Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 16: Proffidiau à prendre

Diweddarwyd 27 August 2019

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Proffid à prendre – pwyntiau cyffredinol

1.1 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

1.2 Natur Proffid à prendre

Hawl i gymryd rhywbeth o dir rhywun arall yw proffid à prendre.

Gallai hyn fod yn rhan o’r tir ei hunan, megis mawn, rhywbeth yn tyfu arno, megis coed neu wair (y gellir ei gymryd trwy bori anifeiliaid); neu anifeiliaid gwyllt sy’n cael eu lladd arno, er enghraifft trwy saethu neu bysgota.

Rhaid bod modd perchnogi’r peth a gymerir, felly ni all hawl i ddefnyddio tir mewn rhyw ffordd, neu i gymryd dŵr o nodwedd naturiol, fod yn broffid.

1.3 Gall proffid à prendre fod yn berthynol neu mewn gros

Hawl y mae ei budd ynghlwm wrth ddarn arbennig o dir yw proffid à prendre perthynol, yn debyg i hawddfraint. Ni ellir ei gofrestru â’i deitl ei hunan ac felly nid yw’n destun y cyfarwyddyd hwn.

Hawl nad yw ynghlwm wrth berchnogaeth darn arbennig o dir yw proffid à prendre mewn gros. Efallai na fydd perchennog y tir yn berchen ar unrhyw dir o gwbl a gall waredu’r proffid yn annibynnol ar unrhyw dir y mae’n berchen. Gellir cofrestru proffid à prendre mewn gros yn safonol â’i deitl ei hunan, a dyma yw testun y cyfarwyddyd hwn.

Fel arall, gall proffid à prendre mewn gros fod yn destun rhybudd yng nghofrestr y tir yr effeithir arno, heb gael ei gofrestru â’i deitl ei hunan neu, os nad yw’r tir yr effeithir arno’n gofrestredig, yn destun rhybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf. Am wybodaeth am rybuddion gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr; am wybodaeth am rybuddiadau yn erbyn cofrestriadau cyntaf gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.

1.4 Creu

Mae modd creu proffid à prendre mewn gros trwy grant penodol (neu neilltuo), trwy statud neu trwy bresgripsiwn cyfraith gwlad neu o dan athrawiaeth grant cyfoes coll. Ni ellir ei gaffael o dan ddarpariaethau Deddf Presgripsiwn 1832 (lle y mae’n ofynnol yn ôl adran 5 i’r hawl fod wedi ei mwynhau er budd tir yr hawliwr).

Oherwydd bod modd rhoi gwahanol broffidiau à prendre mewn gros dros yr un tir i gymryd gwahanol bethau, neu i gymryd yr un peth ar wahanol adegau, fe all fod mwy nag un proffid à prendre mewn gros yn effeithio ar yr un tir.

1.5 Hawliau comin

Mae rhai proffidiau à prendre mewn gros yn “hawliau comin” at ddibenion Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (a Deddf Tiroedd Comin 2006, a fydd pan ddaw i rym llawn yn diddymu Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965).

Nid oes modd cofrestru hawliau comin y gellir eu cofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (adran 1(1) o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965). Nid oes modd chwaith nodi baich yr hawliau yng nghofrestr y tir yr effeithir arno (adran 33(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae angen sefydlu felly a yw proffid à prendre mewn gros yn hawl comin y gellir ei chofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965. Mae modd creu hawl o’r fath heddiw (trwy grant penodol, statud neu bresgripsiwn) er bod y rhan fwyaf o darddiad hŷn. Pan ddaw adran 6 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006 i rym, ni fydd modd creu hawl comin trwy bresgripsiwn, a bydd modd ei chreu trwy grant penodol dim ond os yw’r budd ynghlwm wrth dir y gellir ei adnabod, ac felly ni fydd yn broffid à prendre mewn gros.

Sylwer: Gellir creu proffid à prendre mewn gros trwy grant penodol (neu neilltuad), trwy statud, neu trwy bresgripsiwn yng nghyfraith gwlad neu o dan athrawiaeth grant modern coll. Ni ellir ei gaffael o dan ddarpariaethau Deddf Presgripsiwn 1832 (lle y mae’n ofynnol yn adran 5 i’r hawl fod wedi ei mwynhau er budd tir yr hawliwr).

