Canllawiau

Sut i lenwi ffurflenni P11D a P11D(b)

Gwybodaeth am yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddangos ar ffurflenni P11D a P11D(b) i ddatgan treuliau, buddiannau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A eich cwmni.

Trosolwg

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut i lenwi ffurflenni P11D a P11D(b) ar gyfer treuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr ar gyfer 2023 i 2024.

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) drwy:

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth fanwl o dan dreuliau a buddiannau ar gyfer cyfarwyddwyr a chyflogeion — canllaw treth: 480 (yn agor tudalen Saesneg).

Nid oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer cyflogai os ydych yn talu treth ar ei holl fuddiannau drwy’ch cyflogres.

Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) er mwyn i chi allu talu unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch.

Pryd y dylech lenwi ffurflen P11D

Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi ddarparu manylion am unrhyw gyflogeion neu gyfarwyddwyr (gan gynnwys eu teuluoedd neu aelwydydd) yr ydych wedi rhoi’r canlynol iddynt:

  • taliadau treuliau
  • buddiannau
  • cyfleusterau

Yn gyffredinol, diffinnir ‘teulu neu aelwyd’ yng nghyd-destun cyflogai fel:

  • priod neu bartner sifil
  • plant — gan gynnwys eu priod neu eu partneriaid sifil
  • rhieni
  • gweision
  • dibynyddion
  • gwesteion

Darllenwch baragraff 1.11 o’r cefndir cyfreithiol i’r taliadau treuliau a buddiannau (480: pennod 1) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen P11D ar wahân ar gyfer pob cyfarwyddwr neu gyflogai perthnasol. Mae’n rhaid i chi hefyd roi’r wybodaeth a nodwyd ar y ffurflen P11D i bob cyfarwyddwr a chyflogai perthnasol.

Peidiwch â llenwi ffurflen P11D os:

  • nad oes treuliau, taliadau neu fuddiannau trethadwy i’w datgan ar gyfer unigolyn
  • yw’r treuliau a’r buddiannau wedi’u trethu drwy eich cyflogres

Cytundebau setliad TWE a thaliadau wedi’u heithrio

Does dim rhaid i chi ddangos ar ffurflen P11D y treuliau, taliadau neu fuddiannau a gwmpesir gan gytundeb setliad TWE neu a gwmpesir gan yr eithriad ar gyfer treuliau wedi’u talu neu eu had-dalu.

Darllenwch bennod 2 a pharagraff 4.4 o bennod 4 o’r treuliau a buddiannau ar gyfer cyfarwyddwyr a chyflogeion — canllaw treth: 480 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Pryd y dylech lenwi ffurflen P11D(b)

Defnyddiwch ffurflen P11D(b) i ddatgan symiau’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y mae’n rhaid i chi eu talu ar gyfer y flwyddyn.

Mae 5 adran i’r ffurflen P11D(b):

  • cyflwyniad — mae hwn yn rhoi gwybod i chi beth i roi gwybod amdano a phryd i wneud hynny
  • cyflogeion — rhestr o gyflogeion y gallai fod angen P11D, gallwch ychwanegu mwy o gyflogeion i’r rhestr
  • cyfanswm y grynodeb — nodwch y cyfraniad Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus, ac unrhyw addasiadau i gyfrifo’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol sy’n daladwy
  • datganiad
  • cyflwyniadau — dyma ble allwch chi gyflwyno beth sydd wedi’i chwblhau i CThEF

Swm a dalwyd, neu y didynnwyd treth ohono

Yn y blychau sydd â’r pennawd hwn ar ffurflen P11D, nodwch symiau a dalwyd gan y cyfarwyddwr neu’r cyflogai ar neu cyn 6 Gorffennaf 2024 ac y didynnwyd treth oddi wrthynt o dan TWE.

Bydd angen i chi wneud addasiad cyfatebol i gyfanswm y buddiannau a nodwyd ar ffurflen P11D(b) os byddwch yn nodi swm y didynnwyd treth oddi wrtho o dan TWE pan fo’r buddiant yn agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Effaith TAW

Dylech gynnwys cyfanswm llawn y TAW ar ffurflen P11D, p’un a ellir ei adennill yn llawn neu’n rhannol gennych chi oddi wrth CThEF ai peidio.

Darllenwch baragraff 25.10 o’r arweiniad ar sut i lenwi’r ffurflenni P11D (480: pennod 25) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Cosbau

Mae yna gosbau os na fyddwch yn cyflwyno datganiadau, neu os byddwch yn cyflwyno datganiadau anghywir ar ffurflenni P11D a P11D(b), naill ai’n ddiofal neu’n fwriadol. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar gyfer 2023 i 2024 yw 6 Gorffennaf 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, mae rheolau arbennig yn pennu swm y buddiant sy’n cael ei drin fel enillion o’r gyflogaeth, pan ddarperir y buddiant fel rhan o drefniadau opsiynol ar gyfer tâl.

Mae trefniadau tâl opsiynol yn drefniadau lle y mae cyflogai’n ildio’r hawl, neu’r hawl yn y dyfodol, i gyflog (a elwir yn gyffredinol yn aberthu cyflog), neu’r hawl i ffurf arall o dâl ariannol yn gyfnewid am y buddiant. Maent yn cynnwys pecynnau buddiannau hyblyg gydag opsiwn ariannol.

