Cyfraddau a throthwyon ar gyfer cyflogwyr am 2026 i 2027
Defnyddiwch y cyfraddau a’r trothwyon hyn pan fyddwch yn gweithredu’ch cyflogres neu’n darparu treuliau a buddiannau i’ch cyflogeion.
Oni nodir yn wahanol, mae’r ffigurau canlynol yn berthnasol rhwng 6 Ebrill 2026 a 5 Ebrill 2027.
Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Fel arfer rydych yn gweithredu TWE fel rhan o’ch cyflogres (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn i CThEF allu casglu Treth Incwm ac Yswiriant Gwladol oddi wrth eich cyflogeion.
Bydd eich meddalwedd gyflogres yn cyfrifo faint o dreth ac Yswiriant Gwladol i’w didynnu oddi wrth gyflog eich cyflogeion. Os byddwch yn dewis rhedeg y gyflogres eich hun, mae angen i chi ddod o hyd i feddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) i wneud hyn.
Trothwyon, cyfraddau a chodau treth
Mae swm y Dreth Incwm a ddidynnwch o’ch cyflogeion yn dibynnu ar eu cod treth a faint o’u hincwm trethadwy sy’n uwch na’u Lwfans Personol.
Lloegr a Gogledd Iwerddon
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
| Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE) |
|---|---|---|
| Cyfradd treth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
| Cyfradd treth uwch | 40% | O £37,701 i £125,140 |
| Cyfradd treth ychwanegol | 45% | Mwy na £125,140 |
Yr Alban
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
| Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn gymwys iddynt (uwchlaw’r trothwy TWE) |
|---|---|---|
| Cyfradd dreth cychwyn | 19% | Hyd at £3,967 |
| Cyfradd treth sylfaenol | 20% | O £3,968 i £16,956 |
| Cyfradd dreth ganolradd | 21% | O £16,957 i £31,092 |
| Cyfradd treth uwch | 42% | O £31,093 i £62,430 |
| Cyfradd dreth uwch | 45% | O £62,431 i £125,140 |
| Cyfradd dreth uchaf | 48% | Mwy na £125,140 |
Mae cyfraddau a throthwyon Treth Incwm yn amodol ar gymeradwyaeth gan y senedd.
Cymru
Y lwfans personol safonol i gyflogeion ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:
- £242 yr wythnos
- £1,048 y mis
- £12,570 y flwyddyn
| Cyfanswm TWE | Cyfradd dreth | Enillion blynyddol y mae’r gyfradd yn berthnasol iddynt (uwchben y trothwy TWE) |
|---|---|---|
| Cyfradd treth sylfaenol | 20% | Hyd at £37,700 |
| Cyfradd treth uwch | 40% | O £37,701 i £125,140 |
| Cyfradd treth ychwanegol | 45% | Mwy na £125,140 |
Mae cyfraddau a throthwyon Treth Incwm yn amodol ar gymeradwyaeth gan y senedd.
Codau treth dros dro
Dyma’r codau treth dros dro o 6 Ebrill 2026 ymlaen:
- 1257L W1
- 1257L M1
- 1257L X
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am godau treth dros dro.
Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
| Trothwyon cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 | 2026 i 2027 |
|---|---|
| Terfyn Enillion Isaf | £129 yr wythnos £559 y mis £6,708 y flwyddyn |
| Prif Drothwy | £242 yr wythnos £1,048 y mis £12,570 y flwyddyn |
| Trothwy Eilaidd | £96 yr wythnos £417 y mis £5,000 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf porthladdoedd rhydd | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf Parth Buddsoddi | £481 yr wythnos £2,083 y mis £25,000 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf (dan 21) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Trothwy eilaidd uchaf i brentis (prentis dan 25) | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Trothwy Eilaidd Uchaf i gyn-filwyr | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
| Terfyn Enillion Uchaf | £967 yr wythnos £4,189 y mis £50,270 y flwyddyn |
Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogai (prif gyfraniadau)
Didynnwch brif gyfraniadau (Yswiriant Gwladol y cyflogai) oddi wrth gyflog eich cyflogeion drwy’r system TWE.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion sy’n cyrraedd y Terfyn Enillion Isaf, neu sy’n uwch na’r terfyn, hyd at a chan gynnwys y Prif Drothwy | Enillion sy’n uwch na’r Prif Drothwy, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Uchaf | Balans yr enillion sy’n uwch na’r Terfyn Enillion Uchaf |
|---|---|---|---|
| A | 0% | 8% | 2% |
| B | 0% | 1.85% | 2% |
| C | dim | dim | dim |
| D (Parth Buddsoddi — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
| E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod a gweddwon) | 0% | 1.85% | 2% |
| F (Porthladd Rhydd) | 0% | 8% | 2% |
| H (prentis dan 25) | 0% | 8% | 2% |
| I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod a gweddwon) | 0% | 1.85% | 2% |
| J | 0% | 2% | 2% |
| K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) | dim | dim | dim |
| L (Porthladd Rhydd — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
| M (dan 21) | 0% | 8% | 2% |
| N (Porthladd Rhydd) | 0% | 8% | 2% |
| S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | dim | dim | dim |
| V (cyn-filwr) | 0% | 8% | 2% |
| Z (dan 21 — gohirio) | 0% | 2% | 2% |
Cyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr (cyfraniadau eilaidd)
Rydych yn talu cyfraniadau eilaidd (Yswiriant Gwladol y cyflogwr) i CThEF fel rhan o’ch bil TWE. Dysgwch ragor am redeg y gyflogres a thalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
Talu treth TWE ac Yswiriant Gwladol y cyflogwr.