Nid yw hawliau comin wedi eu diffinio yn Neddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 na Deddf Tiroedd Comin 2006.

“Unig” broffid neu “sawl” proffid yw proffid à prendre a gaiff ei fwynhau gan rywun trwy wahardd pawb arall, gan gynnwys perchennog y tir (oni bai bod ganddo’r un hawl). Proffid à prendre a gaiff ei fwynhau’n gyffredin gyda nifer o bobl eraill, gan gynnwys perchennog y tir yw proffid yn gyffredin.

Yn ddryslyd, fodd bynnag, mae hawliau comin at ddibenion Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 yn cynnwys hawliau unigol neu nifer ar gyfer pori, cnydau neu lystyfiant.

At ddibenion Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, mae hawliau comin yn debygol o gynnwys y canlynol.

  • hawliau pori, (yn cynnwys clwydi gwartheg a chlwydi anifeiliaid – hawliau i bori nifer benodol o anifeiliaid)
  • hawliau mesobr (anfon moch i fwyta mes)
  • hawliau mawnog (torri mawn)
  • hawliau cynuta (hawl casglu coed)
  • hawliau pysgota
  • hawliau comin yn y pridd (hawl i gymryd carreg, gro, ac ati)

Fodd bynnag, nid ydynt yn cynnwys:

  • hawliau prydlesol a roddir am gyfnod o flynyddoedd neu o flwyddyn i flwyddyn
  • hawliau (rhydd-ddaliol neu brydlesol) sy’n effeithio ar dir sy’n dod o dan ardaloedd a eithrir o effaith Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (New Forest, Epping Forest a Forest y Ddena)
  • hawliau (rhydd-ddaliol neu brydlesol) sy’n effeithio ar dir a esemptiwyd o Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 trwy orchymyn gweinidogol)

1.6 Cofrestru proffid à prendre mewn gros

Yn fras:

  • nid yw’n orfodol cofrestru proffid à prendre mewn gros wedi ei greu trwy grant penodol dros dir digofrestredig, neu cyn 13 Hydref 2003 dros dir cofrestredig, neu sy’n codi trwy bresgripsiwn. Fodd bynnag, gellir ei gofrestru os yw wedi ei gadw mewn ffi syml neu am gyfnod o flynyddoedd lle y mae mwy na 7 mlynedd ar ôl heb ddod i ben, ac nad yw’n hawl comin y gellir ei chofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965

Gweler Cofrestru proffid à prendre mewn gros a roddwyd dros dir digofrestredig (neu allan o broffid à prendre mewn gros digofrestredig), neu a roddwyd dros dir digofrestredig cyn 13 Hydref 2003, neu a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn am ragor o wybodaeth

  • mae proffid à prendre mewn gros wedi ei greu trwy grant penodol ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 dros dir cofrestredig yn warediad cofrestradwy, oni bai ei fod yn hawl comin y gellir ei chofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ni ddaw i rym yn gyfreithiol felly tan iddo gael ei gofrestru. I gael ei gofrestru â’i deitl ei hunan, rhaid i’r proffid gael ei roi mewn ffi syml neu am gyfnod sy’n hirach na 7 mlynedd (paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Gweler Cofrestru proffid à prendre mewn gros a roddwyd o ystad gofrestredig mewn tir ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 am ragor o wybodaeth.

