Canllawiau

Gwneud cais i fod yn berchennog nwyddau ecséis a gedwir mewn warws ecséis

Cofrestrwch fel perchennog nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt ac a gedwir mewn warws ecséis, neu fel perchennog Porthladd Rhydd ar nwyddau ecséis a gedwir mewn warws ecséis Porthladd Rhydd.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Pwy all wneud cais

Mae’n rhaid i chi fod yn berchennog busnes – er enghraifft:

  • unig berchennog
  • partneriaeth
  • cwmni cyfyngedig

Rhaid i chi fod â chyfeiriad busnes yn y DU. Os nad oes gennych gyfeiriad busnes yn y DU, mae’n rhaid i chi benodi cynrychiolydd tollau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • enw a chyfeiriad y busnes
  • enw’ch warws
  • rhif cymeradwyo’r warws neu rif cymeradwyo’r warws Porthladd Rhydd
  • rhif cofrestru ceidwad awdurdodedig y warws neu rif cofrestru’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig
  • manylion unrhyw gymeradwyaethau ecséis eraill sydd gennych

Gwneud cais i fod yn berchennog ar nwyddau y gohiriwyd tollau arnynt ac a gedwir mewn warws ecséis

Gwneud cais ar-lein

I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.

Bydd cyfeirnod unigryw yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Dylech gynnwys y cyfeirnod hwn gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei hanfon drwy’r post.

Gallwch gadw llygad ar gynnydd y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r un cyfeirnod.

Gwneud cais drwy’r post

I wneud cais drwy’r post (yn Saesneg), llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol. Os byddwch yn postio’r ffurflen, ni allwch ddilyn ei hynt ar-lein.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Os ydych mewn partneriaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen EXCISE102 (yn Saesneg) hefyd.

Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.

Anfon gwybodaeth ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon gwybodaeth ychwanegol i CThEF i ategu’ch cais.

Continuation form: application for registration (EX60A)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Gwneud cais i fod yn berchennog Porthladd Rhydd ar nwyddau ecséis a gedwir mewn warws ecséis Porthladd Rhydd

I wneud cais i fod yn berchennog Porthladd Rhydd drwy’r post (yn Saesneg), llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.

Anfon gwybodaeth ychwanegol

Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi anfon gwybodaeth ychwanegol i CThEF i ategu’ch cais.

Continuation form: application for registration (FPEX60A)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
Cyhoeddwyd ar 31 March 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 January 2023 + show all updates
  1. Updated to say where we refer to a ‘Freeport’, this also applies to ‘Green Freeports in Scotland’ unless otherwise stated.

  2. The continuation form: application for registration (FPEX60A) has been updated.

  3. First published.