Skip to main content
Canllawiau

Rhifyn mis Mehefin 2026 o Fwletin y Cyflogwr

Cyhoeddwyd 17 Mehefin 2026

Rhagarweiniad

Yn rhifyn y mis hwn o fwletin y cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:

TWE

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt 

Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF. 

Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.

TWE

Cytundeb Setliad TWE — cytundebau a chau’r mewnflwch

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Gytundeb Setliad TWE (PSA) neu wneud unrhyw ddiwygiadau i PSA presennol yw 5 Gorffennaf yn dilyn y flwyddyn dreth gyntaf y mae’n berthnasol iddi. Er enghraifft, ar gyfer y flwyddyn dreth 2025 i 2026 bydd gennych hyd at 5 Gorffennaf 2026 i wneud cais am eich PSA.

Mae Cytundebau Setliad TWE yn gytundeb rhwng cyflogwr a CThEF. Nid oes fformat penodol ar gyfer hyn ond y dull a ffefrir gan CThEF ar gyfer gwneud cais am PSA yw ar-lein. Os byddwch yn ysgrifennu atom, mae’n bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser i sefydlu cytundeb.

Defnyddiwch eich cyfeirnod TWE ac nid eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon wrth gyflwyno’ch cais.

Mae’r cytundeb hwn yn barhaol ac yn parhau i fod ar waith nes ei fod yn cael ei newid neu ei ganslo gan CThEF neu’r cyflogwr. 

Os oes gennych gytundeb eisoes ar waith ac eisiau diwygio’ch cytundeb, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynnwys yr holl eitemau rydych am eu cadw yn ogystal ag unrhyw fuddiannau newydd rydych am eu hychwanegu, gan y bydd y cytundeb newydd yn disodli unrhyw gytundeb blaenorol a oedd gennych ar waith.

Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion penodol ynglŷn â beth mae’r buddiant yn ymwneud ag ef, er enghraifft ni fydd disgrifiadau fel ‘arall’ neu ‘amrywiol’ yn cael eu derbyn.

Mae arweiniad pellach ar Gytundebau Setliad TWE ar gael.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copi o’ch cytundeb wedi’i lofnodi a’ch llythyr eglurhaol gan fod hyn yn cynnwys gwybodaeth y bydd ei hangen arnoch wrth wneud taliad, fel eich cyfeirnod SAFE.

Cau’r mewnflwch

Caeodd mewnflwch y PSA ar ddydd Gwener 29 Awst 2025. Nid yw CThEF bellach yn derbyn gohebiaeth PSA drwy e-bost.

Gallwch gyflwyno cyfrifiadau PSA a gwneud cais am, diwygio neu ganslo Cytundebau PSA gan ddefnyddio ffurflenni ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflenni PSA ar-lein, neu os oes gennych unrhyw gyflwyniadau i’w gwneud i’r tîm PSA, ysgrifennwch at:

Cytundebau Setliad TWE
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
BX9 2AN

Mae arweiniad manwl ar gyfrifiadau PSA ar gael yn Canllawiau ar gyfer Cydymffurfio — help gyda chyfrifiadau Cytundeb Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch hefyd wylio fideos arweiniad PSA ar sianel YouTube CThEF ar y canlynol:

Rhoi gwybod am dreuliau a buddiannau ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu

I’r cyflogwyr hynny nad ydynt yn talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres, y dyddiad cau ar gyfer rhoi gwybod am Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A P11D(b), costau P11D a buddiannau a ddarperir ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026 yw 6 Gorffennaf 2026.

Mae’n rhaid i’r taliad gyrraedd CThEF erbyn 19 Gorffennaf 2026 os ydych yn talu drwy siec, neu 22 Gorffennaf 2026 os ydych yn talu’n electronig.

Mae’n rhaid cyflwyno pob ffurflen P11D a ffurflen P11D(b) ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 ar-lein ac ar yr un pryd.

Wrth gyflwyno’ch ffurflen P11Ds a P11D(b), gwnewch yn siŵr bod enw’r busnes wedi’i nodi yn union fel y’i cofrestrwyd, heb unrhyw dalfyriadau, atalnodi na newidiadau.

Gall cyflwyniad hwyr arwain at gosb. Mae CThEF yn codi cosbau’n fisol ac yn cyhoeddi hysbysiadau o gosb bob chwarter nes bod Ffurflen Dreth yn dod i law.

Mae nifer o weminarau byw ar gael sy’n cwmpasu’r broses ar gyfer cyflwyno P11Ds a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg). Mae arweiniad pellach ar dreuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) sy’n ymdrin â rhoi gwybod a thalu hefyd ar gael.

Sut i gyflwyno ffurflenni P11Ds a P11D(b) ar-lein

Gallwch gyflwyno gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Ffurflen P11D(b)

Mae’n rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D(b) os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi cyflwyno unrhyw ffurflenni P11D
  • rydych wedi talu treuliau neu fuddiannau unrhyw gyflogai drwy’ch cyflogres
  • mae CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), drwy anfon hysbysiad atoch i wneud hynny

Mae’ch ffurflen P11D(b) yn rhoi gwybod i CThEF faint o gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y Cyflogwr y mae angen i chi eu talu ar yr holl dreuliau a buddiannau a roesoch i’ch cyflogeion drwy’r gyflogres, yn ogystal ag unrhyw rai y rhoesoch wybod i CThEF amdanynt drwy ffurflen P11D.

Dim byd i’w ddatgan

Dim ond os anfonwyd hysbysiad atoch i gyflwyno ffurflen neu nodyn atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b) y mae angen i chi roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi wneud Ffurflen Dreth, ac nad oes gennych ddim i’w ddatgan. Gallwch roi gwybod i ni drwy lenwi ffurflen nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.