Efallai na fydd y cyfnod, neu nifer y blynyddoedd sydd heb ddod i ben, yn amlwg lle y mae proffid prendre mewn gros yn ‘amharhaol’, hynny yw caiff ei roi:

  • am ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd penodedig bob blwyddyn am nifer benodedig o flynyddoedd
  • am nifer benodedig, neu gyfanswm o ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd bob blwyddyn, ond gyda’r grantî yn rhydd i ddewis pa ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd penodol, am nifer benodedig o flynyddoedd

Lle y mae’r brydles am fis er enghraifft (neu gyfanswm o fis) y flwyddyn am gyfnod o 10 mlynedd, nid oes awdurdod clir ar b’un ai 10 mlynedd yw’r cyfnod at ddibenion Deddf Cofrestru Tir 2002, neu 10 mis yn unig (10 x 1 mis) ac felly a yw’r hawl yn gallu cael ei chofrestru â’i theitl ei hunan. Mae adran 3(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ymwneud ag ystadau mewn tir yn unig, a chan nad yw proffid à prendre mewn gros yn ystad mewn tir, nid yw’r darpariaethau’n ymwneud â phrydlesi amharhaol a wnaed gan yr adran honno’n gymwys. Ymddengys i ni y gall y sefyllfa fod fel a ganlyn.

  • Lle y mae’r brydles yn cynnwys diwrnodau, wythnosau neu fisoedd y flwyddyn penodedig wedi eu nodi, y cyfnod at ddibenion Deddf Cofrestru Tir 2002 yw (yn ein henghraifft) 10 mis yn unig (gweler Cottage Holiday Associates Ltd v Customs and Excise Commrs [1983] 1 QB 735 at 740; achos yn ymwneud â chyfran amser), ac felly ni ellir ei chofrestru â’i theitl ei hunan.
  • Lle y mae’r brydles yn cynnwys nifer o ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd yn y flwyddyn gyda’r grantî’n rhydd i ddewis pa un, gellir ei chofrestru’n safonol ar gais cofrestriad cyntaf (gweler Vision Engineering Limited v Romilt Limited [2014] LRAD 2013 0276 (unreported)) ond gyda theitl amodol (yr amod yw bod y cofrestriad yn effeithiol dim ond os, at ddibenion adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, y rhoddwyd yr ystad am gyfnod o’r hyn yr oedd mwy na 7 mlynedd heb ddod i ben ar ddyddiad y cais). Os rhoddir y proffid dros dir cofrestredig, gellir ei gofrestru ond gyda nodyn yn cael ei ychwanegu at y gofrestr eiddo bod y cofrestriad yn effeithiol dim ond os, at ddibenion paragraff 6 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, y rhoddwyd yr ystad am gyfnod yn hirach na 7 mlynedd o ddyddiad y creu.

2. Cofrestru proffid à prendre mewn gros a roddwyd dros dir digofrestredig (neu o broffid à prendre digofrestredig) neu a roddwyd dros dir cofrestredig cyn 13 Hydref 2003, neu a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn

(Os rhoddwyd y proffid à prendre mewn gros o dir cofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, gweler Cofrestru proffid à prendre mewn gros a roddwyd o ystad gofrestredig mewn tir ar neu ar ôl 13 Hydref 2003. Os cafodd ei roi o deitl proffid cofrestredig sy’n bodoli eisoes, gweler Deliadau gyda phroffid à prendre mewn gros cofrestredig.)

2.1 Dogfennau sy’n ofynnol ar gyfer pob cais

Dylai’r ceisydd am gofrestriad proffid à prendre mewn gros gyflwyno:

  • ffurflen FR1 ynghyd â rhestr ddeublyg ar ffurflen DL o’r dogfennau cefnogol a gyflwynwyd
  • manylion digonol trwy gynllun neu fel arall i nodi’n glir y tir y mae’r proffid à prendre mewn gros yn effeithio arno ar fap cyfredol yr Arolwg Ordnans
  • manylion llawn ar ffurflen DI unrhyw fuddion digofrestredig eraill sy’n effeithio ar y proffid à prendre mewn gros fel y manylwyd yn Atodlen 1 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (gweler cyfarwyddyd ymarfer 15: buddion gor-redol a’u dadlennu
  • tystysgrif gwerth y budd (oni bai bod trafodiad diweddar yn datgan y gydnabyddiaeth)
  • y ffi (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru) yn seiliedig ar naill ai:
    • y pris a dalwyd mewn trafodiad diweddar, neu
    • tystysgrif gwerth y budd sy’n cael ei gofrestru. Mae ffi graddfa lawn yn daladwy ar gais i gofrestru proffid à prendre mewn gros. Nid yw ffïoedd graddfa 1 gostyngol ar gyfer cofrestriad gwirfoddol tir yn gymwys i broffid à prendre mewn gros
  • copi ardystiedig o’r weithred wreiddiol sy’n rhoi’r proffid (neu trwy’r hon y cafodd ei gadw).
  • y disgyniad teitl i’r proffid à prendre mewn gros i’r ceisydd, os nad y ceisydd oedd y grantî gwreiddiol
  • dogfennau’n profi teitl i unrhyw hawddfraint a roddwyd sy’n berthynol i’r proffid. Gall hawddfraint dros dir arall fodoli fel rhywbeth sy’n berthynol i proffid à prendre mewn gros. Ar gofrestriad cyntaf, bydd y teitl i’r proffid à prendre mewn gros yn cael ei archwilio a bydd hawddfreintiau perthynol y gellir dangos teitl da iddynt yn cael eu cofrestru. Byddwn yn anfon rhybudd at unrhyw dirfeddiannwr, heblaw grantwr y proffid à prendre mewn gros, y mae’r hawddfreintiau yn effeithio ar ei dir os nad yw’r hawddfraint eisoes wedi ei nodi ar ei deitl cofrestredig a rhoddir cyfle iddo wrthwynebu cofrestru’r hawddfreintiau sy’n effeithio ar ei deitl
  • yr holl weithredoedd a dogfennau yn ymwneud â’r teitl sydd gan y ceisydd neu y gall y daliwr ei gyflwyno, gan gynnwys barn cwnsler, crynodebau teitl, copïau o ddogfennau, contractau gwerthu, ymholiadau, atebion, chwiliadau a dogfennau eraill yn ymwneud â’r teitl
  • lle na fydd unig berchennog neu gydberchennog sy’n goroesi yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, cais (naill ai ar ffurflen RX1 neu yn y ffurf drosglwyddo benodedig i’r ceisydd) i gofnodi cyfyngiad yn Ffurf A (rheol 94(2A) o Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • chwiliad o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965, oni bai bod y cais i gofrestru proffid à prendre mewn gros a gadwyd am dymor o flynyddoedd neu’r tir y mae’r proffid yn effeithio arno wedi ei eithrio o’r Ddeddf honno (gweler Proffid à prendre – pwyntiau cyffredinol)

2.2 Dogfennau ychwanegol sy’n ofynnol lle y rhoddwyd y proffid à prendre mewn gros dros dir cofrestredig neu o broffid à prendre mewn gros digofrestredig

Copïau ardystiedig neu grynodebau wedi eu harchwilio yn dangos:

  • gwreiddyn teitl da i deitl rhydd-ddaliol sylfaenol y tir yr effeithir arno gan y proffid sy’n 15 mlwydd oed o leiaf ar ddyddiad y cais. Trawsgludiad ar werthiant i’r grantwr neu ragflaenydd mewn teitl yw hyn fel arfer
  • disgyniad teitl y teitl rhydd-ddaliol sylfaenol i’r grantwr, os oedd y trawsgludiad gwreiddyn da i ragflaenydd mewn teitl i’r grantwr yn hytrach nag i’r grantwr ei hunan
  • os yw teitl y grantwr yn brydlesol ei hunan, tystiolaeth lawn o deitl i’r teitl prydlesol hwnnw ac i unrhyw deitlau prydlesol rhyngol eraill yn ôl i’r teitl rhydd-ddaliol i’r tir yr effeithir arno gan y proffid
  • os yw teitl y grantwr ei hunan yn broffid à prendre mewn gros digofrestredig, tystiolaeth lawn o deitl i broffid y grantwr yn ôl i’r teitl i dir y rhoddwyd proffid y grantwr ohono ac i’r tir hwnnw yn ôl i’r teitl rhydd-ddaliol i’r tir yr effeithir arno gan y proffid

