Rhifyn mis Awst 2026 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 19 Awst 2026
Rhagarweiniad
Yn rhifyn y mis hwn o fwletin y cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
-
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
-
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (GfC) — Help gydag ymwelwyr busnes tymor byr – GfC19
-
Cyflwyno talu buddiannau drwy’r gyflogres gorfodol fesul cam — camau i chi eu cymryd nawr
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
-
Newidiadau i daliadau milltiroedd ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
-
Cynigion i fynd i’r afael â dyledion treth gwerth is mewn ymgynghoriad gan y llywodraeth
-
Alinio terfynau amser adennill cyfraniadau Yswiriant Gwladol â Threth Incwm — lansio ymgynghoriad
-
Taliad Pensiwn i’r Sawl sy’n Ennill Incwm Isel — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
Hawl mynediad Undebau Llafur — rheolau newydd o fis Hydref 2026 ymlaen
-
Rhybudd ynghylch twyll treth — ceisiadau i ddefnyddio Biliau Cyfnewid i dalu CThEF
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
Rhybudd am dwyll treth i asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr — cynlluniau sy’n honni eu bod yn lleihau rhwymedigaethau gan ddefnyddio credydau treth
Mae CThEF wedi cyhoeddi brîff rhybudd am dwyll treth i asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i godi ymwybyddiaeth o fodelau twyllodrus newydd sy’n cael eu marchnata i gyflogwyr ac asiantaethau recriwtio sy’n cynnig gwasanaethau cyflogres ‘rhatach’.
Mae grwpiau troseddau trefnedig yn arbennig o weithgar yn y sector asiantaethau cyflogaeth dros dro a recriwtio.
Mae CThEF yma i’ch helpu i osgoi trefniadau twyllodrus a allai arwain at risg ariannol sylweddol i’ch busnes.
Mae CThEF yn ymwybodol bod sefydliadau sy’n cynnig modelau sy’n honni’n ffug eu bod yn gallu lleihau costau cyflogaeth drwy ‘gredydau treth’ wedi’u gwrthbwyso o fusnesau trydydd parti y maent wedi’u caffael yn cysylltu â nhw.
Gall y sefydliadau sy’n cynnig y modelau hyn alw eu hunain, ond nid yn gyfan gwbl, yn ddarparwyr cyflogres, cyfryngwyr, atebion ambarél neu ddarparwyr swyddfa gefn.
Mae’r sefydliadau hyn yn honni’n ffug y gallant gaffael busnesau sydd â chredydau treth ar ffeil gyda CThEF, a all gynnwys busnesau sydd dan gyfnod cyn-weinyddu.
Maen nhw’n honni eu bod nhw’n defnyddio’r credydau treth i wrthbwyso trethi cyflogaeth, fel TWE ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus i CThEF, trwy weithredu’r gyflogres ac, o ganlyniad, gallant leihau’r swm sydd angen i chi ei dalu.
Yn aml yn y trefniadau hyn nid oes unrhyw un o’r trethi sy’n ddyledus i CThEF yn cael eu talu. Maen nhw’n gwneud hyn drwy beidio â thalu’r trethi i CThEF neu greu dogfennau ffug i roi’r argraff bod y Ffurflenni Treth priodol yn cael eu gwneud i CThEF a’r trethi’n cael eu talu.
I gael gwybod mwy am sut mae’r modelau hyn yn cael eu marchnata, pam na ddylid eu defnyddio a beth ddylech ei wneud i’ch amddiffyn eich hun, darllenwch ein brîff rhybudd am dwyll treth ar gyfer asiantaethau cyflogaeth a chyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg)
Os ydych o’r farn eich bod eisoes yn defnyddio’r mathau hyn o fodelau, mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i roi gwybod i ni. Ewch i sut i wneud datgeliad i CThEF (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
Gallwch hefyd rhoi gwybod am drefniadau a chynlluniau twyll treth ac arbed treth (yn agor tudalen Saesneg) a’r person sy’n eu cynnig i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.
Mae erthygl rhybudd am dwyll treth ar wahân wedi’i chyhoeddi ar Filiau Cyfnewid. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adran gwybodaeth gyffredinol a chwsmeriaid o’r Bwletin y Cyflogwr hwn.
Dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar benwythnos
Ym mis Awst 2026, mae’r dyddiad cau ar gyfer talu drwy ddull electronig yn syrthio ar 22 Awst 2026. Er mwyn sicrhau bod eich taliad ar gyfer y mis hwn yn ein cyrraedd mewn pryd, bydd angen bod gennych arian wedi’i glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn 20 Awst 2026, oni bai eich bod yn gallu trefnu talu gan ddefnyddio’r gwasanaeth Taliadau Cyflymach.
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich taliadau’n cael eu gwneud mewn pryd ac, os yw’ch taliad yn hwyr, mae’n bosibl y codir cosb arnoch.
Cyn gwneud eich taliad, gwiriwch derfynau gwerth eich trafodion dyddiol unigol a therfynau amser eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod pryd i gychwyn eich taliad, fel ei fod yn cyrraedd CThEF mewn pryd.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i dalu TWE cyflogwyr ar gael.
Gwneud eich taliadau Cytundebau Setliadau TWE (PSA)
Mae Cytundeb Setliad TWE (PSA) yn caniatáu i chi wneud un taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth ac Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Mae’n rhaid i unrhyw daliadau electronig ar gyfer Cytundeb Setliad TWE am y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026 glirio i gyfrif banc CThEF erbyn 22 Hydref 2026. Os daw eich taliad i law’n hwyr, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb neu log am dalu’n hwyr.
I dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’r cyfeirnod Cytundeb Setliad TWE, er enghraifft XA123456789012, o’r slip cyflog a anfonasom atoch. Os nad oes gennych hyn, cysylltwch â GwasanaethCwsmeriaid Cymraeg CThEF am gyngor.
Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE, er enghraifft 123PA12345678, i wneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE. Bydd taliadau a ddaw gyda’ch cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE yn cael eu dyrannu i’ch cyfrif TWE arferol, a byddwch yn parhau i gael nodynnau atgoffa ar gyfer y Cytundeb Setliad TWE er eich bod wedi talu.
P11D a P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu
Roedd y dyddiad cau i chi roi gwybod i ni ar-lein am unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 05 Ebrill 2026 ar 06 Gorffennaf 2026. Os nad ydych wedi gwneud hyn o hyd, mae angen i chi gyflwyno P11D(b) ar-lein heb oedi er mwyn osgoi unrhyw gosbau pellach y gellir eu rhoi. Mae angen i chi hefyd anfon ffurflenni P11D ar-lein ar gyfer unrhyw gyflogeion, oni bai eich bod wedi cofrestru cyn 6 Ebrill 2025 i dalu eu treuliau a’u buddiannau drwy’r gyflogres.
