Canllawiau

Gwirio a allwch hawlio rhyddhad Yswiriant Gwladol mewn Parthau Buddsoddi neu Borthladdoedd Rhydd y DU sy’n safleoedd treth arbennig

Dysgwch a allwch hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr pan fyddwch yn cyflogi rhywun mewn safle treth Porthladd Rhydd yn y DU.

Wrth gyfeirio at ‘Borthladd Rhydd’ ar y dudalen hon, mae hyn hefyd yn cynnwys ‘Porthladdoedd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban’, oni nodir yn wahanol.

Ni allwch hawlio hyd nes bod y Porthladd Rhydd neu’r Parth Buddsoddi perthnasol sy’n safle treth arbennig wedi’i ddynodi.

Gwirio pa safleoedd sy’n:

Pwy all hawlio

Gallwch hawlio’r rhyddhad os oes gennych safle busnes mewn safle treth arbennig. Mae safle treth arbennig yn ddarn o dir lle gall busnesau hawlio rhyddhadau treth penodol. Weithiau, yr enw a roddir i safle treth arbennig yw ‘safle treth Porthladd Rhydd’ neu ‘safle treth Parth Buddsoddi’. Mae safle treth Porthladd Rhydd yn annibynnol ac wedi’i awdurdodi ar wahân i safleoedd tollau Porthladdoedd Rhydd, ond gallant gwmpasu’r un darn o dir.

I hawlio’r rhyddhad, mae’n rhaid i bob cyflogai wneud y canlynol:

  • treulio o leiaf 60% o’i amser gwaith yn safle sy’n cael ei ddynodi yn safle treth arbennig
  • bod wedi dechrau eu cyflogaeth rhwng 6 Ebrill 2022 a chyn:
    • 30 Medi 2031 ar gyfer safleoedd treth arbennig Porthladd Rhydd yn Lloegr
    • 30 Medi 2034 ar gyfer safleoedd treth Porthladd Rhydd yng Nghymru, safleoedd treth Porthladd Rhydd Gwyrdd yn yr Alban, a Pharthau Buddsoddi sy’n safleoedd treth arbennig
  • heb fod wedi gweithio mwy na 36 mis o’i gyflogaeth
  • heb gael ei gyflogi gennych chi neu gan gyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol

Mae’n bosibl y bydd gan rai cyflogeion nodwedd warchodedig o anabledd, beichiogrwydd neu famolaeth. Os byddai’r cyflogai fel arfer yn treulio 60% o’i amser ar y safle treth arbennig ac mae’r cyflogwr wedi addasu’r amser y mae’n rhaid i’r cyflogai ei dreulio ar y safle (oherwydd yr amgylchiadau hyn), mae’r rheol 60% yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chyflawni.

Nid yw’r awdurdodau cyhoeddus yn gallu hawlio’r rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd neu Barthau Buddsoddi.

Os bydd trefniadau gweithio cyflogai’n newid yn sylweddol

Dylech ailasesu a yw’r amodau cymhwysol yn dal i gael eu bodloni.

Mae’n rhaid i chi roi’r gorau i hawlio rhyddhad pan nad ydych yn rhagweld y bydd cyflogai yn treulio o leiaf 60% o’i amser gweithio mewn safle treth arbennig. Mae hyn yn berthnasol o ddechrau’r gyflogaeth oni bai eich bod yn gwneud addasiadau i ddarparu ar gyfer nodweddion gwarchodedig anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth.

Faint o ryddhad y gallwch ei hawlio

Bydd dim ond angen i chi dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd os yw’ch cyflogai yn ennill mwy na’r Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi sef:

  • £25,000 y flwyddyn

  • £2,083 y mis

  • £481 yr wythnos

Mae hyn yn golygu os yw cyflogai yn ennill llai na hyn, yna nid oes unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Eilaidd yn ddyledus.

Pa mor hir y gallwch hawlio’r rhyddhad

Gallwch hawlio’r rhyddhad hwn ar gyfer pob cyflogai newydd am 36 mis o ddechrau eu cyflogaeth am y cyfnod y maent yn bodloni’r amodau cymhwysol.