| Llythyren gategori Yswiriant Gwladol | Enillion sy’n uwch na’r trothwy eilaidd, hyd at a chan gynnwys y Terfyn Enillion Isaf | Enillion sy’n uwch na’r Terfyn Enillion Isaf, hyd at a chan gynnwys y Trothwy Eilaidd Uchaf ar gyfer Porthladdoedd Rhydd a Pharthau Buddsoddi | Enillion uwchben trothwyon eilaidd uchaf Porthladd Rhydd a Pharth Buddsoddi hyd at a chan gynnwys terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr | Cydbwysedd enillion uwch na’r terfyn enillion uchaf, trothwyon eilaidd uchaf ar gyfer pobl dan 21 oed, prentisiaid a chyn-filwyr |
|---|---|---|---|---|
| A | 15% | 15% | 15% | 15% |
| B | 15% | 15% | 15% | 15% |
| C | 15% | 15% | 15% | 15% |
| D (Parth Buddsoddi — gohirio) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| E (Parth Buddsoddi — cyfradd is menywod priod agweddwon) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| F (Porthladd Rhydd) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| H (prentis dan 25) | 0% | 0% | 0% | 15% |
| I (Porthladd Rhydd — cyfradd is menywod priod agweddwon) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| J | 15% | 15% | 15% | 15% |
| K (Parth Buddsoddi — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| L (Porthladd Rhydd — gohirio) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| M (dan 21) | 0% | 0% | 0% | 15% |
| N (Porthladd Rhydd) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| S (Porthladd Rhydd — pensiynwr y wladwriaeth) | 0% | 0% | 15% | 15% |
| V (cyn-filwr) | 0% | 0% | 0% | 15% |
| Z (dan 21 — gohirio) | 0% | 0% | 0% | 15% |
Cyfraddau cyfraniadau’r Cyfarwyddwr
Mae’r cyfraddau hefyd yn berthnasol i gyfarwyddwyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:
- y dulliau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyfarwyddwyr cwmni (yn agor tudalen Saesneg)
- y rheolau sy’n berthnasol i gyfarwyddwyr cwmni o ran talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddiannau
Mae’n rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiannau gwaith rydych yn eu rhoi i’ch cyflogeion — er enghraifft, ffôn symudol y cwmni. Rydych yn rhoi gwybod am, a thalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar, dreuliau a buddiannau ar ddiwedd pob blwyddyn dreth.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer 2026 i 2027 yw 15%.
Dysgwch ragor am dreuliau a buddiannau ar gyfer cyflogwyr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A yn ddyledus ar swm y dyfarniadau terfynu (yn agor tudalen Saesneg) a delir i gyflogeion sydd dros £30,000 ac ar swm y taliadau tystebau chwaraeon a delir gan bwyllgorau annibynnol sydd dros £100,000. Rydych yn rhoi gwybod am ac yn talu Dosbarth 1A ar y mathau hyn o daliadau yn ystod y flwyddyn dreth fel rhan o’ch cyflogres.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar gyfer dyfarniadau terfynu a thaliadau tystebau chwaraeon ar gyfer 2026 i 2027 yw 15%.
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A y cyflogwr.
Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSAs)
Rydych yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B os oes gennych Gytundeb Setliad TWE. Mae hyn yn caniatáu i chi wneud taliad blynyddol ar gyfer yr holl dreth a’r Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar dreuliau neu fuddiannau trethadwy bach neu afreolaidd ar gyfer eich cyflogeion.
Y gyfradd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B ar gyfer 2026 i 2027 yw 15%
Talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B.
Isafswm Cyflog Cenedlaethol
Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw’r cyflog isaf yr awr y mae gan bron pob gweithiwr yr hawl iddo yn ôl y gyfraith. Dysgwch ragor am bwy all gael yr isafswm cyflog (yn agor tudalen Saesneg).