Pan ddewisir buddiant yn hytrach na ffurf o gyflog neu dâl, gwerth trethadwy’r buddiant a’r swm sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yw naill ai swm y cyflog a ildiwyd neu werth trethadwy’r buddiant o dan reolau arferol buddiannau, gan anwybyddu unrhyw swm a dalwyd, p’un bynnag o’r rhain sydd fwyaf. Nodwch y swm a ildiwyd neu’r swm perthnasol yn y blwch priodol.

Darllenwch drefniadau opsiynol ar gyfer tâl (480: atodiad 12) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Asedion sydd wedi’u trosglwyddo (ceir, eiddo, nwyddau neu asedion eraill)

Mae’n rhaid i chi nodi un o’r canlynol:

  • gwerth marchnad yr ased ar ddyddiad y trosglwyddiad
  • ffigur wedi’i seilio ar y gost i chi

Darllenwch brisio buddiannau cwmni (480: pennod 6) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Taliadau a wnaed ar ran y cyflogai

Nodwch symiau y dylai’ch cyflogai fod wedi’u talu, ond y gwnaethoch chi eu talu yn ei le.

Darllenwch dâl nad yw ar ffurf arian parod (480: pennod 26) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Treth ar daliadau tybiannol

Mae TWE yn gymwys i incwm o gyflogaeth sy’n drethadwy o dan Ran 7A o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (ITEPA 2003). Ar gyfer (incwm penodol a ddarperir drwy drefniadau trydydd parti), a ddarperir ar ffurf:

  • taleb sy’n gyfwerth ag arian parod
  • talebau a thocynnau credyd a ddefnyddir i brynu asedion neu y gellid eu cyfnewid am arian parod yn hawdd
  • ased y gellir ei gyfnewid yn hawdd

Mae TWE hefyd yn berthnasol i incwm o gyflogaeth a delir gan gyfryngwr y cyflogwr.

Nodwch y dreth ar y taliadau tybiannol hyn nad adenillwyd oddi wrth y cyfarwyddwr neu’r cyflogai cyn pen 90 diwrnod o ddiwedd y flwyddyn dreth.

Talebau a chardiau credyd

Nodwch gyfanswm:

  • y gost i chi o roi unrhyw dalebau (yn cynnwys tocynnau tymor) y gellir eu cyfnewid am:
    • arian
    • nwyddau
    • gwasanaethau
  • yr holl dreuliau a thaliadau eraill y talwyd amdanynt drwy ddefnyddio cardiau credyd a ddarparwyd gennych, ar wahân i dreuliau:
    • mewn cysylltiad uniongyrchol â’r ceir yn yr adran ‘Ceir a thanwydd ceir’ o’r ffurflen P11D
    • sy’n fwy addas i adran ‘Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai’ y ffurflen P11D

Peidiwch â chynnwys talebau, megis talebau sy’n gyfwerth ag arian parod, sydd wedi’u trethu o dan TWE, darllenwch yr arweiniad ar daliadau a wnaed ar ran y cyflogai i gael rhagor o wybodaeth.

Llety byw

Mae’n rhaid i chi nodi cyfwerth mewn arian y llety byw a ddarperir ar gyfer y cyfarwyddwr neu’r cyflogai neu ei deulu neu aelwyd oherwydd y gyflogaeth.

Darllenwch lety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Defnyddiwch y gwerth gros ar gyfer trethi eiddo a oedd yn berthnasol cyn i’r dreth gymunedol ddod i rym er mwyn cyfrifo’r cyfwerth mewn arian.

Os yw’r llety wedi’i rentu, defnyddiwch swm y rhent sy’n daladwy (gan gynnwys unrhyw swm a briodolwyd i bremiwm prydles) yn hytrach na’r gwerth trethiannol gros.

Os nad oedd gan yr eiddo werth trethiannol gros, defnyddiwch eich amcangyfrif o beth fyddai’r gwerth trethiannol gros petai’r trethi eiddo wedi parhau.

Mae rheolau gwahanol yn berthnasol yn yr Alban.

Darllenwch baragraff 21.9 o lety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Os oedd cyfanswm cost y llety ac unrhyw welliannau yn llai na £75,000, y cyfwerth mewn arian fydd p’un bynnag o’r canlynol sydd fwyaf:

  • y gwerth gros ar gyfer trethi eiddo
  • cyfanswm unrhyw rent sy’n daladwy gan y cyflogwr
  • unrhyw swm a briodolwyd i bremiwm prydles, llai unrhyw rent a delir gan y cyflogai

Darllenwch baragraffau 21.11 a 21.12 o’r llety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod sut i gyfrifo’r buddiant os oes premiwm prydles yn daladwy.

Os costiodd y llety fwy na £75,000 (gan gynnwys gwelliannau). Darllenwch baragraffau 21.13 a 21.15 o’r llety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael gwybod sut i gyfrifo’r buddiant.

Mae gwerth llety byw wedi’i eithrio rhag treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A o dan rai amgylchiadau. Os yw gwerth y llety wedi’i eithrio, peidiwch â datgan ffigur cyfwerth mewn arian ar y ffurflen P11D.

