Canllawiau

Gwybodaeth am y gyflogres i’w hadrodd i CThEF

Dysgwch beth sydd angen i chi ei gynnwys yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) a’ch Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) os ydych yn talu cyflogeion drwy TWE.

Fel cyflogwr sy’n rhedeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg), mae angen i chi adrodd ynghylch cyflog eich cyflogai, ynghyd ag unrhyw fuddiannau a delir drwy’r gyflogres, a’i ddidyniadau mewn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) (yn agor tudalen Saesneg) ar neu cyn ei ddiwrnod cyflog (oni bai bod eithriad (yn agor tudalen Saesneg) yn berthnasol).

Bydd hefyd angen i chi anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y 19eg o’r mis treth dilynol fel y gall CThEF wneud unrhyw ddidyniadau perthnasol (er enghraifft, tâl statudol) o’r hyn y bydd arnoch o’ch FPS.

Os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion mewn mis treth, anfonwch EPS yn lle FPS.

Mae’n bosibl y bydd gan eich meddalwedd gyflogres enwau gwahanol ar gyfer y meysydd isod.

Gwybodaeth y cyflogwr

Dylech adrodd am y rhain ym mhob FPS ac EPS.

Maes Disgrifiad
Rhif swyddfa CThEF Rhan gyntaf eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr (3 digid) — mae hwn i’w weld ar y llythyr a anfonodd CThEF atoch pan wnaethoch gofrestru fel cyflogwr. Gallwch hefyd ddod o hyd iddo ar hysbysiadau cod P6 neu P9
Cyfeirnod TWE y Cyflogwr Ail ran eich cyfeirnod TWE y Cyflogwr (y llythrennau a’r rhifau sy’n dilyn y blaenslaes)
Cyfeirnod y Swyddfa Gyfrifon Fformat ‘123PA00012345’ — byddwch yn cael hwn gan CThEF ar ôl i chi gofrestru fel cyflogwr. Mae hyn ar gael ar-lein os ydych yn talu drwy ddull electronig neu drwy eich llyfryn talu P30BC os nad ydych yn gwneud hynny
Y flwyddyn dreth berthnasol Y flwyddyn Dreth Incwm y mae’r adroddiad hwn yn berthnasol iddi

Dylech gynnwys y rhain os ydynt yn berthnasol i’ch busnes.

Maes Disgrifiad
Rhif Contractio Allan y Cyflogwr (ECON) Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich tystysgrif contractio allan neu gan y gweinyddwr cynllun pensiwn
SA UTR Eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad (SA) os ydych yn unig fasnachwr, neu UTR ar gyfer y bartneriaeth os ydych yn bartneriaeth
Cyfeirnod COTAX Eich cyfeirnod Treth Gorfforaeth, os ydych yn gwmni cyfyngedig. Os oes gennych fwy nag un cyfeirnod, nodwch gyfeirnod y cwmni sy’n gyfrifol am gontractau cyflogaeth

Gwybodaeth ynghylch cyflogeion

Mae’n rhaid i chi anfon FPS bob tro y byddwch yn talu cyflogai.

