Bwletin y Cyflogwr: Awst 2026
Cylchgrawn a gyhoeddir bob deufis ar gyfer cyflogwyr ac asiantau, sy’n rhoi gwybodaeth i’r funud ynghylch materion y gyflogres.
Dogfennau
Manylion
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt.
Mae rhifyn mis Mehefin o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol:
-
Gwneud eich taliad Cytundeb Setliad TWE (PSA)
-
Cyflwyno talu buddiannau drwy’r gyflogres gorfodol fesul cam — camau i chi eu cymryd nawr
-
Cynigion i fynd i’r afael â dyledion treth gwerth is mewn ymgynghoriad gan y llywodraeth
-
Alinio terfynau amser adennill cyfraniadau Yswiriant Gwladol â Threth Incwm — lansio ymgynghoriad
-
Helpu i wella arweiniad GOV.UK i gyflogwyr
-
Helpu’ch rhiant neu gyflogeion sy’n ofalwyr i gael y taliadau Budd-dal Plant y mae ganddynt hawl iddynt
Gallwch gofrestru ar gyfer gwasanaeth hysbysu cyflogwyr drwy e-byst CThEF (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael e-byst oddi wrth CThEF sy’n rhoi gwybod i chi pan fydd y rhifyn diweddaraf ar gael.
Gallwch ddarllen Bwletin y Cyflogwr ar y sgrin neu ei argraffu. Mae’n cyd-fynd â’r rhan fwyaf o becynnau meddalwedd darllen sgrin.