Mae’n rhaid bod unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch wedi’i dalu erbyn 22 Gorffennaf 2026.
Mae nifer o webinarau byw ar gael sy’n ymdrin â chyflwyno’ch P11D a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg).
Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein
Gallwch ddefnyddio’r dulliau ar-lein cyflym a hawdd canlynol:
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.
Yr hyn i’w gyflwyno
Os gwnaethoch ddarparu unrhyw fuddiannau neu dreuliau nad ydynt wedi’u hesemptio i’ch cyflogeion, mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i CYG Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt – neu bob un – drwy gyflogau’ch cyflogeion.
Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni cyn 6 Ebrill 2025 i’w trethu trwy’ch cyflogres. Os gwnaethoch dalu treuliau a buddiannau eich cyflogeion drwy’r gyflogres, mae’n bwysig nad ydych yn llenwi ffurflenni P11D, dim ond P11D(b) sydd ei angen.
Dim byd i’w ddatgan
Dim ond os yw CThEF wedi anfon datganiad atoch i gyflwyno ffurflen P11D(b) neu lythyr atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b) ac nad oes gennych ddim i’w ddatgan y mae angen i chi wneud datganiad. Gallwch ddatgan nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
I weld camgymeriadau cyffredin wrth lenwi P11D neu P11D(b) cyfeiriwch at Fwletin y Cyflogwr mis Chwrfror 2026.
Cyfrifiannell Treth Car Cwmni
Mae’r fersiwn newydd o’r Cyfrifiannell Treth Car Cwmni (yn agor tudalen Saesneg) ar gael. Ar gyfer unrhyw newidiadau i gar y mae cyflogai’n eu gwneud o fewn y flwyddyn dreth, mae’n rhaid cyflwyno P46 ffurflen P46 car.
Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — Help gydag ymwelwyr busnes tymor byr — GfC19
Yn ddiweddar, mae CThEF wedi cyhoeddi Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio newydd — Help gydag ymwelwyr busnes tymor byr (yn agor tudalen Saesneg). Ymwelwyr busnes tymor byr (STBVs) yw unigolion sydd fel arfer yn gweithio dramor ond sy’n dod i’r DU am gyfnodau byr i gyflawni dyletswyddau cyflogaeth.
Mae’r canllawiau hyn yn bennaf ar gyfer cyflogwyr yn y DU sydd â chyflogeion tramor sy’n gweithio yn y DU am gyfnod byr. Fodd bynnag, byddant hefyd yn ddefnyddiol i gyflogeion tramor, ymgynghorwyr proffesiynol a chyrff cynrychioliadol sy’n rhoi cymorth i gwsmeriaid yn y maes hwn.
Maent yn rhoi cymorth ymarferol drwy wneud y canlynol:
-
esbonio’r driniaeth Treth Incwm, Cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) a TWE ar gyfer STBVs
-
tynnu sylw at gamgymeriadau cyffredin a meysydd risg a nodwyd gan CThEF
-
helpu cwsmeriaid i gael eu treth yn gywir y tro cyntaf
-
cynghori ar ba gofnodion a thystiolaeth y dylid eu cadw
-
egluro beth i’w wneud os gwneir camgymeriad
Mae cynhyrchion Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio yn rhan o ymrwymiad parhaus CThEF i gyhoeddi cymorth ymarferol i gwsmeriaid. Mae’r cynhyrchion hyn yn ategu canllawiau presennol CThEF drwy egluro barn CThEF mewn meysydd cymhleth, camddeallus iawn neu newydd o’r rheolau treth.
Mae rhagor o wybodaeth am Ganllawiau ar gyfer Cydymffurfio, gan gynnwys cyhoeddiadau eraill, ar gael ar dudalen casgliad Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio (yn agor tudalen Saesneg).
Cyflwyno talu buddiannau drwy’r gyflogres gorfodol fesul cam — camau i chi eu cymryd nawr
Dylai cyflogwyr fod yn paratoi ar gyfer rhoi gwybod am fuddiannau (BiKs) mewn amser real, fel yr amlinellir yn y cyflogres orfodol o fuddiannau a threuliau — arweiniad a deddfwriaeth dros dro (yn agor tudalen Saesneg).
Rydym yn eich annog i ddechrau nawr os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
O 6 Ebrill 2027 i 5 Ebrill 2028, bydd talu drwy’r gyflogres yn orfodol yn cael ei chyflwyno fesul cam (yn agor tudalen Saesneg). Bydd Cyfnod 1 yn berthnasol i’r canlynol:
-
ceir cwmni
-
tanwydd ceir
-
faniau
-
tanwydd faniau
-
buddiannau meddygol
Bydd talu drwy’r gyflogres yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o fuddiannau eraill yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2028 ymlaen. Bydd cyflwyno’n raddol fel hyn yn cefnogi cyflogwyr a darparwyr cyflogres i baratoi ac addasu mewn ffordd y gellir ei rheoli.
Cyfathrebu â chyflogeion
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i gyflogeion am y newidiadau hyn. Mae cyfathrebu cynnar yn allweddol i’w galluogi i ddeall sut y gallai hyn effeithio ar eu codau treth a’u cyflog clir.
Dylech esbonio’r canlynol:
-
sut na fydd cyflogeion sy’n talu treth mewn ôl-ddyledion ar fuddiannau ar hyn o bryd yn gwneud hynny o fis Ebrill 2027 ymlaen ar gyfer buddiannau i’w talu drwy’r gyflogres yng nghyfnod 1 — mae’n bosibl nad yw llawer o gyflogeion yn sylweddoli mai dyma sut maen nhw’n talu treth ar fuddiannau, a’r flwyddyn nesaf y byddant yn talu treth ar eu buddiannau ar gyfer ceir, faniau, tanwydd ar gyfer y ddau a buddion meddygol yn y flwyddyn y byddant yn dod i law
-
sut y gallent gael didyniad yn eu cod treth ar hyn o bryd fel eu bod yn talu treth ar fuddiant amcangyfrifedig — ni fydd hyn yn wir mwyach o fis Ebrill 2027 ymlaen
-
sut mae’n rhaid talu treth ar fuddiannau cam 1 mewn amser real yn y flwyddyn yr ydynt yn dod i law
Lle mae’ch cyflogai hefyd yn talu’n ôl dandaliad o dreth fuddiant a ddarparwyd mewn blwyddyn flaenorol, bydd yn ddefnyddiol i chi egluro pam y gallai deimlo o fis Ebrill 2027 eu bod yn ’talu treth ddwywaith’ ar y buddiannau — fodd bynnag, nid yw hynny’n wir mewn gwirionedd.