Maes Disgrifiad
Rhif Yswiriant Gwladol Rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai. Gadewch hwn yn wag os nad ydych yn gwybod beth ydyw, ond gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi ei gyfeiriad
Teitl
Cyfenw neu enw teuluol
Enw cyntaf neu enw a roddwyd
Ail enw neu enw a roddwyd
Blaenlythrennau Bydd angen cynnwys hwn dim ond os na fyddwch yn gwybod ei enw(au) cyntaf llawn
Dyddiad geni
Rhywedd
Cyfeiriad Nodwch ei gyfeiriad os yw’n gyflogai newydd, neu os nad ydych yn gwybod ei rif Yswiriant Gwladol neu os yw cyfeiriad y cyflogai wedi newid
Cod post yn y DU Os ydych yn nodi cod post y cyflogai, mae’n bwysig eich bod chi’n gwneud yn siŵr ei fod yn gywir. Os ydych yn nodi cod post anghywir, gallai hyn arwain at gyfeiriad y cyflogai’n cael ei newid ar ein systemau a gohebiaeth yn cael ei hanfon i’r cyfeiriad anghywir
Gwlad dramor Dylech nodi’r gwlad breswyl dim ond os yw’n byw y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw. Mae hefyd angen i chi lenwi’r maes ‘Cyfeiriad’
ID ar y gyflogres Gallwch bennu ID ar y gyflogres i’ch cyflogeion. Mae’n rhaid i’r ID fod yn unigryw. Defnyddiwch un gwahanol os byddwch yn ail-gyflogi rhywun (os byddwch yn gwneud hyn yn ystod yr un flwyddyn dreth, ailddechreuwch ei wybodaeth flwyddyn hyd yma o ‘£0.00’) neu os oes gennych gyflogai sydd â mwy nag un swydd yn yr un cynllun TWE. Os byddwch chi’n ailddefnyddio ID ar y gyflogres a ddefnyddiwyd yn flaenorol, byddwch chi’n creu cofnod dyblyg a bydd yr adroddiad ar y gyflogres yn anghywir
Dangosydd newid i ID ar y gyflogres Dylech osod y dangosydd ar gyfer newid ID y gyflogres dim ond wrth roi gwybod am newidiadau i ID y gyflogres gan wneud yn siŵr bod yr ‘HEN’ ID ar y gyflogres yn cael ei nodi ynghyd â’r ID ar y gyflogres ‘NEWYDD’. Ni ddylech gynnwys y dyddiad cychwyn gwreiddiol. Peidiwch â nodi ‘Iawn’ os defnyddioch ID ar y gyflogres gwahanol pan wnaethoch chi ailgyflogi rhywun a oedd wedi gadael yn ystod yr un flwyddyn. Dylech wneud yn siŵr bod data ariannol y flwyddyn hyd yma yn cronni o’r hyn sydd ar y cyflwyniad blaenorol
Yr hen ID y Gyflogres am y gyflogaeth hon Dylech nodi hen ID y cyflogai dim ond os yw ei ID wedi newid ers eich FPS diwethaf. Ni ddylech gwblhau hwn os ydych yn ailgyflogi rhywun. Os nad ydych yn nodi’r ID, a bod ganddo fwy nag un swydd yn eich cynllun TWE, mae’n bosibl y bydd eich bil TWE yn cael ei gyfrifo’n anghywir
Dangosydd patrwm talu afreolaidd Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os nad yw’r cyflogai yn cael ei dalu’n gyson (er enghraifft, mae’n gyflogai achlysurol neu’n absennol o’r gwaith yn hirdymor) neu os nad ydych yn mynd i’w dalu am 3 mis neu fwy

Cyflog a didyniadau

Hysbysu gwybodaeth ynghylch cyflog a didyniadau pob cyflogai mewn FPS.

Cyflog a didyniadau a wnaed yn y chwarter hwn

Maes Disgrifiad
Cyflog trethadwy Cyfanswm y cyflog trethadwy a wnaed i’r cyflogai (hyd yn oed os nad oes treth yn ddyledus) yn y cyfnod hwn, gan gynnwys unrhyw fuddiannau rydych wedi’u trethu drwy’r gyflogres
Treth a ddidynnwyd neu a ad-dalwyd
Ad-daliad Benthyciad Myfyrwyr sydd wedi’i adennill
Ad-daliad Benthyciad Ôl-raddedig sydd wedi’i adennill
Cyflog ar ôl didyniadau statudol Ei gyflog net ar ôl i chi ddidynnu treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr. Peidiwch â chynnwys taliadau rydych yn eu cynnwys yn ‘Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol’
Didyniadau o gyflog net Unrhyw ddidyniadau rydych wedi’u gwneud er enghraifft, taliadau cynhaliaeth plant (peidiwch â chynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau Benthyciadau Myfyrwyr)
Ar streic Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os gwnaethoch leihau cyflog eich cyflogai oherwydd ei fod ar streic
Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Unrhyw daliad a wnaed i’r cyflogai nad yw’n agored i dreth TWE neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol a anfonwyd gyda’r taliad ‘salari’ ar gyfer y cyfnod hwn
Math o gynllun benthyciad myfyriwr Dewiswch y math o gynllun benthyciad myfyriwr sydd gan eich cyflogai. Os nad ydych yn gwybod hyn, dylai’ch cyflogai wirio gyda’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, fel arall dylech ddewis cynllun 1 hyd nes y byddwch yn cael hysbysiad dechrau benthyciad myfyriwr (SL1)

Cyfansymiau yn y flwyddyn hyd yn hyn

Enw’r maes Disgrifiad
Cyfanswm cyflog trethadwy hyd yn hyn Cyfanswm cyflog trethadwy hyd yn hyn yn y gyflogaeth hon yn unig, gan gynnwys unrhyw fuddiannau sydd wedi’u trethu drwy’r gyflogres, gan gynnwys y taliad hwn
Cyfanswm y dreth hyd yma
Cyfanswm yr ad-daliadau Benthyciad Myfyrwyr a adenillwyd hyd yn hyn
Cyfanswm yr ad-daliadau Benthyciad Ôl-raddedig a adenillwyd hyd yn hyn

Os ydych wedi cyflogi’r un person mwy nag unwaith mewn blwyddyn dreth, dylech adrodd am ei gyflogaeth presennol yn unig.

