Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 28, atodiad 1: estyn prydlesi: rhestr wirio ar gyfer cyflwyno cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol

Diweddarwyd 9 Rhagfyr 2024

Yn berthnasol i Gymru a Loegr

1. Trosolwg

Mae’r atodiad hwn yn disgrifio’r ystyriaethau y dylid eu gwneud wrth wneud cais i gofrestru ildiadau ac ail-roi ystad brydlesol. Mae’n cynnwys ildiadau (trwy weithredu’r gyfraith) ac ail-roi sy’n codi:

  • pan roddir prydles newydd i’r un tenant, i ddod i rym ar unwaith

  • pan roddir prydles newydd i denant presennol sy’n arfer ei hawliau o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

  • pan fydd gweithred amrywio yn newid hyd prydles gofrestredig trwy gynyddu’r cyfnod neu’n ychwanegu tir newydd i’r graddau a brydlesir gan brydles gofrestredig

Mae’r adrannau a ganlyn yn cynnwys arweiniad ar lenwi’r cymalau penodedig mewn prydles cymalau penodedig a rhestrau gwirio ar gyfer y tri math o geisiadau ildio ac ail-roi a ddisgrifir uchod i’ch cynorthwyo wrth baratoi’r ceisiadau hyn ac osgoi ymholiadau. Maent yn cymryd bod teitl y landlord yn gofrestredig a bod y brydles sy’n cael ei hildio wedi ei chofrestru gyda’i rhif teitl ei hunan. Os nad yw teitl y landlord yn gofrestredig, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf. Os nad yw’r brydles sy’n cael ei hildio wedi ei chofrestru gyda’i rhif teitl ei hunan ond yn cael ei nodi (neu’n cynnwys hawddfreintiau a nodwyd) ar deitl y landlord, gweler adran 2.4 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi (neu, ar gyfer rhybudd unochrog, uwchlwythwch ffurflen UN2 i dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i ddileu).

Gellir dod o hyd i arweiniad cyffredinol yn y canlynol hefyd:

1.1 Y brydles cymalau penodedig

Ceir arweiniad cyffredinol yng nghyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig ond rhoddir arweiniad penodol ar geisiadau ildio ac ail-roi isod. Fel rheol, bydd ymholiad yn cael ei godi pan fydd y wybodaeth ofynnol ar goll.

1.1.1 LR1: dyddiad y brydles

Rhaid i’r cymal hwn gynnwys dyddiad y brydles.

1.1.2 LR2.1: rhif(au) teitl y landlord

Rhaid i’r cymal hwn gynnwys rhif(au) teitl eiddo’r landlord y rhoddir y brydles ohono.

1.1.3 LR2.2: rhifau teitl eraill

Cwblhewch gymal LR2.2 gydag unrhyw rifau teitl (ac eithrio teitl(au) y landlord a roddir eisoes yn LR2.1) yr ydych yn gwneud cais i gofnodi materion y cyfeirir atynt yng nghymalau LR9, LR10, LR11 a LR13 yn eu herbyn.

Nid yw’r teitl prydlesol sy’n bodoli yn ofynnol yng nghymal LR2.2.

1.1.4 LR3: partïon i’r brydles hon

Rhaid i’r cymal hwn gynnwys enwau llawn a chyfeiriadau’r landlord a’r tenant. Os yw unrhyw un o’r partïon yn gwmni neu’n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dyfynnwch y rhif cofrestru a/neu’r diriogaeth gorffori yn unol â’r cyfarwyddyd yn y testun.

Pan fo angen, rhaid i’ch cais gynnwys tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r landlord.

1.1.5 LR4: eiddo

Rhaid i’r cymal gynnwys disgrifiad llawn o’r eiddo a brydlesir neu gyfeiriad at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n disgrifio’r tir a brydlesir. Pan fo’r brydles yn rhan o deitl cofrestredig y landlord yn unig, rhaid nodi’r eiddo a brydlesir trwy gyfeirio at gynllun, fel y cyfarwyddir yn y testun. Os oes unrhyw wrthdaro rhwng y manylion a roddir yn y cymal hwn a’r rhai y cyfeirir atynt mewn man arall yn y brydles, byddwn yn cwblhau cofrestru’r brydles ar sail y wybodaeth a ddarperir yng nghymal LR4 yn unig.

1.1.6 LR5.1: datganiadau a ragnodir o dan reolau 179 (gwarediadau o blaid elusen), 180 (gwarediadau gan elusen) neu 196 (prydlesi o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993) o Reolau Cofrestru Tir 2003

Pan fydd y brydles o blaid neu gan elusen rhaid cynnwys y datganiad(au) perthnasol a ddisgrifir yn adran 5.5.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

Yn ogystal, pan wneir y brydles o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993, rhaid iddi gynnwys y datganiad a ddisgrifir yn adran 5.3.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad neu gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n ei gynnwys.

