Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 25: prydlesi: pryd i gofrestru

Diweddarwyd 7 March 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Mae Deddf Cofrestru Tir 2002, ynghyd â Rheolau Cofrestru Tir 2003, yn newid categorïau prydlesi sydd ar hyn o bryd yn gofrestradwy naill ai’n orfodol neu’n wirfoddol, a hefyd y prydlesi y gallwn eu nodi.

Nid oes modd cofrestru pob ystad brydlesol gyda’i theitl ei hun, ond mae Deddf Cofrestru Tir 2002 yn estyn cwmpas cofrestru teitl yn sylweddol, e.e. bydd cofrestru’n orfodol ar lawer mwy o brydlesi busnes.

Mae’r wybodaeth yn y cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i’r canlynol:

  • prydlesi dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003
  • prydlesi’n bodoli cyn 13 Hydref 2003
  • aseiniadau, trosglwyddiadau (trwy werthu, trwy rodd neu trwy orchymyn y llys) neu gydsyniadau, gan gynnwys cydsyniadau breinio, dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, ystadau prydlesol presennol gyda mwy na saith mlynedd o’r cyfnod ar ôl
  • morgeisi cyfreithiol cyntaf dyddiedig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003
  • aseiniadau a throsglwyddiadau sy’n ddyddiedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009 ystadau digofrestredig presennol a chanddynt fwy na saith mlynedd o’r tymor ar ôl:
    • yn gweithredu dyraniad tir yn ddarostyngedig i ymddiried tir
    • trwy weithred sy’n penodi, neu trwy rinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, sy’n weithredol fel pe bai wedi penodi, ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei wneud o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd
    • trwy orchymyn breinio o dan adran 44 Deddf Ymddiriedolwr 1925 sydd o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd

Gweler hefyd cyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau am fanylion y gofynion cofrestru o ran hawddfreintiau a roddir mewn prydlesi.

2. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – cofrestru gorfodol

Mae adran 4 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn dangos yn benodol o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf.

Rhaid i berchennog yr ystad, neu eu holynydd yn y teitl, wneud cais am gofrestriad cyntaf – gweler adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Y cyfnod ar gyfer cofrestru yw dau fis o ddyddiad y weithred sy’n ennyn cofrestriad – gweler adran 6(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Fodd bynnag, mae modd gwneud gorchymyn i estyn y cyfnod cofrestru – gweler adran 6(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae adran 27(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn dangos yn benodol o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid cofrestru prydlesi allan o deitl cofrestredig.

Mae adran 4(5A) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn eithrio tenantiaethau tai cymdeithasol perthnasol o gofrestriad gorfodol, beth bynnag fo’r hyd.

2.1 Prydlesi newydd a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig

Gweler adran 4(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd yn orfodol cofrestru prydlesi a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd o ddyddiad y grant, allan o naill ai ystadau rhydd-ddaliol neu brydlesol digofrestredig, dim ond iddynt fod naill ai:

  • am gydnabyddiaeth â gwerth iddi neu fel arall – sydd, o dan adran 4(6) o Ddeddf Cofrestru Tir , yn cynnwys ystadau sydd â gwerth negyddol
  • trwy rodd – mae adran 4(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer:
    • grantiau at ddiben sefydlu ymddiried, lle nad yw’r sawl sy’n sefydlu’r ymddiried, ‘yr ymddiriedolwr’, yn cadw’r budd llesiannol cyfan
    • drosglwyddiadau o’r teitl cyfreithiol i’r perchnogion llesiannol, lle nad oedd yr ymddiriedolwr yn cadw’r budd llesiannol cyfan pan sefydlwyd yr ymddiried
  • yn unol â gorchymyn unrhyw lys

2.2 Prydlesi newydd am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o deitl cofrestredig

Gweler adran 27(2)(b)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru prydlesi a roddir allan o deitlau cofrestredig presennol sydd am gyfnod o fwy na saith mlynedd o ddyddiad y grant.

2.3 Trosglwyddo neu aseinio prydlesi digofrestredig gyda mwy na saith mlynedd o’r cyfnod ar ôl

Gweler adrannau 4(1)(a), 4(1)(aa) (fel y’u cyflwynwyd gan Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008) a 4(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru trosglwyddiadau neu aseiniadau o brydlesi digofrestredig sydd, ar adeg y trosglwyddiadau (neu aseiniadau), â mwy na saith mlynedd ar ôl, os ydynt wedi cael eu gwneud un ai:

  • am gydnabyddiaeth â gwerth iddi neu fel arall – sydd, o dan adran 4(6) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn cynnwys ystadau gyda gwerth negyddol
  • trwy rodd – mae adran 4(7) Deddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu ar gyfer:
    • trosglwyddiadau at ddiben sefydlu ymddiried, lle nad yw’r sawl sy’n sefydlu’r ymddiried, ‘yr ymddiriedolwr’, yn cadw’r budd llesiannol cyfan
    • drosglwyddiadau o’r teitl cyfreithiol i’r perchnogion llesiannol, lle na chadwodd yr ymddiriedolwr y budd llesiannol cyfan pan sefydlwyd yr ymddiried
  • yn unol â gorchymyn unrhyw lys
  • trwy gyfrwng cydsyniad – gan gynnwys cydsyniad breinio
  • os yw’n ddyddiedig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009:
    • i weithredu dyraniad tir yn ddarostyngedig i ymddiried tir
    • trwy weithred sy’n penodi, neu trwy rinwedd adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011, sy’n weithredol fel pe bai wedi penodi, ymddiriedolwr newydd neu sy’n cael ei wneud o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd, neu
  • trwy orchymyn breinio o dan adran 44 Deddf Ymddiriedolwr 1925 sydd o ganlyniad i benodiad ymddiriedolwr newydd

Sylwer: Nid yw pob trosglwyddiad neu aseiniad yn peri cofrestru gorfodol.