Didyniadau pensiwn

Maes Disgrifiad
Cyfraniadau pensiwn a dalwyd o dan ‘drefniant cyflog net’ Cyfraniadau pensiwn a dalwyd o dan ‘drefniant cyflog net’ yn y cyfnod cyflog hwn
Cyfraniadau pensiwn cyflogai nad ydynt wedi’u talu dan ‘drefniant cyflog net’ Cyfraniadau a ddidynwyd o’i gyflog ar ôl didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn
Cyfraniadau pensiwn y cyflogai a dalwyd o dan ‘drefniant cyflog net’ yn y flwyddyn hyd yma Swm y cyfraniadau pensiwn a dalodd eich cyflogai o dan y ‘trefniant cyflog net’, hyd yma, yn y gyflogaeth hon, yn ystod y flwyddyn dreth
Cyfraniadau pensiwn y cyflogai nad oeddent wedi’u talu o dan ‘drefniant cyflog net’ yn y flwyddyn hyd yma Swm y cyfraniadau pensiwn
nad ydynt
yn cael eu talu o dan ‘drefniadau talu net’, hyd heddiw, yn y gyflogaeth hon, yn ystod y flwyddyn dreth

Tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth Statudol, tâl mabwysiadu statudol, tâl statudol ar y cyd i rieni a thâl gofal newyddenedigol statudol

Maes Disgrifiad
Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) y flwyddyn hyd yn hyn          
Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) y flwyddyn hyd yn hyn 
Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) y flwyddyn hyd yn hyn             
Tâl Ar y Cyd i Rieni (ShPP) y flwyddyn hyd yn hyn —  
Tâl Gofal Newyddenedigol Statudol (SNCP) y flwyddyn hyd yn hyn —  
ShPP: Enw olaf neu enw teuluol ar gyfer y partner Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn
ShPP: Enw cyntaf neu enw a roddwyd ar gyfer y partner Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn
ShPP: Ail enw cyntaf neu enw a roddwyd ar gyfer y partner Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn
ShPP: Rhif Yswiriant Gwladol ar gyfer y partner Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn adrodd am ShPP am y tro cyntaf ar gyfer y cyflogai hwn

Os ydych yn talu buddiannau drwy’r gyflogres

Nodwch yr wybodaeth hon os ydych wedi cytuno â CThEF i drethu buddiannau drwy’r gyflogres, yn lle adrodd yn y ffordd arferol

Maes Disgrifiad
Eitemau sy’n agored i Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 yn unig —    
Buddiannau yn y cyfnod hwn sydd wedi’u trethu drwy’r gyflogres Dylech hefyd gynnwys hwn yn y ‘Cyflog trethadwy yn y cyfnod hwn’  
Buddiannau a drethwyd drwy’r gyflogres yn y flwyddyn hyd yn hyn  

Manylion cyflog y cyflogai

Dylech roi gwybod mewn FPS am fanylion pob taliad a wnewch i gyflogai.

Enw’r maes Disgrifiad
Cod treth cyflogai      
Cod treth cyflogai: Dangosydd Wythnos 1/Mis 1 Dylech nodi ‘Iawn’ dim ond os oes ‘W1’ neu ‘M1’ ar ddiwedd ei god treth  
Oriau gwaith arferol y cyflogai Nodwch ‘A’ os yw hyn yn llai na 16 awr, ‘B’ os yw hyn yn 16 i 23.99 awr, ‘C’ os yw’n 24 i 29.99 awr, neu ‘D’ os yw’n 30 neu fwy. Nodwch ‘E’ os nad ydych yn talu’ch cyflogai yn gyson neu os ydych yn talu pensiwn gweithle neu flwydd-dal iddynt  
Amlder cyflog Nodwch ‘W1’ os yw’n wythnosol, ‘W2’ os yw’n bythefnosol, ‘W4’ os yw hyn bob 4 wythnos, ‘M1’ os yw’n fisol, ‘M3’ os yw’n chwarterol, ‘M6’ os yw hyn ddwywaith y flwyddyn, ‘MA’ os yw hyn yn flynyddol, ‘IO’ os yw’n daliad untro, neu ‘IR’ os ydych yn talu’ch cyflogai’n afreolaidd  
Dyddiad talu Dyma’r dyddiad y gwnaethoch ei dalu nid y dyddiad rydych yn rhedeg eich cyflogres. Defnyddiwch y diwrnod cyflog arferol os yw’n disgyn ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod banc  
Rhif yr wythnos dreth Yr wythnos y gwnaethoch ei dalu os ydych yn ei dalu yn wythnosol, bob pythefnos neu bob 4 wythnos   
Rhif y mis treth Y mis y gwnaethoch ei dalu os ydych yn ei dalu’n fisol, yn chwarterol, ddwywaith y flwyddyn neu bob blwyddyn  
Nifer y cyfnodau enillion a gwmpesir gan y taliad  
Cod hash Bacs Dylech nodi hyn dim ond os ydych yn ei dalu drwy Bacs gan ddefnyddio’ch Rhif Defnyddiwr Gwasanaeth (SUN)  eich hun – nid oes gofyniad i gwblhau hyn mwyach, ond gellir rhoi gwybod amdano hyd  
Dangosydd enillion cyfansymiol Nodwch ‘Iawn’ dim ond os ydych wedi ychwanegu’r enillion o fwy nag un swydd (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cyfrifo’i Yswiriant Gwladol  