Os yw’r tir caeth yr effeithir arno gan y proffid, neu unrhyw ran ohono, yn ddigofrestredig ar ddyddiad y cais, bydd angen manylion perchnogion presennol y tir caeth digofrestredig arnom, ynghyd â thystiolaeth o’u teitl dogfennol – SYLWER: Byddai’r teitl dogfennol sy’n ofynnol yn debyg i’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer cofrestriad cyntaf. Mae hyn yn ein galluogi i gyflwyno rhybudd am y cais iddynt lle bo angen ac i wneud yn siwr ein bod yn ei anfon at y bobl gywir. Lle ceir cydsyniadau diamodol gan y perchnogion gyda’r cais, mae hyn yn ein galluogi i fodloni’n hunain y rhoddwyd y cydsyniadau gan y bobl gywir. Lle na fu’n bosibl cofrestru proffid à prendre mewn gros oherwydd na ellir adnabod perchennog digofrestredig, gellir gwneud cais am rybuddiad yn erbyn cofrestriad cyntaf yn lle (gweler cyfarwyddyd ymarfer 3: Rhybuddiadau yn erbyn cofrestriad cyntaf.

Mae’n bosibl y byddwn ar adegau’n derbyn cais sydd wedi ei gefnogi gan dystiolaeth nad yw’n cwrdd â’r gofynion hyn – er enghraifft, pan fo’r proffid yn hen iawn. Dylid anfon tystiolaeth i brofi i’r proffid gael ei ddefnyddio hyd at ddyddiad y cais gyda chais o’r fath.

2.2.1 Chwiliadau yn yr Adran Pridiannau Tir

Rhaid ichi gyflwyno chwiliad yn yr Adran Pridiannau Tir gydag unrhyw gais i gofrestru proffid à prendre mewn gros a roddir o ystad ddigofrestredig.

Lle y mae’r weithred sy’n rhoi’r proffid yn 15 mlwydd oed o leiaf, mae chwiliad yn ofynnol o ran:

  • y grantî yn y weithred honno, a
  • pob olynydd mewn teitl o’r weithred grant hyd at ac yn cynnwys y ceisydd

Lle y mae’r weithred sy’n rhoi’r proffid yn llai na 15 mlwydd oed, mae chwiliad yn ofynnol o ran:

  • y grantî yn y weithred honno
  • pob olynydd mewn teitl o’r weithred grant hyd at ac yn cynnwys y ceisydd
  • y grantwr yn y weithred honno a phob rhagflaenydd mewn teitl yn ôl i wreiddyn teitl da sy’n 15 mlwydd oed o leiaf

2.3 Dogfennau ychwanegol sy’n ofynnol lle nad yw’r gweithredoedd teitl i’r proffid à prendre mewn gros ar gael

Os collir dogfennau teitl neu os nad ydynt ar gael, tystiolaeth trwy ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd o ba ddogfennau teitl oedd yn bodoli a’r hyn a ddigwyddodd iddynt, ynghyd â thystiolaeth o gynnwys y dogfennau teitl hynny. Dylid darparu copïau, cofnodion neu grynodebau lle y mae’r rhain ar gael. Mae cyfarwyddyd ymarfer 2: cofrestriad cyntaf os yw gweithredoedd ar goll neu wedi eu dinistrio yn cynnwys cyngor cyffredinol am hyn. Mae cyfarwyddyd ymarfer 73: Datganiadau o wirionedd yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio datganiadau o wirionedd.

Os honnir y cafwyd y proffid à prendre mewn gros trwy bresgripsiwn hawliau comin neu o dan yr athrawiaeth grant cyfoes coll, tystiolaeth o’r ffeithiau y dibynnir arnynt trwy ddatganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd.