Darllenwch baragraffau 21.2 a 21.3 o’r llety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Os, yn ogystal â darparu’r llety, gwnaethoch dalu rhai o filiau’r cyflogai (megis gwres a golau) neu roi buddiannau ategol (megis dodrefn), dangoswch y rhain yn yr adran ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’ ar y ffurflen P11D, p’un a yw gwerth y llety ei hun wedi’i eithrio rhag treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ai peidio. Os:

  • oedd y contract rhyngoch chi a’r cyflenwr, rhowch fanylion y buddiant yn yr adran ar gyfer eitemau dosbarth 1A
  • gwnaeth y cyflenwr gontractio gyda’r cyflogai yn uniongyrchol, rhowch fanylion y buddiant yn yr adran ar gyfer eitemau nad yw’n dosbarth 1A

Darllenwch baragraffau 21.17 a 21.22 o’r llety byw a ddarperir gan y cwmni (480: pennod 21) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Taliadau lwfans milltiroedd heb eu trethu wrth y ffynhonnell

Nodwch y ffigur sydd dros y swm a gymeradwywyd ar gyfer pob taliad sydd wedi’i eithrio rhag treth.

Y swm a gymeradwywyd yw nifer y milltiroedd a deithiwyd ar fusnes (heblaw fel teithiwr) wedi’i luosi â’r cyfraddau priodol ar gyfer y math o gerbyd a ddefnyddiwyd.

Gellir gwneud taliadau lwfans milltiroedd cymeradwy dim ond ar gyfer teithiau yng ngherbyd y cyflogai ei hun.

Math o gerbyd Y 10,000 milltir busnes cyntaf yn 2023 i 2024 Pob milltir busnes dros 10,000 yn 2023 i 2024
Ceir a faniau 45c 25c
Beiciau modur 24c 24c
Beiciau 20c 20c

Darllenwch sut i drethu’r taliadau milltiroedd ar gyfer cyflogeion (480: pennod 16) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Ceir a thanwydd ceir

Rhowch fanylion y ceir a oedd ar gael ar gyfer defnydd preifat a chyfanswm y tâl buddiant car.

Fel arfer, pris sylfaenol y car yw’r pris sylfaenol yn y DU ar y diwrnod cyn ei gofrestru gyntaf, gan gynnwys:

  • TAW
  • treth car (lle bo hynny’n berthnasol)
  • costau dosbarthu
  • platiau rhif

Os nad oedd gan y car bris sylfaenol pan gafodd ei gofrestru gyntaf, defnyddiwch y pris tybiannol. Dyma’r pris y gellid yn rhesymol disgwyl iddo fod yn bris sylfaenol y car pe bai gwneuthurwr, mewnforiwr neu ddosbarthwr y car wedi cyhoeddi pris sylfaenol ar gyfer car cyfatebol am werthiant masnachol unigol yn y DU.

Rhaid cynnwys ategolion ar eu pris sylfaenol, gan gynnwys TAW a chostau gosod a dosbarthu, gan gynnwys:

  • ategolion dewisol gyda’r car pan oedd ar gael i’r cyfarwyddwr neu’r cyflogai am y tro cyntaf, p’un a oeddent ar gael ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn dreth hon ai peidio

  • ategolion i’r car ar ôl iddo fod ar gael i’r cyflogai am y tro cyntaf, cyn belled â’u bod wedi’u hychwanegu ar ôl 31 Gorffennaf 1993 a bod ganddynt bris o £100 neu fwy

Caiff cyfraniadau cyfalaf (taliadau a wnaed gan y cyfarwyddwr neu’r cyflogai tuag at gost y car ac ategolion) eu didynnu o bris y car ac ategolion (uchafswm y didyniad yw £5,000).

Mae’r ffigur hwn yn cael ei luosi â’r ‘ganran briodol’ i roi’r tâl buddiant car ar gyfer y flwyddyn dreth lawn.

Mae’r ganran briodol ar gyfer ceir a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ionawr 1998 yn dibynnu ar allyriadau carbon deuocsid (CO2) y car a’r math o danwydd a ddefnyddir. Darllenwch gyfrifo’r ganran briodol ar gyfer buddiannau car cwmni (480: atodiad 2) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

O 6 Ebrill 2020 ymlaen, er mwyn cyfrifo canran briodol y car, bydd angen y dyddiad y cofrestrwyd y car am y tro cyntaf arnoch ac o ran:

  • ceir hybrid — ‘milltiroedd allyriadau sero’ os yw’r ffigur allyriadau CO2 rhwng 1 a 50g y km
  • ceir sy’n gwbl drydanol — rhowch 0 yn y maes allyriadau CO2

Darllenwch yr adran ynghylch sut i gyfrifo’r buddiant a geir o gar cwmni (480: Pennod 12) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Mae’n rhaid i chi nodi’r llythyren allweddol o’r tabl canlynol i ddynodi’r math o danwydd neu bŵer a ddefnyddir ym mhob car.

Llythyren allweddol Disgrifiad o’r math o danwydd neu bŵer
F Ceir diesel sy’n bodloni’r safon Ewro 6d
D Ceir diesel
A Pob car arall

Caiff y ganran briodol ei seilio ar faint yr injan ar gyfer ceir a gofrestrwyd cyn 1 Ionawr 1998 a cheir a gofrestrwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwn heb ffigur allyriadau CO2 cymeradwy.