Mae gwybodaeth bellach am gamgymeriadau cyffredin a beth i’w wneud os gwnewch gamgymeriad ar gael ym mwletin y cyflogwr mis Chwefror.

Os byddwch yn gwneud camgymeriad

Os gwnewch gamgymeriad, mae angen i chi lenwi ffurflenni cywiro ar-lein sydd i’w cael yn yr arweiniad treuliau a buddiannau i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg).

Talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol (CYG) Dosbarth 1A

Mae’n rhaid i daliadau drwy ddull electronig ar gyfer CYG Dosbarth 1A sydd wedi’i ddatgan ar eich ffurflen P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 5 Ebrill 2026, glirio i mewn i gyfrif CThEF erbyn 22 Gorffennaf 2026.

Defnyddio cyfeirnod cywir y taliad wrth dalu CYG Dosbarth 1A

Gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn cael ei ddyrannu’n gywir drwy roi’r cyfeirnod talu cywir.

Defnyddiwch eich cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon, sy’n 13 o gymeriadau, wedi’i ddilyn gan 2613. Ni ddylai’r cyfeirnod gynnwys unrhyw fylchau rhwng cymeriadau.

Mae’n bwysig ychwanegu 2613 oherwydd bod ‘26’ yn dangos bod y taliad ar gyfer y flwyddyn dreth a ddaeth i ben ar 05 Ebrill 2026, ac mae ‘13’ yn dangos bod y taliad ar gyfer CYG Dosbarth 1A.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i dalu’ch Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, gan gynnwys defnyddio’r botwm gwyrdd ‘Talwch nawr’ i ddewis un o’r dulliau talu diogel, ewch i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A cyflogwyr.

Offer TWE Sylfaenol (BPT) ― wedi’i ddiweddaru 

Rhyddhawyd diweddariad cynnal a chadw pwysig i’r Offer TWE Sylfaenol (BPT) ar ddechrau ym mis Mai 2026, yn dilyn y prif ryddhad tua diwedd mis Mawrth 2026, ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027. Mae’n bwysig eich bod yn diweddaru ac yn defnyddio’r datganiad diweddaraf o BPT, sef fersiwn 26.1.  

I ddiweddaru neu wirio am ddiweddariadau, dylech wneud y canlynol:

  1. Dewis ‘Gwirio nawr’ yn adran ddiweddaru’r gosodiadau, i’w weld yng nghornel dde uchaf yr offeryn.
  2. Dewis ‘Iawn’ ar gyfer diweddaru’n awtomatig.

Fel cwsmer newydd, cyn i chi allu defnyddio BPT i redeg eich cyflogres, mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru ar gyfer TWE ar-lein yn unol â’r cyfarwyddyd yn eich llythyr i gyflogwr newydd. 

Mae arweiniad pellach ar BPT - argaeledd gwasanaeth a phroblemau (yn agor tudalen Saesneg) a help ar sut i lawrlwytho BPT ar gael. 

Diweddariad — bydd talu buddiannau drwy’r gyflogres yn cael eu lansio fesul cam 

Yn dilyn ymgysylltu helaeth â chyflogwyr, datblygwyr meddalwedd cyflogres a chyrff cynrychioliadol, mae’r llywodraeth wedi penderfynu cyflwyno talu buddiannau (BiKs) drwy’r gyflogres yn orfodol yn raddol o fis Ebrill 2027 ymlaen.

Ceir, faniau, tanwydd a buddiannau meddygol

O 6 Ebrill 2027 i 5 Ebrill 2028, dim ond i geir cwmni, tanwydd ceir, faniau, tanwydd fan a buddion meddygol y bydd talu drwy’r gyflogres yn berthnasol.

Bydd talu drwy’r gyflogres yn orfodol ar gyfer y rhan fwyaf o fuddiannau eraill yn cael ei chyflwyno o fis Ebrill 2028 ymlaen.

Bydd cyflwyno’n raddol fel hyn yn cefnogi cyflogwyr a darparwyr cyflogres i baratoi ac addasu mewn ffordd y gellir ei rheoli.

Bydd cyflogwyr yn gallu cofrestru ar gyfer talu drwy’r gyflogres yn wirfoddol o fis Tachwedd 2026 ymlaen ar gyfer pob Buddiant arall nad ydynt wedi’u gorfodi i gael eu talu drwy’r gyflogres o fis Ebrill 2027 ymlaen, gan gynnwys benthyciadau a llety.

Rydym yn ystyried ehangu’r gwasanaeth gwirfoddol i ganiatáu ar gyfer talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A drwy’r gyflogres. Byddwn ni’n rhoi rhagor o wybodaeth maes o law.

Mae arweiniad dros dro ar dalu buddiannau drwy’r gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) yn cael eu diweddaru i adlewyrchu’r broses o gyflwyno’r gyllideb fesul cam a’r adborth a ddaeth i law hyd yma, a disgwylir y bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf 2026. Mae CThEF yn disgwyl i’r arweiniad terfynol ar gyfer cam 1 gael eu cyhoeddi yn hydref 2026.

Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad

Nodyn atgoffa — cyflwyno datganiadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) misol neu wynebu cosbau am gyflwyno’n hwyr

O fis Ebrill 2026 ymlaen, mae contractwyr Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) wedi’u rhwymo’n gyfreithiol i gyflwyno ffurflen CIS bob mis, gan gynnwys ffurflenni ‘dim’ mewn misoedd lle nad ydynt wedi defnyddio is-gontractwr.

Rydym yn disgwyl i gontractwyr CIS wneud un o’r canlynol:

  • cyflwyno ffurflen CIS yn dangos taliadau

  • cyflwyno datganiad ‘dim’ lle nad ydynt wedi defnyddio is-gontractwyr

  • cyflwyno cais anactifedd — mae hyn yn para 6 mis

Gall contractwyr CIS gyflwyno datganiadau ‘dim’ a cheisiadau anactifedd drwy wasanaeth ar-lein Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) (yn agor tudalen Saesneg) a rhywfaint o feddalwedd CIS fasnachol.