Cyfrifoldeb yr unigolyn sy’n gwneud y datganiadau yw cynnwys yr holl ffeithiau perthnasol y gŵyr amdanynt. Ni allwn roi cyngor ar yr hyn i’w gynnwys mewn datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd mewn unrhyw achos, ac ni ellir eu cyflwyno i’w ‘cymeradwyo’. Fodd bynnag, rhaid i’r datganiadau gadarnhau:

  • y bu cyfnod o 20 mlynedd o leiaf o ddefnydd
  • bod mwynhad y ceisydd ei hun o’r proffid, neu’r rhagflaenwyr mewn teitl i’r proffid, o’r lle y cafodd y ceisydd ei deitl trwy etifeddiaeth neu aseiniad, wedi parhau am yr isafswm cyfnod. Ni all y ceisydd ychwanegu ei gyfnod o ddefnydd ei hun at gyfnod dieithryn a fu’n digwydd arfer yr hawl o’i flaen (Lovett v Fairclough (1990) 61 P & CR 385 at 399)
  • yr arferwyd y proffid à prendre mewn gros fel hawl (heb rym, cyfrinachedd neu hawl)
  • y cafwyd ar bob adeg berthnasol grantwr â gallu a grantî â gallu
  • nad yw’r hawl a hawlir yn hawl wrth ddefod (hynny yw, hawl a gaiff ei mwynhau wrth ddefod gan rai neu bob un o drigolion ardal arbennig, nad oedd modd rhoi hawl iddynt am eu bod yn grŵp ansefydlog)
  • bod yr hawl a hawlir yn un y gellid fod wedi ei rhoi’n gyfreithlon

Am nad yw Deddf Presgripsiwn 1832 yn gymwys i proffidiau à prendre mewn gros, ni fyddwn yn ystyried ceisiadau sy’n dibynnu ar y Ddeddf honno.

2.4 Dosbarthiadau teitl

Y dosbarthiadau teitl sydd ar gael ar gyfer teitl proffid à prendre mewn gros cofrestredig yw:

  • rhydd-ddaliol llwyr
  • rhydd-ddaliol amodol
  • prydlesol llwyr
  • prydlesol da
  • prydlesol amodol

Mae adrannau 9 a 10 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn ymdrin â dosbarth teitl. Fel rheol, rydym yn ystyried rhoi teitl amodol lle ceir rhyw ddiffyg bach yn y dystiolaeth o deitl a gyflwynwyd neu lle nad yw’n cwrdd â’r safonau teitl a nodir yn Dogfennau sy’n ofynnol. Caiff yr amod ei deilwrio i amgylchiadau’r achos, a rhaid ystyried pob cais ar ei deilyngdod ei hun.

Efallai y rhoddir teitl prydlesol da pan fo ceisydd am broffid prydlesol yn gwneud cais amdano neu pan nad yw’n gallu cyflwyno tystiolaeth o’r teitl rhydd-ddaliol uwch. Felly mae’r cofrestriad gyda theitl prydlesol da yn dynodi bod y proffid yn werthadwy (i’r safonau a restrir yn adran 10 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002) ond nid yw’n cadarnhau bod teitl gwaelodol i roi’r brydles.

Nid yw teitl meddiannol ar gael ar gyfer proffidiau oherwydd effaith adrannau 9(5) a 10(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

2.5 Rhybuddion a chydsyniadau i gofrestru

2.5.1 Pryd y byddwn yn cyflwyno rhybudd

Os yw’r cais i gofrestru’r proffid à prendre mewn gros mewn trefn, bydd Cofrestrfa Tir EF yn anfon rhybudd ffurfiol am y cais at bawb a effeithir.

Byddwn yn penderfynu at bwy y byddwn yn anfon rhybudd yn ôl amgylchiadau pob achos. Fel arfer byddwn yn cyflwyno rhybudd hyd yn oed os yw dosbarth is o deitl, megis amodol neu brydlesol da yn cael ei ystyried. Byddwn hefyd yn ystyried cyflwyno rhybudd ar deitl cofrestredig yr effeithir arno’n ymarferol, hyd yn oed os oes posibilrwydd o fudd cyfreithiol rhyngol, megis prydles ddigofrestredig. Felly, byddwn fel arfer yn cyflwyno rhybudd i rai neu bob un o’r canlynol.