Mae’r canlynol yn fathau penodol o drosglwyddiad neu aseiniad nad ydynt yn peri cofrestru gorfodol.

  • trosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith, ee pan fydd eiddo rhywun ymadawedig yn breinio yn yr ysgutorion – gweler adran 4(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
    • fodd bynnag, mae trosglwyddiad trwy weithredu’r gyfraith sydd o fewn adran 4(1)(aa) Deddf Cofrestru Tir 2002, ee pan fo eiddo’n breinio mewn ymddiriedolwr newydd trwy ddatganiad breinio datganedig neu un sy’n ymhlyg, o dan adran 40 Deddf Ymddiriedolwyr 1925 mewn gweithred sy’n penodi ymddiriedolwr newydd, yn ddarostyngedig i gofrestriad gorfodol.
  • aseiniad o gyfnod morgais, hynny yw morgais trwy brydles – gweler adran 4(4)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.
  • aseiniad neu ildio prydles i berchennog y rifersiwn agosaf lle bo’r cyfnod i gyd-doddi yn y cyfryw rifersiwn – gweler adran 4(4)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

2.4 Trosglwyddo neu aseinio prydlesi digofrestredig lle mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn berthnasol

Gweler adran 4(1)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru holl drosglwyddiadau prydlesi digofrestredig, heb ystyried cyfnod y brydles, a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu a Ddiogelwyd).

2.5 Trosglwyddo unrhyw brydlesi cofrestredig

Gweler adran 27(2)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru’r rhan fwyaf o drosglwyddiadau prydlesi cofrestredig, heb ystyried cyfnod y brydles. Fodd bynnag, nid oes angen cofrestru’r trosglwyddiadau canlynol trwy weithredu’r gyfraith:

  • trosglwyddiad ar farwolaeth neu fethdaliad perchennog unigol.
  • trosglwyddiad ar ddiddymu perchennog corfforaethol

2.6 Prydlesi hawl i brynu – Rhan V Deddf Tai 1985

Gweler adrannau 4(1)(e) a 27(2)(b)(iv) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru holl brydlesi, heb ystyried cyfnod y brydles, a wnaed yn unol â Rhan V Deddf Tai 1985.

2.7 Prydlesi lle mae adran 171A o Ddeddf Tai 1985 yn berthnasol

Gweler adrannau 4(1)(f) a 27(2)(b)(v) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae’n orfodol cofrestru holl brydlesi, heb ystyried cyfnod y brydles, a wnaed yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985 (Hawl i Brynu a Ddiogelwyd).

2.8 Prydlesi rifersiwn yn dod i rym dros dri mis o ddyddiad y grant

Gweler adrannau 4(1)(d) a 27(2)(b)(ii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae prydles ‘rifersiwn’ yn rhoi hawl i’r prydlesai feddiannu’r eiddo ar brydles yn y dyfodol, hynny yw nid oes gan y prydlesai hawl i feddiannu’r tir yn y brydles ar unwaith, ar ddyddiad y brydles.

Mae’n orfodol cofrestru prydles a roddir allan un ai o:

  • ystad brydlesol ddigofrestredig sydd, ar ddyddiad y grant, â mwy na saith mlynedd ohoni ar ôl
  • ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig
  • teitl cofrestredig presennol

a roddir am unrhyw gyfnod i ddod i rym dros dri mis o ddyddiad y grant.

2.9 Prydlesi amharhaol allan o deitlau cofrestredig neu a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig

Gweler adran 27(2)(b)(iii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Prydlesi yw’r rhain lle mae ‘hawl i feddiant’ y prydlesai o’r tir a brydleswyd yn amharhaol. Gall y brydles fod o eiddo, ee fflat, rhandy neu stondin marchnad, sydd un ai:

  • am nifer penodedig o ddiwrnodau mewn wythnos, ee bob dydd Llun i ddydd Gwener (cynwysedig)
  • am wythnos benodol neu wythnosau penodol mewn blwyddyn galendr

Rhaid cofrestru holl brydlesi amharhaol a roddir allan o deitl cofrestredig, heb ystyried y cyfnod.

Bydd yn orfodol cofrestru prydlesi amharhaol a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o ystadau rhydd-ddaliol neu brydlesol digofrestredig.

Gweler adrannau 4(1)(c) a 4(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a gweler Prydlesi newydd a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig.

I gyfrif cyfnod prydles o’r fath, rhaid lluosi nifer yr wythnosau llawn y prydleswyd yr eiddo bob blwyddyn, gyda nifer y blynyddoedd a roddir.

Os yw’r cyfanswm yn fwy na saith mlynedd (hy yn fwy na 364 o wythnosau llawn), bydd yn orfodol cofrestru’r brydles a/neu’r trosglwyddiad.

2.10 Morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig

Gweler adrannau 4(1)(g) a 4(2)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheolau 21 a 22 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Mae morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig o ystad brydlesol ddigofrestredig, sydd â mwy na saith mlynedd o’i chyfnod ar ôl, yn amodol ar gofrestriad cyntaf gorfodol. Er mwyn cofrestru morgais o’r fath, bydd angen cofrestru’r ystad brydlesol hefyd. Mae rheol 21 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu i forgeisai morgais cyfreithiol cyntaf gwarchodedig wneud cais i gofrestru’r ystad brydlesol, boed y morgeisiwr yn cydsynio â’r cais neu beidio.