Dylech weithredu nawr, ymhell cyn y newidiadau a bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
esbonio sut y bydd eich cyflogeion yn talu treth mewn amser real ar y ceir, faniau, tanwydd ar gyfer y ddau a buddiannau meddygol maent yn eu cael ar gyfer blwyddyn dreth 2027 i 2028, tra gallent hefyd fod yn dal i fyny â thaliadau ar gyfer unrhyw fuddiannau o’r flwyddyn dreth flaenorol unwaith y bydd trethu drwy’r gyflogres orfodol yn gymwys
-
defnyddio geiriad neu derminoleg glir a chywir, mewn unrhyw gyfathrebiadau i esbonio’r gwahaniaeth pwysig iawn hwn — osgoi terminoleg fel ‘trethiant dwbl’ a allai awgrymu bod treth ychwanegol yn cael ei chasglu nad yw’n gywir
-
bod yn barod am achosion lle mae’ch cyflogai’n talu treth yn y flwyddyn bresennol yn ogystal â thandaliadau ar gyfer blynyddoedd blaenorol a allai fod yn gysylltiedig â buddiannau
-
rhoi cyngor i’ch cyflogai i gysylltu â CThEF i drafod opsiynau yn seiliedig ar eu hamgylchiadau os yw’r trethiant sy’n gorgyffwrdd hwn yn achosi caledi
Eich paratoadau ar gyfer talu buddiannau drwy’r gyflogres ar gyfer cam 1
Mae’n bryd nawr i chi gymryd camau i baratoi ar gyfer talu drwy’r gyflogres yn orfodol (yn agor tudalen Saesneg) yng ngham 1, dylech wneud y canlynol:
-
creu rhestr o’r holl fuddiannau rydych yn eu cynnig ac y byddech fel arfer yn eu hadrodd i CThEF ar ffurflen P11D
-
gwneud yn siŵr bod eich meddalwedd gyflogres yn gallu ymdrin ag adrodd buddiannau mewn amser real ar gyfer cam 1 ac yn cydymffurfio â gofynion CThEF — mae’n bosibl nad yw hyn yn barod nawr, ond bydd angen iddo fod ar waith erbyn Ebrill 2027
-
cynllunio sut y byddwch yn rheoli cyflogeion sy’n gadael neu’n ymuno yn ystod y flwyddyn dreth, neu fuddiannau sy’n newid mewn gwerth
-
darllenwch ragor o wybodaeth am dalu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol – arweiniad a deddfwriaeth dros dro (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys adrannau sy’n cyfathrebu â chyflogeion ac yn paratoi ar gyfer y newid i adrodd buddiannau mewn amser real
-
deall y broses ar gyfer delio ag unrhyw dandaliad neu ordaliad fel y gallwch roi cymorth i gyflogeion
Talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol
Bydd cyflogwyr yn gallu cofrestru ar gyfer talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol o fis Tachwedd 2026 ymlaen ar gyfer pob Buddiant arall nad ydynt wedi’u gorfodi i gael eu talu drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2027 ymlaen, gan gynnwys benthyciadau a llety.
Mae Talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres yn orfodol — arweiniad a deddfwriaeth dros dro (yn agor tudalen Saesneg) yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r broses o gyflwyno fesul cam ac adborth. Mae CThEF yn disgwyl i’r arweiniad terfynol ar gyfer cam 1 gael eu cyhoeddi yn hydref 2026.
Rydym yn gwerthfawrogi ymdrechion cyflogwyr sydd eisoes yn paratoi ar gyfer y newidiadau.
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Newidiadau i daliadau milltiroedd ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027
Mae Taliadau Lwfans Milltiroedd Cymeradwy (AMAPs) (yn agor tudalen Saesneg) wedi’u diweddaru ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027. Mae cyfraddau wedi:
-
cynyddu i 55c y filltir am y 10,000 milltir cyntaf
-
aros ar 25c y filltir ar ôl 10,000 milltir
Mae’r anwybyddiad o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) ar gyfer Taliadau Gwariant Perthnasol ar Foduro (RME) hefyd wedi cynyddu i 55c y filltir.
Mae’r newidiadau hyn wedi’u hôl-ddyddio i 6 Ebrill 2026.
Os ydych yn ad-dalu’ch cyflogeion ar neu islaw’r gyfradd MAP cymeradwy, mae’n bosibl yr hoffech gynyddu’r swm rydych yn ei ad-dalu i’ch cyflogeion am filltiroedd busnes, yn unol â’r cyfraddau MAP cymeradwy newydd.
Os gwnaethoch dalu taliadau milltiroedd neu RME i’ch cyflogeion uwchlaw’r hen gyfraddau, efallai bod Treth Incwm neu CYG Dosbarth 1 wedi’u didynnu nad ydynt o bosibl yn ddyledus mwyach. Mae’n bosibl y bydd angen i chi gywiro’r gyflogres ar gyfer misoedd blaenorol yn y flwyddyn dreth 2026 i 2027, fel y gellir ad-dalu treth a or-dalwyd a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 cyflogwyr a chyflogeion. I ddiweddaru cyflogres, dylech ddilyn yr arweiniad TWE fel pe baech wedi gwneud gwall gan ddefnyddio datrys problemau gyda rhedeg cyflogres.
Os na fyddwch yn ad-dalu milltiroedd, neu os ydych yn ad-dalu ar gyfradd lai na’r gyfradd AMAPs newydd, gall eich cyflogeion ddilyn cyngor ar sut i hawlio rhyddhad treth ar gyfer eu treuliau swydd (yn agor tudalen Saesneg).
Cynigion i fynd i’r afael â dyledion treth gwerth is mewn ymgynghoriad gan y Llywodraeth
Fel rhan o’r pecyn Diweddariad Treth a gyhoeddwyd ar 23 Mehefin 2026, lansiodd y llywodraeth ymgynghoriad ar gynigion i fynd i’r afael â dyledion treth gwerth is gan gwsmeriaid sy’n gallu fforddio talu ond sy’n dewis yn gyson beidio ag ymgysylltu â CThEF. Bob blwyddyn, mae mwy na 750,000 o ddyledion o’r fath, gwerth dros £2 biliwn, yn parhau heb eu casglu ar ôl 9 mis a mwy na 10 ymgais i gysylltu. Byddai’r cynigion yn ymestyn pŵer gorfodi presennol CThEF, gan alluogi CThEF i adennill y dyledion hyn drwy ddidyniadau misol fforddiadwy o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu cwsmer yn y DU.