  • Perchennog cofrestredig ac arwystlai’r ystad gofrestredig yr effeithir arni gan gynnwys unrhyw brydleswyr perthnasol
  • Perchennog ac arwystlai ystad ddigofrestredig yr effeithir arni
  • Perchennog cofrestredig ystad y mae hawddfreintiau cysylltiedig â’r proffid à prendre mewn gros yn effeithio arni

2.5.2 Lle nad oes angen rhybudd

Efallai na fydd angen rhybudd os:

  • nodwyd y proffid à prendre mewn gros eisoes yn y gofrestr/cofrestri teitl perthnasol
  • os yw’r cais yn cynnwys cydsyniad diamod y perchennog/perchnogion i wneud cofnod o ran y proffid à prendre mewn gros ac y cytunwyd ar eiriad manwl y cofnod arfaethedig ymlaen llaw

2.5.3 Gwrthwynebiadau

Os ceir gwrthwynebiad i gofrestru proffid à prendre mewn gros nad yw’n ddi-sail ac nad oes modd ei ddatrys rhwng y partïon, bydd ein trefn anghydfod yn gymwys a bydd y mater yn cael ei gyfeirio at is-adran Cofrestru Tir y Siambr Eiddo, Tribiwnlys yr Haen Gyntaf (gweler cyfarwyddyd ymarfer 37: gwrthwynebiadau ac anghydfodau, cyfarwyddyd i ymarferiad a threfniadaeth Cofrestrfa Tir EF.

2.6 Nodi’r proffid à prendre mewn gros ar deitlau cofrestredig yr effeithir arnynt

Os yw’r cais i gofrestru proffid à prendre mewn gros wedi ei gwblhau, byddwn yn cofnodi rhybudd amdano yng nghofrestr arwystlon teitlau cofrestredig yr effeithir arnynt.

Nid oes ffi ar wahân ar gyfer hyn os caiff ei wneud fel rhan o’r cais am gofrestriad cyntaf.

3. Cofrestru proffid à prendre mewn gros o ystad gofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003

(Os rhoddwyd y proffid à prendre mewn gros o ystad gofrestredig cyn 13 Hydref 2003, gweler Cofrestru proffid à prendre mewn gros dros dir digofrestredig (neu o broffid à prendre mewn gros digofrestredig), neu a roddwyd dros dir cofrestredig cyn 13 Hydref 2003, neu a gaffaelwyd trwy bresgripsiwn. Os cafodd ei roi o deitl proffid cofrestredig sy’n bodoli eisoes, gweler Deliadau gyda proffidiau à prendre mewn gros cofrestredig.)

Rhaid cofrestru unrhyw broffid à prendre mewn gros a roddwyd o ystad gofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, ac eithrio hawl comin y gellir ei chofrestru o dan Ddeddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 (gweler Proffid à prendre mewn gros – pwyntiau cyffredin), ), i weithredu’n gyfreithiol (adran 27(2)(d) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Lle y mae’r proffid yn brydlesol (wedi ei roi am gyfnod o flynyddoedd) mae hyn yn wir beth bynnag yw hyd y cyfnod. Bydd y gofynion cofrestru, fodd bynnag, yn dibynnu ar hyd y cyfnod.

Er mwyn cael ei gofrestru â’i deitl ei hunan, rhaid rhoi’r proffid mewn ffi syml neu am gyfnod hirach na 7 mlynedd (paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Caiff y grantî ei gofrestru’n berchennog y teitl proffid a chofnodir rhybudd yng nghofrestr arwystlon y teitl i’r tir yr effeithir arno.

Dylai’r ceisydd am gofrestriad gyflwyno:

  • ffurflen AP1 (a ffurflen DI pan fo’n briodol)
  • copi ardystiedig o’r weithred wreiddiol yn rhoi’r proffid
  • y ffi briodol
  • unrhyw gydsyniad neu dystysgrif sy’n ofynnol gan gyfyngiad ar deitl y grantwr i’r tir yr effeithir arno
  • cydsyniad yr arwystlai o ran unrhyw arwystl cofrestredig neu wedi ei nodi ar deitl y grantwr
  • lle na fydd unig berchennog neu oroeswr cydberchnogion y teitl proffid yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, cais (naill ai ar ffurflen RX1 neu yn y ffurf o drosglwyddo benodedig i’r ceisydd) i gofnodi cyfyngiad yn Ffurf A (rheol 94(2A) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Os yw’r proffid à prendre mewn gros am gyfnod o 7 mlynedd neu lai, ni ellir ei gofrestru â’i deitl ei hunan ond i gwrdd â’r gofynion cofrestru, dylid gwneud cais ar ffurflen AN1 neu ffurflen UN1 i gofnodi rhybudd ohono yng nghofrestr arwystlon y teitl i’r tir yr effeithir arno (paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4. Deliadau gyda proffidiau à prendre mewn gros cofrestredig