Defnyddiwch y gyfrifiannell Isafswm Cyflog Cenedlaethol (yn agor tudalen Saesneg) i wirio a ydych yn talu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i weithwyr neu a oes arnoch daliadau iddynt o flynyddoedd blaenorol.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Ebrill 2026 ymlaen.
| Categori’r gweithiwr | Cyfradd gyflog fesul awr |
|---|---|
| 21 oed neuʼn hŷn (Cyfradd gyflog byw cenedlaethol) | £12.71 |
| 18 — 20 yn gynwysedig | £10.85 |
| O dan 18 (ond dros yr oedran gadael ysgol orfodol) | £8 |
| Prentisiaid dan 19 oed | £8 |
| Prentisiad 19 a throsodd ond yn y flwyddyn gyntaf o’u prentisiaeth | £8 |
Gwiriwch gyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer y blynyddoedd blaenorol.
Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu Statudol, Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni, Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Gofal Newyddenedigol Statudol
Defnyddiwch y gyfrifiannell mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth i gyflogwyr (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r canlynol ar gyfer eich cyflogeion:
- Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
- tâl tadolaeth neu fabwysiadu
- wythnos gymhwysol
- enillion wythnosol cyfartalog
- cyfnod absenoldeb
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 5 Ebrill 2026 ymlaen.
| Math o daliad neu adferiad | Cyfradd 2026 i 2027 |
|---|---|
| Tâl Statudol Mamolaeth Statudol — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos cyntaf | 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd |
| Tâl Mamolaeth Statudol — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol | £194.32 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa run bynnag sydd is yw’r isaf |
| Tâl Tadolaeth Statudol (SPP) — cyfradd wythnosol | £194.32 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
| Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) — cyfradd wythnosol ar gyfer y chwe wythnos gyntaf | 90% o enillion wythnosol y cyflogai ar gyfartaledd |
| SAP — y gyfradd wythnosol ar gyfer yr wythnosau sy’n weddilliol | £194.32 neu 90% o enillionwythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd leiaf |
| Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP) — cyfradd wythnosol | £194.32 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
| Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth (SPBP) — cyfradd wythnosol | £194.32 neu 90% o enillion wythnosol ar gyfartaledd y cyflogai pa’r un bynnag sydd is yw’r isaf |
| Tâl Statudol Gofal Newyddenedigol Profedigaeth (yn agor tudalen Saesneg) — cyfradd wythnosol | £194.32 neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf |
| SMP, SPP, ShPP, SAP, SPBP neu SNCP — canran cyfran o’ch taliadau y gallwch eu hadennill o CThEF | 92% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (cyfraniadau cyflogeion a chyflogwyr) yn uwch na £45,000 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol 109% os yw cyfanswm eich Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol yn £45,000 neu’n is |
Tâl Salwch Statudol (SSP)
Y gyfradd wythnosol o Dâl Salwch Statudol (SSP) ar gyfer 2026 i 2027 yw £123.25 neu 80% o enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai, pa un bynnag sydd isaf.
Mae cyfanswm yr SSP sy’n rhaid i chi ei dalu i gyflogai ar gyfer pob diwrnod mae’r cyflogai i ffwrdd o’r gwaith o’r diwrnod cyntaf o salwch (y gyfradd ddyddiol), yn dibynnu ar y ffactorau canlynol:
-
enillion wythnosol cyfartalog y cyflogai
-
sawl diwrnod cymhwysol mae’r cyflogai yn ei weithio pob wythnos
Bydd cyfradd ddyddiol yn berthnasol, naill ai yn seiliedig ar y gyfradd wythnosol safonol, neu yn benodol i’r cyflogai. Mae’r symiau i’w talu a’r cyfraddau dyddiol SSP sydd i’w gweld yn y tabl isod yn seiliedig ar y gyfradd wythnosol safonol.
Defnyddiwch y cyfrifiannell Tâl Salwch Statudol (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo tâl salwch eich cyflogai, neu ddarllen sut i gyfrifo Tâl Salwch Statudol eich cyflogai â llaw (yn agor tudalen Saesneg) gan ddefnyddio’r cyfraddau hyn.