Sylwer 1: ‘Morgais gwarchodedig’ yw morgais sy’n cael ei warchod trwy adneuo dogfennau perthnasol i’r ystad a forgeisiwyd – gweler adran 4(8)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer 2: ‘Morgais cyfreithiol cyntaf’ yw morgais cyfreithiol sydd â blaenoriaeth ar holl forgeisi eraill sy’n effeithio ar yr ystad a forgeisiwyd – gweler adran 4(8)(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

3. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – cofrestru gwirfoddol

Mae adran 3 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn rhoi manylion pryd mae modd gwneud cais i gofrestru ystad brydlesol ddigofrestredig yn wirfoddol.

Mae adran 3(4A) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn eithrio’n benodol tenantiaethau tai cymdeithasol perthnasol o’r hawl i gofrestriad gwirfoddol.

Mae’r adrannau canlynol yn berthnasol yn bennaf i brydlesi sy’n cael eu gwneud cyn 13 Hydref 2003 a phryd na fu unrhyw ddigwyddiadau sy’n peri cofrestriad. Fodd bynnag, bydd rhai o’r adrannau yn berthnasol hefyd i rai prydlesi sy’n cael eu rhoi ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, y mae modd eu cofrestru ond nad yw’n orfodol eu cofrestru efallai. Er enghraifft, gweler Prydlesi amharhaol allan o dir digofrestredig.

Mae’r adrannau canlynol yn rhoi manylion yr ystadau prydlesol mewn tir y mae modd eu cyflwyno’n wirfoddol am gofrestriad cyntaf.

3.1 Prydlesi gyda mwy na saith mlynedd o’u cyfnod ar ôl

Gweler adran 3(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Bydd y rhan fwyaf o brydlesi yn cael eu derbyn i’w cofrestru, ar yr amod bod dros saith mlynedd o’r cyfnod gwreiddiol ar ôl ar adeg cofrestriad cyntaf. Os yw’r brydles yn cael ei rhoi ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 bydd yn orfodol ei chofrestru – gweler Prydlesi newydd a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig.

Lle bo prydlesai’n dal prydles â meddiant ond yn cael prydles arall o’r un tir, i ddod i rym â meddiant ar neu o fewn un mis o derfyn y brydles gyntaf, mae modd trin y ddau gyfnod fel petai’n un cyfnod di-dor – gweler adran 3(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Felly, os yw cyfanswm y ddau gyfnod yn fwy na saith mlynedd, byddwn yn derbyn cais gwirfoddol i gofrestru’r ddwy brydles, a fydd yn cael eu cofrestru gyda’i gilydd ar yr un teitl.

Sylwer: Mae adran 3(7) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darparu bod modd trin prydlesi o’r fath fel petaent yn creu un cyfnod di-dor at ddibenion cofrestru gwirfoddol yn unig. Nid oes unrhyw ddarpariaeth bod prydlesi o’r fath i gael eu trin fel un cyfnod di-dor at ddibenion cofrestru gorfodol.

3.2 Prydlesi amharhaol allan o dir digofrestredig

Gweler adran 3(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae’r ddarpariaeth hon yn newydd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Gweler Prydlesi amharhaol allan o deitlau cofrestredig neu a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig ar yr hyn sy’n ffurfio prydles ‘amharhaol’, a sut i gyfrif cyfnod y brydles.

Bydd cais gwirfoddol yn cael ei dderbyn, heb ystyried y cyfnod, hynny yw nid oes rhaid i’r brydles fod am fwy na saith mlynedd (364 wythnos). Fodd bynnag, os yw prydles amharhaol yn cael ei rhoi ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, neu drosglwyddiad o brydles amharhaol yn cael ei wneud ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, rhaid ei chofrestru os yw’n dod o fewn adrannau 4(1)(c) a 4(1)(a) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 – gweler Prydlesi newydd a roddir am gyfnod o fwy na saith mlynedd allan o dir digofrestredig a Trosglwyddo neu aseinio prydlesi digofrestredig gyda mwy na saith mlynedd o’r cyfnod ar ôl.

I gyfrif cyfnod prydles o’r fath, rhaid lluosi nifer yr wythnosau llawn bob blwyddyn y prydleswyd yr eiddo, gyda nifer y blynyddoedd a roddir.

Os yw’r cyfanswm yn fwy na saith mlynedd (hy yn fwy na 364 o wythnosau llawn) bydd yn orfodol cofrestru’r brydles a/neu’r trosglwyddiad.

4. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – prydlesi nad oes modd eu cofrestru

Mae adran 3(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn manylu’n benodol pryd na allwn dderbyn cais i gofrestru ystad brydlesol, hynny yw os yw’r ystad brydlesol yn breinio ym mherchennog yr ystad (y ceisydd) fel morgeisai, lle mae hawl adbrynu’n bodoli.

Mae’r adrannau canlynol yn rhoi manylion yr ystadau prydlesol mewn tir nad oes modd eu cyflwyno i’w cofrestru.

4.1 Prydlesi a roddir am gyfnod o saith mlynedd neu lai neu lle mai saith mlynedd neu lai yw’r cyfnod sydd ar ôl

Oni bai eu bod yn dod o dan un o’r eithriadau isod, sy’n gofrestradwy waeth beth fo’u cyfnod, nid yw’r prydlesi canlynol yn gofrestradwy (Adrannau 3(3), 4(1)(c) a 27(2)(b)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

(i) Prydlesi o dir cofrestredig neu ddigofrestredig, lle mai 7 mlynedd neu lai yw’r cyfnod sydd ar ôl ar ddyddiad y grant

(ii) Ystadau prydlesol digofrestredig sy’n ddarostyngedig i drosglwyddiad neu aseiniad sydd â 7 mlynedd neu lai o’r cyfnod sydd ar ôl ar ddyddiad y gwarediad.

