Cwmnïau cyfyngedig

Mae cwmni cyfyngedig wedi ei wahanu’n gyfreithiol oddi wrth y bobl sy’n berchen arno.

Mae cyfarwyddwr cwmni (yn agor tudalen Saesneg) yn gyfrifol am redeg y busnes.

Mae ffyrdd eraill o sefydlu busnes.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cyfrifoldebau cwmni cyfyngedig preifat

Bydd gennych rai cyfrifoldebau cyfreithiol, cyfrifoldebau ariannol a chyfrifoldebau eraill wrth redeg cwmni cyfyngedig.

Risgiau cyfreithiol neu ‘rhwymedigaeth’

Mae gan gwmni cyfyngedig ‘rhwymedigaeth gyfyngedig’, sy’n golygu bod perchnogion dim ond yn gyfrifol am ddyledion busnes hyd at werth eu buddsoddiad ariannol. Gall hyn eich diogelu os bydd pethau’n mynd o’i le.

Cyllid

Mae rheolau i’w dilyn wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Gall cwmnïau cyfyngedig wneud cais am fuddsoddiadau a benthyciadau busnes.

Enwi’ch busnes

Mae rheolau i’w dilyn wrth ddewis enw ar gyfer eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Cadw cofnodion a chyfrifon

Mae gan gyfarwyddwyr gyfrifoldebau y mae’n rhaid eu dilyn (yn agor tudalen Saesneg) wrth redeg cwmni, gan gynnwys:

Gall cyfarwyddwyr gyflogi pobl eraill i helpu (er enghraifft, cyfrifydd), ond y cyfarwyddwyr sy’n dal i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am y cofnodion cyfrifyddu, cofnodion y cwmni a pherfformiad y cwmni.

Cofrestru cwmni cyfyngedig

Bydd angen i chi gofrestru’ch cwmni (yn agor tudalen Saesneg) cyn i chi ddechrau masnachu.

Does dim angen i chi ddechrau masnachu’n syth – gallwch adael eich cwmni’n segur (yn agor tudalen Saesneg).

Trethi

Bydd angen i’r cwmni dalu trethi ar ei elw. Efallai y bydd angen i’r bobl sy’n tynnu arian o’r cwmni dalu treth ar yr incwm.

Bydd angen i’r cwmni cyfyngedig wneud y canlynol:

Gallwch ddewis cofrestru ar gyfer TAW cyn eich bod yn bodloni’r gofynion os ydych eisiau adennill TAW ar dreuliau busnes.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu treth wrth dynnu arian o gwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg).

Dysgwch am ryddhadau treth ar gyfer cwmnïau cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn lleihau eich bil treth.

Rheolau ar gyfer eich math chi o fusnes

Yn dibynnu ar yr hyn y mae’ch busnes yn ei wneud, efallai y bydd gennych gyfrifoldebau eraill.

Gwiriwch a oes angen y canlynol arnoch:

Mae rheolau i’w dilyn hefyd os ydych yn gwneud y canlynol:

Y lle yr ydych yn gweithio

Gwiriwch beth yw eich cyfrifoldebau os ydych yn gwneud y canlynol:

Os ydych yn rhentu neu’n prynu eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ardrethi busnes. Gall busnesau bach wneud cais am ostyngiad ar ardrethi busnes, a bydd rhai sydd ddim yn gorfod talu.

Gwiriwch a allwch hawlio swyddfa, eiddo ac offer fel treuliau.

Cyflogi pobl i helpu

Mae pethau y bydd angen i chi eu gwneud os ydych yn cyflogi eich cyflogeion eich hun. Bydd gennych fwy o gyfrifoldebau, gan gynnwys y canlynol:

Os byddwch yn cyflogi gweithwyr asiantaeth (yn agor tudalen Saesneg) neu weithwyr llawrydd (yn agor tudalen Saesneg), mae gennych gyfrifoldebau fel eu hiechyd a’u diogelwch.

Help a chymorth

Gallwch gael help gyda sefydlu eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).