Canllawiau

Talu cyflogeion drwy’r gyflogres: treuliau a buddiannau trethadwy

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres i ddangos eich bod yn casglu treth ar fuddiannau a threuliau drwy eich cyflogres.

Gwasanaethau ar-lein

Os ydych yn dewis talu drwy’r gyflogres, gallwch roi gwybod i CThEF ar-lein. Bydd yn rhaid i chi gofrestru ar-lein cyn dechrau’r flwyddyn dreth yr ydych am dalu drwy’r gyflogres ar ei chyfer.

Mae’n rhaid i chi ychwanegu cyfwerth mewn arian parod buddiannau’r cyflogeion i’w cyflog, ac yna eu trethu drwy eich cyflogres.

Bydd CThEF yn sicrhau nad yw gwerth y buddiannau wedi’u cynnwys yng nghodau treth eich cyflogeion.

Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres a defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth:

  • ni fydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P11D
  • bydd yn rhaid i chi gyfrifo’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau a llenwi ffurflen P11D(b) yn ôl yr arfer

Gallwch eithrio cyflogeion o dalu drwy’r gyflogres ar ôl i chi gofrestru, ond bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen P11D er mwyn datgan y buddiannau sydd heb eu talu drwy’r gyflogres.

Unwaith i’r flwyddyn dreth ddechrau, bydd yn rhaid i chi dalu’r buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth gyfan, neu nes eich bod yn rhoi’r gorau i roi’r buddiannau.

Cyn i chi ddechrau

Dylech gysylltu â’ch darparwr meddalwedd cyfrifyddu er mwyn sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu casglu’r dreth gywir sy’n ddyledus ar y buddiannau sydd wedi’u cofrestru yn uniongyrchol o gyflog eich cyflogeion.

Os ydych yn defnyddio Offer TWE Sylfaenol, gallwch nawr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Bydd yn rhaid i chi gofrestru erbyn 5 Ebrill o hyd.

Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch i allu ymrestru ar gyfer TWE ar-lein.

Argaeledd y gwasanaeth

7:00 i 22:00, dydd Llun i Ddydd Gwener
8:00 i 20:00 ar benwythnosau

Gall gwasanaethau CThEM fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch er mwyn gweld a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Cyflwyno ffurflenni P11D trwy ddull electronig

Bydd yn rhaid i chi gyflwyno ffurflenni P11D trwy ddull electronig ar gyfer unrhyw gyflogeion lle’r ydych wedi rhoi buddiannau ychwanegol sydd heb gael eu talu drwy’r gyflogres.

Gallwch dalu’r holl fuddiannau drwy’r gyflogres, heblaw am y canlynol:

  • llety byw a roddwyd gennych chi, fel cyflogwr
  • benthyciadau (buddiannol) sy’n ddi-log a llog isel

Rhagor o wybodaeth

Dysgwch ragor am dalu trwy’r gyflogres: trethu buddiannau a threuliau cyflogeion drwy’ch cyflogres.

Cyhoeddwyd ar 12 June 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 November 2023 + show all updates
  1. The link to the form 'PAYE — notification of payrolled benefits' to tell us about payrolled benefits paid to your employees has been removed. You must register and use the online service.

  2. The section on Submitting electronic P11Ds has been changed because employers no longer need to use the service to send P11D’s in for payrolled employees from April 2023.

  3. From 6 April 2023, HMRC will no longer HMRC will no longer accept informal payrolling of expenses and benefits, or paper P11D forms.

  4. The address in the section on other ways to apply has been updated.

  5. HMRC's Basic PAYE Tools can now support the payrolling benefits online service.

  6. Welsh translation added.

  7. Link to further guidance on payrolling benefits in kind added.

  8. Guidance on using the new Payrolling Benefits in Kind service has been amended following feedback from users.

  9. Register now to use the new Payrolling Benefits in Kind online service. From 6 April 2016 you'll need to use this service if you want to payroll your expenses and benefits. You'll have to register for the new service by 5 April 2016 and you'll no longer have to submit P11Ds for your employees. This service replaces the current informal payrolling process.

  10. First published.