Trosolwg

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF (CThEF) pan fyddwch yn croesawu cyflogai newydd ac mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru fel cyflogwr.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Cyn i chi dalu’ch cyflogai sydd newydd gychwyn, dilynwch y camau hyn.

  1. Gwiriwch a oes angen i chi ei dalu drwy TWE.

  2. Casglwch wybodaeth y cyflogai er mwyn cyfrifo’i god treth - os nad oes gennych ei P45, defnyddiwch y ‘rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn’ gan CThEF (sydd wedi cymryd lle’r P46).

  3. Darganfyddwch a oes angen iddo ad-dalu benthyciad myfyriwr.

  4. Defnyddiwch y manylion hyn i osod eich cyflogai newydd ar eich meddalwedd gyflogres.

  5. Cofrestrwch eich cyflogai gyda CThEF gan ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS). 

Mae’n rhaid i chi hefyd ddilyn yr un camau ag yr ydych yn eu dilyn wrth gyflogi rhywun (yn agor tudalen Saesneg), er enghraifft gwirio a all y person weithio yn y DU.