(iii) Ceisiadau am gofrestriad cyntaf gwirfoddol ystad brydlesol lle mai 7 mlynedd neu lai yw’r rhan o’r cyfnod sydd ar ôl ar ddyddiad y cais.

Sylwer: Mae’r canlynol yn eithriadau i hyn ac mae modd cofrestru’r prydlesi hyn heb ystyried eu cyfnod:

  • prydlesi hawl i brynu, yn unol â Rhan V Deddf Tai 1985
  • prydlesi hawl i brynu a ddiogelwyd yn unol ag adran 171A o Ddeddf Tai 1985
  • prydlesi amharhaol
  • prydlesi rifersiwn a roddir ar neu ar ôl 13 Hydref 2003 sydd i ddod i rym dros dri mis o ddyddiad grant allan o un ai:
    • ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig
    • ystad brydlesol ddigofrestredig mewn tir am gyfnod sydd, ar adeg rhoi’r brydles, â mwy na saith mlynedd ohoni ar ôl
    • deitl cofrestredig

Sylwer: Mae’n orfodol cofrestru rhai o’r prydlesi hyn. Gweler Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – cofrestru gorfodol i gael rhagor o fanylion.

4.2 Cyfnod prydles yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles

Fel arfer mae prydles sydd â rhent neu bremiwm yn daladwy arni lle bo’r cyfnod yn dechrau dros 21 mlynedd o ddyddiad y brydles, yn ddi-rym – gweler adran 149(3) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Felly, nid oes modd cofrestru prydlesi o’r fath.

4.3 Prydlesi heb unrhyw ddyddiad dechrau pendant

Os nad yw’r brydles yn cyfeirio at ddyddiad dechrau, byddwn fel rheol yn cymryd (yn absenoldeb tystiolaeth arall) bod y cyfnod yn dechrau ar ddyddiad y brydles.

O ganlyniad, am nad yw cyfnod y brydles yn bendant, nid oes modd cofrestru’r prydlesi hyn.

4.4 Prydleswr yr un â’r prydlesai

Penderfynodd Tŷ’r Arglwyddi na all naill ai unigolyn, na chwmni, greu prydles o blaid yr un unigolyn neu gwmni. Nid oes gan unrhyw ymgais i wneud hynny effaith gyfreithiol (Rye yn erbyn Rye [1962] A C 496). Felly, ni allwn roi unrhyw fath o deitl cofrestredig i brydles o’r fath.

4.5 Prydlesi Partneriaeth Gyhoeddus-Breifat (PGB)

Prydles PGB yw prydles sy’n ffurfio cytundeb ‘partneriaeth gyhoeddus-breifat’ – gweler adrannau 210 a 211 Deddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999.

Fel arfer, bydd y brydles rhwng London Regional Transport, Transport for London neu un o’i is-gwmnïau a chwmni preifat, at ddiben cynnal neu ddarparu rheilffordd, ee rheilffordd danddaearol.

Nid yw prydlesi PGB yn gofrestradwy – gweler adrannau 90(1), (2) a (3),

Deddf Cofrestru Tir 2002. Maent yn cael eu dosbarthu fel budd sy’n gor-redeg cofrestriad cyntaf a gwarediadau cofrestredig – gweler adran 90(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

4.6 Prydlesi yn breinio mewn rhywun fel morgeisai – hawl adbrynu’n bodoli

Gweler adran 3(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Nid oes modd cofrestru prydles sy’n breinio mewn rhywun fel morgeisai lle mae hawl adbrynu’n bodoli.

4.7 Tenantiaethau tai cymdeithasol perthnasol

Gweler adrannau 3(4A), 4(5A) a 27(5A) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Ni ellir cofrestru tenantiaeth tai cymdeithasol perthnasol (fel y’i diffiniwyd yn adran 132(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

5. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – nodi prydlesi

Gweler adrannau 32, 33, 34, 37 a 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Mae adran 32 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn gadael i ni nodi prydlesi arbennig ar gyfer yr ystad gofrestredig yr effeithir arni, hynny yw teitl y prydleswr.

5.1 Nodi prydlesi a roddir allan o deitlau cofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003

Pan fydd cais yn cael ei gyflwyno i gofrestru prydles a roddir allan o dir cofrestredig sydd angen ei gofrestru (gweler Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – cofrestru gorfodol i gael rhagor o fanylion) nid oes angen unrhyw gais i nodi’r brydles ar deitl cofrestredig y prydleswr. Bydd rhybudd yn cael ei gofnodi ohono’i hun yn nheitl y prydleswr gan Gofrestrfa Tir EF, yn unol ag adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

5.2 Nodi prydlesi yn uwch deitlau cofrestredig prydleswyr yn dilyn cofrestriad cyntaf

Gweler rheol 37 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Bydd cais i gofrestru prydles oedd naill ai:

  • heb ei rhoi allan o ystad gofrestredig
  • wedi ei rhoi cyn dechrau Deddf Cofrestru Tir 2002
  • nad oedd yn orfodol ei chofrestru’n flaenorol (ee prydles o fwy na saith mlynedd ond am 21 mlynedd neu lai)

yn cael ei drin fel cais am gofrestriad cyntaf.

Ar yr amod bod modd nodi’r brydles – gweler Prydlesi na allwn eu nodi – bydd Cofrestrfa Tir EF yn nodi’r brydles ohoni’i hun yn uwch deitl cofrestredig y prydleswr (os na chafodd ei nodi eisoes), yn amodol ar gyflwyno rhybudd i’r prydleswr – gweler rheol 37(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Os yw cydsyniad y prydleswr yn cael ei gyflwyno gyda’r cais ni fydd angen i ni gyflwyno rhybudd i’r prydleswr.

