Sefydlu cwmni cyfyngedig preifat
Gwiriwch y rheolau ar gyfer cyfeiriad cofrestredig y swyddfa a chyfeiriad e-bost cofrestredig
Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa a’ch cyfeiriad e-bost cofrestredig pan fyddwch yn sefydlu cwmni cyfyngedig.
Cyfeiriad cofrestredig y swyddfa
Mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am y cyfeiriad y byddwch yn ei gofrestru:
-
mae’n gyfeiriad daearyddol yn y DU
-
mae wedi’i leoli yn yr un wlad ag y mae eich cwmni wedi’i gofrestru ynddi, er enghraifft, mae’n rhaid i gyfeiriad cofrestredig y swyddfa ar gyfer cwmni sydd wedi’i gofrestru yn yr Alban fod yn yr Alban
Mae’n rhaid i’r cyfeiriad hefyd fod yn briodol. Mae hyn yn golygu’r canlynol:
-
byddwch chi, neu rywun sy’n gweithredu ar ran eich cwmni, yn cael gwybod am unrhyw bost sy’n cael ei anfon at eich cwmni
-
pan fydd eich cwmni’n cael post yn y cyfeiriad hwn, mae’n bosibl i’r anfonwr gael cadarnhad o hyn
Ni allwch ddefnyddio Blwch Swyddfa’r Post fel cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa mwyach.
Os ydych yn defnyddio cyfeiriad darparwr gwasanaeth (er enghraifft, cyfeiriad cyfrifydd neu gyfeiriad cyfreithiwr) fel cyfeiriad cofrestredig eich swyddfa, mae’n rhaid i’r cyfeiriad hwn fodloni’r holl ofynion hyn.
Gall eich cwmni gael ei dynnu oddi ar gofrestr Tŷ’r Cwmnïau os nad ydych yn rhoi cyfeiriad cofrestredig swyddfa sy’n bodloni’r holl ofynion hyn.
Cadw’ch cyfeiriad yn breifat
Bydd cyfeiriad cofrestredig swyddfa eich cwmni ar gael yn gyhoeddus ar y gofrestr ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad ydych am i’r cyfeiriad fod ar gael yn gyhoeddus (er enghraifft, os yw’n gyfeiriad cartref), ni ddylech ei ddefnyddio fel cyfeiriad cofrestredig swyddfa eich cwmni. Gallwch wneud un o’r canlynol:
-
defnyddio cyfeiriad gwahanol, megis cyfeiriad cyfrifydd neu gyfeiriad cyfreithiwr – mae’n rhaid i chi gael caniatâd cyn gwneud hyn
-
penodi asiant (yn agor tudalen Saesneg) a fydd yn rhoi cyfeiriad i chi i’w ddefnyddio
Mae’n rhaid i chi gael y cyfeiriad yn ei le cyn i chi gofrestru eich cwmni.
Cyfeiriad e-bost cofrestredig
Mae’n rhaid i chi roi cyfeiriad e-bost a darllen unrhyw e-byst y mae eich cwmni’n eu cael.
Ni fydd y cyfeiriad e-bost a rowch yn cael ei gyhoeddi ar y gofrestr gyhoeddus.
Mae’n bosibl y bydd Tŷ’r Cwmnïau yn defnyddio’r cyfeiriad e-bost hwn i gysylltu â chi ynghylch eich cwmni.