Cofrestru’ch cwmni

Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru’ch cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau. Fel arfer, byddwch yn cael eich sefydlu ar gyfer Treth Gorfforaethol ar yr un pryd, oni bai bod eich cwmni neu gymdeithas yn ‘segur’ (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn cael ‘tystysgrif ymgorffori’. Mae’r dystysgrif hon yn cadarnhau bod y cwmni’n bodoli’n gyfreithiol ac yn dangos rhif y cwmni a’i ddyddiad ffurfio.

Bydd angen o leiaf 3 darn o wybodaeth bersonol arnoch ar eich cyfer chi a’ch cyfranddalwyr neu’ch gwarantwyr, er enghraifft:

  • eich tref geni

  • enw’ch mam cyn iddi briodi

  • enw cyntaf eich tad

  • eich rhif ffôn

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • rhif eich pasbort

Mae’n costio £50, a gallwch dalu hyn gyda cherdyn credyd neu gerdyn debyd. Fel arfer, bydd eich cwmni yn cael ei gofrestru o fewn 24 awr.

Mae’n cymryd mwy o amser nag arfer i gofrestru cwmnïau ar hyn o bryd oherwydd bod nifer fawr o geisiadau.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i wneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer TWE i roi gwybod i CThEF eich bod yn cyflogi staff (gan gynnwys chi eich hun os mai chi yw’r unig gyfarwyddwr)

  • parhau â chais os ydych eisoes wedi dechrau cofrestru

Os nad ydych am ddefnyddio ‘cyfyngedig’ yn enw eich cwmni, mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post.

Cofrestru nawr

Bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth ar gyfer eich cwmni pan fyddwch yn ei gofrestru. Ni allwch ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) personol ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Ffyrdd eraill o gofrestru

Gallwch gofrestru:

Pan fyddwch yn cael eich Cyfeirnod Unigryw Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, bydd angen i chi ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Cofrestru drwy’r post

Gallwch gofrestru drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen IN01 (yn agor tudalen Saesneg).

Mae ceisiadau drwy’r post yn cymryd rhwng 8 a 10 diwrnod i brosesu, ac yn costio £71 (mae’n rhaid i chi dalu hyn gyda siec yn enw ‘Companies House’).

Anfonwch eich cais i’r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen.

Cael help ar gyfer eich busnes

Gallwch gael cyngor a chymorth ar gyfer eich busnes (yn agor tudalen Saesneg).