5.3 Nodi prydlesi am fwy na thair blynedd

Os nad yw rhybudd yn cael ei wneud ohono’i hun yn nheitl y prydleswr o dan adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 neu reol 37(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003 mae modd gwneud cais i gofnodi rhybudd:

  • os yw’r brydles yn cael ei rhoi am gyfnod o fwy na thair blynedd o ddyddiad y rhoi
  • nad yw’n berthnasol i ymddiried tir neu setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925

Gweler adrannau 32, 33 a 34 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Gweler Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 – cofrestru gorfodol, i gael manylion prydlesi sy’n rhaid eu cofrestru.

Gweler Nodi prydlesi i gael manylion ar sut i wneud cais.

Mae adran 37 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 hefyd yn caniatáu i Gofrestrfa Tir EF nodi prydlesi o fwy na thair blynedd ond nid dros saith mlynedd mewn uwch deitl cofrestredig, er na fydd y brydles ei hun yn gallu cael cofrestriad safonol.

5.4 Prydlesi na allwn eu nodi

Gweler adran 33 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Ni allwn nodi’r canlynol yn y gofrestr. Prydlesi a:

  • roddwyd am gyfnod o dair blynedd neu lai – ac nad oes angen iddynt gael cofrestriad safonol – gweler adran 33(b) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • prydlesi Partneriaeth Gyhoeddus-Breifat – gweler adran 90(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002
  • tenantiaethau tai cymdeithasol perthnasol – gweler adran 33(ba) o Ddeddf Cofrestru Tir 2001

6. Sut i gymhwyso Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003: a gwneud ceisiadau i Gofrestrfa Tir EF

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf.

Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

6.1 Cofrestriad cyntaf

Dylai perchennog yr ystad neu eu holynydd yn y teitl wneud cais am gofrestriad cyntaf – gweler adran 6(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Y cyfnod ar gyfer cofrestru yw dau fis o ddyddiad y weithred sy’n ennyn cofrestriad – gweler adrannau 6(4) a (5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar ffurflen FR1 – gweler rheol 23(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Mae rheol 24 o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn rhoi manylion beth sydd i gael eu cynnwys gyda chais am gofrestriad cyntaf, hynny yw:

  • manylion digonol, trwy gynllun neu fel arall, fel bod modd dynodi’r tir yn eglur ar fap yr Arolwg Ordnans
  • y brydles (y gwreiddiol neu gopi ardystiedig – gweler uchod am wybodaeth am geisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd)
    • Sylwer 1: Os oes cynllun, neu fanylion digonol i nodi’r tir, yn cael eu cynnwys yn y brydles, ni fydd angen cynllun ychwanegol
    • Sylwer 2: Os yw’r brydles yn brydles amharhaol, bydd gofyn cael copi o unrhyw galendr ‘cyfnodrannu’ yn diffinio’r wythnosau y cyfeiriwyd atynt, os nad yw yn y brydles
  • tystiolaeth y bodlonwyd gofynion tystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp (TDDS) neu Dystysgrif Trafodiadau Tir (TTT)

  • holl weithredoedd a dogfennau’n ymwneud â’r teitl sydd o dan reolaeth y ceisydd

Sylwer: Os yw’r cais am deitl prydlesol llwyr yn ffurflen FR1 ac nad yw tystiolaeth yr uwch deitl(au) yn cael ei chyflwyno, byddwn yn cofrestru teitl prydlesol da yn unig ar gyfer y ceisydd. Ni fyddwn yn gwneud ymholiad am y dystiolaeth hon.

  • rhestr o’r holl ddogfennau a ddanfonwyd yn ddyblyg ar ffurflen DL.

I gael gwybodaeth fwy cyffredinol am gyflwyno ceisiadau am gofrestriad cyntaf gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

Mae cyngor ynghylch:

  • a oes yn rhaid hysbysu Cyllid a Thollau EF (CThEF) neu Awdurdod Refeniw Cymru (ARC) am drafodiad
  • a yw trafodiad yn eithriedig o TTTS neu TTT (megis arwystl cyfreithiol)
  • a yw trafodiad y tu allan i gwmpas TTTS neu TTT

ar gael oddi wrth:

  • ar gyfer TTTS, llinell gymorth treth stampiau CThEF ar 0300 200 3510, sydd ar agor rhwng 8.30am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau cyhoeddus neu o wefan treth stampiau CThEF
  • ar gyfer TTT, canolfan gwasanaeth cwsmeriaid ARC ar 03000 254 000, sydd ar agor rhwng 9.30am a 5.30pm dydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau cyhoeddus neu o wefan ARC

Os yw’r brydles yn cael ei rhoi i ddau neu ragor o bobl a’i bod naill ai heb gynnwys manylion, neu’n cynnwys gwybodaeth groes i’w gilydd, ynghylch a oes angen cyfyngiad Ffurf A (gweler Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003), byddwn yn cofnodi cyfyngiad ar Ffurf A yn ddiofyn. Os yw’r brydles yn cael ei rhoi ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006 ac yn cynnwys y cymalau penodedig, mae datganiad ymddiried yn rhan o gymal LR14. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.

Rhaid gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau, heblaw cyfyngiad Ffurf A, ar ffurflen RX1 – rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr. Nid oes modd gwneud cais am gyfyngiad mewn prydles. Fodd bynnag, o 9 Ionawr 2006, mae modd defnyddio prydles yn cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A o Reolau Cofrestru Tir 2003, yng nghymal LR13, i wneud cais i gofnodi cyfyngiad ar ffurf safonol. Bydd hyn yn cynnwys prydlesi cymalau penodedig a roddir ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006. Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ansafonol ar ffurflen RX1 bob amser. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig – 5.13 LR13.

Bydd cofrestr brydlesol yn cynnwys manylion digonol o’r brydles sy’n cael ei chofrestru i alluogi ei dynodi – gweler rheol 6 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ni fydd manylion o’r fath mwyach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y rhent sy’n daladwy o dan brydles.