Rheswm dros gyflwyno’n hwyr

Os ydych yn anfon FPS ar ôl diwrnod cyflog eich cyflogai (yn agor tudalen Saesneg), rhowch wybod pam i CThEF yn y maes ‘Rheswm dros gyflwyno’n hwyr’.

Cod CThEF  Sefyllfa Pryd i gyflwyno
G Mae gennych esgus rhesymol Cyn gynted â phosibl
G Rydych yn talu treth dramor ar ran eich cyflogai ac mae’n cymryd yn hirach na’r disgwyl i gyfrifo’r TWE a’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar y dreth honno Cyn gynted â phosibl heb fod yn hwyrach nag un mis ar ôl y dyddiad cyflwyno arferol — dewiswch god G ‘Rheswm dros gyflwyno’n hwyr’
H Rydych yn cywiro adroddiad cyflogres cynharach  Ar eich FPS rheolaidd nesaf, neu ar FPS ychwanegol, rhowch wybod beth yw’r manylion talu cywir. Dylech chi anfon hwn erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl eich FPS gwreiddiol fel y gall CThEF ddangos y cywiriad yn y bil TWE ar gyfer y mis hwnnw
F Mae gennych chi gyflogai sy’n cael £96 yr wythnos neu lai wedi’i dalu iddo neu sydd wedi gweithio i chi am lai nag wythnos Cyn pen 7 diwrnod ar ôl talu’ch cyflogai
D Rydych yn talu buddiant neu draul i’ch cyflogai lle mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol, ond nid Treth Incwm, drwy’r gyflogres. Mae hyn yn dibynnu ar y buddiant (yn agor tudalen Saesneg) Cyn pen 14 diwrnod ar ôl diwedd y mis treth
F Mae’r ffordd rydych yn talu’ch cyflogai yn seiliedig ar ei waith ar y diwrnod hwnnw (er enghraifft, talu gweithwyr cynaeafu yn seiliedig ar faint y byddant yn ei gasglu) Cyn pen 7 diwrnod ar ôl i chi dalu’ch cyflogai
A Rydych yn gyflogwr dramor sy’n talu cyflogai sy’n berson alltud, neu rydych yn eu talu nhw drwy drydydd parti Erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl gwneud y taliad
B Rydych yn talu eich cyflogai mewn cyfranddaliadau sy’n llai na’r gwerth marchnadol cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar gyfer sefyllfaoedd cymhleth
C Rydych yn gwneud unrhyw daliadau eraill nad ydynt ar ffurf arian parod (er enghraifft, talebau neu docynnau credyd) Erbyn y 19eg o’r mis treth ar ôl gwneud y taliad

Os yw CThEF yn anghytuno neu os na fyddwch yn cyflwyno FPS neu EPS, mae’n bosibl y bydd yn anfon hysbysiad i gyflwyno atoch drwy TWE Ar-lein neu eich pecyn meddalwedd gyflogres fasnachol. Dechreuodd y cosbau am gyflwyno’n hwyr (yn agor tudalen Saesneg) o 6 Hydref 2014.

Yswiriant Gwladol

Dylech gynnwys gwybodaeth am Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) yn eich FPS pan fyddwch yn talu £96 yr wythnos neu fwy i gyflogai.

Ar gyfer y cyflogeion hynny sy’n cael eu talu’n llai na hyn, bydd dim ond angen i chi gynnwys yr wybodaeth hon os nad yw hi’n ofynnol i chi adrodd ynghylch eu henillion at ddibenion treth (er enghraifft, rydych yn gyflogwr tramor nad oes angen iddo dalu treth yn y DU).