Sut i hawlio rhyddhad

I hawlio’r rhyddhad, rhaid i chi ddefnyddio’r llythyren categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol perthnasol wrth redeg y gyflogres. Dysgwch sut i redeg cyflogres (yn agor tudalen Saesneg). Yn ogystal, mae’n rhaid i chi ddarparu cod post gweithle cyflogeion cymwys o fewn Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) Gwybodaeth Amser Real (RTI). Mae’n rhaid i hwn fod yn god post yn y DU.

Mae’n rhaid i chi ddisgwyl yn rhesymol y bydd eich cyflogai’n treulio o leiaf 60 y cant o’u hamser gweithio yn yr un safle treth arbennig sengl lle mae gennych safle busnes. Os yw’r 60 y cant hwnnw wedi’i ledaenu ar draws sawl lleoliad yn yr un safle treth arbennig, dylech ddefnyddio cod post gweithle y lleoliad y mae’ch cyflogai yn gweithio ynddo.

Os yw’ch cyflogai’n gweithio mewn safle treth arbennig am ran o’r flwyddyn dreth, mae’n ofynnol i chi ychwanegu cod post gweithle safle treth arbennig y cyflogai ar yr FPS, hyd yn oed am y cyfnod nad yw’ch cyflogai bellach wedi’i leoli mewn safle treth arbennig.

Ar gyfer cyflogeion sydd wedi’u lleoli mewn safle treth arbennig dynodedig heb god post wedi’i neilltuo gan y Post Brenhinol, cysylltwch â’r Llinell Gymorth i Gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.

Dyma’r llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Porthladdoedd Rhydd:

Llythyren gategori Grŵp cyflogeion
F Cyfwerth â llythyren gategori safonol
I Gwragedd priod a gweddwon sydd â hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi eu gostwng
S Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth
L Cyflogeion sy’n gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth o’r amodau cymwys yn cael eu bodloni a hefyd unrhyw eithriadau sydd wedi’u rhoi ar waith, er enghraifft, beichiogrwydd.

Dyma’r llythrennau categori cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gefnogi cyflogwyr wrth iddynt hawlio rhyddhad rhag cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr Parthau Buddsoddi:

Llythyren gategori Grŵp cyflogeion
N Cyfwerth â llythyren gategori safonol
E Gwragedd priod a gweddwon sydd â hawl i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol wedi’u gostwng
K Cyflogeion sydd dros oedran pensiwn y wladwriaeth
D Cyflogeion sy’n gallu gohirio cyfraniadau Yswiriant Gwladol

Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth o’r amodau cymwys yn cael eu bodloni a hefyd unrhyw eithriadau sydd wedi’u rhoi ar waith, er enghraifft, beichiogrwydd.

Enghreifftiau

Enghraifft o gyflogai sy’n ennill o dan y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi

Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 1 Gorffennaf 2024 sy’n cael cyflog gros o £2,000 y mis (£24,000 y flwyddyn).

Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 4 diwrnod (30 awr, 80%) o’i amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig ac 1 diwrnod (7.5 awr, 20%) o’i wythnos waith yn gweithio o gartref am weddill blwyddyn dreth 2024 i 2025 fel bod y cyflogai yn bodloni’r rheol 60%.

Yn ymarferol, nid yw’r cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.

Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.

Mae’r cyflogai a’r cyflogwr yn bodloni’r rheolau, ac felly mae’r cyflogwr yn hawlio’r rhyddhad.

Gan fod enillion y cyflogai yn llai na Throthwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o £2,083 y mis, ni fydd y cyflogwr yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar gyfer y cyflogai hwn.

Enghraifft o gyflogai sy’n ennill dros y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi

Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 23 Mai 2024 sy’n cael cyflog gros o £3,000 y mis (£36,000 y flwyddyn).

Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio ei holl amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr fel bod y cyflogai’n bodloni’r rheol 60%.