6.2 Prydlesi newydd allan o deitl cofrestredig

Rhaid cyflwyno’r ceisiadau hyn ar ffurflen AP1 – rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Rhaid i gopi ardystiedig o’r brydles, a’r tâl priodol yn ôl y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, gael ei gynnwys gyda’r cais (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

Os rhoddwyd y brydles ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006, rhaid i’r brydles fod yn brydles cymalau penodedig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Rhaid anfon tystiolaeth y bodlonwyd gofynion TTTS neu TTT gyda’r brydles.

Os cyflwynir y brydles i’w chofrestru gan drawsgludwr sy’n cynrychioli’r rhoddwr benthyg yn unig, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig gan y trawsgludwr sy’n cynrychioli’r tenant arnom yn datgan:

  • y cyfeiriad ar gyfer gohebu i’w gofnodi ar y gofrestr; a
  • pe bai’r cais yn cael ei gyflwyno ganddo ar ran y tenant, byddai’n ddigon bodlon y gallai ddarparu’r cadarnhad hunaniaeth angenrheidiol sy’n ofynnol gan baneli 12 a 13 ffurflen AP1

Os oes morgais wedi ei gofrestru ar deitl y landlord, bydd angen i chi amgáu cydsyniad y morgeisiai. Mae cydsyniad yn ofynnol bob amser lle ceir hefyd cyfyngiad o blaid y rhoddwr benthyg ar deitl y landlord sy’n ‘dal’ cais y brydles. Fel arall, os na chyflwynir cydsyniad, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd:

“Mae’r teitl i’r brydles, yn ystod bodolaeth yr arwystl dyddiedig … o blaid … sy’n effeithio ar deitl y landlord (ac i’r graddau a ganiateir gan y gyfraith, unrhyw arwystl sy’n disodli neu’n amrywio’r arwystl hwn neu unrhyw arwystl pellach o ran yr holl swm neu ran ohono a sicrhawyd gan yr arwystl hwn, neu ran ohono), yn ddarostyngedig i unrhyw hawliau a allai fod wedi codi oherwydd absenoldeb cydsyniad yr arwystlai, oni bai bod y brydles wedi ei hawdurdodi gan adran 99 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.”

Os mai prydlesol yw teitl y landlord, amgaewch gydsyniad unrhyw uwch landlord, os oes angen cydsyniad o’r fath ar yr uwch brydles. Pan na fydd cydsyniad yr uwch landlord yn cael ei gyflwyno, byddwn yn gwneud y cofnod canlynol yng nghofrestr eiddo’r teitl newydd oni bai bod trawsgludwr yn ardystio bod y brydles newydd yn dod o fewn categori a ganiateir ac nad yw wedi ei dal gan delerau’r cymal dieithrio yn yr uwch brydles:

“Nid yw’r cofrestrydd wedi gweld unrhyw gydsyniad i roi’r isbrydles hon a allai fod wedi bod yn ofynnol gan yr uwch brydles o’r hon y cafodd ei rhoi.”

Bydd cofrestr brydlesol yn cynnwys manylion digonol o’r brydles sy’n cael ei chofrestru i alluogi ei dynodi – gweler rheol 6 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Ni fydd manylion o’r fath mwyach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at y rhent sy’n daladwy o dan brydles.

Os yw’r brydles yn cael ei rhoi i ddau neu ragor o bobl a’i bod naill ai heb gynnwys manylion, neu’n cynnwys gwybodaeth groes i’w gilydd, ynghylch a oes angen cyfyngiad Ffurf A (gweler Atodlen 4 o Reolau Cofrestru Tir 2003), byddwn yn cofnodi cyfyngiad ar Ffurf A yn ddiofyn. Os yw’r brydles yn brydles cymalau penodedig mae datganiad ymddiried yn rhan o gymal LR14. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.

Rhaid gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau, heblaw cyfyngiad Ffurf A, ar ffurflen RX1 – rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr. Nid oes modd gwneud cais am gyfyngiad safonol mewn prydles. Fodd bynnag, o 9 Ionawr 2006, mae modd defnyddio prydles yn cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A o Reolau Cofrestru Tir 2003, yng nghymal LR13, i wneud cais i gofnodi cyfyngiad ar ffurf safonol. Bydd hyn yn cynnwys prydlesi cymalau penodedig a roddir ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006. Rhaid dal i ddefnyddio ffurflen RX1 i wneud cais i gofnodi cyfyngiad sydd yn unrhyw brydles arall, neu i gofnodi cyfyngiad ar ffurf ansafonol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler cyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig – 5.13 LR13.

6.3 Nodi prydlesi

Gweler adrannau 33, 34 a 35 Deddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer: Ni fydd cais i nodi prydles fel rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn bodloni’r gofynion cofrestru ar gyfer hawddfreintiau cyfreithiol. Os yw’r brydles yn cynnwys hawddfreintiau, dylech wneud cais yn unol â chyfarwyddyd ymarfer 62: hawddfreintiau – 5.2 Hawddfreintiau mewn prydlesi digofrestredig.