Maes Disgrifiad
Llythyren gategori Yswiriant Gwladol Llythyren gategori Yswiriant Gwladol (yn agor tudalen Saesneg) eich cyflogai.  Gallwch ddefnyddio hyd at 4 ar gyfer pob taliad
Cod post gweithle cyflogai mewn Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig Nodwch god post gweithle’r cyflogai.

Dylech nodi hwn dim ond os ydych yn hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr mewn Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi ac yn defnyddio llythyren gategori Yswiriant Gwladol sy’n benodol ar gyfer Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi.

Mae’n rhaid i hwn fod yn god post yn y DU. Os yw’ch cyflogai wedi’i leoli mewn Porthladd Rhydd neu Barth Buddsoddi sy’n safle treth arbennig nad oes ganddo god post a roddwyd gan y Post Brenhinol, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych yn gwneud camgymeriad drwy gyflwyno cod post anghywir ar gyfer gweithle’r cyflogai, defnyddiwch y cod post cywir ar gyfer y gweithle o’ch FPS rheolaidd nesaf.
Enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn Cyfanswm y cyflog sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y cyfnod hwn — fel arfer, pob taliad sy’n £96 yr wythnos neu fwy. Dylech hefyd gynnwys unrhyw gyflog o dan hyn os nad oes gofyn i chi roi gwybod amdano at ddibenion treth
Enillion gros ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn hyd yma Cyfanswm y cyflog sy’n agored i gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y flwyddyn dreth hon 
Enillion ar y Terfyn Enillion Isaf (LEL) y flwyddyn hyd yma Cyfanswm y cyflog hyd at £125 yr wythnos (£542) neu fwy. Peidiwch â chynnwys unrhyw daliadau llai, hyd yn oed os nad oes gofyn i chi roi gwybod am hyn at ddibenion treth
Enillion Uwchben y Terfyn Enillion Isaf (LEL), hyd at ac yn cynnwys y Trothwy Cynradd (PT) y flwyddyn hyd yma Cyfanswm y cyflog rhwng £125 a £242 yr wythnos, neu £542 a £1048 y mis
Enillion Upper dros y PD, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Uchaf (UEL) Cyfanswm y cyflog rhwng £242 a £967 yr wythnos, neu £1048 a £4189 y mis
Cyfraniadau’r cyflogai sy’n daladwy yn y cyfnod hwn  Prif gyfraniadau’r cyflogai (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) a ddidynnwyd o gyflog eich cyflogai yn y cyfnod hwn.
Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod cyflog, nodwch 0.00 
Cyfraniadau’r cyflogai sy’n daladwy yn y flwyddyn hyd yma Cyfanswm y prif gyfraniadau (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogai) a ddidynnwyd o gyflog eich cyflogai.
Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod talu, nodwch yr un ffigur a’r un sydd wedi’i gynnwys ar eich FPS diwethaf 
Cyfanswm cyfraniadau’r cyflogwr sy’n daladwy yn y cyfnod hwn Y cyfraniadau eilaidd (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr) sydd angen i chi eu talu yn y cyfnod hwn.
Os na fyddwch yn talu cyflogai mewn cyfnod talu, nodwch 0.00 
  Cyfanswm cyfraniadau’r cyflogwr sy’n daladwy yn y flwyddyn hyd yma Cyfanswm y cyfraniadau eilaidd (cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyflogwr).
Os na fyddwch yn talu cyflogai yn ystod cyfnod talu, nodwch yr un ffigur a’r un sydd wedi’i gynnwys ar eich FPS diwethaf
Rhif Cynllun Wedi’i Gontractio Allan (SCON) Peidiwch â llenwi hwn os ydych yn rhoi gwybod am gyfraniadau Yswiriant Gwladol ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017 ymlaen

Cyflwynwch yr wybodaeth hon am Yswiriant Gwladol pan fyddwch yn talu cyfarwyddwr (yn agor tudalen Saesneg).

Maes Disgrifiad
Dull cyfrifo cyfrifiannell cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr Rhowch ‘AN’ os ydych yn defnyddio’r dull safonol i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol y cyfarwyddwr, neu ‘AL’ os ydych yn defnyddio dull amgen
Wythnos penodi’r cyfarwyddwr Nodwch yr wythnos dreth pan benodwyd y cyfarwyddwr

EPS: yr hyn sydd angen adrodd yn ei gylch

Anfonwch EPS (yn agor tudalen Saesneg) erbyn y 19eg i hawlio unrhyw ryddhad ar yr hyn y bydd arnoch i CThEF (er enghraifft, tâl statudol) o’r FPS a anfonwyd gennych yn ystod y mis blaenorol. Os nad ydych wedi talu unrhyw gyflogeion mewn mis treth, anfonwch EPS yn lle FPS.