Gallai methu â chyflwyno unrhyw fath o ffurflen CIS ar gyfer y cyfnod 6 Ebrill i 5 Mai 2026 arwain at y cosbau canlynol am gyflwyno’n hwyr:

  • cosb sefydlog gyntaf o £100

  • ail gosb benodol o £200 ar ôl 2 fis ym mis Gorffennaf 2026

  • cosb sy’n gysylltiedig â threthi ar ôl 6 mis ym mis Rhagfyr 2026 o leiaf £300 neu 5% o unrhyw rwymedigaeth a ddylai fod wedi’i dangos ar y Ffurflen Dreth

  • cosb bellach sy’n gysylltiedig â threthi ar ôl 12 mis, gyda’r swm yn dibynnu ar pam roedd y Ffurflen Dreth yn hwyr

Dim ond lle nad yw contractwyr wedi cyflwyno cais am anactifedd nac wedi cyflwyno Ffurflen Dreth y bydd cosbau’n cael eu rhoi.

Mae’r rhan fwyaf o gontractwyr CIS eisoes yn cyflwyno ar amser ac yn cyflwyno datganiadau ‘dim’ neu’n rhoi gwybod i CThEF am gyfnodau o anactifedd lle bo angen. Ni fyddant yn cael eu heffeithio gan y newidiadau hyn. 

Bydd CThEF yn parhau i weithio gyda chontractwyr i leihau’r beichiau gweinyddol lle bo modd.

Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio (VPD) a Stampiau’r Doll Fepio (VDS)

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, gall gweithgynhyrchwyr, mewnforwyr a cheidwaid warysau cynhyrchion fepio yn y DU wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio (VPD) a Stampiau’r Doll Fepio (VDS).

Gwiriwch a ydych wedi’ch effeithio gan VPD a’r Cynllun VDS (yn agor tudalen Saesneg)

Mae gwneud cais yn gynnar yn helpu i osgoi oedi cynhyrchu ac yn diogelu’ch gallu i fasnachu o 1 Hydref 2026 ymlaen. Os na chewch eich cymeradwyo erbyn y dyddiad hwn, ni allwch gynhyrchu cynhyrchion fepio yn gyfreithlon yn y DU.

Dylai busnesau wneud cais cyn gynted â phosibl os ydynt yn disgwyl cael eu heffeithio.

Pryd i wneud cais

Mae arweiniad ar gael os, ar ôl gwirio, mae angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y Cynllun VPD a VDS (yn agor tudalen Saesneg). Rydym yn argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl i wneud yn siŵr bod gennych y gymeradwyaeth angenrheidiol cyn 1 Hydref 2026. Gall gymryd o leiaf 45 diwrnod gwaith i brosesu cais.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Wrth wneud cais am gymeradwyaeth, mae’n rhaid i chi ddefnyddio ID Porth y Llywodraeth sy’n gysylltiedig â Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer naill ai Hunanasesiad neu Dreth Gorfforaeth.

Mae angen i chi hefyd roi gwybodaeth i ni gan gynnwys:

  • enw a chyfeiriad eich busnes
  • rhif TAW neu rif Treth Gorfforaeth (os oes gennych un)
  • enw person cyfrifol
  • cynllun y safle
  • y cynllun busnes
  • gwarant ariannol gan sefydliad ariannol, os gofynnwn i chi wneud hynny
  • nifer stampiau’r doll fepio sydd eu hangen arnoch o fewn cyfnod o 3 mis, ar gyfer pob capasiti rydych yn gwneud cais amdano am y stampiau

Bydd cael yr wybodaeth hon yn barod cyn i chi wneud cais yn helpu i osgoi oedi wrth brosesu a cheisiadau am ragor o wybodaeth.

Os na chewch eich cymeradwyo erbyn 1 Hydref 2026, ni allwch gynhyrchu cynhyrchion fepio yn gyfreithlon yn y DU, ac os gwnewch hynny, byddwch yn destun sancsiynau sifil a throseddol, a allai arwain at ddedfrydau o garchar. 

Mae hwn yn ofyniad cyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflwyno’r Cynllun VPD a VDS, yn hytrach na newid yn null gorfodi CThEF.

Mae gwybodaeth bellach am Gynlluniau VPD a VDS ar gael (yn agor tudalen Saesneg).

Taliad Pensiwn i’r Sawl sy’n Ennill Incwm Isel — yr hyn y mae angen i gyflogwyr ei wybod

O fis Awst 2026 ymlaen, bydd CThEF yn cysylltu â thua 1 miliwn o unigolion cymwys yn uniongyrchol ynglŷn â thaliad pensiwn ar gyfer y sawl sy’n ennill incwm isel, a elwid gynt yn anghysondeb ar gyfer y sawl sy’n ennill incwm isel. Mae’r taliad hwn yn sicrhau bod pobl sy’n ennill incwm isel yn cyflawni canlyniadau tebyg waeth beth fo’r math o gynllun pensiwn gweithle y maent ynddo.

Beth mae hyn yn ei olygu i gyflogwyr

Nid oes angen i gyflogwyr gymryd unrhyw gamau gweithredu. Nid oes unrhyw ofyniad i gyflogwyr na thimau cyflogres wneud cais, asesu cymhwystra, diwygio cofnodion cyflogres, na chysylltu â CThEF ar ran cyflogeion.