Maint yr injan Cofrestrwyd cyn 1 Ionawr 1998 Cofrestrwyd ar ôl 1997 heb ffigur CO2 cymeradwy
0 i 1400cc 24% 24%
1401cc i 2000cc 35% 35%
Dros 2000cc 37% 37%
Ceir gydag injan dro 37% 37%

Bydd nifer fach o geir heb ffigur allyriadau CO2 cymeradwy. Bydd y rhain yn debygol o fod yn geir anghyffredin neu unigryw, neu’n geir a fewnforiwyd o’r tu allan i’r DU neu’r UE. Mae atodiadau a gostyngiadau ar gyfer y math o danwydd yn berthnasol i’r ceir hyn hefyd os cawsant eu cofrestru gyntaf ar ôl 1998.

Os nad oedd y car ar gael am ran o’r flwyddyn, caiff y tâl buddiant car ar gyfer y car hwnnw ei ostwng yn unol â hynny. Caiff unrhyw daliadau gan y cyfarwyddwr neu’r cyflogai tuag at ddefnydd preifat, ac sydd wedi’u talu yn ystod 2023 i 2024, eu didynnu wedyn.

Mae’r manylion llawn, gan gynnwys y rheolau ar wahân ar gyfer cyfrifo buddiant ceir sy’n rhedeg ar danwydd amgen a cheir clasurol, yn cael eu hegluro yn sut i gyfrifo buddiant car cwmni (480: pennod 12) (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’n cynnwys y rheolau cyffredin ar bennu prisiau at ddibenion treth, sut i ddod o hyd i’r ffigur allyriadau CO2 cymeradwy a phenderfynu ar y ganran briodol. Mae hefyd yn egluro’r rheolau arbennig ar gyfer gyrwyr anabl.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Tâl buddiant tanwydd car

Ni fydd yna dâl buddiant os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • darparwyd tanwydd ar gyfer teithio busnes yn unig
  • roedd yn ofynnol i’r cyfarwyddwr neu’r cyflogai dalu am gost lawn y tanwydd a ddefnyddiwyd at ddibenion teithio preifat (gan gynnwys teithio rhwng y gwaith a’r cartref)
  • talwyd lwfans milltiroedd a oedd yn talu dim mwy na chost y tanwydd a ddefnyddiwyd ar gyfer teithio busnes — os talwyd lwfans a oedd yn talu am gostau tanwydd ar gyfer teithio preifat, er enghraifft rhwng y gwaith a’r cartref, bydd yna dâl buddiant

Os tynnir y ddarpariaeth tanwydd am ddim yn ôl, caiff y tâl buddiant ei ostwng yn unol â nifer y diwrnodau roedd y car ar gael ar ôl y dyddiad y’i tynnwyd yn ôl.

Does dim gostyngiad os adferwyd y tanwydd am ddim nes ymlaen yn y flwyddyn dreth.

Nodwch gyfanswm y buddiant tanwydd car ar gyfer yr holl geir sydd ar gael. Mae’n rhaid nodi’r math o danwydd neu bŵer, p’un ai yw tâl buddiant tanwydd car yn gymwys ai peidio.

Darllenwch danwydd trethadwy a ddarperir ar gyfer ceir a faniau cwmni (480: pennod 13) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Faniau a thanwydd faniau

Y tâl ar gyfer buddiant fan ar gyfer 2023 i 2024 yw £3,960.

Gostyngir y tâl ar gyfer cyfnodau pan nad oes fan ar gael. Caiff taliadau gan gyfarwyddwr neu gyflogai y mae angen iddo ddefnyddio’r fan at ddibenion preifat, ac sydd wedi’u talu yn ystod 2023 i 2024, eu didynnu wedyn. Os oes 2 neu fwy o gyfarwyddwyr neu gyflogeion yn rhannu defnydd preifat o’r fan, dylid gostwng y tâl safonol ar gyfer pob un ar sail deg a rhesymol.

Os yw’r cyflogeion sy’n rhannu’r fan yn aelodau o’r un teulu neu aelwyd, a bod un ohonynt mewn cyflogaeth wedi’i heithrio, dylid diystyru’r ffaith fod y fan ar gael i’r person hwnnw pan wneir y gostyngiad am rannu i dâl buddiant y cyflogeion eraill.

Darllenwch yr adran ynghylch treuliau a buddiannau, sy’n trafod faniau cwmni a thanwydd (yn agor tudalen Saesneg), i gael rhagor o wybodaeth.

Tâl buddiant tanwydd fan

Y tâl buddiant ar gyfer tanwydd fan ar gyfer 2023 i 2024 yw £757. Codir hyn ar bob fan pan ddarperir tanwydd ar gyfer defnydd preifat a bod y tâl buddiant fan (cyn gostyngiadau) yn fwy na sero.

Mae’r rheolau yn yr adran ‘Ceir a thanwydd ceir’ ar y ffurflen P11D o dan ‘Tâl buddiant tanwydd car’, hefyd yn gymwys i dâl buddiant tanwydd fan.