1.1.7 LR6: cyfnod prydlesu’r eiddo

Rhaid i’r cymal hwn gynnwys cyfnod y brydles neu’r cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n cynnwys manylion y cyfnod. Nodwch y cyfnod yn llawn yma os yw’n bosibl.

1.1.8 LR7: premiwm

Rhaid i’r cymal hwn gynnwys y premiwm a dalwyd. Rhaid i brydlesi a roddir o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 gynnwys premiwm bob tro.

1.1.9 LR8: gwaharddiadau neu gyfyngiadau ar waredu’r brydles hon

Dylai’r cymal hwn gynnwys un o’r ddau opsiwn.

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau yn anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.

1.1.10 LR10: cyfamodau cyfyngu a roddir yn y brydles hon gan y landlord mewn perthynas â thir heblaw’r eiddo

Dylai’r cymal hwn gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yng nghorff y brydles sy’n cynnwys manylion unrhyw gyfamodau cyfyngu yn y brydles sy’n rhwymo tir sy’n eiddo i’r landlord, ac eithrio’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifir yng nghymal LR4.

Sicrhewch fod y brydles newydd yn cynnwys diffiniad o’r brydles sy’n bodoli os caiff cyfamodau cyfyngu eu mewngludo ohoni.

Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau yn anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.

Sylwer: ni ddylech gyfeirio yng nghymal LR10 at y canlynol:

  • cyfamodau personol
  • cyfamodau cyfyngu yr ymrwymodd y tenant iddynt
  • cyfamodau cyfyngu yr ymrwymodd y landlord iddynt i’r graddau eu bod yn ymwneud â’r budd rifersiwn yn yr eiddo a ddisgrifir yng nghymal LR4 yn unig

1.1.11 LR11: hawddfreintiau

Dylech gwblhau’r cymalau hyn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles newydd a/neu sy’n bodoli (fel sy’n gymwys) sy’n cynnwys yr hawddfreintiau. Os nad ydych yn eu cwblhau, neu yn eu cwblhau’n anghywir, ni fydd unrhyw hawddfreintiau yn y brydles yn cael eu cwblhau trwy gofrestriad.

Sicrhewch fod y brydles newydd yn cynnwys diffiniad o’r brydles bresennol os caiff hawddfreintiau eu mewngludo ohoni.

Gweler adran 5.11 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

1.1.12 LR12: rhent-dâl ystad yn faich ar yr eiddo

Dylech gwblhau’r cymal hwn trwy gyfeirio at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles pan fydd yn cynnwys rhent-dâl ystad. Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, neu yn ei gwblhau’n anghywir, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud.

Gweler adran 5.12 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

1.1.13 LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad

Gellir defnyddio’r cymal hwn i wneud cais am ffurf safonol o gyfyngiad yn unig. Mae’r ffurfiau safonol o gyfyngiad wedi eu pennu yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003. Os nad ydych yn cwblhau’r cymal hwn, ni fydd unrhyw gofnod yn cael ei wneud oni bai eich bod yn gwneud cais penodol gan ddefnyddio ffurflen RX1.

Gweler adran 5.13 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig.

1.1.14 LR14: datganiad ymddiried lle ceir mwy nag un person yn cynnwys y tenant

Rhaid cwblhau’r cymal hwn gyda’r datganiad ymddiried priodol os mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant a enwir yng nghymal LR3.

Os na chaiff cymal LR14 na ffurflen JO eu llenwi a’u hwuchlwytho gyda’r cais, byddwn yn cofnodi cyfyngiad ffurf A yn ddiofyn pan mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant.

Os mai mwy nag un person neu gorff yw’r tenant ond bydd yn dal yr eiddo a brydlesir ar ymddiried, ni ddylech gynnwys datganiad ymddiried yng nghymal LR14 ond yn lle hynny, rhaid ichi wneud cais am gyfyngiad ffurf A gan ddefnyddio cymal LR13 neu ffurflen RX1.

Gweler adran 5.14 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig a chyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat.

1.2 Gwneud cais i gofrestru prydles newydd a roddir i’r un tenant

Mae angen y ddogfennaeth ganlynol i gofrestru prydles newydd a roddir i’r un tenant.

  • Copi ardystiedig o’r brydles newydd, y mae’n rhaid iddo:

    • gael ei gyflawni gan y landlord

    • gynnwys cymalau penodedig, oni bai ei fod yn dod o fewn yr eithriadau i ddiffiniad ‘prydles cymalau penodedig’ yn rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler adran 2.2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig, a

    • chynnwys manylion y brydles sy’n cael ei hildio os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau

  • Y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.