6.3.1 Rhybuddion a gytunwyd

Os nad yw prydles yn cael ei nodi ohoni’i hun o dan adran 38 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 neu reol 37 o Reolau Cofrestru Tir 2003, ac nad yw wedi ei hatal rhag cael ei nodi (gweler Prydlesi na allwn eu nodi), mae modd i’r canlynol wneud cais i gofnodi rhybudd a gytunwyd yn y gofrestr yr effeithir arni gan y budd:

  • y sawl sydd â hawl i fantais y budd
  • perchennog cofrestredig y tir lle mae’r rhybudd i gael ei gofnodi
  • rywun gyda hawl i’w gofrestru fel y cyfryw berchennog, er enghraifft cynrychiolydd personol unig berchennog cofrestredig

Dylai’r canlynol gael eu cynnwys gyda chais o’r fath:

  • copi ardystiedig o’r brydles wreiddiol neu wrthran prydles
  • tystiolaeth y bodlonwyd gofynion TTTS neu TTT

Sylwer: Cyn i ni allu nodi unrhyw drafodiad tir fel rhybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog, mae’n rhaid i Gofrestrfa Tir EF sicrhau bod y dystysgrif TTTS briodol neu TTT wedi ei chyflwyno gyda’r cais lle bo hyn yn ofynnol. Mae hyn yn ofyniad statudol yn ôl adran 79(1) o Ddeddf Cyllid 2003 ac adran 65(1) o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017. Gweler Cofrestriad cyntaf i gael manylion.

  • os yw’r cais gan rywun gyda hawl i’w gofrestru fel perchennog, tystiolaeth ddigonol i’n hargyhoeddi o’u budd
  • os nad yw’r cais yn cael ei wneud gan y perchennog cofrestredig neu rywun gyda hawl i’w gofrestru fel y cyfryw berchennog, naill ai gydsyniad y cyfryw berson, neu dystiolaeth ddigonol i ddarbwyllo’r cofrestrydd o ddilysrwydd y cais
  • unrhyw gydsyniadau cyfyngwyr priodol

I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

6.3.2 Rhybuddion unochrog

Gall fod modd gwneud cais i gofnodi rhybudd unochrog ar deitl y prydleswr pan nad oes modd cofnodi rhybudd a gytunwyd. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

6.3.3 Prydlesi a chanddynt lai na blwyddyn ar ôl

Ni fyddwn yn nodi prydlesi a chanddynt lai na blwyddyn ar ôl. Mae hyn oherwydd, ym marn y cofrestrydd, bydd cofnodi rhybudd am brydles o’r fath yn y gofrestr yn debygol o beri anghyfleustra i Gofrestrfa Tir EF, a’n cwsmeriaid oherwydd y byddai’n rhaid gwneud cais ymhen blwyddyn i’w dynnu ymaith.

6.4 Gweithredoedd amrywio

6.4.1 Amrywiad prydles gofrestredig

Wrth gyflwyno cais i gofrestru amrywiad prydles pan fo teitl y prydlesai yn gofrestredig, bydd yn briodol fel arfer i wneud y cais o dan reol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003, ac, felly, dylid cyflwyno’r cais ar ffurflen AP1 – rheol 13 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

O dan reol 129 o Reolau Cofrestru Tir 2003 rhaid i chi ddarparu tystiolaeth ddigonol i ddangos bod gan yr amrywiad effaith yn y gyfraith neu. Rhaid i chi, felly, gyflwyno:

  • y weithred amrywio, a
  • chydsyniad(au) unrhyw arwystlai neu gyfyngwr os oes angen un, neu
  • lle bo teitl y prydleswr yn ddigofrestredig – tystiolaeth o deitl y prydleswr, ac
  • unrhyw dystiolaeth arall i ddangos bod gan yr amrywiad effaith yn y gyfraith, megis tystiolaeth o newid enw un o’r partïon os nad yw’r enw’r un fath â’r un sydd ar y gofrestr

Os ydym yn fodlon bod gan yr amrywiad effaith yn y gyfraith byddwn yn gwneud cofnod yn ymwneud â’r weithred yng nghofrestr eiddo teitl y prydlesai. Byddwn hefyd yn cofnodi rhybudd yn nheitl prydleswr, heb i gais penodol gael ei wneud ar ffurflen AN1 o ran teitl y prydleswr.

Sylwer: Os nad yw cydsyniad yr arwystlai’n cael ei gyflwyno pan fo’n ofynnol, caiff y canlynol ei ychwanegu at gofnod cofrestr y teitlau perthnasol:

‘NODYN: Nid oedd perchennog yr arwystl cofrestredig dyddiedig […] [o rif teitl … y landlord/tenant] yn rhan o’r weithred ac ni chyflwynwyd tystiolaeth o’i gydsyniad â’r weithred i’r cofrestrydd.’

6.4.2 Amrywiad prydles ddigofrestredig

Os yw rhybudd prydles ddigofrestredig yn cael ei gofnodi yn nheitl prydleswr, mae modd gwneud cais i gofnodi rhybudd o ran amrywio’r brydles. Fel arfer, dylid gwneud cais o’r fath am rybudd a gytunwyd ar ffurflen AN1, os oes modd darparu’r weithred amrywio a bod y brydles wedi ei gwarchod eisoes fel rhybudd a gytunwyd. Fodd bynnag, gall fod yn briodol o dan rai amgylchiadau i wneud cais ar ffurflen UN1, er enghraifft os yw’r brydles wedi ei gwarchod eisoes trwy rybudd unochrog ac nad oes modd darparu’r brydles neu/na’r weithred amrywio. I gael rhagor o fanylion gweler, cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Sylwer lle y gwneir cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn dilyn gweithred amrywio, mae modd gwneud y cais o ran teitl y prydlesai yn unig. Mae hyn oherwydd, o dan adran 32(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, cofnod yn y gofrestr “o ran baich budd sy’n effeithio ar ystad gofrestredig” yw rhybudd. Mae’n amlwg mai budd sy’n faich ar ystad gofrestredig y prydlesai yw’r brydles ac felly gall fod yn destun rhybudd yn nheitl y prydlesai; gellir dadlau y gellir nodi unrhyw weithred amrywio hefyd am fod y cofnod wedyn “o ran” y baich hwn. Ond nid budd sy’n effeithio ar ystad y prydlesai yw’r brydles: eu hystad ydyw. Felly ni all y brydles fod yn destun rhybudd yn nheitl y prydlesai; ac o ganlyniad, ni all y weithred amrywio fod yn destun rhybudd o’r fath.