Bydd CThEF yn nodi unigolion cymwys ac yn cysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Pwy all fod yn gymwys

Gall cyflogai fod yn gymwys os na chafodd ryddhad treth incwm ar ei gyfraniadau pensiwn mewn unrhyw flwyddyn dreth o 2024 i 2025 ymlaen. Byddai hyn pe baent yn bodloni’r ddau amod hyn:

  • enillodd yn agos at y lwfans personol mewn blwyddyn dreth, fel arfer £12,570

  • cyfrannodd at bensiwn gweithle drwy Gynllun Pensiwn Trefniant Cyflog Net

Bydd CThEF yn asesu cymhwystra ar wahân ar gyfer pob blwyddyn dreth, a gall unigolion fod yn gymwys am un neu fwy o flynyddoedd, o 2024 i 2025 ymlaen.

Nid oes angen i gyflogwyr asesu cymhwystra na chadarnhau trefniadau pensiwn ar gyfer cyflogeion fel rhan o’r broses hon.

Beth ddylai cyflogwyr ei wneud

Nid oes angen i unigolion gysylltu â CThEF i gael taliad.  

Os bydd cyflogeion yn dod atoch gyda chwestiynau, gallwch eu sicrhau bod y canlynol yn wir:

  • dylai unigolion cymwys aros i gael eu cysylltu â gan CThEF, naill ai drwy’r post neu drwy eu Cyfrif Treth Personol
  • unwaith y byddant wedi cael cyswllt, dylai unigolion cymwys ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir gan CThEF i gael eu taliad

Ymwybyddiaeth o dwyll a sgamiau

Gan y bydd CThEF yn cysylltu ag unigolion ynglŷn ag arian sy’n ddyledus iddynt, mae’n bosibl y bydd cyflogwyr yn cael cwestiynau ynghylch a yw negeseuon yn ddilys. Gall cyflogeion fod yn dawel eu meddwl bod y canlynol yn wir:

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol (NICs) dramor   

Yng Nghyllideb 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y byddai newidiadau i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (CYG) dramor.

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, ar gyfer blynyddoedd treth 2026 i 2027 ymlaen:

  • mae’r opsiwn i dalu CYG Dosbarth 2 gwirfoddol am gyfnodau dramor wedi’i dynnu
  • dim ond os oes gan yr unigolyn breswyliaeth barhaus yn y DU am 10 mlynedd neu os yw wedi talu o leiaf 10 mlynedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol y bydd ceisiadau newydd i dalu CYG gwirfoddol Dosbarth 3 am gyfnodau dramor yn cael eu derbyn

Os oes gennych weithwyr dramor, rhowch wybod iddynt am y newidiadau a ddaeth i rym o fis Ebrill 2026 ymlaen.

Nid yw’r newidiadau’n effeithio ar allu unrhyw un i brynu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar gyfer blynyddoedd treth cyn 2026 i 2027.

Mae CThEF yn annog cyflogwyr i adolygu’r arweiniad diweddaraf ar Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor o fis Ebrill 2026 ymlaen (yn agor tudalen Saesneg) a’r nodyn effaith treth a gwybodaeth sy’n manylu ar y newidiadau i gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae’r newidiadau’n cael eu gwneud i sicrhau bod gan unigolion sy’n cronni Pensiwn y Wladwriaeth o’r tu allan i’r DU gysylltiad digonol â’r DU a’u bod yn talu pris tecach i wneud hynny.

Rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai at gynlluniau pensiwn cofrestredig

Mae’r Grŵp Diwygio Treth ar Incwm Isel (LITRG) wedi rhoi gwybod i CThEF am gamgymeriad yn rhifyn Awst 2023 o fwletin y cyflogwr. Hoffem ddiolch i LITRG am ei gefnogaeth ac egluro’r sefyllfa i gyflogwyr.  

Mae’r testun isod yn lle llwyr ar gyfer yr adran o fwletin y cyflogwr ym mis Awst 2023 o’r enw ‘Rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai i gynlluniau pensiwn cofrestredig’.      

Mae dau brif ffordd o gael rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai at bensiwn. 

Mae CThEF wedi canfod bod rhai cyflogwyr yn gwneud camgymeriadau yn eu hadroddiad, a allai fod o ganlyniad i’r enwau a roddir i bob dull gan CThEF. 

Enwau’r dulliau hyn yw:

  • Trefniant cyflog net (NPA) – cyfeirir ato fel ‘cyfraniadau pensiwn cyflogai sy’n cael eu talu o dan drefniant cyflog net’ ar y Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS)
  • Rhyddhad wrth y Ffynhonnell (RAS) — Cyfeirir ato fel ‘cyfraniadau pensiwn cyflogai nad ydynt yn cael eu talu o dan drefniant cyflog net’ ar yr FPS 

Trefniant cyflog net (NPA) 

Ar gyfer trefniant cyflog net, bydd y cyflogwr yn didynnu’r cyfraniad pensiwn o enillion unigolyn cyn gweithredu TWE. Bydd y cyflogai’n cael rhyddhad treth ar ei gyfradd ffiniol o dreth incwm yn awtomatig heb fod angen gwneud unrhyw hawliad ychwanegol. 

Rhyddhad wrth y Ffynhonnell (RAS)  

Bydd y cyflogwr yn didynnu swm o’r cyflog ar gyfer y cyfraniad pensiwn, ar ôl i dreth incwm gael ei chodi drwy ddidyniadau TWE

Bydd darparwr y cynllun pensiwn yn hawlio’r hyn sy’n gyfwerth â threth ar y gyfradd sylfaenol gan Wasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF ac yn ychwanegu at gronfa bensiwn yr unigolyn gan y swm a hawlir. 

