Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd

Sgipio cynnwys

Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 hwyr

Efallai y bydd angen i chi ddiweddaru eich cofnodion cyflogres os bydd eich cyflogai’n rhoi datganiad rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei gofrestru gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF).

Dim ond rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn y mae angen arnoch chi gan eich cyflogai i gyfrifo’i god treth(yn agor tudalen Saesneg) os yw’r naill o’r canlynol yn wir:

  • nid oes ganddo P45
  • gwnaeth y cyflogai adael ei swydd ddiwethaf cyn Dydd Sul, 6 Ebrill 2025

Os yw CThEF wedi anfon cod treth atoch

Defnyddiwch y cod treth y mae CThEF wedi’i anfon atoch os bydd eich cyflogai’n rhoi rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn neu P45 i chi ar ôl i chi ei dalu am y tro cyntaf. Didynnwch unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr o’r dyddiad y dechreuodd eich cyflogai gyda chi.

Os nad yw CThEF wedi anfon cod atoch

P45 hwyr

Defnyddiwch P45 eich cyflogai i gyfrifo’i god treth(yn agor tudalen Saesneg) a diweddaru’i fanylion yn eich meddalwedd gyflogres.

Os oedd eich cyflogai wedi gadael ei swydd ddiwethaf ar ôl Dydd Sadwrn, 5 Ebrill 2025, dylech ddiweddaru’r ddau faes canlynol hefyd yn eich meddalwedd gyflogres:

  • Cyfanswm y cyflog hyd yma
  • Cyfanswm y dreth hyd yma

Gwnewch hyn am yr wythnos gyntaf yr oeddech wedi cynnwys yr wybodaeth hon. Os bydd eich meddalwedd yn darganfod gwallau, diweddarwch y meysydd gyda’r ffigurau cywir.

Rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn hwyr

Defnyddiwch restr wirio’ch cyflogai ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn i ddiweddaru’r datganiad ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn yn eich cofnodion cyflogres.

Parhewch i ddefnyddio’r cod treth rydych wedi’i ddefnyddio yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) hyd nes y bydd CThEF yn anfon un newydd atoch.

Pan fyddwch yn talu’ch cyflogai nesaf

Peidiwch â nodi dyddiad dechrau arall ar yr FPS, hyd yn oed os nad ydych wedi rhoi gwybod am ddyddiad dechrau o’r blaen.