  • Copi ardystiedig o’r brydles sy’n cael ei hildio, os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau neu lle nad yw’r brydles honno wedi ei chofrestru na’i nodi. Gall y copi ardystiedig o’r brydles fod yn gopi naill ai o’r brydles wreiddiol neu o’r brydles wrthran. Os na allwch ddarparu copi o’r brydles yn y naill ffurf na’r llall, rhowch gyfrif am ei absenoldeb. Fel rheol, mae angen inni ystyried cynnwys y brydles sy’n cael ei hildio.

  • Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes ei angen (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).

  • Cydsyniad unrhyw uwch-landlord, os yw’r uwch brydles yn gofyn am gydsyniad o’r fath (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).

  • Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord.

  • Unrhyw arwystlon neu weithredoedd arwystl amnewidiol. Rhaid i gymerwr benthyg gyflawni gweithred arwystl amnewidiol a, phan fydd yn cynnwys rhyddhau, rhaid i’r rhoddwr benthyg wneud hyn. Oni bai mai ffurf arwystl gymeradwy sy’n cynnwys cais am ffurf safonol o gyfyngiad a/neu rwymedigaeth benthyciadau pellach yw’r weithred arwystl amnewidiol, dylid uwchlwytho ceisiadau ar ffurflen RX1 a/neu ffurflen CH2 os oes cyfyngiad yn y gofrestr berthnasol i’r arwystl gwreiddiol neu gofnod yn ymwneud â rhwymedigaeth i roi benthyciadau pellach.

  • Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.

  • Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol (ar gyfer cyfyngiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yng nghymal LR13 – gweler LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad).

Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, rhaid uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi i’r teitl gael ei gau.

1.3 Gwneud cais i gofrestru prydles newydd a wnaed o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993

Sylwer os rhoddir y brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 bod y ddeddfwriaeth yn darparu y bydd unrhyw arwystlon ar y brydles a ildiwyd yn trosglwyddo’n awtomatig felly nid oes angen i Gofrestrfa Tir EF gyflwyno gweithred warant amnewidiol.

Mae angen y ddogfennaeth ganlynol ar gyfer cofrestru’r brydles newydd pan fydd tenant presennol yn arfer ei hawl o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 i gaffael prydles newydd.

  • I wneud cais, dylid cynnwys y trafodiad ‘estyn prydles’ yn eich cais a sicrhau y gwneir cais yn erbyn yr holl rifau teitl gofynnol a restrir yng nghymalau penodedig LR2.1 a LR2.2 yn y brydles, rhif teitl y brydles a ildiwyd ac unrhyw deitlau prydlesol rhyngol

  • Copi ardystiedig o’r brydles newydd, y mae’n rhaid iddo:

    • gael ei gyflawni gan y landlord

    • gynnwys cymalau penodedig, oni bai ei fod yn dod o fewn yr eithriadau i ddiffiniad ‘prydles cymalau penodedig’ yn rheol 58A(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler adran 2.2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 64: prydlesi cymalau penodedig

    • gynnwys yng nghymal penodedig LR5 y datganiad priodol a ddisgrifir yn adran 5.3.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad, a ragnodir gan reol 196(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 neu cyfeiriwch at y cymal, atodlen neu baragraff atodlen yn y brydles sy’n ei gynnwys

    • fod am gyfnod sy’n dod i ben 90 mlynedd ar ôl i’r brydles sy’n cael ei hildio fod wedi dod i ben fel arall ac am rent hedyn pupur, a

    • chynnwys manylion y brydles sy’n cael ei hildio os yw’r brydles newydd yn cael ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau (ond sylwch fod yn rhaid i’r brydles newydd gael ei llunio’n benodol fel prydles ac ni all fod yn weithred amrywio’r brydles bresennol)

  • Pan nad yw’r ceisydd wedi bod yn denant am y ddwy flynedd flaenorol, bydd tystiolaeth o denant cymwys yn cyflwyno rhybudd o’i hawliad i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 ynghyd ag aseinio budd y rhybudd yn ofynnol.

  • Manylion unrhyw brydlesi rhyngol rhwng teitl y landlord a’r brydles newydd. Gweler adran 5.3.4 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad.

  • Y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.

  • Copi ardystiedig o’r brydles sy’n cael ei hildio, os caiff y brydles newydd ei llunio trwy gyfeirio at ei thelerau neu lle nad yw’r brydles honno wedi ei chofrestru na’i nodi.

  • Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes ei angen (heb hyn, er bod cofrestru yn bosibl o hyd, ar adegau, bydd angen inni gynnwys cofnod gwarchodol sy’n nodi na fydd y brydles efallai yn rhwymo morgeisai’r landlord os yw’n arfer ei bwerau – gweler adran 9.3 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad.

  • Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord (ac eithrio cyfyngiad o blaid morgeisai’r landlord).

  • Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.

  • Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol (ar gyfer cyfyngiadau nad ydynt wedi eu cynnwys yng nghymal LR13 – gweler LR13: cais am ffurf safonol o gyfyngiad).

Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, rhaid uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi i’r teitl gael ei gau (gweler adran 9.8 o gyfarwyddyd ymarfer 27: y ddeddfwriaeth diwygio cyfraith lesddaliad).

  • Cyfyngiad – rhaid uwchlwytho ffurflen RX3 i’w ddileu neu ffurflen RX4 i’w dynnu’n ôl oni bai y gwneir cais am gyfyngiad cyfatebol yn erbyn y brydles newydd.

  • Rhybudd unochrog – rhaid uwchlwytho ffurflen UN2 i’w dynnu ymaith neu ffurflen UN4 i’w ddileu oni bai bod y rhybudd yn ymwneud â hawl y tenant i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a bod y brydles newydd yn cydymffurfio â hi. Os felly, mae’n bosibl y byddwn yn dileu’r rhybudd yn awtomatig.

  • Rhybuddion eraill, gan gynnwys arwystlon ecwitïol a rhai a nodwyd – rhaid uwchlwytho ffurflen CN1 oni bai bod y rhybudd yn ymwneud â hawl y tenant i brydles newydd o dan Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 a bod y brydles newydd yn cydymffurfio â hi. Os felly, mae’n bosibl y byddwn yn dileu’r rhybudd yn awtomatig.

1.4 Gwneud cais i gofrestru gweithred amrywio

Mae angen y ddogfennaeth ganlynol i gofrestru gweithred amrywio sy’n amrywio hyd prydles gofrestredig trwy gynyddu’r cyfnod neu ychwanegu tir newydd i’r graddau a brydlesir gan brydles gofrestredig (ac felly yn y naill achos neu’r llall yn effeithio ar ildiadau ac ail-roi trwy weithredu’r gyfraith).

  • Copi ardystiedig o’r weithred amrywio, y mae’n rhaid i’r landlord a’r tenant ei chyflawni.

  • Y dystysgrif Treth Dir y Dreth Stamp neu Dreth Trafodiadau Tir briodol.

  • Copi ardystiedig o’r brydles.

  • Pan fydd yr ystad brydlesol newydd yn cael ei dal gan fwy nag un person neu gorff bydd angen darparu datganiad ymddiried. Gellir darparu hyn trwy lenwi ffurflen JO. Os mai un person neu gorff yw’r tenant ond bydd yn dal yr eiddo a brydlesir ar ymddiried, rhaid ichi wneud cais am gyfyngiad Ffurf A gan ddefnyddio ffurflen RX1.

  • Cydsyniad morgeisai’r landlord, os oes angen (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).

  • Cydsyniad unrhyw uwch-landlord, os yw’r uwch brydles yn gofyn am gydsyniad o’r fath (gweler adran 2.1 o gyfarwyddyd ymarfer 28: estyn prydlesi).

  • Unrhyw gydsyniad neu dystiolaeth arall sy’n ofynnol gan gyfyngiad sy’n effeithio ar deitl y landlord.

  • Unrhyw arwystlon neu weithredoedd arwystl amnewidiol. Rhaid i gymerwr benthyg gyflawni gweithred arwystl amnewidiol a, phan fydd yn cynnwys rhyddhau, rhaid i’r rhoddwr benthyg wneud hyn. Oni bai mai ffurf arwystl gymeradwy sy’n cynnwys cais am ffurf safonol o gyfyngiad a/neu rwymedigaeth benthyciadau pellach yw’r weithred arwystl amnewidiol, dylid uwchlwytho ceisiadau ar ffurflen RX1 a/neu ffurflen CH2 os oes cyfyngiad yn y gofrestr berthnasol i’r arwystl gwreiddiol neu gofnod yn ymwneud â rhwymedigaeth i roi benthyciadau pellach.

  • Copi ardystiedig o unrhyw atwrneiaeth sy’n ofynnol.

  • Unrhyw ffurflen RX1 sy’n ofynnol.

Rhaid ichi ddelio gydag unrhyw lyffetheiriau ar y teitl prydlesol sy’n bodoli hefyd a, lle bo’n briodol, uwchlwytho tystiolaeth i gefnogi eu rhyddhau, eu tynnu’n ôl neu eu dileu er mwyn galluogi’r teitl i gael ei gau.