Mewn trefniadau rhyddhad wrth y ffynhonnell, bydd angen i’r unigolyn hawlio unrhyw ryddhad treth ar y gyfradd uwch ychwanegol neu ryddhad treth ar y gyfradd ychwanegol drwy CThEF yn erbyn ei god treth neu Hunanasesiad. Mae rhagor o wybodaeth am sut i hawlio rhyddhad treth ar eich taliadau pensiwn preifat ar gael. 

Er enghraifft, mae unigolyn sy’n gwneud cyfraniad pensiwn y gellir ei ryddhau o £100 mewn gwirionedd yn cyfrannu £80 trwy ddidyniad gan y cyflogwr o’u cyflog ar ôl didyniadau PAYE. Mae’r cyflogwr yn trosglwyddo’r £80 hynny i ddarparwr y cynllun pensiwn. Yna, mae darparwr y cynllun pensiwn yn hawlio’r rhyddhad treth ar y gyfradd sylfaenol sy’n cyfateb i £20 gan Wasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF sy’n cael ei ychwanegu gan y darparwr at gronfa bensiwn yr unigolyn. Yna, byddai angen i’r unigolyn gysylltu â CThEF i hawlio unrhyw ryddhad ychwanegol sy’n ddyledus.  

Ni all yr unigolyn ddewis y dull o ryddhad treth iddo’i hun. Ers mis Ebrill 2006, y dull diofyn ar gyfer pob cynllun pensiwn cofrestredig newydd yw Rhyddhad wrth y Ffynhonnell. Fodd bynnag, ar ddechrau cynllun pensiwn newydd gall cyflogwr ddewis gweithredu trefniant cyflog net cyn belled â bod y cynllun hwnnw’n bodloni amodau penodol. Ar ôl cofrestru, gosodir y dull o ryddhad treth. 

Cyflwyniadau FPS Gwybodaeth Amser Real (RTI) — enghreifftiau o gamgymeriadau 

Gallai enghreifftiau gynnwys pan fo cyflogwr yn gwneud y camgymeriad o roi gwybod am gyfraniadau RAS (na dalwyd o dan gyflog net) drwy RTI yn y meysydd data ar gyfer cynllun cyflog net. Mae hyn yn arwain at ddarparu rhyddhad treth drwy’r gyflogres yn anghywir, ar ben y rhyddhad treth a ddarperir yn gywir drwy ddarparwr y cynllun pensiwn a Gwasanaethau Cynllun Pensiwn CThEF. Mae’r rhyddhad gormodol a ddarperir yn fethiant ar ran y cyflogwr o ran y gyflogres, ac mae’r cyflogwr yn agored i’r dreth sy’n cael ei thynnu ac na chafodd ei throsglwyddo i CThEF. 

Dylai unrhyw gyflogwr sy’n ansicr wirio â darparwr ei gynllun sut mae’r cynllun wedi’i gofrestru. Os bydd unrhyw gyflogwr wedyn yn penderfynu bod ei gyflogres wedi’i ffurfweddu’n anghywir, dylai gywiro hyn ar unwaith. Bydd ei gyflogres yn anghywir os yw wedi rhoi gwybod am y canlynol:

  • cyfraniadau cyflog net yn y maes adrodd FPS ar gyfer ‘cyfraniadau pensiwn cyflogai nad ydynt yn cael eu talu o dan drefniant cyflog net’, neu
  • Gyfraniadau RAS ym maes adrodd FPS ar gyfer ‘cyfraniadau pensiwn cyflogai a delir o dan drefniant cyflog net’  

Dylid rhoi gwybod am unrhyw wallau a nodir o gyfnodau blaenorol drwy gyfleuster datgelu digidol CThEF (yn agor tudalen Saesneg)

Os ydych yn fusnes mawr â Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCM), dylech roi gwybod am hyn drwy ymgysylltu’n uniongyrchol â’ch CCM.

Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid

Edrychwch ddwywaith i weld cyngor treth gwael

Mae ymgyrch ‘gan bwyll rhag twyll’ CThEF yn annog contractwyr sy’n gweithio drwy gwmnïau ambarél i gymryd golwg mwy manwl a bod yn ofalus am arbed treth.  

Gall eich contractwyr ddefnyddio ein harweiniad a’n hoffer ar-lein i ddysgu am arbed treth a deall sut maent yn cael eu talu, gan wirio i weld a yw’r swm cywir o dreth yn cael ei dalu er mwyn osgoi bil treth annisgwyl yn ddiweddarach. 

Gwyliwch straeon bywyd go iawn am bobl a gafodd eu dal gan arbed treth a fideo YouTube byr sy’n esbonio sut mae cwmnïau ambarél yn gweithio (yn agor tudalen Saesneg)

Gall contractwyr hefyd adolygu ein rhestr o cynlluniau arbed treth cyhoeddedig a’u hyrwyddwyr (yn agor tudalen Saesneg). Yn bwysig, nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau o’r fath, hyd yn oed os yw hyrwyddwyr yn dweud fel arall.

I helpu’ch contractwyr i nodi, gadael neu roi gwybod am gynllun arbed treth, gallwch ddefnyddio adnoddau ymgyrch CThEF (yn agor tudalen Saesneg) yn eich cylchlythyrau, diweddariadau gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gallwch hefyd ymgysylltu â’n negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar Facebook, LinkedIn, ac X.  

Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 — camau i’w cymryd

Fel rhan o weithrediad parhaus Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025, mae camau gweithredu y gall cyflogwyr eu cymryd nawr. Mae rhagor o wybodaeth am yr arweiniad hawliau cyflogaeth ar gyfer busnesau a gweithwyr (yn agor tudalen Saesneg) gan gynnwys mwy am y diwygiadau, a mynediad at arweiniad a chymorth rhad ac am ddim ynghylch sut i baratoi ar gael ar wefan business.gov.  