Darllenwch danwydd trethadwy a ddarperir ar gyfer ceir a faniau cwmni (480: pennod 13) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Benthyciadau di-log, llog isel a thybiannol

Does dim rhaid i chi ddatgan benthyciadau a ddefnyddiwyd yn gyfan gwbl at ddibenion cymwys ar ffurflen P11D.

Darllenwch fenthyciadau cymhwysol (480: atodiad 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Nodwch y cyfwerth mewn arian ar gyfer pob benthyciad anghymwys ar wahân. Os ydych chi’n gwmni caeedig sy’n rhoi benthyciadau i gyfarwyddwr, gallwch ddewis trin benthyciadau o’r fath sydd yn yr un arian cyfred ac sy’n ddyledus ar yr un adeg fel un benthyciad. Rydych yn gwneud y dewis drwy ddangos y benthyciadau fel un benthyciad ar ffurflen P11D. Os gwnewch ddewis, bydd y cyfarwyddwr yn rhwymedig iddo.

Darllenwch drefniadau benthyciadau buddiannol (480: pennod 17) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Nodwch fanylion y benthyciadau a wnaed i, neu a drefnwyd ar gyfer cyfarwyddwr neu gyflogai (neu ei berthnasau) pan:

  • na thalwyd llog
  • oedd swm y llog a dalwyd yn llai na’r llog a dalwyd ar y gyfradd swyddogol

Darllenwch drefniadau benthyciadau buddiannol (480: atodiad 4) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Nodwch yr arian cyfred a ddefnyddiwyd os nad yw mewn punnoedd sterling.

Dylech ond rhoi cofnod yn y blwch ar gyfer ‘Nifer y benthycwyr ar y cyd’ os oes unrhyw fenthycwyr eraill ar y cyd rydych yn llenwi ffurflen P11D ar eu cyfer, sef y buddiant (ar y cyd) ar yr un benthyciad.

Nodwch yn y blwch nifer y benthycwyr ar y cyd y cafodd y cyfwerth mewn arian ei rannu rhyngddynt. Ni fydd nifer y benthycwyr ar y cyd yn effeithio ar gyfanswm y benthyciad. Ym mhob achos, dangoswch swm llawn y benthyciad.

Dylech gynnwys buddiannau ‘benthyciad tybiannol’ blynyddol o dan Adran 446S, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 ar gyfer cyfranddaliadau a gaffaelwyd gan y cyfarwyddwr neu’r cyflogai ar werth rhy isel a chyfranddaliadau y talwyd amdanynt yn rhannol.

Peidiwch â chynnwys cliriadau Adran 446U y benthyciadau tybiannol hyn. Bydd angen nodi’r rhain ar wahân ar ddatganiad y cyflogwr, sef ffurflen 42.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Os ydych yn gwybod bod y cyfanswm sydd heb ei dalu ar y benthyciadau i gyd, neu ar y benthyciadau anghymwys i gyd, yn £10,000 neu lai yn ystod 2023 i 2024, dylech ddiystyru benthyciadau o’r fath wrth lenwi’r adran ‘Benthyciadau di-log a llog isel’ ar ffurflen P11D.

O dan rai amgylchiadau, gall benthyciad gan berson heblaw’r cyflogwr ddod o dan y rheolau yn Rhan 7A ITEPA 2003 ar gyfer incwm cyflogaeth a ddarperir drwy drefniadau trydydd parti, a bydd TWE yn gymwys i’r symiau hyn.

Darllenwch baragraff 1.14 i 1.21 o’r cefndir cyfreithiol i’r taliadau treuliau a buddiannau (480: pennod 1) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

I gael y manylion diweddaraf am y gyfradd llog swyddogol (gan gynnwys y gyfradd llog gyfartalog ar gyfer pob blwyddyn dreth) darllenwch yr arweiniad cyfraddau a lwfansau: trefniadau benthyciadau buddiannol (yn agor tudalen Saesneg).

Triniaeth neu yswiriant meddygol preifat

Nodwch gost yr holl dreuliau meddygol a deintyddol a drefnwyd ac a dalwyd gennych, a’r holl bremiymau a dalwyd fel yswiriant ar gyfer triniaeth o’r fath.

Os gwnaethoch chi dalu treuliau meddygol neu ddeintyddol, neu yswiriant ar gyfer triniaeth o’r fath, a drefnwyd gan eich cyflogai, nodwch y swm a dalwyd gennych yn yr adran ‘Taliadau a wnaed ar ran y cyflogai’ ar ffurflen P11D.

Taliadau, buddiannau a threuliau adleoli cymwys

Nodwch y swm sydd dros £8,000 o gyfanswm yr holl:

  • taliadau treuliau cymwys (y swm gros)

  • buddiannau cymwys (y gost i chi fel y cyflogwr, llai unrhyw beth a dalwyd tuag at y gost gan y cyfarwyddwr neu’r cyflogai)

  • llety cymwys a ddarperir

Treuliau a buddiannau cymhwysol yw’r rhai sydd:

Mae costau wedi’u heithrio yn cynnwys llawer o’r costau adleoli arferol, fel:

  • ffioedd gwerthwyr tai a ffioedd cyfreithiol
  • tollau stamp
  • ymweliadau chwilota am dai
  • costau symud

Os cewch anhawster i bennu gwerth unrhyw fuddiannau wrth gyfrifo’r swm gormodol sydd dros £8,000, cysylltwch â CThEF cyn i chi lenwi’r ffurflen P11D.