Mae’r ymgynghoriad yn amlinellu proses arfaethedig a mesurau diogelwch llym, a byddai CThEF yn croesawu mewnwelediad ac adborth gan y diwydiant a fydd yn helpu i lywio datblygiad y polisi.
Mae’r ymgynghoriad ar fynd i’r afael â dyledion treth gwerth is (yn agor tudalen Saesneg) yn cau ar 28 Awst 2026. Mae manylion ynghylch sut i ymateb wedi’u nodi yn y ddogfen ymgynghori.
Alinio terfynau amser adennill cyfraniadau Yswiriant Gwladol â Threth Incwm — lansio ymgynghoriad
Mae CThEF yn ymgynghori ar gynigion i alinio’r terfynau amser a’r prosesau ar gyfer adennill cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) â’r rhai sy’n berthnasol i Dreth Incwm.
Gall yr ymgynghoriad fod yn berthnasol i gyflogwyr ac asiantau sy’n delio â rhwymedigaethau Treth Incwm TWE a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ar hyn o bryd, mae Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Threth Incwm yn gweithredu o dan fframweithiau adfer gwahanol.
Ar gyfer Treth Incwm, mae terfynau amser ymddygiadol yn berthnasol i’r asesiad o rwymedigaeth, heb derfyn sefydlog ar adferiad ar ôl i asesiad gael ei wneud.
Ar gyfer CYGau, nid oes terfynau amser asesu cyfatebol. Yn gyffredinol, mae adferiad wedi’i gyfyngu i 6 blynedd gan Ddeddf Cyfyngiadau 1980, oni bai bod camau’n cael eu cymryd i amddiffyn y ddyled naill ai drwy’r llysoedd neu drwy i CThEF ymrwymo i gytundeb segur gyda’r cwsmer.
Gall hyn greu cymhlethdod lle mae rhwymedigaethau Treth Incwm TWE a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn deillio o’r un incwm ond yn cael eu trin trwy brosesau gwahanol.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion i wneud y canlynol:
-
tynnu CYGau o gwmpas Deddf Cyfyngu 1980
-
alinio’r terfynau amser ar gyfer adennill dyledion CYGau â’r rhai ar gyfer treth
-
alinio’r terfynau amser ar gyfer ad-daliadau CYGau â’r rhai ar gyfer treth
Byddai hyn yn dod â chyfraniadau yswiriant gwladol yn fwy cyson â gweinyddiaeth dreth a’r bwriad yw gwneud y system yn symlach ac yn fwy rhagweladwy i gyflogwyr, asiantau, unigolion a CThEF.
Hoffai’r llywodraeth glywed barn ynghylch a fyddai’r cynigion yn ymarferol, a oes unrhyw anfanteision neu gyfyngiadau ymarferol, ac a oes gwelliannau pellach y gellid eu gwneud i’r broses adfer CYGau.
Mae alinio’r terfynau amser ar gyfer adennill cyfraniadau Yswiriant Gwladol â Threth Incwm (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad, gan gynnwys sut i ymateb. Mae’r ymgynghoriad hwn yn cau am 11:59pm ar 12 Hydref 2026.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol dramor
Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol dramor.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, ar gyfer blynyddoedd treth 2026 i 2027 ymlaen, mae’r opsiwn i dalu CYG Dosbarth 2 gwirfoddol am gyfnodau dramor wedi’i dynnu a bydd ceisiadau newydd am CYG Dosbarth 3 ar gyfer cyfnodau dramor yn gofyn am 10 mlynedd o breswylio parhaus yn y DU neu dalu o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Os oes gennych weithwyr dramor, rhowch wybod iddynt am y newidiadau a ddaeth i rym o fis Ebrill 2026 ymlaen.
Bydd cwsmeriaid yr effeithir arnynt gan y newid yn cael llythyr ym mis Gorffennaf neu Awst 2026 yn amlinellu’r camau nesaf. Os ydych yn talu CYGau Dosbarth 2 gwirfoddol ar ran eich cyflogeion, efallai y cysylltir â chi drwy lythyr yn ystod yr un cyfnod hefyd.
Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar allu unrhyw un i brynu CYGau gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth cyn 2026 i 2027.
Mae CThEF yn annog cyflogwyr i adolygu arweiniad Yswiriant Gwladol gwirfoddol diweddaraf (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’r nodyn effaith treth a gwybodaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor o 6 Ebrill 2026 ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu rhagor o wybodaeth.
Confensiwn Cyfraniadau Dwbl y DU — India
Ym Mwletin y Cyflogwr mis Chwefror 2026, fe wnaeth CThEF rhoi gwybod i chi am Gonfensiwn Cyfraniadau Dwbl Yswiriant Gwladol (DCC) newydd rhwng y DU ac India.
Daeth y DCC i rym yn ffurfiol ar 15 Gorffennaf 2026, ac mae’n effeithio ar gyflogeion, a’u cyflogwyr, sy’n symud rhwng y DU ac India. Mae’r DCC hefyd yn cynnwys rheolau penodol ar gyfer cyflogeion y llywodraeth, morwyr a chriwiau awyr.
Mae’r DU ac India wedi cytuno i ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer gweithwyr oddi cartref yn y DCC o dair i bum mlynedd.
Mae hyn yn golygu y bydd cyflogeion o un wlad sy’n cael eu hanfon i weithio dros dro yn y wlad arall, am hyd at bum mlynedd, yn parhau i dalu cyfraniadau yn eu gwlad wreiddiol yn unig. Ar gyfer cyflogeion y DU a anfonir gan eu cyflogwyr yn y DU i weithio dros dro yn India am hyd at bum mlynedd, byddant yn parhau i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYGau) y DU yn ystod eu cyfnod gweithio yn India. Ni fydd yn rhaid iddynt dalu cyfraniadau i’r cynllun Indiaidd.
Mae CThEF hefyd bellach wedi cyhoeddi arweiniad technegol yn y llawlyfr Yswiriant Gwladol yn NIM33250 (yn agor tudalen Saesneg), gan roi ein barn ni ar sut mae darpariaethau’r DCC yn gweithio, y dylai cyflogwyr eu hystyried cyn unrhyw symudiad cyflogeion rhwng y DU ac India.
Gall cyflogeion a fydd yn parhau i fod yn agored i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol y DU tra byddant yn gweithio yn India, neu eu cyflogwyr, nawr wneud cais i CThEF am dystysgrifau yswiriant gan ddefnyddio’r ffurflen CA9107 ar-lein (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r tystysgrifau hyn yn cadarnhau y bydd cyflogai’n parhau i dalu CYGau yn y DU ac na fydd yn rhaid iddo dalu cyfraniadau nawdd cymdeithasol yn India.