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r newidiadau i gyfraith cyflogaeth a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2026, ac yn eu rhoi ar waith. Mae newidiadau pwysig yn cynnwys:

  • Tâl Salwch Statudol yn daladwy o ddiwrnod cyntaf absenoldeb
  • hawliau Absenoldeb Di-dâl i Rieni estynedig
  • sefydlu Asiantaeth Gwaith Teg newydd
  • y cynnydd i gyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol

Mae newidiadau eraill yn cynnwys Absenoldeb Tadolaeth Partner mewn Profedigaeth, diogelwch diswyddo ar y cyd, diogelwch chwythu’r chwiban, a chofnodion tâl gwyliau.   

Paratoi ar gyfer diwygiadau diswyddo annheg 

Bydd newidiadau i ddiswyddo annheg yn dod i rym o fis Ionawr 2027 ymlaen, pan fydd y cyfnod cymhwyso i gyflwyno hawliad yn lleihau o 2 flynedd i 6 mis. Bydd cyflogeion sydd wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth erbyn y dyddiad hwnnw yn cael diogelwch ar unwaith. Mae hyn yn golygu y bydd cyflogeion presennol yn ogystal â’r rhai a gyflogwyd o fis Gorffennaf 2026 ymlaen o fewn y cwmpas. O ystyried maint y newid hwn, dylai cyflogwyr ddechrau paratoi nawr.   

Ymunwch â ni ar ymgynghoriadau  

Mae’r Adran Busnes a Masnachu ar hyn o bryd yn ceisio barn ar y canlynol:

  • contractau dim oriau — a gyhoeddwyd ar 2 Mehefin 2026
  • cytundebau peidio â datgelu — a gyhoeddwyd ar 14 Mai 2026
  • gofalwyr di-dâl — cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2026
  • amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus — cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2026

Mae’r holl ymgynghoriadau cyfredol, ynghyd â manylion ymgynghoriadau caeedig a chanlyniadau cyhoeddedig, i’w gweld yn Helpu Gwaith i Dalu (yn agor tudalen Saesneg).

Edrych i’r dyfodol  

Cyflwynir newidiadau pellach yn 2026, gyda newidiadau pwysig i ddeddfwriaeth undebau llafur gan gynnwys:

  • cryfhau hawl mynediad undebau llafur
  • dyletswydd newydd i roi gwybod i weithwyr am eu hawl i ymuno ag undeb llafur
  • diwygiadau ehangach i ddiogelu cyflogeion rhag aflonyddu

Gweler yr erthygl ar ddiogelwch rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle — newidiadau sydd ar ddod am ragor o wybodaeth. Mae amrywiaeth o weminarau a hyfforddiant rhad ac am ddim hefyd ar gael ar wefan Acas

Diogelwch rhag aflonyddu rhywiol yn y gweithle — newidiadau sydd ar ddod

Ym mis Hydref 2024, daeth Deddf Diogelu Gweithwyr 2023 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol i gyflogwyr ragweld y risg o aflonyddu rhywiol a chymryd camau rhesymol i’w atal. 

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cynnwys mesurau i gryfhau’r diogelwch hwn. 

Newidiadau deddfwriaethol allweddol

Bydd y newidiadau canlynol yn dod i rym o 1 Hydref 2026 ymlaen: 

  • disgwylir i gyflogwyr gymryd ‘pob cam rhesymol’ i atal aflonyddu rhywiol ar eu cyflogeion 

  • rhwymedigaeth ar gyflogwyr i beidio â chaniatáu aflonyddu ar eu gweithwyr gan drydydd partïon

Arweiniad sydd ar gael

Cyhoeddir arweiniad i gyflogwyr cyn i’r ddeddfwriaeth newydd ddod i rym.  

Yn y cyfamser, dylai cyflogwyr gyfeirio at arweiniad presennol o wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) gan gynnwys: 

Mae rhagor o arweiniad ar gael ar wefan Acas, gan gynnwys:  

Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 — Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i gontractau dim oriau a chontractau tebyg

Er mwyn llywio manylion gweithredu’r diwygiadau i gontractau dim oriau a chontractau tebyg o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025, mae’r llywodraeth yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i roi terfyn ar hyblygrwydd unochrog, gan sicrhau bod pob swydd yn darparu llinell sylfaen o ddiogelwch a rhagweladwyedd fel y gall gweithwyr gynllunio eu bywydau a’u harian yn well. 

Mae hyn yn cynnwys cyflawni’r ddau fesur canlynol:

  • hawl i oriau gwarantedig, gyda nifer yr oriau a gynigir yn adlewyrchu’r rhai a weithiwyd yn ystod cyfnod cyfeirio, a fydd yn cael ei bennu mewn rheoliadau yn dilyn ymgynghoriad a disgwylir iddo fod yn 12 wythnos
  • hawliau newydd i rybudd rhesymol o sifftiau, gyda thaliad cymesur am sifftiau sydd wedi’u canslo, eu hail-drefnu neu eu torri’n fyr ar fyr rybudd

Mae’r hawliau hyn yn berthnasol i weithwyr cymwys sydd wedi’u cyflogi’n uniongyrchol ac asiantaeth. Mae’r hawliau’n berthnasol yn wahanol i weithwyr asiantaeth o’i gymharu â gweithwyr sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol, a gall rheoliadau nodi gwahaniaethau pellach yn eu triniaeth.

Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg am 12 wythnos a bydd yn cau ar Awst 25 2026 am 23:59.

Mae rhoi terfyn ar hyblygrwydd unochrog — diwygiadau i gontractau dim oriau a chontractau tebyg yn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad.

Mae rhoi terfyn ar hyblygrwydd unochrog — diwygiadau i gontractau dim oriau a chontractau tebyg yn darparu rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad.