Mae’r terfyn o £8,000 yn berthnasol i’r adleoliad cyfan, ac nid dim ond eitemau fel y treuliau cymwys a’r buddiannau a ddarparwyd y flwyddyn hon. Os oedd eitemau cymwys ar gyfer y cyfarwyddwr neu’r cyflogai hwn y flwyddyn ddiwethaf, dylech eu cynnwys wrth gyfrifo a oes swm dros £8,000. Ar gyfer costau adleoli anghymwys, ewch i adrannau ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’ a ‘Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai’ y ffurflen P11D.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Gwasanaethau a ddarparwyd

Nodwch gost ychwanegol gwasanaethau a ddarperir pan fo’r contract rhyngoch chi a chyflenwr y gwasanaeth.

Ni chodir tâl ar rai gwasanaethau a ddarperir gan y cyflogwr (naill ai ar safle y mae’r cyflogwr yn ei ddal neu rywle arall) pan na fydd y defnydd preifat o’r gwasanaeth yn sylweddol yng nghyd-destun y defnydd a wneir ohono gan y cyflogai wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Darllenwch daliadau a buddiannau anhrethadwy (480: pennod 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Asedion a oedd ar gael i’r cyflogai

Nodwch werth blynyddol y defnydd o’r ased (neu’r rhent neu’r tâl llogi a godwyd os oedd hynny’n uwch).

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Ni chodir tâl ar rai asedion a ddarperir gan y cyflogwr (naill ai ar safle y mae’r cyflogwr yn ei ddal neu rywle arall) pan na fydd y defnydd preifat o’r ased yn sylweddol yng nghyd-destun y defnydd a wneir ohono gan y cyflogai wrth gyflawni ei ddyletswyddau. Ni chaiff rhai mathau o fuddiannau, megis defnydd o gerbydau (gan gynnwys cychod ac awyrennau), eu cynnwys yn yr eithriad.

Darllenwch daliadau a buddiannau anhrethadwy (480: pennod 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Offer a ddarperir ar gyfer cyflogeion ag anabledd

Does dim buddiant trethadwy os yw cyflogwr yn darparu offer (er enghraifft, cadair olwyn neu declyn clywed) ar gyfer cyflogai ag anabledd i alluogi’r cyflogai i gymryd neu gadw gwaith, a phan fydd y cyflogai hefyd yn defnyddio’r offer ar gyfer defnydd preifat sylweddol.

Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)

Tanysgrifiadau a ffioedd

Nodwch fanylion ffioedd a thanysgrifiadau a drefnwyd ac a dalwyd gennych chi, neu ar eich rhan. Dylech gynnwys tanysgrifiadau cychwynnol a blynyddol i glybiau sy’n darparu gwasanaethau hamdden neu weithgareddau chwaraeon ac ati.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Darllenwch yr adran ‘Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai’ os oedd y ffioedd neu’r tanysgrifiadau wedi:

  • eu trefnu gan y cyflogai ac wedi’u talu gennych chi neu ar eich rhan
  • eu talu i gorff proffesiynol neu gymdeithas ddysgedig mewn perthynas â’r gyflogaeth

Cymorth addysgol

Nodwch gost y cymorth addysgol a ddarparwyd pan fo’r contract rhyngoch chi a darparwr y buddiant. Dylech gynnwys gwerth yr ysgoloriaethau a ddyfernir i blant oherwydd cyflogaeth eu rhieni. Peidiwch â chynnwys taliadau perthnasol ar gyfer cyrsiau ail-hyfforddi cymwys (fel y’u diffinnir yn Adran 311, ITEPA 2003).

Darllenwch ysgoloriaethau (480: pennod 18) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Buddiannau a thaliadau treuliau adleoli anghymwys

Darllenwch baragraff 32 yn rhan 5 o’r canllaw ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (CWG5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Buddiannau

Nodwch yr holl fuddiannau adleoli (y gost i chi fel y cyflogwr llai unrhyw beth a dalwyd tuag at y gost gan y cyflogai) sydd heb fod:

Darllenwch daliadau a buddiannau anhrethadwy (480: pennod 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Os cewch anhawster wrth bennu gwerth unrhyw fuddiannau, cysylltwch â CThEF gyda’r manylion cyn i chi lenwi’r ffurflen P11D.

Treuliau

Treuliau Adleoli

Nodwch yma unrhyw daliadau treuliau adleoli (symiau gros llai unrhyw swm y didynnir treth oddi wrtho), sy’n dreuliau wedi’u heithrio (a restrir yn atodiad 7 o’r canllaw 480 ar dreuliau a buddiannau (yn agor tudalen Saesneg)) ond a dalwyd ar ôl y ‘diwrnod perthnasol’ neu sy’n methu â bodloni un o’r amodau cymhwyso eraill.