6.4.3 Cais i nodi amrywiad lle nad yw’n glir bod yr amrywiad yn effeithiol yn y gyfraith

Mewn rhai achosion gall fod yn briodol gwneud cais am rybudd ar naill ai:

o ran gweithred amrywio hyd yn oed pan gofrestrwyd y brydles yn safonol, am na fydd modd darparu tystiolaeth ddigonol efallai i ddarbwyllo’r cofrestrydd bod yr amrywiad yn effeithiol yn y gyfraith. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti ar y gofrestr.

Sylwer: Os yw’r weithred amrywio yn cynnwys hawddfreintiau, ni fydd y rhain yn weithredol yn y gyfraith nes bydd cofnodion yn ymwneud â baich a budd yr hawddfraint yn cael eu cofnodi yn y ddau deitl cofrestredig – gweler adran 27(1) a pharagraff 7 Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Sylwer lle y gwneir cais am rybudd a gytunwyd neu rybudd unochrog yn dilyn gweithred amrywio, mae modd gwneud y cais o ran teitl y prydlesai yn unig. Mae hyn oherwydd, o dan adran 32(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, cofnod yn y gofrestr “o ran baich budd sy’n effeithio ar ystad gofrestredig” yw rhybudd. Mae’n amlwg mai budd sy’n faich ar ystad gofrestredig y prydlesai yw’r brydles ac felly gall fod yn destun rhybudd yn nheitl y prydlesai; gellir dadlau y gellir nodi unrhyw weithred amrywio hefyd am fod y cofnod wedyn “o ran” y baich hwn. Ond nid budd sy’n effeithio ar ystad y prydlesai yw’r brydles: eu hystad ydyw. Felly ni all y brydles fod yn destun rhybudd yn nheitl y prydlesai; ac o ganlyniad, ni all y weithred amrywio fod yn destun rhybudd o’r fath.

6.4.4 Amrywio cyfnod neu stent

Er ei bod yn glir yn y gyfraith nad oes modd estyn cyfnod prydles trwy weithred, mae gweithredoedd amrywio i’w gweld yn aml sy’n honni eu bod naill ai:

  • yn estyn hyd prydles
  • yn ehangu’r tir a brydleswyd

Dylech osgoi defnyddio gweithred amrywio o dan y fath amgylchiadau.

Fodd bynnag, os caiff y gweithredoedd hyn eu cyflwyno i’w cofrestru, byddwn yn eu trin fel pe baent yn ildio’r hen brydles ar unwaith ac yn rhoi prydles newydd. Nid yw gweithred sy’n amrywio prydles sy’n dod i rym fel ildio ac ail-roddi’r ystad brydlesol yn gorfod bod yn brydles cymalau penodedig. Mae’r eithriad hwn yn berthnasol pa un ai oedd y brydles wreiddiol yn brydles cymalau penodedig neu beidio. I gael rhagor o fanylion gweler cyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi.

I gael cyfarwyddyd ar sut i unioni’r stent a brydlesir neu hyd y cyfnod, gweler cyfarwyddyd ymarfer 68: gweithredoedd newid sy’n peri gwarediadau tir cofrestredig – 4.4 Prydlesi: Prydlesu’r stent neu’r cyfnod anghywir.

7. Ceisiadau gwasanaeth rhagarweiniol

7.1 Cofrestriad cyntaf

I gael manylion pellach gweler:

Sylwer: Os nad oes angen darpariaethau indemniad arnoch o ran chwiliad o’r map mynegai, gallech ystyried defnyddio MapSearch. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn ddi-dâl i gwsmeriaid e-wasanaethau Busnes sydd â mynediad i’r porthol ac mae’n darparu canlyniadau chwilio ar unwaith.

7.2 Prydles allan o deitl cofrestredig

I gael manylion pellach gweler:

Sylwer: Os ydych yn cyflwyno chwiliad swyddogol o ran sy’n effeithio ar brydles amharhaol, sicrhewch eich bod yn cynnwys manylion unrhyw gyfnod arbennig yn ogystal â manylion yr eiddo, ee ‘Rhandy 6 ar gyfer Wythnos 27’.

8. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr eich bod wedi:

  • cyflwyno’r cais ar y ffurflen gywir
  • cyflwyno unrhyw gydsyniadau gofynnol
    • cofrestriad cyntaf – lle bo’r teitl rifersiwn yn gofrestredig ac y ceisiwyd teitl prydlesol llwyr
    • prydles allan o deitl cofrestredig – cydsyniadau o ran unrhyw gyfyngiadau yn y gofrestr perchnogaeth neu arwystlon yng nghofrestr arwystlon teitl y prydleswr. Os mai prydlesol yw teitl y landlord – ystyriwch, a oes yn rhaid iddo gael cydsyniad ei landlord o dan delerau’r brydles?
  • prydles amharhaol neu gyfnodrannu – oes copi o’r calendr cyfnodrannu yn y brydles, neu oes angen i chi gyflwyno un ar wahân?
  • cyflwyno copi ardystiedig o’r brydles
  • cyflwyno ffurflen RX1 os ydych yn gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau
  • cyflwyno’r taliad cywir
  • gwirio’r manylion clerigol yn yr holl ffurflenni a gweithredoedd (yn enwedig arwystlon a morgeisi) gan dalu sylw arbennig i’r holl ddyddiadau, disgrifiadau eiddo, rhifau teitl ac enwau llawn partïon, yn enwedig lle maent yn ymddangos mewn mwy nag un weithred.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.