Mae’r holl ymgynghoriadau cyfredol, ynghyd â manylion ymgynghoriadau caeedig a chanlyniadau cyhoeddedig, ar gael yn Helpu Gwaith i Dalu (yn agor tudalen Saesneg).

Helpu’ch cyflogeion newydd i gael dechrau hwylus gan ddefnyddio ap CThEF

Gall recriwtio gymryd llawer o amser. Un ffordd syml o gyflymu pethau yw annog eich dechreuwyr newydd i lawrlwytho ap CThEF cyn eu diwrnod cyntaf.

Bydd angen i gyflogeion newydd gael eu rhif Yswiriant Gwladol yn ystod y broses gynefino, y gellir dod o hyd iddo’n hawdd yn yr ap. Gellir cael mynediad at hyn mewn munudau ac mae’n arbed amser gan na fydd angen iddynt aros iddo gael ei anfon yn y post.

Sut i lawrlwytho ap CThEF a chofrestru am gyfrif

Lawrlwythwch ap CThEF yn rhad ac am ddim o’r mannau canlynol:

  • y siop apiau ar gyfer iOS
  • y siop Google Play ar gyfer Android

Os oes gan gyflogai gyfrif ar-lein CThEF eisoes, gall fewngofnodi’n syth gan ddefnyddio ei Ddynodydd Defnyddiwr a’i gyfrinair. Os na, gall brofi pwy ydyw drwy ateb rhai cwestiynau neu ddarparu ei ID ffotograffig.

Yna, gall ddilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i gwblhau gosodiadau’r ap.

Ar ôl ei sefydlu, gall ddewis dull adnabod wynebau, PIN byr neu ddewis defnyddio ei olion bysedd i fynd i mewn yn gyflymach.

Mae ap CThEF yn cynnig amrywiaeth o nodweddion defnyddiol a all rhoi cymorth i’ch dechreuwyr newydd. Gyda’r ap, gall cyflogeion gwneud y canlynol:

  • defnyddio cyfrifiannell cyflog i amcangyfrif eu henillion
  • gwirio eu cod treth i wneud yn siŵr ei fod yn gywir
  • gweld eu cyflog cyn iddo gyrraedd eu banc
  • hawlio unrhyw ad-daliadau treth yn gyflym ac yn effeithlon

Mae CThEF yn eich annog i rannu hyn gydag unrhyw un sy’n ymuno’r haf hwn a thu hwnt.

Hawlio ad-daliad treth mewn munudau

Mae’n bosibl bod CThEF wedi cysylltu â chi neu’ch cyflogeion ynglŷn ag ad-daliad treth. I’r rhan fwyaf o gwsmeriaid TWE, nid yw ad-daliadau bellach yn cael eu rhoi’n awtomatig trwy siec. Mae’n rhaid i gyflogeion nawr gymryd camau i gael unrhyw arian sy’n ddyledus iddynt.

Y llynedd, aeth mwy na 730,000 o ad-daliadau treth heb eu hawlio, gyda gwerth cyfartalog o £855.

Beth ddylai cyflogwyr ei wneud nawr

Dylech annog eich cyflogeion i wneud y canlynol:

  • gwirio ap CThEF neu eu Cyfrif Treth Personol (PTA) i weld a oes ad-daliad yn ddyledus iddynt
  • hawlio eu had-daliad ar-lein os gofynnir iddynt
  • sicrhau bod eu manylion personol yn gyfredol gyda’u cyflogwr a CThEF

Gall cyflogeion wirio a diweddaru eu manylion, gan gynnwys eu cyfeiriad post, yn ap CThEF neu yn eu Cyfrif Treth Personol. Mae cael y manylion cywir yn helpu i sicrhau nad yw llythyrau a thaliadau pwysig yn cael eu gohirio.

Sut y gall cyflogeion hawlio

  1. Agorwch ap CThEF neu mewngofnodwch i’w PTA.
  2. Ewch i ‘Talu Wrth Ennill (TWE)’.
  3. Chwiliwch am fotwm gwyrdd ‘Hawliwch’, os oes ad-daliad yn ddyledus.
  4. Dewiswch ‘Hawliwch’ i ofyn am yr ad-daliad.

Fel arfer, gwneir ad-daliadau drwy drosglwyddiad banc o fewn wythnos.

Os na all cyflogeion ddefnyddio gwasanaethau digidol

Nid oes angen i gyflogeion fod wedi’u sefydlu’n llawn ar Wasanaethau Ar-lein CThEF i hawlio.

Gall y rhai sydd wedi’u hesemptio’n ddigidol, neu sy’n well ganddynt siec bapur, ofyn am siec o hyd, fodd bynnag, bydd hyn yn cymryd mwy o amser i gyrraedd.

Bydd angen y canlynol ar eich cyflogeion:

  • eu cyfeirnod P800 sydd i’w gael ar y llythyr Cyfrifiad Treth
  • eu rhif Yswiriant Gwladol

Cynlluniau gweithredu cyflogwyr gwirfoddol i fynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chefnogi cyflogeion sy’n profi menopos

Mae’r llywodraeth wedi cyflwyno mesurau newydd i sicrhau bod gan bawb gyfle i ffynnu yn y gwaith, ac i roi cymorth i gyflogwyr wrth gymryd camau effeithiol i wella cydraddoldeb rhywiol yn y gweithle. Fel rhan o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 (yn agor tudalen Saesneg) ar wefan legislation.gov, mae gan gyflogwyr sydd â 250 neu fwy o gyflogeion y dewis bellach i gynhyrchu a chyhoeddi cynllun gweithredu gwirfoddol ochr yn ochr â’u data bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Bydd y rhain yn dod yn orfodol o wanwyn 2027 ymlaen, yn amodol ar is-ddeddfwriaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 — trosolwg (yn agor tudalen Saesneg).

