Memorandwm ac erthyglau cymdeithasu

Pan fyddwch yn cofrestru eich cwmni, bydd angen y canlynol arnoch:

  • ‘memorandwm cymdeithasu’ – datganiad cyfreithiol wedi’i lofnodi gan yr holl gyfranddalwyr cychwynnol neu warantwyr sy’n cytuno i ffurfio’r cwmni

  • ‘erthyglau cymdeithasu’ – rheolau ysgrifenedig ynghylch rhedeg y cwmni y cytunwyd arnynt gan y cyfranddalwyr neu’r gwarantwyr, cyfarwyddwyr ac ysgrifennydd y cwmni

Memorandwm cymdeithasu

Os byddwch yn cofrestru eich cwmni ar-lein, does dim angen i chi ysgrifennu eich memorandwm cymdeithasu eich hun. Bydd yn cael ei greu’n awtomatig fel rhan o’ch cofrestriad.

Os byddwch yn cofrestru drwy’r post, defnyddiwch y templed memorandwm cymdeithasu.

Ni allwch ddiweddaru’r memorandwm ar ôl i’r cwmni gael ei gofrestru.

Erthyglau cymdeithasu

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio erthyglau cymdeithasu safonol (a elwir yn ‘erthyglau cymdeithasu enghreifftiol’)

  • ysgrifennu eich erthyglau cymdeithasu eich hun a’u huwchlwytho neu eu hanfon pan fyddwch yn cofrestru’ch cwmni

Cwmni buddiannau cymunedol

Ni allwch ddefnyddio erthyglau cymdeithasu enghreifftiol cwmni cyfyngedig os ydych chi’n sefydlu cwmni buddiannau cymunedol (yn agor tudalen Saesneg) (CIC).

Defnyddiwch [gyfansoddiadau enghreifftiol (yn agor tudalen Saesneg)] rheoleiddiwr y cwmni buddiannau cymunedol (/government/publications/community-interest-companies-constitutions) yn lle.