Canllawiau

Datgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A

Defnyddiwch y ffurflen hon os yw CThEF wedi anfon llythyr atoch ynghylch eich ffurflen P11D(b) ac nid ydych wedi rhoi treuliau a buddiannau trethadwy i gyflogeion.

Os nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, bydd dim ond angen i chi roi gwybod i CThEF am hyn os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydym wedi anfon llythyr atoch ynghylch eich ffurflen P11D(b)
  • nid ydych wedi talu unrhyw dreuliau na buddiannau trethadwy i unrhyw gyflogeion

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn gyflogwr, bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod TWE y Cyflogwr
  • enw’r cyflogwr
  • cod post y busnes
  • dynodydd defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth — os nad oes gennych ID, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein

Os ydych yn asiant, bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw
  • cyfeirnod TWE yr asiant
  • enw cyswllt
  • rhif ffôn cyswllt
  • cyfeiriad e-bost
  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

Dechrau nawr

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Hydref 2025 show all updates
  1. Information on what an agent will need has been updated to include 'a Government Gateway user ID and password'.

  2. Welsh translation added.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon