Rhoi gwybod i CThEF am gyflogai newydd
Ad-daliadau benthyciad myfyriwr
Dylech wneud didyniadau benthyciad myfyriwr os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
- mae P45 eich cyflogai newydd yn dangos y dylai didyniadau barhau
- mae’ch cyflogai newydd yn rhoi gwybod i chi ei fod yn ad-dalu benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig, er enghraifft mewn rhestr wirio ar gyfer cyflogeion sy’n cychwyn
- mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn anfon ffurflen SL1 neu ffurflen PGL1 atoch a bod eich cyflogai newydd yn ennill dros drothwy’r incwm ar gyfer ei fenthyciad
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud
Dylech ddilyn y camau hyn hyd yn oed os oes gan eich cyflogai P45 o’i swydd ddiwethaf.
Gofynnwch i’ch cyflogai newydd a oes ganddo fenthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig - efallai y bydd y ddau ganddo. Os oedd y cyflogai wedi gorffen astudio ar ôl 6 Ebrill yn y flwyddyn dreth bresennol, ni fydd yn dechrau ad-dalu ei fenthyciad tan y flwyddyn dreth nesaf.
Cadwch gofnod o’i ateb yn eich meddalwedd gyflogres. Nid oes angen i chi gyfrifo’i ad-daliadau o ran adennill benthyciad - bydd eich meddalwedd gyflogres yn gwneud hyn ar eich rhan.
Os oes gan eich cyflogai fenthyciad myfyriwr, gofynnwch i’r cyflogai fewngofnodi i’w cyfrif ad-dalu a gwirio pa gynllun i’w ddefnyddio ar gyfer didyniadau. Gall gysylltu â Chwmni Benthyciadau Myfyrwyr os nad yw’n siŵr o hyd.
Os nad oes modd iddo ddweud, defnyddiwch Gynllun 5 yn eich meddalwedd gyflogres hyd nes y byddwch yn cael hysbysiad dechrau o ran benthyciad myfyriwr (SL1).
Os yw eich cyflogai yn rhoi gwybod i chi fod ganddo fwy nag un cynllun, ac nid ydych yn gwybod pa un sy’n cael ei ad-dalu, dylech ddechrau didyniadau ar gyfer y cynllun sydd â’r trothwy isaf o ran adennill hyd nes y byddwch yn cael SL1.
Gallwch ond didynnu un math o gynllun benthyciad myfyriwr ar y tro, fodd bynnag, gallwch ddidynnu benthyciad ôl-raddedig ar yr un pryd â didyniad benthyciad myfyriwr.
Gwiriwch drothwyon adennill benthyciad myfyriwr.
Rhoi gwybod i CThEF am y didyniadau hyn (yn agor tudalen Saesneg) pan fyddwch yn talu’ch cyflogai.
Rheolau arbennig
Mewn rhai achosion, mae yna reolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer didynnu benthyciad myfyriwr. Mae enghreifftiau’n cynnwys:
- rydych yn cael gorchymyn llys i gasglu dyled yn uniongyrchol o enillion eich cyflogai
- rydych yn newid pa mor aml yr ydych yn talu eich cyflogai, er enghraifft o bob wythnos i bob mis
- mae gan y cyflogai fwy nag un swydd gyda chi (yn agor tudalen Saesneg) ac mae angen i chi angen adio enillion (‘cyfansymiol’) at ei gilydd
Dod â didyniadau i ben
Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi a oes angen i chi ddod â didyniadau o gyflog eich cyflogai o ran benthyciadau i ben. Bydd yn anfon y canlynol atoch:
- ffurflen SL2 am fenthyciadau myfyriwr
- ffurflen PGL2 am fenthyciadau ôl-raddedig
Peidiwch â dod â didyniadau i ben os yw cyflogai’n gofyn i chi wneud hynny.