Dylech gynnwys eich gwybodaeth am gyflogwr ynghyd â’r wybodaeth sydd i’w gweld isod.

Adhawlio tâl statudol ar gyfer rhieni a didyniadau Cynllun y Diwydiant Adeiladu

Llenwch y meysydd hyn ar eich EPS os ydych:

Os ydych yn rhedeg mwy nag un gyflogres o dan yr un cyfeirnod TWE y Cyflogwr, dylech gynnwys cyfanswm y didyniadau ar gyfer pob un o’r cyflogresi hynny.

Maes Disgrifiad
Mis treth Nodwch pa fis treth y mae’r credyd EPS ar ei gyfer
SMP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o dâl mamolaeth statudol yr ydych wedi’i hawlio
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol SMP a adenillwyd yn y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol a adenillwyd gennych drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach
SPP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o dâl tadolaeth statudol yr ydych wedi’i hawlio’n ôl
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol SPP a adenillwyd yn y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o iawndal Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach
SAP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o dâl mabwysiadu statudol rydych wedi’i hawlio’n ôl
Iawndal ar gyfraniadau Yswiriant Gwladol SAP a adenillwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon Nodwch faint o iawndal Cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach
ShPP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon Rhowch faint o ShPP rydych wedi’i hawlio’n ôl yn ystod y flwyddyn dreth hon
ShPP a adenillwyd yn y flwyddyn dreth hon Rhowch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol rydych wedi’i adennill drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach
  SNCP a adhawliwyd yn y flwyddyn dreth hon   Rhowch faint o SNCP yr ydych wedi’i adhawlio yn ystod y flwyddyn dreth hon
  SNCP a adhawliwyd yn ystod y flwyddyn dreth hon   Nodwch faint o iawndal cyfraniadau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’i adhawlio drwy Ryddhad Cyflogwyr Bach
Didyniad CIS a wnaethpwyd Os ydych yn gwmni cyfyngedig sydd wedi cael didyniadau CIS wedi eu tynnu o daliadau a dderbyniwyd ar gyfer gwaith yn y diwydiant adeiladu, nodwch gyfanswm y didyniadau CIS a wnaethpwyd y flwyddyn hyd yn hyn

Manylion banc

Dylech gynnwys manylion y banc rydych am i CThEF wneud y taliad iddo os ydych wedi gordalu neu wedi adhawlio unrhyw ddidyniadau tâl mamolaeth statudol, tâl tadolaeth statudol, tâl mabwysiadu statudol, tâl newyddenedigol statudol neu CIS.

Maes Disgrifiad
Enw deiliad y cyfrif
Rhif y cyfrif
Cod didoli’r gangen
Cyfeirnod y gymdeithas adeiladu Os yw’n berthnasol

Ni wnaethoch dalu unrhyw gyflogeion yn ystod cyfnod

Cyflwynwch EPS sy’n cynnwys yr wybodaeth ganlynol erbyn 19eg ar ôl y mis treth lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion. Mae’r mis treth yn dechrau ar y 6ed. Peidiwch ag anfon FPS.

Maes Disgrifiad
Dim taliadau mewn cyfnod Nodwch ‘Iawn’ i roi gwybod i CThEF nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion
Dim dyddiadau talu o Nodwch y 6ed o’r mis cyntaf lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion
Dim dyddiadau talu hyd at Nodwch y 5ed o’r mis olaf lle nad oeddech wedi talu unrhyw gyflogeion
Cyfnod o anweithgarwch o Rhowch wybod i CThEF ymlaen llaw os na fyddwch yn talu unrhyw gyflogai am gyfnod o un mis o leiaf, ac uchafswm o 12 mis. Nodwch y 6ed o’r mis cyntaf pan na fyddwch yn talu cyflogeion — dim ond o ddechrau’r mis treth nesaf y gallwch roi gwybod am hyn
Cyfnod o anweithgarwch o Nodwch y 5ed o’r mis olaf lle na fyddwch yn talu unrhyw gyflogeion

Hawlio Lwfans Cyflogaeth

Gallech gael hyd at £10,500 y flwyddyn wedi’i ddidynnu o’ch Yswiriant Gwladol os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Maes Disgrifiad
Dangosydd Lwfans Cyflogaeth Rhowch ‘Iawn’ i hawlio’r lwfans. Dyma’ch datganiad eich bod wedi gwirio’ch cymhwystra i gael Lwfans Cyflogaeth.