Taliad pensiwn i’r sawl sy’n ennill incwm isel — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
Yn rhifyn mis Mehefin Bwletin y Cyflogwr, ymgynghorodd CThEF y byddai CThEF, o fis Awst 2026 ymlaen, yn dechrau cysylltu â thua 1 filiwn o unigolion cymwys yn uniongyrchol ynghylch taliad pensiwn y sawl sy’n ennill incwm isel, a elwid gynt yn anghysondeb ar gyfer y sawl sy’n ennill incwm isel.
Bu oedi bach i gyflawni’r cynllun. Bydd taliadau am gyfraniadau a wnaed rhwng 2024 a 2025 nawr yn dechrau yn y misoedd nesaf, gyda CThEF yn mabwysiadu dull graddol ac yn ehangu’r cyflwyniad yn raddol dros weddill y flwyddyn ac i ddechrau 2027. Bydd CThEF yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd mewn bwletinau yn y dyfodol.
Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr
Nid oes angen unrhyw gamau gweithredu ar gyfer cyflogwyr na thimau cyflogres. Nid oes unrhyw ofyniad i wneud cais, asesu cymhwystra, diwygio cofnodion cyflogres, na chysylltu â CThEF ar ran cyflogeion. Bydd CThEF yn cysylltu ag unigolion cymwys yn uniongyrchol. Os bydd cyflogeion yn gofyn i chi am y taliad hwn, gallwch eu sicrhau y bydd CThEF mewn cysylltiad â’r rhai sy’n gymwys.
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Gwarantau ar sail cyflogaeth — cosbau am fethu dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiad diwedd blwyddyn ar gyfer cynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion
Defnyddir rhoddion a dyfarniadau o gyfranddaliadau mewn cwmnïau, a elwir yn aml yn Warantau ar Sail Cyflogaeth (ERS), yn gyffredin gan gyflogwyr i wobrwyo, cadw neu roi cymhellion i gyflogeion.
Os ydych chi’n gweithredu cynllun ERS, mae’n ofynnol i chi gyflwyno ffurflen ERS diwedd blwyddyn (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys ffurflenni TAW ‘dim’, ar gyfer pob cynllun sydd wedi’i gofrestru ar y gwasanaeth ar-lein ERS yn erbyn eich cynllun TWE.
Os yw’ch cynllun wedi cau, mae’n rhaid i chi nodi dyddiad y digwyddiad terfynol ar-lein a chyflwyno unrhyw Ffurflenni Treth blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae dyddiad y digwyddiad terfynol yn disgyn ynddi.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ffurflen ERS diwedd blwyddyn oedd ar neu cyn 6 Gorffennaf 2026.
Os gwnaethoch fethu’r dyddiad cau, bydd cosb am gyflwyno’n hwyr o £100 wedi’i rhoi i’r cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r cyfrif TWE.
Codir cosbau awtomatig ychwanegol o £300 os na chyflwynir y Ffurflen Dreth dri mis ar ôl y dyddiad cau gwreiddiol sef 6 Gorffennaf 2026. Bydd cosb bellach o £300 yn cael ei chodi os yw’n dal yn ddyledus chwe mis ar ôl y dyddiad hwn.
Bydd disgrifiad o’r tâl ar gyfer cosbau sy’n ymwneud â chynlluniau cyfranddaliadau cyflogeion yn cael eu cyfeirio at fel Gwarantau ar Sail Cyflogaeth.
Os ydych yn apelio yn erbyn cosb am gyflwyno datganiad ERS yn hwyr, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod chi wedi cyflwyno’ch Ffurflenni Treth diwedd blwyddyn sy’n weddill. Mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen Dreth diwedd blwyddyn i atal cosbau pellach.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i ddelio â chosb am warantau ar sail cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Gwelliannau hygyrchedd i dempledi diwedd blwyddyn ERS o fis Ebrill 2027 ymlaen
Er mwyn sicrhau bod dogfennaeth CThEF yn cydymffurfio â rheoliadau hygyrchedd, mae templedi ffurflenni diwedd blwyddyn, arweiniad a nodiadau technegol ERS yn mynd trwy broses adolygu gyda’r nod o’u gwneud yn gyson, yn glir ac yn fwy hawdd eu defnyddio.
Mae CThEF yn bwriadu cyhoeddi fersiynau newydd ar ddechrau mis Tachwedd 2026. Bydd hyn yn rhoi 5 mis o rybudd i chi wneud unrhyw newidiadau i dempledi ansafonol CThEF a ddefnyddir i gyflwyno ffurflenni diwedd blwyddyn ERS.
Helpu i wella arweiniad GOV.UK i gyflogwyr
Mae CThEF yn chwilio am bobl sy’n ymwneud â rhedeg cyflogresi cyflogeion i helpu i lunio arweiniad GOV.UK i gyflogwyr.
Os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil defnyddwyr, anfonwch e-bost at cxduserresearch@hmrc.gov.uk gyda’ch enw, cyfeiriad e-bost a theitl eich rôl.
Mae’n bosibl y cewch wahoddiad i gymryd rhan mewn sesiwn ymchwil ar-lein gan ddefnyddio Microsoft Teams ac rydym yn cynnig taleb fel diolch am gymryd rhan.
Bydd unrhyw wybodaeth a roddir gennych:
-
yn ddienw
-
yn gyfrinachol
-
yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
-
yn cael ei chadw’n ddiogel bob amser yn unol â chyfraith diogelu data
Drwy rannu’ch profiad, byddwch yn ein helpu i greu arweiniad GOV.UK i bawb.
Edrychwch eto i weld cyngor treth gwael
Mae ymgyrch gan bwyll rhag twyll CThEF yn llwyddo i helpu contractwyr sy’n gweithio trwy gwmnïau ambarél i weld cyngor treth gwael a chadw llygad am gynlluniau arbed treth.
Gallwch ein helpu i amddiffyn contractwyr rhag arbed treth drwy rannu adnoddau ymgyrch CThEF (yn agor tudalen Saesneg) yn eich cylchlythyrau, ar eich gwefannau ac ar draws eich cyfryngau cymdeithasol.
Gall contractwyr ddefnyddio ein harweiniad, ein hoffer rhyngweithiol a’n straeon personol i gael help i nodi, gadael neu roi gwybod am gynllun arbed treth. Mae fideo YouTube ar gwmnïau ambarél a beth yw’r risgiau i gontractwyr (yn agor tudalen Saesneg) yn egluro sut y gallant wirio eu trefniant cyflog i wneud yn siŵr nad ydynt mewn cynllun arbed treth.
