Gwneud cais i fod yn gynrychiolydd tollau
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein neu’r ffurflen bost i wneud cais i gofrestru fel cynrychiolydd tollau ecséis neu gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd ar gyfer nwyddau ecséis.
Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.
Pwy all wneud cais
I fod yn gynrychiolydd tollau, mae’n rhaid i chi fod â busnes neu sefydliad sefydlog arall yn y DU. Dim ond perchnogion nad ydynt wedi’u lleoli yn y DU y gallwch eu cynrychioli.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Bydd angen y canlynol arnoch:
- manylion busnes endidau y tu allan i’r DU
- enwau’r warysau ecséis neu’r warysau ecséis Porthladd Rhydd rydych yn eu defnyddio
- rhif cymeradwyo’r warws neu rif cymeradwyo’r busnes ecséis Porthladd Rhydd
- rhif cofrestru ceidwad awdurdodedig y warws neu rif cofrestru’r busnes ecséis Porthladd Rhydd awdurdodedig
Gwneud cais i fod yn gynrychiolydd tollau
Gwneud cais ar-lein
I wneud cais ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn gwneud cais.
Bydd cyfeirnod unigryw yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Dylech gynnwys y cyfeirnod hwn gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol yr ydych yn ei hanfon drwy’r post.
Gallwch gadw llygad ar gynnydd y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r un cyfeirnod.
Gwneud cais drwy’r post
I wneud cais drwy’r post (yn Saesneg), llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol. Os byddwch yn postio’r ffurflen, ni allwch ddilyn ei hynt ar-lein.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Os ydych mewn partneriaeth, mae’n rhaid i chi gwblhau ffurflen EXCISE102 (yn Saesneg) hefyd.
Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.
Gwneud cais i fod yn gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd
I wneud cais i fod yn gynrychiolydd tollau Porthladd Rhydd drwy’r post (yn Saesneg), llenwch y ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly dylech wneud yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Anfonwch e-bost i CThEF i ofyn am y ffurflen hon yn Gymraeg.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 January 2023 + show all updates
-
Updated to say where we refer to a ‘Freeport’, this also applies to ‘Green Freeports in Scotland’ unless otherwise stated.
-
First published.