Canllawiau

Erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol ar gyfer cwmnïau cyfyngedig

Y mathau o erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol a all fod gan gwmni cyfyngedig.

Rhaid bod gan bob cwmni cyfyngedig erthyglau cymdeithasiad. Mae’r rhain yn pennu’r rheolau y mae’n rhaid i swyddogion y cwmni eu dilyn wrth redeg eu cwmnïau.

Erthyglau cymdeithasiad enghreifftiol yw’r erthyglau rhagosodedig safonol y gall cwmni eu defnyddio. Cânt eu rhagnodi gan Ddeddf Cwmnïau 2006.

Esiamplau o erthyglau enghreifftiol

Yn dilyn diwygiadau a wnaed i’r erthyglau enghreifftiol ers eu cyflwyno, mae fersiynau gwahanol ar gael ar gyfer pob un o’r 3 math o gwmni cyfyngedig.

Yr erthyglau enghreifftiol diweddaraf

Ar gyfer cwmnïau a gorfforwyd ar neu ar ôl 28 Ebrill 2013:

Erthyglau enghreifftiol hŷn

Ar gyfer cwmnïau a gorfforwyd cyn 28 Ebrill 2013:

Diwygiadau i erthyglau enghreifftiol

Cafodd yr erthyglau enghreifftiol eu diwygio gan Ddeddf Iechyd Meddwl (Gwahaniaethu) 2013 ar 28 Ebrill 2013 i ddileu’r ddarpariaeth ar gyfer terfynu penodiad cyfarwyddwr ar sail iechyd meddwl. Gellid gweld y ddarpariaeth hon:

  • ym mharagraff 18(e) o’r erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau preifat wedi’u cyfyngu drwy gyfrannau neu drwy warant
  • ym mharagraff 22(e) o’r erthyglau enghreifftiol ar gyfer cwmnïau cyhoeddus

Nid oes yn rhaid ichi ddileu’r ddarpariaeth os yw hi yn eich erthyglau, ond gallwch wneud hynny trwy ddiwygio’ch erthyglau neu drwy fabwysiadu’r erthyglau enghreifftiol mwy newydd.

Pa fersiynau sy’n berthnasol

Mae’r erthyglau enghreifftiol diweddaraf yn berthnasol yn rhagosodedig i bob cwmni cyfyngedig preifat a chyhoeddus a gorfforwyd ar neu ar ôl 28 Ebrill 2013. Mae’r erthyglau enghreifftiol hŷn yn dal i fod yn berthnasol yn rhagosodedig i bob cwmni a gorfforwyd rhwng 1 Hydref 2009 a 27 Ebrill 2013 (gan gynnwys y dyddiadau hynny).

Tabl A

Tabl A yw’r enw a roir ar y diwyg penodedig ar gyfer erthyglau cymdeithasiad cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau o dan Deddf Cwmnïau 1985 a deddfwriaeth cynharach.

Wrth gorffori cwmni sydd wedi’i gyfyngu drwy gyfrannau, doedd dim angen iddo ffeilio Erthyglau os ddefnyddwyd ‘Tabl A’ fel ei erthyglau. Os dymunwch weld y rheoliadau sy’n llywio’r cwmni, bydd angen ichi gyfeirio at y ‘Tabl A’ perthnasol – y fersiwn a oedd mewn grym ar ddyddiad corfforiad y cwmni.

Os cafodd Tabl A ei ddiwygio wedyn, ni fydd y newidiadau’n effeithio ar gwmni a gafodd ei gofrestru cyn i’r diwygio ddod i rym.

Cynhwyswyd y diwyg penodedig cyntaf “The Joint Stock Companies Act, 1856”. Yn y Ddeddf honno, yr enw ar yr erthyglau oedd “Tabl B” oherwydd eu bod yn dod ar ôl diwyg ar gyfer Memorandwm Cymdeithasiad a elwid “Form A”.

Galwyd yr erthyglau ‘Tabl A’ yn gyntaf yn Neddf Cwmnïau 1862 a pharhaodd y confensiwn enwi ar gyfer y deddfau dilynol.

Rhestr Tabl A

Mae’r rhestr ganlynol yn dangos pob fersiwn ‘Tabl A’ wedi’i benodi gan:

Ymwadiad

Sylwch fod y Tablau A a welir yma wedi cael eu hatgynhyrchu o’r Deddfau, y Gorchmynion neu’r Offerynnau cyhoeddedig gwreiddiol a restrwyd uchod ac maent yn gywir hyd eithaf ein gwybod a’n cred. Fodd bynnag, nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn cyfrifoldeb am unrhyw gamgymeriad na hepgor. Dylid dibynnu’n llwyr ar y ddeddfwriaeth berthnasol fel y cafodd honno ei chyhoeddi gan y Swyddfa Gwybodaeth Sector Cyhoeddus.

Cyhoeddwyd ar 21 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2017 + show all updates
  1. Model articles for private companies limited by shares replaced by HTML version.

  2. Welsh translation added

  3. Updated with information and access to Table A.

  4. First published.