P’un a yw’ch contractwr eisoes yn gweithio trwy gwmni ambarél neu’n ystyried ymuno, dylent wirio’r adroddiad cynlluniau arbed treth, hyrwyddwyr, galluogwyr a chyflenwyr a enwir (yn agor tudalen Saesneg). Nid yw’n rhestr gyflawn o’r holl gynlluniau arbed treth ac os nad yw cynllun yn cael ei ddangos, nid yw hyn yn golygu ei fod yn gweithio. Nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau arbed treth.
Rydym yma i helpu cwsmeriaid i osgoi camgymeriadau, gwneud pethau’n iawn y tro cyntaf a thalu’r swm cywir o dreth, fel nad ydynt yn cael eu dal wrthi gan arbed treth.
Helpu’ch rhiant neu ofalwr i gael y taliadau Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl iddynt
Gall rhieni a gofalwyr y mae eu plant yn parhau mewn addysg amser llawn barhau i gael Budd-dal Plant drwy ap CThEF neu ar-lein. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:
- sy’n astudio gartref oherwydd salwch neu anabledd
- sydd mewn hyfforddiant cymeradwy
Os yw’r plentyn yn dechrau ail flwyddyn o gwrs addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch, nid oes angen iddo gysylltu â ni.
Gall rhieni a gofalwyr ddiweddaru eu hawliad mewn munudau, boed gartref neu ddim. Mae ymestyn Budd-dal Plant ar-lein yn golygu na fydd angen i rieni na gofalwyr ffonio CThEF.
Mae angen i unrhyw un sydd am barhau i gael Budd-dal Plant weithredu cyn 31 Awst, neu bydd eu taliadau’n dod i ben.
Bydd unrhyw riant neu ofalwr sy’n ymestyn eu Budd-dal Plant, ac mae ganddyn nhw neu eu partner incwm o fwy na £60,000, yn dal i fod yn agored i dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel, y gellir ei dalu nawr trwy eu cod treth TWE.
Rhannwch y neges hon gyda’ch cyflogeion i’w hannog i ymestyn eu Budd-dal Plant ar-lein.
Newidiadau i’r broses ad-dalu treth aml-flwyddyn
Mae CThEF yn newid sut mae ad-daliadau’n cael eu rhoi i’r rhan fwyaf o gyflogeion sy’n gwneud cais am ad-daliad treth P800 aml-flwyddyn.
Bydd angen i gyflogeion sy’n gwneud hawliad am ad-daliad treth aml-flwyddyn nawr ofyn am eu had-daliad drwy wasanaethau digidol CThEF, yn hytrach na cael siec yn awtomatig.
Mae’r newid hwn yn alinio hawliadau aml-flwyddyn â’r broses ad-dalu P800 ehangach a gyflwynwyd ym mis Mai 2024, lle mae’n rhaid i gwsmeriaid gymryd camau i gael unrhyw arian sy’n ddyledus iddynt.
Helpwch eich cyflogeion i ddeall bod angen iddynt nawr ofyn am eu had-daliad, yn hytrach nag aros i siec gael ei chyhoeddi.
Beth mae hyn yn ei olygu i’ch cyflogeion
Nid oes unrhyw newidiadau i’r broses ar gyfer cyflogeion sy’n gofyn am hawliadau aml-flwyddyn.
Unwaith y bydd eu hawliad wedi’i brosesu, byddant yn cael llythyr Cyfrifiad Treth P800 a gofynnir iddynt ofyn am eu had-daliad.
Nid yw ad-daliadau bellach yn cael eu rhoi’n awtomatig trwy siec.
Y ffordd gyflymaf o gael taliad yw drwy wasanaethau digidol CThEF.
Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogeion yn ystod y broses i esbonio sut i hawlio eu had-daliad.
Sut mae cyflogeion yn cael eu had-daliad
Unwaith y bydd hawliad wedi’i gytuno, gall cyflogeion ofyn am eu had-daliad drwy ap CThEF neu eu Cyfrif Treth Personol.
Nid oes angen i gyflogeion fod wedi’u sefydlu’n llawn ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF i ofyn am ad-daliad treth.
Gallant ofyn am eu had-daliad drwy’r tudalen gordaliadau a thandaliadau treth gan ddefnyddio’r cyfeirnod unigryw yn eu llythyr P800 a’u rhif Yswiriant Gwladol, yn hytrach na mewngofnodi gyda manylion mewngofnodi Porth y Llywodraeth.
Fel arfer, gwneir ad-daliadau a ofynnir yn ddigidol drwy drosglwyddiad banc o fewn wythnos.
Gall y rhai sy’n well ganddynt siec neu sydd wedi’u hesemptio’n ddigidol ddewis gofyn am siec o hyd, fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd mwy o amser i gyrraedd. Mae rhagor o wybodaeth ac opsiynau ar gyfer cael taliad ar gael drwy gysylltu ag ymholiadau Treth Incwm.
Cyngor Report Fraud ar ymosodiadau meddalwedd wystlo
Mae meddalwedd wystlo yn parhau i fod yn un o’r bygythiadau mwyaf i fusnesau a sefydliadau ledled y DU. Derbyniodd Report Fraudl (yn agor tudalen Saesneg) 323 o adroddiadau am ymosodiadau meddalwedd wystlo yn 2025 i 2026, gyda dros hanner y rhain yn dod gan fentrau bach a chanolig.
Mae meddalwedd wystlo yn fath o faleiswedd sy’n eich atal rhag cael mynediad at eich dyfais a’r data sydd wedi’i storio arni, fel arfer trwy amgryptio’ch ffeiliau. Yna, bydd troseddwr yn mynnu pridwerth yn gyfnewid am ddatgloi’r ffeiliau neu’r data a gedwir.
Er mwyn helpu i amddiffyn eich busnes dylech wneud y canlynol:
-
gwneud copïau wrth gefn rheolaidd o’ch ffeiliau pwysicaf
-
defnyddio offer a thechnegau i atal maleiswedd rhag cael ei chyflwyno, fel hidlo post, i ganiatáu rhai mathau o ffeiliau yn unig, a rhwystro gwefannau maleisus
-
cymryd camau i atal maleiswedd rhag rhedeg ar ddyfeisiau, fel rheoli dyfeisiau’n ganolog ac ystyried cynhyrchion gwrthfeirws a gwrth-faleiswedd
-
paratoi ar gyfer digwyddiad posibl drwy nodi’ch asedion hanfodol a phenderfynu sut y byddech yn ymateb i alw am bridwerth
Os ydych yn fusnes bach neu ganolig ac yn profi ymosodiad meddalwedd wystlo, mae Report Fraud yn eich cynghori i wneud y canlynol:
-
rhoi gwybod i’r heddlu ar unwaith drwy ffonio Report Fraud ar 0300 123 2040 os ydych yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon
-
rhoi gwybod i’r heddlu drwy ffonio 101 os yw’ch sefydliad wedi’i leoli yn yr Alban, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel
-
peidio â thalu’r pridwerth, gan nad yw’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol na gorfodi’r gyfraith yn y DU yn argymell talu gofynion pridwerth ac nid oes unrhyw warant y gellir adennill mynediad at ddata a gedwir neu na fydd dyfeisiau wedi’u heintio mwyach
Os ydych yn sefydliad mawr sy’n profi ymosodiad meddalwedd wystlo, defnyddiwch y Gwasanaeth Cyfeirio Digwyddiadau Seiber hwn i gael arweiniad ar ble i roi gwybod am ddigwyddiad seiber (yn agor tudalen Saesneg).