Os na fyddwch yn gwirio’ch cymhwystra neu os byddwch yn ateb yn anghywir, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw Lwfans Cyflogaeth yr ydych wedi’i gael

Mae’n rhaid hawlio Lwfans Cyflogaeth ym mhob blwyddyn dreth. Bydd yr hawliad yn cael ei gadw am y flwyddyn dreth gyfan a bydd angen i chi gyflwyno hawliad newydd ar gyfer y flwyddyn ddilynol.

Dylech nodi ‘Na’ dim ond os nad ydych yn gymwys i hawlio neu os ydych am  dynnu hawliad.

Os yw’ch hawl yn cael ei wrthod, byddwch yn cael neges gan y Gwasanaeth Hysbysu Generig (GNS) i roi gwybod i chi.

Rhoi gwybod am yr Ardoll Brentisiaethau

O Ebrill 2017 ymlaen, mae angen i gyflogwyr sydd â bil cyflog blynyddol dros £3 miliwn, neu’n gysylltiedig â chyflogwyr eraill yn rhinwedd y rheolau ar gyfer cwmnïau cysylltiedig neu elusennau cysylltiedig, sydd rhyngddynt â bil cyflog o fwy na £3 y flwyddyn roi gwybod i CThEF ynghylch eu Ardoll Brentisiaethau.

Maes Disgrifiad
Blwyddyn dreth Rhowch y flwyddyn dreth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddi
Rhif swyddfa CThEF y cyflogwr
Cyfeirnod TWE y Cyflogwr Rhowch y flwyddyn dreth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddi
Cyfeirnod swyddfa gyfrifon y cyflogwr
Swm lwfans blynyddol ar gyfer yr Ardoll Prentisiaeth Swm lwfans blynyddol ar gyfer yr Ardoll Brentisiaethau y mae’r cyflogwr yn ei ddyrannu i gyfeirnod TWE y cyflogwr
Ardoll Brentisiaethau sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn Swm y rhwymedigaeth sy’n ddyledus ar gyfer y flwyddyn hyd yn hyn y mae’r cyflogwr wedi’i gyfrifo
Y mis treth Rhowch y mis treth y mae’r Ardoll Brentisiaethau yn berthnasol iddo

Cyflogeion newydd

Pan fydd cyflogai yn dechrau gweithio i chi, mae angen i chi eu cofrestru nhw gyda CThEF gan gynnwys yr wybodaeth hon yn eich FPS y tro cyntaf y byddwch yn ei dalu.

Maes Disgrifiad
Dyddiad dechrau Dylech lenwi hwn dim ond pan fyddwch yn talu cyflogai newydd am y tro cyntaf
Datganiad ar gyfer dechreuwr Rhowch y datganiad ar gyfer dechreuwr (yn agor tudalen Saesneg) yr ydych wedi’i gyfrifo. Peidiwch â rhoi unrhyw beth ar gyfer pensiynwyr newydd, neu gyflogeion sydd wedi’u secondio o dramor
Dangosydd Benthyciad Myfyriwr Rhowch ‘Iawn’ os oes angen i chi wneud didyniadau Benthyciad Myfyriwr ar gyfer eich cyflogai
Cyfeiriad
Cod post yn y DU
Gwlad tramor Dylech nodi ei wlad breswyl os yw’n byw y tu allan i’r DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
Rhif pasbort Dylech gynnwys hyn os gwnaethoch adolygu pasbort eich cyflogai i wirio ei fod yn cael gweithio yn y DU (yn agor tudalen Saesneg)

Mae rheolau arbennig yn berthnasol o ran yr hyn y mae angen i chi ei lenwi os ydych:

Pan fydd cyflogai yn gadael

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr wybodaeth hon pan fydd cyflogai’n gadael (yn agor tudalen Saesneg) neu os ydych yn cau eich cynllun TWE (yn agor tudalen Saesneg).

Maes Disgrifiad
Dyddiad ymadael
Dangosydd taliad ar ôl ymadael Nodwch ‘Iawn’ os ydych yn talu cyflogai ar ôl i chi anfon FPS sy’n cynnwys ei ddyddiad gadael (er enghraifft, rydych yn ei dalu ar ôl rhoi P45 iddo)

Pensiynau’r gweithle

Mae’n rhaid i chi roi gwybod am yr wybodaeth hon pan ydych yn talu pensiwn gweithle (yn agor tudalen Saesneg) neu flwydd-dal.