Darllenwch daliadau a buddiannau anhrethadwy (480: pennod 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Treuliau adleoli anghymwys

Dylid nodi treuliau nad ydynt yn dreuliau wedi’u heithrio, ac sydd heb eu rhestru o dan dreuliau adleoli (480: atodiad 7) (yn agor tudalen Saesneg), yn yr adran ‘Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai’ ar ffurflen P11D.

Ni fydd benthyciad pontio buddiannol a roddir i gyflogai fel rhan o becyn adleoli yn gymwys ar gyfer rhyddhad o dan Adran 271 ITEPA 2003. Gallai rhywfaint o ryddhad arall fod yn ddyledus i’r cyfarwyddwr neu’r cyflogai o dan Adran 288 o ITEPA 2003 os yw treuliau a buddiannau adleoli cymwys yn dod i gyfanswm o lai nag £8,000.

Darllenwch daliadau a buddiannau anhrethadwy (480: pennod 5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Terfynau penodol

Fel arfer, mae taliadau treuliau o natur bersonol yn drethadwy. Fodd bynnag, pan wneir taliadau o’r fath i gyflogai sy’n aros oddi cartref dros nos ar fusnes, maent wedi’u heithrio ar yr amod bod y teithio y maent yn ymwneud ag ef yn gymwys ar gyfer rhyddhad ac ar yr amod bod y symiau dan sylw o fewn y terfynau penodol.

Y terfynau hyn (sy’n cynnwys TAW) yw:

  • £5 y noson ar gyfer aros dros nos unrhyw le yn y DU
  • £10 y noson ar gyfer aros dros nos y tu allan i’r DU

Os yw mân dreuliau’n cynnwys elfennau gwahanol (er enghraifft, taliad arian parod a buddiant), mae’n rhaid cyfuno’r elfennau gwahanol i benderfynu a ydynt yn uwch na’r terfynau penodol.

Os gwnewch daliadau ar gyfer mân dreuliau dros nos sy’n uwch na’r terfynau, mae’r swm cyfan (nid y swm sydd dros ben yn unig) yn agored i dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o dan y rheolau arferol.

Mae’n rhaid i chi gynnwys swm yn yr adran ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’ ar y ffurflen P11D dim ond os yw’r taliad cyfan, neu ran ohono, yn cynnwys buddiant.

Gofal plant a ddarperir gan gyflogwr

Mae’r canlynol wedi’u heithrio rhag treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, a does dim angen eu dangos ar ffurflen P11D:

  • lleoedd sydd ar gael mewn meithrinfa a ddarperir gan y cyflogwr
  • gofal plant cymwys arall neu sydd wedi’i gontractio’n uniongyrchol hyd at y swm sydd wedi’i eithrio ar gyfer y cyflogai
  • talebau gofal plant y gellir eu cyfnewid am ofal plant cymwys hyd at y swm sydd wedi’i eithrio

Y swm perthnasol sydd wedi’i eithrio

Os ymunodd eich cyflogai â’ch cynllun ar neu cyn 5 Ebrill 2011, bydd y £55 cyntaf yr wythnos yn cael eu heithrio rhag treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Ar gyfer cyflogeion sy’n ymuno â’ch cynllun ar neu ar ôl 6 Ebrill 2011, mae yna symiau is sydd wedi’u heithrio ar gyfer y rhai hynny sy’n ennill symiau uwch.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Dylech nodi’r canlynol ar y ffurflen P11D:

  • yr holl gost o ddarparu gofal plant nad yw’n gymhwysol
  • y gost o ddarparu gofal plant cymhwysol sydd dros y swm perthnasol sydd wedi’i eithrio ar gyfer y cyflogai — dangoswch ond yr hyn sydd dros y swm perthnasol sydd wedi’i eithrio

Nodwch y swm yn yr adran ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’, oni ddefnyddir talebau gofal plant. Os felly, dylech nodi’r swm yn adran ‘Talebau a chardiau credyd’ ar y ffurflen P11D.

Buddiannau eraill

Nodwch fanylion treuliau a dalwyd wrth ddarparu, neu mewn cysylltiad â darparu, unrhyw fuddiannau neu gyfleusterau o ba natur bynnag, ar gyfer y cyfarwyddwr neu’r cyflogai, nas datganwyd o dan bennawd blaenorol pan oedd y contract i ddarparu’r buddiant rhyngoch chi a’r darparwr.

Treth Incwm a dalwyd i CThEF

Nodwch swm y Dreth Incwm a dalwyd i CThEF yn y flwyddyn y methodd y cwmni â didynnu o’r tâl a dalwyd i gyfarwyddwr, pa flwyddyn bynnag y talwyd y tâl hwnnw. Peidiwch â chynnwys treth ar daliadau tybiannol yr ydych wedi’u cofnodi eisoes yn yr adran ‘Taliadau a wnaed ar ran cyflogai’ ar y ffurflen P11D.

Darllenwch dreth nas didynnwyd o’r tâl a dalwyd i gyfarwyddwyr (480: pennod 19) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai

Peidiwch â nodi symiau a gofnodwyd eisoes yn adran ‘Talebau a chardiau credyd’ o’r ffurflen P11D.