I gael rhagor o wybodaeth am amddiffyn eich busnes rhag meddalwedd wystlo, gweler yr arweiniad o wefan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (yn agor tudalen Saesneg).
Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 — camau i’w cymryd
Fel rhan o weithredu’r Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025, dylai cyflogwyr ddechrau paratoi nawr ar gyfer newidiadau sy’n digwydd o fis Hydref 2026 ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth am hawliau cyflogaeth newydd — arweiniad i fusnesau a gweithwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar business.gov.uk.
Newidiadau pwysig o fis Hydref 2026 ymlaen
Diogelwch rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle
Bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym o Hydref 2026 ymlaen:
-
disgwylir i gyflogwyr gymryd ‘pob cam rhesymol’ i atal aflonyddu rhywiol ar eu cyflogeion
-
bydd rhwymedigaeth ar gyflogwyr i beidio â chaniatáu i drydydd partïon aflonyddu ar eu gweithwyr
Am ragor o wybodaeth, gweler yr erthygl diogelwch rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle — newidiadau sydd ar ddod yn rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr.
Diwygiadau i gyfraith undebau llafur
Mae newidiadau allweddol ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys:
-
hawl gyfreithiol newydd i undebau llafur annibynnol gael mynediad at weithleoedd ac ymgysylltu â gweithwyr
-
dyletswydd newydd ar gyflogwyr i roi gwybod i weithwyr am eu hawl i ymuno ag undeb
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ‘Hawl mynediad Undebau Llafur — rheolau newydd o fis Hydref 2026 ymlaen’ yn y bwletin hwn.
Paratoi ar gyfer diwygiadau diswyddo annheg
Bydd newidiadau i ddiswyddo annheg yn dod i rym o 1 Ionawr 2027 ymlaen, pan fydd y cyfnod cymhwyso yn cael ei leihau o ddwy flynedd i chwe mis. Bydd cyflogeion sydd wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth erbyn y dyddiad hwnnw yn cael amddiffyniad rhag diswyddo annheg ar unwaith a bydd ganddynt yr hawl i wneud hawliad. Os caiff cyflogai ei recriwtio ar ôl Gorffennaf 2026, bydd yn cael amddiffyniad chwe mis ar ôl ei ddyddiad dechrau. O ystyried maint y newid hwn, dylai cyflogwyr fod yn paratoi nawr.
Mae Acas wedi cyhoeddi arweiniad newydd ar gyfnodau prawf (yn agor tudalen Saesneg) fel rhan o gyngor Acas ar gyflogi rhywun (yn agor tudalen Saesneg). Bydd yr arweiniad hwn yn helpu busnesau i ddeall sut i baratoi proses deg, gosod disgwyliadau clir, a chefnogi pobl yn eu rolau newydd.
Mae diweddariad amserlen y Cynllun Helpu Gwaith i Dalu ar ei Ganfed a Deddf Hawliau Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu rhestr lawn o’r diwygiadau a phryd y byddant yn dod i rym.
Ymunwch â ni ar ymgynghoriadau
Ar hyn o bryd mae’r Adran Busnes a Masnach yn ceisio barn ar nifer o ddiwygiadau i gyfraith cyflogaeth, gan gynnwys diwygiadau i gontractau dim oriau a chontractau tebyg.
Mae’r holl ymgynghoriadau cyfredol, ynghyd â manylion ymgynghoriadau caeedig a chanlyniadau cyhoeddedig, i’w gweld yn Helpu Gwaith i Dalu (yn agor tudalen Saesneg).
Hawl mynediad Undebau Llafur — rheolau newydd o fis Hydref 2026 ymlaen
Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cyflwyno hawl gyfreithiol newydd i undebau llafur annibynnol gael mynediad i weithleoedd ac ymgysylltu â gweithwyr, naill ai’n bersonol neu’n rhithiol.
Bydd cyflogwyr ac undebau llafur yn gallu cytuno ar drefniadau mynediad o dan fframwaith statudol. Os na allant ddod i gytundeb, bydd y naill barti neu’r llall yn gallu gwneud cais i’r Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (CAC) am benderfyniad.
Y newidiadau allweddol a ddaw i rym ym mis Hydref 2026 yw:
-
bydd undebau llafur annibynnol yn gallu cyflwyno cais ffurfiol i gyflogwyr i gael mynediad i’w gweithleoedd
-
gall mynediad fod yn gorfforol, yn ddigidol, neu gyfuniad o’r ddau
-
os na ellir dod i gytundeb, bydd y naill barti neu’r llall yn gallu gwneud cais i’r CAC
-
bydd cyflogwyr sy’n cyflogi llai na 21 o weithwyr ar draws eu holl weithleoedd wedi’u hesemptio rhag y darpariaethau hyn
-
bydd y CAC yn gyfrifol am oruchwylio a gorfodi cytundebau mynediad statudol a gall roi dirwyon am dorri cytundeb
Bydd Cod Ymarfer statudol yn darparu arweiniad a gwybodaeth bellach ynghylch sut y dylai mynediad weithredu’n ymarferol.
Hawl Mynediad Undebau Llafur — Gweithrediad Hydref 2026
Ar 6 Gorffennaf 2026, cyhoeddodd y llywodraeth ganlyniad ei hymgynghoriad a’i Hasesiad o’r Effaith a gosododd y drafft diwygiedig Cod Ymarfer ar Hawl Mynediad Undebau Llafur (yn agor tudalen Saesneg) yn y Senedd.
Disgwylir i’r newid ddod i rym ym mis Hydref 2026, yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.
Mae arweiniad pellach rhad ac am ddim ar hawliau cyflogaeth newydd — arweiniad i fusnesau a gweithwyr (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar business.gov.uk.