Yn ymarferol, nid yw’r cyflogai byth yn gweithio gydag amseroedd gweithio a threfniadau lleoliad gwahanol.

Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.

Mae’r cyflogai a’r cyflogwr yn bodloni’r rheolau, ac felly mae’r cyflogwr yn hawlio’r rhyddhad.

Gan fod enillion y cyflogai yn fwy na £2,083, sef y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi, bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar y symiau uwchben y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi.

Enghraifft o gyflogai yn peidio â threulio 60% o’i amser gweithio ar safle treth arbennig

Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 01 Hydref 2022 sy’n cael cyflog gros o £3,000 y mis (£36,000 y flwyddyn).

Ar ddechrau’r gyflogaeth, mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai yn treulio 2 ddiwrnod (40% o’i amser gweithio) ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig a 3 diwrnod (60% o’i amser gweithio) yn gweithio o gartref. O ganlyniad i hyn, nid yw’r cyflogai yn bodloni’r rheol 60%.

Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.

Nid yw’r cyflogai yn bodloni’r rheolau ar gyfer hawlio’r rhyddhad, felly ni all y cyflogwr hawlio’r rhyddhad.

Bydd y cyflogwr yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd arferol, heb hawlio’r rhyddhad ar yr holl enillion uwchben y Trothwy Eilaidd (£417 y mis yn y flwyddyn dreth 2025 i 2026).

Enghraifft o gyflogai’n symud i safle sy’n cael ei ddynodi yn safle treth ar ôl dechrau’r gyflogaeth

Mae’r cyflogwr yn cyflogi person ar 06 Ebrill 2022 sy’n cael cyflog gros o £2,000 y mis (£24,000 y flwyddyn). 

Mae’r cyflogai’n treulio ei amser gweithio yn safle busnes y cyflogwr sydd wedi’i leoli y tu allan i safle treth arbennig.

Nid oedd y cyflogai yn gyflogedig gan y cyflogwr na chyflogwr cysylltiedig yn ystod y 24 mis blaenorol.

Mae’r cyflogwr yn ehangu drwy agor safle busnes ychwanegol o fewn safle sydd newydd gael ei ddynodi yn safle treth arbennig. Ar 6 Ebrill 2024, caiff y cyflogai ei drosglwyddo i safle busnes newydd y cyflogwr. Mae gan y cyflogwr ddisgwyliad rhesymol y bydd y cyflogai’n treulio 4 diwrnod (30 awr, 80%) o’i amser gweithio ar safle busnes y cyflogwr mewn safle treth arbennig ac un diwrnod (7.5 awr, 20%) o’i wythnos waith yn gweithio o gartref, fel bod y cyflogai’n bodloni’r rheol 60%.

Gall y cyflogwr hawlio’r rhyddhad o 6 Ebrill 2024 (y dyddiad y dechreuodd y cyflogai fodloni’r amodau perthnasol) tan 5 Ebrill 2025 (diwedd eu 36 mis cyntaf o gyflogaeth).

Gan fod enillion y cyflogai yn llai na Throthwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi o £2,083 y mis, ni fydd y cyflogwr yn talu unrhyw gyfraniadau Yswiriant Gwladol eilaidd ar gyfer y cyflogai hwn o 6 Ebrill 2024 i 5 Ebrill 2025.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 Ebrill 2025 show all updates
  1. The how to claim section has been updated to include information on workplace postcodes. Under the Examples heading, the example of an employee not spending 60% of their working time in the special tax site has been updated with 2025 figures.

  2. Information about employees spending 60% of their time at special tax sites has been updated and an example of an employee moving to a designated tax site after start of employment has been added.

  3. Added translation

  4. The extension details for English Freeport special tax sites, Scottish Green Freeports Welsh Freeports and Investment Zone special tax sites have been added.

  5. References to Investment Zone special tax sites have been added.

  6. Updated to explain the conditions for claiming National Insurance relief when an employee's working arrangements change substantially.

  7. Welsh translation added.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon