Dewis enw ar gyfer eich cwmni

Mae’n rhaid i chi ddewis enw ar gyfer eich busnes os ydych yn sefydlu cwmni cyfyngedig preifat.

Mae rheolau gwahanol ar waith ar gyfer unig fasnachwyr a phartneriaethau busnes (yn agor tudalen Saesneg).

Ni all enw eich cwmni chi fod yr un peth ag enw cwmni cofrestredig arall. Os yw enw’ch cwmni yn rhy debyg i enw cwmni arall neu nod masnach (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno.

Fel arfer, bydd yn rhaid i enw’ch cwmni orffen gyda naill ai ‘Limited’ neu ‘Ltd’. Gallwch gynnwys y geiriau Cymraeg cyfatebol ‘Cyfyngedig’ a ‘Cyf’ os ydych chi wedi cofrestru’r cwmni yng Nghymru.

Enwau ‘tebyg’

Bydd enw eich cwmni yn cael ei ystyried yn enw ‘tebyg’ os yw’r enw yr un peth ag enw cwmni arall, ond bod un o’r canlynol yn wahanol:

  • atalnodi penodol

  • cymeriadau arbennig, er enghraifft yr arwydd ‘plws’

  • gair neu gymeriad sy’n debyg o ran edrychiad neu ystyr i air neu gymeriad o enw’r cwmni arall

  • gair neu gymeriad a ddefnyddir yn gyffredin mewn enwau cwmnïau yn y DU

Enghraifft

Mae ‘Hands UK Ltd’ a ‘Hand’s Ltd’ yn debyg i ‘Hands Ltd’.

Gallwch dim ond cofrestru enw ‘tebyg’ os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae eich cwmni’n rhan o’r un grŵp â’r cwmni neu’r Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC) sydd â’r enw dan sylw

  • mae gennych gadarnhad ysgrifenedig nad oes gan y cwmni neu’r PAC unrhyw wrthwynebiad i enw eich cwmni

Enwau ‘rhy debyg’

Efallai y bydd yn rhaid i chi newid enw eich cwmni os bydd rhywun yn cwyno a bod Tŷ’r Cwmnïau yn cytuno ei fod yn enw ‘rhy debyg’ i enw a gofrestrwyd cyn eich enw chi.

Enghraifft

Mae ‘Easy Electrics For You Ltd’ yn rhy debyg i ‘EZ Electrix 4U Ltd’

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn cysylltu â chi os ydyn nhw o’r farn bod enw eich cwmni chi yn rhy debyg i enw cwmni arall – byddant hefyd yn rhoi gwybod i chi beth i’w wneud.

Rheolau eraill

Ni all enw eich cwmni fod yn sarhaus.

Ni all enw eich cwmni gynnwys gair neu ymadrodd ‘sensitif’, na chwaith awgrymu cysylltiad â llywodraeth neu awdurdodau lleol, oni bai eich bod yn cael caniatâd.

Enghraifft

I ddefnyddio ‘achrededig’ / ‘accredited’ yn enw’ch cwmni, bydd angen i chi gael caniatâd gan yr Adran Busnes a Masnachu (DBT).

Gallwch ddarllen rhagor o arweiniad ynghylch enwi eich cwmni, a pha eiriau y mae angen caniatâd arnoch i’w defnyddio os nad ydych yn siŵr.

Enw masnachu

Mae busnes yn gallu masnachu gan ddefnyddio enw sy’n wahanol i’w enw cofrestredig. Gelwir hyn yn ‘enw busnes’.

Mae’n rhaid i enwau busnes beidio â chynnwys y canlynol:

  • ‘cyfyngedig’ / ‘limited’, ‘Cyf’ / ‘Ltd’, ‘partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig’ / ‘limited liability partnership’, ‘PAC’ / ‘LLP’, ‘cwmni cyfyngedig cyhoeddus’ / ‘public limited company’, na ‘ccc’ / ‘plc’

  • gair neu ymadrodd ‘sensitif’, oni bai eich bod yn cael caniatâd i wneud hynny

Os yw’ch enw busnes yn rhy debyg i nod masnach cwmni arall (yn agor tudalen Saesneg), mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ei newid os bydd rhywun yn cwyno.

Dangos eich enw

Mae rheolau i’w dilyn wrth i chi ddangos enw eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd nad oes rhaid i chi ddefnyddio ‘cyfyngedig’ yn enw eich cwmni

Does dim rhaid i chi ddefnyddio ‘cyfyngedig’ yn enw eich cwmni os yw’ch cwmni’n elusen gofrestredig neu’n gyfyngedig drwy warant, a bod eich erthyglau cymdeithasu (yn agor tudalen Saesneg) yn nodi bod eich cwmni:

  • yn hyrwyddo neu’n rheoleiddio masnach, celf, gwyddoniaeth, addysg, crefydd, elusen neu unrhyw broffesiwn

  • yn methu â thalu ei gyfranddalwyr, er enghraifft drwy ddifidendau

  • yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyfranddaliwr gyfrannu at asedion y cwmni os caiff ei ddirwyn i ben yn ystod ei aelodaeth, neu o fewn blwyddyn iddo roi’r gorau i fod yn gyfranddaliwr