Newidiadau allweddol    

Bydd cynlluniau gweithredu yn dangos y camau ymarferol penodol y mae cyflogwr yn eu cymryd i wneud y canlynol:  

  • mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y sefydliad
  • rhoi cymorth i gyflogeion sy’n profi menopos

I greu cynlluniau gweithredu, bydd cyflogwyr cymwys yn dewis o leiaf ddau gam gweithredu o restr o 18 o gamau gweithredu sy’n seiliedig ar dystiolaeth a ddarperir gan y llywodraeth. Dylai cyflogwyr deilwra cynlluniau i fynd i’r afael ag anghenion penodol eu gweithle.  

Yr hyn y mae’n ei olygu i chi   

Os ydych yn gyflogwr cymwys, dylech ddilyn proses strwythuredig i wneud yn siŵr bod eich cynllun yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Rydym yn eich annog i werthuso’r heriau penodol o fewn eich sefydliad yn gyntaf, dewis y camau gweithredu mwyaf effeithiol, ac ysgrifennu naratif ategol sy’n egluro’ch nodau. Ar ôl ei gyhoeddi, disgwylir i chi olrhain canlyniadau’ch camau gweithredu ac adolygu’ch cynllun gweithredu yn rheolaidd. Rydym yn eich annog i fanteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno’ch cynllun gweithredu cyntaf yn ystod y flwyddyn adrodd wirfoddol hon.   

Mesur maint tiriogaethol   

Unwaith y bydd yn orfodol, bydd y mesur hwn yn adlewyrchu cwmpas tiriogaethol y gofynion presennol ar gyfer adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Bydd yn berthnasol i gyflogwyr mawr yn y sector preifat yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn ogystal ag awdurdodau cyhoeddus trawsffiniol yn Lloegr ac awdurdodau cyhoeddus penodol.  

Rhagor o wybodaeth  

Creu cynllun gweithredu (yn agor tudalen Saesneg) — bydd arweiniad i gyflogwyr yn fuan yn ymgorffori cyfres o astudiaethau achos cyflogwyr i roi cymorth i gyflogwyr eraill yn eu taith weithredu. Os hoffech i arferion eich sefydliad gael eu hystyried i’w cynnwys, cysylltwch â GPG.Reporting@cabinetoffice.gov.uk.  

Mae rhagor o wybodaeth am y 18 cam gweithredu unigol sy’n seiliedig ar dystiolaeth (yn agor tudalen Saesneg) ar gael. 

Mae arweiniad ychwanegol, gan gynnwys ar gyfer cyflogwyr bach, ar fesurau i roi cymorth i gyflogeion sy’n profi menopos yn y gweithle ar gael ar wefan Acas.  

Gallwch hefyd chwilio’r gwasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau (yn agor tudalen Saesneg) i weld data bwlch cyflog rhwng y rhywiau eich cyflogwr a’i gymharu â sefydliadau eraill. 

Helpu’ch gweithlu i ennill y blaen — anogwch anfon Ffurflenni Treth yn gynnar

Mae nifer o gyflogwyr yn rhoi cymorth i bobl sydd angen cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, fel cyfarwyddwyr cwmnïau, neu bobl ag incwm y tu allan i TWE, er enghraifft o rentu eiddo, gweithwyr llawrydd neu’r rhai ag incwm ochr.

Gallwch helpu drwy eu hannog i gyflwyno eu Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 yn gynnar, yn hytrach nag aros tan y dyddiad cau ar 31 Ionawr 2027.

Nid yw cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn gynnar (yn agor tudalen Saesneg) yn newid pryd mae treth yn ddyledus, ond gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i hyder, cynllunio a llif arian cyflogai.

Pam mae cyflwyno’n gynnar yn helpu

Mae manteision clir i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn gynnar, gan gynnwys:

  • tawelwch meddwl — yn osgoi pwysau munud olaf ac yn lleihau’r risg o wallau neu fethu dyddiadau cau
  • sicrwydd — gall pobl weld beth sydd arnynt yn gynt a chynllunio ar gyfer eu taliad ym mis Ionawr 2027
  • cael ad-daliadau’n gynt  — os yw treth wedi’i gordalu, gellir prosesu ad-daliadau’n gynt
  • tystiolaeth o incwm — mae’r Ffurflen Dreth a’r cyfrifiad yn ddefnyddiol wrth wneud cais am forgais, benthyciad neu fuddiannau

Dysgwch ragor am fanteision cyflwyno’ch Ffurflen Dreth yn gynnar drwy ddefnyddio’r canllaw 10 cam i Hunanasesiad (yn agor tudalen Saesneg) i wneud yn siŵr bod popeth yn mynd yn ddidrafferth.

Sut gall cyflogwyr helpu

Nid oes angen i chi roi cyngor treth. Gall awgrymiadau a nodynnau atgoffa syml helpu, fel cynnwys nodyn atgoffa byr mewn cyfathrebiadau â staff neu gontractwyr.

Mae cyfeirio pobl at gymorth swyddogol CThEF yn eu helpu i wneud pethau’n gywir y tro cyntaf. Mae hyn yn darparu cymorth clir, cam wrth gam i gyflogeion, gan gynnwys:

  • arweiniad ac offer ar-lein
  • y cynorthwyydd digidol a’r sgwrs dros y we
  • gweminarau, fideos a thaflenni cymorth
  • cyfrifon ar-lein CThEF ac ap CThEF

Fformat HTML bwletin y cyflogwr 

Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:

  • nam ar eu golwg 

  • anawsterau echddygol 

  • anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu 

  • trymder clyw neu nam ar eu clyw 

Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt. 

Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe): 

  • argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol 
  • i gadw’r ddogfen fel PDF:

    • dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig

    • ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF

Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg)

Anfonwch eich adborth am y bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu darllen, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.