfrif ar-lein neu wneud newidiadau heb eich caniatâd, twyll hunaniaeth yw hynny.

Os ydych chi’n meddwl bod rhywun wedi cael mynediad at eich cyfrif, dylech wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i CThEF ar unwaith

  • newid cyfrinair eich cyfrif ar-lein, os oes gennych fynediad ato o hyd

Rhoi gwybod am weithgarwch amheus

Os ydych chi’n unigolyn ac mae gennych fynediad o hyd at eich cyfrif ar-lein, gallwch fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF a rhoi gwybod am weithgarwch amheus drwy ddefnyddio’r consol diogelwch. Nid yw’r consol diogelwch ar gael i asiantau ar hyn o bryd.

Defnyddio’r ffurflen i roi gwybod

Bydd angen i chi ddarparu’r canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeiriad e-bost
  • rhif cyswllt gyda’r amserau cyfleus i gysylltu â chi
  • manylion y gweithgarwch amheus

Rhoi gwybod

Cadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel

Peidiwch â rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol gydag unrhyw un nad oes ei angen arno — bydd hyn yn helpu i atal twyll hunaniaeth. Dysgwch ragor ynghylch eich rhif Yswiriant Gwladol ac enghreifftiau o sefydliadau a allai fod angen ei wybod.

Mae gan Stop! Think Fraud gyngor ar ddiogelu eich hun rhag ymosodiadau gwe-rwydo a thwyll.

Gallwch hefyd ddysgu rhagor ynghylch sut i ddiogelu’ch manylion a beth mae CThEF yn ei wneud i’ch helpu i gadw’n ddiogel ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Rhagfyr 2025

Argraffu'r dudalen hon