Taliadau teithio a chynhaliaeth

Nodwch gyfanswm y treuliau heb eu heithrio a ad-dalwyd ar gyfer eitemau fel:

  • tocynnau teithio
  • gwestai
  • prydau bwyd

Mae hyn yn cynnwys teithio rhwng y cartref a’r gweithle parhaol ar gyfer cyflogaethau yn y DU, a chyflogaethau a gyflawnir yn llwyr y tu allan i’r DU, sydd heb eu cynnwys yn yr arweiniad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Gwesteia

Nodwch yr holl daliadau a wnaed mewn perthynas â gwesteia yn unig, gan gynnwys:

  • swm unrhyw lwfans swm crwn
  • symiau a ad-dalwyd
  • lwfansau arbennig at ddibenion gwesteia
  • symiau a dalwyd i drydydd person

Os ydych yn cynnal masnach, busnes, proffesiwn neu alwedigaeth ac yn gwneud taliadau i gyfarwyddwr neu gyflogai at ddibenion gwesteia yn unig, dylid hepgor y taliadau wrth gyfrifo’ch rhwymedigaeth treth.

Darllenwch drethiant o dreuliau gwesteia (480: pennod 20) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn cynnal masnach, busnes, proffesiwn neu alwedigaeth ac:

  • os cafodd taliadau treuliau eu hepgor, neu os cânt eu hepgor, yng nghyfrifiannau treth eich busnes, nodwch nad yw’ch busnes yn sefydliad sy’n masnachu
  • os na chafodd taliadau treuliau eu hepgor, neu os na chânt eu hepgor, yng nghyfrifiannau treth eich busnes, nodwch nad yw’ch busnes yn sefydliad sy’n masnachu

Cwmnïau treth dunelledd

Nodwch fod eich busnes yn sefydliad sy’n masnachu os ydych wedi dewis i elw eich cwmni gael ei gyfrifo yn unol â pharagraff 4, Atodlen 22 o Ddeddf Cyllid 2000.

Taliadau am ddefnyddio ffôn y cartref

Nodwch dreuliau a ad-delir mewn cysylltiad â ffôn yng nghartref y cyflogai pan fo’r cyflogai wedi contractio’n uniongyrchol â’r cyflenwr.

Os mai chi sydd wedi contractio â’r cyflenwr i ddarparu ffôn cartref i’ch cyflogai, nodwch unrhyw dreuliau a dalwyd gennych yn adrannau ‘Gwasanaethau a ddarparwyd’, ‘Asedion a oedd ar gael i’r cyflogai’ neu ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’ ar y ffurflen P11D.

Darllenwch atodiad 1 o’r canllaw ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau (CWG5) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Taliadau treuliau adleoli eraill nad ydynt yn gymwys

Nodwch unrhyw symiau y dylai’ch cyflogeion fod wedi’u talu mewn cysylltiad ag adleoli, ond y gwnaethoch chi eu talu yn eu lle, lle nad oedd y treuliau’n dreuliau wedi’u heithrio (sydd heb eu rhestru o dan dreuliau adleoli (480: atodiad 7) (yn agor tudalen Saesneg)).

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Mân dreuliau dros nos

Gweler y blwch o dan ‘Mân dreuliau dros nos’ yn yr adran ‘Eitemau eraill (gan gynnwys tanysgrifiadau a ffioedd proffesiynol)’ ar y ffurflen P11D am fanylion y terfynau penodol. Nodwch fanylion taliadau mân dreuliau sy’n uwch na’r terfynau penodol sy’n cynnwys taliad arian parod, talebau nad ydynt ar ffurf arian neu daliad cerdyn credyd ym mlwch ‘Taliadau treuliau a wnaed ar ran y cyflogai’.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:

Treuliau eraill

Nodwch fanylion treuliau a dalwyd wrth ddarparu, neu mewn cysylltiad â darparu, unrhyw fuddiannau neu gyfleusterau, ni waeth beth fo’u natur, ar gyfer y cyfarwyddwr neu’r cyflogai, nas datganwyd o dan bennawd blaenorol.

Taflenni Gwaith P11D

Ceir taflenni gwaith i’ch helpu i gyfrifo cyfwerth mewn arian y buddiannau ar gyfer y canlynol:

  • llety byw
  • ceir a thanwydd ceir
  • faniau
  • benthyciadau di-log a llog isel
  • treuliau adleoli
  • taliadau lwfans milltiroedd

Does dim angen i chi anfon eich taflenni gwaith at CThEF.

Rhagor o wybodaeth

Os cewch unrhyw broblemau wrth lenwi’r ffurflen P11D neu’r P11D(b), cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Gallwch fwrw golwg dros yr ystod lawn o lyfrynnau, ffurflenni a chanllawiau CThEF, neu eu lawrlwytho, ar y dudalen Treth Busnes TWE (yn agor tudalen Saesneg), neu gallwch gael copïau drwy ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Cyhoeddwyd ar 10 January 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2024 + show all updates
  1. The vans and van fuel benefit charge has been updated including dates for the tax year 2023 to 2024.

  2. References to the paper P11D and P11D(b) form have been removed, these can now only be submitted online.

  3. Information about submitting a P11D form has been added.

  4. Guidance has been updated to include 2020 to 2021 changes.

  5. The 2019 to 2020 dates and rates have been updated in this guidance.

  6. The 2018 to 2019 dates and rates have been updated in this guidance.

  7. Added translation