Ychwanegu Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes

Gallwch ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes os gwnaethoch gofrestru’ch cwmni gyda Thŷ’r Cwmnïau:

Os ydych eisoes wedi ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif, mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEF i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth y Cwmni neu i wneud taliad.

Pryd i ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth

Dylech ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth at eich cyfrif pan fyddwch yn dechrau masnachu. Mae hyn yn cynnwys prynu, gwerthu, hysbysebu, rhentu eiddo a chyflogi rhywun.

Os nad yw’ch cwmni’n masnachu, fel arfer mae’n ‘segur’ at ddibenion Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Er mwyn ychwanegu Treth Gorfforaeth at eich cyfrif treth busnes, bydd angen y canlynol arnoch:

  • rhif cofrestru eich cwmni
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau masnachu (bydd cyfnod cyfrifyddu (yn agor tudalen Saesneg) cyntaf eich cwmni’n dechrau o’r dyddiad hwn)
  • dyddiad cau eich cyfrifon cyntaf
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) eich cwmni sy’n 10 digid – gallwch ddod o hyd i’ch UTR ar unrhyw lythyr gan CThEF

Os nad ydych yn cael UTR cyn pen 15 diwrnod i chi gofrestru’ch cwmni, gallwch ofyn am UTR eich cwmni ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Gwnewch yn siŵr fod cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa yn gywir (yn agor tudalen Saesneg) cyn cofrestru’ch cwmni ar gyfer Treth Gorfforaeth. Dyma lle caiff pob llythyr ei anfon. Os oes angen diweddaru’r cyfeiriad hwn, mae’n rhaid i chi roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau.

Sut i ychwanegu gwasanaethau Treth Gorfforaeth

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes Dynodydd Defnyddiwr (ID) gennych, gallwch greu un pan fyddwch yn cofrestru.

  2. Dewiswch ‘Gwasanaethau y gallwch eu hychwanegu’ yn y ddewislen ar y chwith.

  3. Chwiliwch am y gwasanaeth Treth Gorfforaeth a dewis ‘Cofrestru ar gyfer gwasanaeth’.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn anfon y canlynol atoch:

  • eich cod cychwyn ar gyfer Treth Gorfforaeth o fewn 10 diwrnod (21 diwrnod os ydych yn byw dramor)

  • cyfarwyddiadau ar sut i gychwyn y gwasanaeth Treth Gorfforaeth 

  • y dyddiad cau ar gyfer talu Treth Gorfforaeth

Gallwch wneud cais i gael cod cychwyn newydd os nad ydych wedi cael un, neu os yw’r cod wedi dod i ben.

Bydd y rhain yn cael eu hanfon drwy’r post i gyfeiriad cofrestredig eich swyddfa.

Bydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni (yn agor tudalen Saesneg), hyd yn oed os gwnewch golled neu os nad oes gennych Dreth Gorfforaeth i’w thalu.