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

4.1 Prydlesi

Gall perchennog proffid à prendre mewn gros ei brydlesu yn y ffordd arferol yn ddarostyngedig i unrhyw gyfraith, darpariaeth benodol yn grant y proffid à prendre mewn gros neu gofnod i’r gwrthwyneb yn y gofrestr.

Mae prydles o deitl proffid à prendre cofrestredig mewn gros yn warediad cofrestradwy (ac felly rhaid ei gofrestru i weithredu’n gyfreithiol), waeth beth yw hyd y cyfnod. Bydd y gofynion cofrestru, fodd bynnag, yn dibynnu ar hyd y cyfnod.

Er mwyn cael ei gofrestru â’i deitl ei hunan, rhaid rhoi’r proffid mewn ffi syml neu am gyfnod hirach na 7 mlynedd (paragraff 6 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Caiff y grantî ei gofrestru’n berchennog y teitl proffid newydd a chofnodir rhybudd yng nghofrestr arwystlon y teitl proffid o’r hyn y rhoddir y brydles.

Dylai’r ceisydd am gofrestriad gyflwyno:

  • ffurflen AP1 (a ffurflen DI pan fo’n briodol)
  • copi ardystiedig o’r weithred wreiddiol
  • y ffi briodol
  • unrhyw gydsyniad neu dystysgrif sy’n ofynnol gan gyfyngiad ar deitl proffid y grantwr
  • cydsyniad yr arwystlai o ran unrhyw arwystl cofrestredig neu wedi ei nodi ar deitl y grantwr
  • lle na fydd unig berchennog neu oroeswr cydberchnogion y teitl proffid newydd yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, cais (naill ai ar ffurflen RX1 neu yn y ffurf o drosglwyddo benodedig i’r ceisydd) i gofnodi cyfyngiad yn Ffurf A (rheol 94(2A) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Os yw’r proffid à prendre mewn gros am gyfnod o 7 mlynedd neu lai, ni ellir ei gofrestru â’i deitl ei hunan ond i gwrdd â’r gofynion cofrestru, dylid gwneud cais ar ffurflen AN1 neu UN1 i gofnodi rhybudd ohono yng nghofrestr arwystlon y teitl proffid o’r hyn y rhoddir y brydles (paragraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

4.2 Trosglwyddiadau

Gall perchennog proffid à prendre mewn gros ei drosglwyddo yn y ffordd arferol yn ddarostyngedig i unrhyw gyfraith, darpariaeth benodol yn grant y proffid à prendre mewn gros neu gofnod i’r gwrthwyneb yn y gofrestr.

Dylid gwneud cais yn yr un modd ag am drosglwyddiad tir cofrestredig.

4.3 Cau teitl

Gellir diddymu proffid à prendre mewn gros trwy:

  • statud
  • gollwng penodol (trwy weithred)
  • gadawiad, lle y mae diffyg defnydd a bwriad i adael yn ofynnol
  • undod perchnogaeth a meddiant o’r proffid a’r ystad o’r hon y cafodd ei roi
  • wacáu cynnwys y proffid

Dylid gwneud cais i gau teitl proffid à prendre mewn gros ar ffurflen AP1, gyda thystiolaeth i’n bodloni bod y proffid wedi ei wacáu.

Mae’n bosibl y byddwn yn cyflwyno rhybudd o’r cais i’r perchennog cofrestredig ac unrhyw berson arall a chanddo fudd ynddo cyn ei gwblhau.

5. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.