Maes Disgrifiad
Dangosydd pensiwn galwedigaethol Rhowch ‘Iawn’ os ydych yn gwneud taliadau pensiwn galwedigaethol
Swm blynyddol y pensiwn galwedigaethol Dylech nodi hwn dim ond pan fyddwch yn talu rhywun sydd â chynllun pensiwn gweithle sydd wedi’i gofrestru gyda CThEF. Fel arall, gadewch y maes hwn yn wag — (peidiwch â nodi 0.00)
Mae’r cyflogai yn cael pensiwn galwedigaethol oherwydd marwolaeth diweddar priod/partner sifil Rhowch ‘Iawn’ os yw hyn yn berthnasol
Math y taliad cymudo pitw Os ydych yn talu cyfandaliad — rhowch ‘A’ am gyfandaliad cymudo pitw (TCLS), ‘B’ os daw o gynllun pensiwn personol, neu ‘C’ os daw o gynllun pensiwn gweithle neu gynllun pensiwn gwasanaeth cyhoeddus
Taliad cymudo pitw Y cyfandaliad a dalwyd. Bydd hefyd angen i chi lenwi’r meysydd ‘Cyflog trethadwy hyd yma’ a ‘Cyflog trethadwy yn y cyfnod hwn’, a nodi unrhyw swm nad yw’n drethadwy yn y maes ‘Taliad nad yw’n daliad sy’n agored i dreth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol’
Taliad i rywun nad yw’n unigolyn Rhowch ‘Iawn’ os ydych yn gwneud taliadau i gynrychiolydd personol, ymddiriedolwr neu sefydliad corfforoaethol ayb

Adroddiadau diwedd blwyddyn

Bydd hefyd angen i chi gwblhau adroddiadau a thasgau blynyddol (yn agor tudalen Saesneg) penodol i baratoi ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, sy’n dechrau ar 6 Ebrill.

Rhowch wybod am yr wybodaeth hon yn FPS neu EPS terfynol y flwyddyn dreth (yn agor tudalen Saesneg). Bydd hefyd angen i chi lenwi’r meysydd perthnasol os mai dyma’ch adroddiad diwethaf oherwydd eich bod yn cau eich cynllun TWE (yn agor tudalen Saesneg).

Maes Disgrifiad newydd
Cyflwyniad terfynol am y flwyddyn Rhowch ‘Iawn’ i roi gwybod i CThEF mai dyma’ch adroddiad cyflogres terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth
Dangosydd Darfod Rhowch ‘Iawn’ os mai dyma’r adroddiad diwethaf oherwydd eich bod yn cau’ch cynllun TWE. Dylech hefyd nodi ‘Dyddiad y daeth y cynllun i ben’ a ‘Dyddiad gadael’ ar gyfer pob un o’ch cyflogeion. Peidiwch â llenwi ‘Cyflwyniad terfynol ar gyfer y flwyddyn’
Dyddiad y daeth y cynllun i ben

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Mai 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2025 to 2026. The section about claiming Employment Allowance has been updated to show the new allowance for 6 April 2025. Statutory Neonatal Care Pay has been added. Information about what to enter for the Freeport and Investment Zone special tax sites employee workplace postcode has been added.

  3. Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2023 to 2024.

  4. Rates and allowances for National Insurance contributions have been updated and will take effect from 6 July 2022.

  5. Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2022 to 2023.

  6. Code G, reasonable excuse has been updated in the 'late reporting reason' section.

  7. Clarification added to late reporting reason code G.

  8. Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2021 to 2022.

  9. The section on Claiming Employment Allowance has been updated to give more detailed information about reporting.

  10. Claim Employment Allowance section has been updated.

  11. Rates, allowances and duties have been updated for tax year 2020 to 2021.

  12. Information about where you can find the Accounts Office reference has been updated.

  13. The Lower Earnings Limit (LEL) amounts have been updated within the guidance.

  14. More details about the Student Loan Plan type has been added.

  15. The employee information section has been updated to help ensure post codes are entered correctly.

  16. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2018 to 2019.

  17. Information about running an employer payroll has been updated.

  18. The Payroll ID changed indicator section of the employee information table has been updated.

  19. Table under 'end-of-year or final reports' heading has been updated for the tax year 2017 to 2018.

  20. Information on reporting Apprenticeship Levy added to the page.

  21. Minor amend on when to complete the 'Employment Allowance indicator' field

  22. The National Insurance and Late reporting reason sections have been updated.

  23. Late reporting guidance updated on what payroll information to report to HM Revenue and Customs.

  24. Guide updated to to clarify the use of unique payroll ids and when to set the payroll id changed indicator.

  25. Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2015 to 2016.

  26. You can now tell HMRC up to 12 months in advance if you won't pay any employees and include a tax month when submitting an EPS.

  27. There is an additional situation where the 'Payment after leaving' indicator should be used.

  28. First published.

Argraffu'r dudalen hon