Bwletin y Cyflogwr: Mehefin 2026
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
- Cytundeb Setliad TWE — cytundebau a chau’r mewnflwch
- Diweddariad — bydd talu buddiannau drwy’r gyflogres yn cael eu lansio fesul cam
- Nodyn atgoffa — cyflwyno datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) misol neu wynebu cosbau am gyflwyno’n hwyr
- Taliad Pensiwn i’r Sawl sy’n Ennill Incwm Isel — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod
- Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 — camau i’w cymryd
- Helpu’ch gweithlu i ennill y blaen — anogwch anfon Ffurflenni Treth yn gynnar
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.