Bod yn ‘gymwys mewn gwrthdaro’
Nid uchelgais meddal yw perthnasoedd iach yn y gweithle, maent yn hanfod busnes. Pan fydd pobl yn ymddiried yn ei gilydd, yn teimlo eu bod yn gallu codi pryderon yn gynnar, ac yn cael eu dysgu’r sgiliau i ddatrys anghytundebau yn adeiladol, mae sefydliadau’n perfformio’n well.
Mae gwrthdaro yn y gweithle sy’n cael ei osgoi, ei ganiatáu i galedu, neu ei ffurfioli’n rhy gyflym yn effeithio ar lesiant, cadw staff, cynhyrchiant ac elw.
Y newyddion da yw y gall cyflogwyr weithredu drwy wneud y pethau canlynol:
-
buddsoddi yn hyder a gallu’ch rheolwyr llinell
-
creu diwylliant lle cefnogir datrysiad cynnar, anffurfiol
-
annog arweinyddiaeth, cyflogeion ac undebau i weithio mewn partneriaeth
-
gwneud cyfryngu yn rhan o’r broses a chwynion ffurfiol neu hawliadau tribiwnlys yn ddewis olaf
Acas yw’r corff cyhoeddus annibynnol sy’n darparu cyngor a chymorth ymarferol rhad ac am ddim a diduedd i gyflogwyr a gweithwyr. Gallant eich helpu i atal problemau gyda chyngor ac arweiniad rhad ac am ddim a pharatoi ar gyfer newidiadau yn Neddf Hawliau Cyflogaeth.
Mae gan wefan Acas (yn agor tudalen Saesneg) ragor o wybodaeth gan gynnwys cyrsiau a chynigion dysgu a datblygu eraill.
Rhybudd ynghylch twyll treth — ceisiadau i ddefnyddio Biliau Cyfnewid i dalu CThEF
Mae CThEF wedi cyhoeddi rhybudd ynghylch twyll treth (yn agor tudalen Saesneg) i godi ymwybyddiaeth o fodel talu twyllodrus newydd sy’n defnyddio Biliau Cyfnewid fel ffordd o dalu rhwymedigaeth treth.
Diffinnir Bil Cyfnewid yn Neddf Biliau Cyfnewid 1882. Mae’n nodyn gan un person i’r llall, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu swm penodol o arian iddynt neu i drydydd parti. Fodd bynnag, mater i’r derbynnydd yw penderfynu a ddylid derbyn y Bil fel math o daliad ai peidio. Hyd yn oed pan fydd y Bil wedi’i lunio yn unol â’r ddeddfwriaeth, nid oes gan y derbynnydd unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol i’w dderbyn. Nid yw CThEF yn derbyn Biliau Cyfnewid yn erbyn rhwymedigaeth dreth.
Mae rhagor o wybodaeth am Biliau Cyfnewid (yn agor tudalen Saesneg) ar gael ar wefan legislation.gov.
Ar hyn o bryd, mae’n cael ei farchnata i gyflogwyr, recriwtio ac asiantaethau llafur dros dro, fodd bynnag, gellid cysylltu ag unrhyw fusnes gan nad yw’n benodol i sector treth na masnach.
Mae grwpiau troseddau cyfundrefnol yn arbennig o weithgar yn y sector asiantaethau cyflogaeth dros dro a recriwtio, ond mae CThEF eisiau codi ymwybyddiaeth i bob busnes.
Mae hyrwyddwyr yn honni y gellir defnyddio Bil Cyfnewid i ddileu dyled CThEF. Maent yn cynnig rheoli’r broses ar gyfer cwsmeriaid, yn enwedig darparwyr cyflogres, a gweithredu ar ran y cwsmer gan lunio unrhyw affidafidiau ac ymgysylltu â CThEF.
Yn ogystal â Biliau Cyfnewid, gall mathau eraill o eiriad mewn deunydd hyrwyddo gynnwys cyfeiriadau at orchmynion arian, ymddiriedolaethau cyhoeddus, cyfraith fasnachol neu offerynnau trafodadwy.
Gall hyrwyddwyr hefyd honni y gall defnyddio Biliau Cyfnewid osgoi’r ddeddfwriaeth cwmni ambarél newydd a gyflwynwyd o fis Ebrill 2026 ymlaen. Nid yw hyn yn wir. Mae manylion y newidiadau i reolau Treth Incwm i fynd i’r afael â diffyg cydymffurfio o fewn cwmnïau ambarél (yn agor tudalen Saesneg) ar gael.
Mewn rhai achosion, gall hyrwyddwyr honni bod CThEF yn derbyn y trefniadau hyn neu heb eu herio, neu fod y trefniadau wedi’u cymeradwyo gan Gyngor y Brenin. Nid yw hyn yn wir.
Gallai defnyddio’r trefniadau hyn gostio’n sylweddol i’ch busnes, nid yn unig drwy dalu’r hyrwyddwr i ddefnyddio neu hwyluso eu model talu, ond hefyd llog, cosbau neu ffioedd ychwanegol a all gael eu codi gan CThEF lle nad yw dyled yn cael ei thalu’n llawn mewn pryd.
Mae CThEF yma i’ch helpu i osgoi trefniadau twyllodrus a allai gostio’n sylweddol i’ch busnes.
Os ydych yn meddwl eich bod eisoes yn defnyddio’r trefniant talu hwn, dylech gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl. Mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd i roi gwybod i ni sut i wneud datgeliad i CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Gall CThEF eich rhoi ar ben ffordd.
Mae CThEF yn nodi’n glir sut i dalu gwahanol drethi a thollau (yn agor tudalen Saesneg), gan gynnwys beth i’w wneud os ydych yn cael trafferth talu a beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu’ch bil treth.
Os ydych yn pryderu am unigolyn neu sefydliad sy’n cynnig trefniant arbed treth, cynllun arbed treth neu drefniant twyll i chi, gallwch roi gwybod amdano i CThEF gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein rhoi gwybod am dwyll neu arbed treth.
Gallwch gyflwyno’r ffurflen hon yn ddienw ac nid oes rhaid i chi roi’ch enw, cyfeiriad na’ch e-bost. Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch ffonio CThEF i roi gwybod am dwyll treth neu arbed treth ar 0800 788 887.
Mae CThEF wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thwyll a bydd yn parhau i ddefnyddio ei ystod lawn o bwerau troseddol a sifil i atal twyll a chymryd camau yn erbyn y rhai sy’n torri’r rheolau.
Cyhoeddwyd erthygl rhybudd ynghylch twyll treth ar wahân ar gredydau treth sy’n lleihau rhwymedigaethau cyflogwyr. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn yr adran TWE o Fwletin y Cyflogwyr hwn.
Fformat HTML bwletin y cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadw’r ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu darllen, drwy e-bost at GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.