Sefydlu cwmni cyfyngedig preifat
Cyfranddalwyr a gwarantwyr
Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau cyfyngedig yn ‘cyfyngedig drwy gyfranddaliadau’. Mae hyn yn golygu bod y cwmnïau cyfyngedig hyn yn eiddo i gyfranddalwyr, sydd â hawliau penodol. Er enghraifft, efallai y bydd cyfarwyddwyr am i gyfranddalwyr bleidleisio a chytuno ar newidiadau i’r cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Mae gan gwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant warantwyr a ‘swm gwarantedig’ yn hytrach na chyfranddalwyr a chyfranddaliadau.
Mae gan y rhan fwyaf o gwmnïau gyfranddaliadau ‘cyffredin’. Mae hyn yn golygu bod pob cyfarwyddwr yn cael un bleidlais ar benderfyniadau’r cwmni am bob cyfranddaliad sydd ganddo, ac yn cael taliadau difidend.
Cyfrifo’ch cyfranddaliadau
Mae’n rhaid i gwmni sy’n gyfyngedig drwy gyfranddaliadau gael o leiaf un cyfranddaliwr, a all fod yn gyfarwyddwr. Os chi yw’r unig gyfranddaliwr, byddwch yn berchen ar 100% o’r cwmni. Nid oes uchafswm o gyfranddalwyr.
Gall pris cyfranddaliad unigol fod yn unrhyw beth. Bydd angen i’r cyfranddalwyr dalu am eu cyfranddaliadau’n llawn os oes rhaid i’r cwmni gau. Gallwch ddewis gwerth cyfranddaliadau isel (er enghraifft, £1) i gyfyngu rhwymedigaeth y cyfranddalwyr i swm rhesymol.
Dyroddi eich cyfranddaliadau cychwynnol
Pan fyddwch yn cofrestru cwmni, bydd angen i chi roi gwybodaeth am y cyfranddaliadau (a elwir yn ‘datganiad cyfalaf’). Mae hyn yn cynnwys:
-
nifer y cyfranddaliadau o bob math sydd gan y cwmni, a chyfanswm eu gwerth – a elwir yn ‘cyfalaf cyfranddaliadau’ y cwmni
-
enwau a chyfeiriadau’r holl gyfranddalwyr – a elwir yn ‘tanysgrifwyr’ neu ‘aelodau’
Enghraifft
Mae gan gwmni sy’n dyroddi 500 o gyfranddaliadau am £1 yr un gyfalaf cyfranddaliadau o £500.
Nid yw gwerth cyfranddaliadau ynghlwm wrth werth y cwmni.
Manylion rhagnodedig
Bydd angen i chi hefyd gynnwys gwybodaeth am ba hawliau y mae pob math o gyfranddaliad (a elwir yn ‘dosbarth’) yn eu rhoi i’r cyfranddaliwr. Gelwir yr wybodaeth hon yn ‘manylion rhagnodedig’, ac mae’n rhaid i’r canlynol gael ei gynnwys:
-
pa gyfran o’r difidendau y mae’r cyfranddaliwr yn ei chael
-
a all y cyfranddaliwr gyfnewid ei gyfranddaliadau am arian
-
a all y cyfranddaliwr bleidleisio ar faterion penodol y cwmni
-
faint o bleidleisiau mae’r cyfranddaliwr yn eu cael
Cwmnïau sy’n gyfyngedig drwy warant
Mae’n rhaid i chi gael o leiaf un gwarantwr a ‘swm gwarantedig’.
Mae’r gwarantwyr:
-
yn aelodau o’r cwmni
-
yn rheoli’r cwmni ac yn gwneud penderfyniadau pwysig
-
yn aelodau nad ydynt yn cymryd elw o’r cwmni fel arfer – yn lle hynny, mae’r arian yn cael ei gadw o fewn y cwmni neu fe’i defnyddir at ddibenion eraill
Swm gwarantedig
Mae gwarantwyr yn cytuno ar swm o arian i’w roi i’r cwmni os na all y cwmni dalu ei ddyledion. Dyma’r ‘swm gwarantedig’.
Mae’n rhaid i’r gwarantwyr dalu’r swm gwarantedig yn llawn i’r cwmni.
Mae’r taliad hwn yn diogelu gwarantwyr yn ystod achosion penodol, fel cau’r cwmni. Nid yw’r swm gwarantedig ynghlwm wrth werth y cwmni – chi sy’n dewis faint y mae’r gwarantwyr yn ei dalu.