| Cyfraddau dyddiol heb eu talgrynnu | Nifer y diwrnodau cymhwysol yn yr wythnos |
|---|---|
| £17.6071 | 7 |
| £20.5416 | 6 |
| £24.65 | 5 |
| £30.8125 | 4 |
| £41.0833 | 3 |
| £61.625 | 2 |
| £123.25 | 1 |
7 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 7 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £17.61 |
| 2 | £35.22 |
| 3 | £52.83 |
| 4 | £70.43 |
| 5 | £88.04 |
| 6 | £105.65 |
| 7 | £123.25 |
6 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 6 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £20.55 |
| 2 | £41.09 |
| 3 | £61.63 |
| 4 | £82.17 |
| 5 | £102.71 |
| 6 | £123.25 |
5 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 5 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £24.65 |
| 2 | £49.30 |
| 3 | £73.95 |
| 4 | £98.60 |
| 5 | £123.25 |
4 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 4 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £30.82 |
| 2 | £61.63 |
| 3 | £92.44 |
| 4 | £123.25 |
3 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 3 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £41.09 |
| 2 | £82.17 |
| 3 | £123.25 |
2 diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio 2 ddiwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £61.63 |
| 2 | £123.25 |
Un diwrnod cymhwysol mewn wythnos
Defnyddiwch y cyfraddau hyn i gyfrifo faint o Dâl Salwch Statudol y mae angen i chi ei dalu i gyflogai sy’n gweithio Un diwrnod cymhwysol mewn wythnos.
| Nifer y diwrnodau sydd i’w talu | Swm i’w dalu |
|---|---|
| 1 | £123.25 |
Ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr a Benthyciad Ôl-raddedig
Os yw enillion eich cyflogeion uwchlaw’r trothwy enillion, cofnodwch eu didyniadau benthyciad myfyriwr a’u didyniadau benthyciad ôl-raddedig (yn agor tudalen Saesneg) yn eich meddalwedd gyflogres. Bydd yn cyfrifo ac yn didynnu ad-daliadau o’u cyflog yn awtomatig.
| Trothwy neu gyfradd | Cyfradd 2026 i 2027 |
|---|---|
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 1 | £26,900 y flwyddyn £2,241.66 y mis £517.30 y flwyddyn |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 2 | £29,385 y flwyddyn £2,448.75 y mis £565.09 y flwyddyn |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 4 | £33,795 y flwyddyn £2,816.25 y mis £649.90 y flwyddyn |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad myfyriwr cynllun 5 | £25,000 y flwyddyn £2,083.33 y mis £480.76 y flwyddyn |
| Didyniadau Benthyciad Myfyrwyr | 9% |
| Trothwy enillion cyflogai ar gyfer benthyciad ôl-raddedig | £21,000 y flwyddyn £1,750 y mis £403.84 yr wythnos |
| Didyniad Benthyciad Ôl-raddedig | 6% |
Ceir cwmni: cyfraddau tanwydd ymgynghorol
Defnyddiwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol i gyfrifo costau milltiroedd os ydych yn darparu ceir cwmni i’ch cyflogeion.
Mae’r cyfraddau hyn yn gymwys o 1 Rhagfyr 2025 ymlaen.
| Maint yr injan | Petrol — swm y filltir | LPG — swm y filltir |
|---|---|---|
| 1400cc neu lai | 12 ceiniog | 11 ceiniog |
| 1401cc a 2000cc | 14 ceiniog | 13 ceiniog |
| Dros 2000cc | 22 ceiniog | 21 ceiniog |
| Maint yr injan | Diesel — swm y filltir |
|---|---|
| 1600cc neu lai | 12 ceiniog |
| 1601cc a 2000cc | 13 ceiniog |
| Dros 2000cc | 18 ceiniog |
Caiff ceir hybrid eu trin fel ceir petrol neu diesel at y diben hwn.
Gwiriwch gyfraddau tanwydd ymgynghorol am gyfnodau blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).
Cyfradd drydanol ymgynghorol ar gyfer ceir sy’n gwbl drydanol o 1 Rhagfyr 2025 ymlaen
| Lleoliad gwefru | Trydan — swm fesul milltir |
|---|---|
| Gwefrwr cartref | 7 ceiniog |
| Gwefrwr cyhoeddus | 14 ceiniog |
Nid yw trydan yn danwydd at ddibenion buddiant tanwydd ceir.
Cerbydau cyflogeion: taliadau lwfans milltiroedd
Taliadau lwfans milltiroedd yw’r hyn rydych yn ei dalu i’ch cyflogeion am ddefnyddio eu cerbyd eu hunain ar gyfer teithiau busnes.
Gallwch dalu swm cymeradwy o daliadau lwfans milltiroedd i’ch cyflogeion bob blwyddyn heb orfod rhoi gwybod i CThEF amdanynt. I gyfrifo’r swm cymeradwy, lluoswch filltiroedd teithio busnes eich cyflogai am y flwyddyn â chyfradd y filltir ar gyfer ei gerbyd.
Dysgwch ragor am roi gwybod am daliadau lwfans milltiroedd a’u talu (yn agor tudalen Saesneg).
| Math o gerbyd | Cyfradd fesul milltir busnes 2026 i 2027 |
|---|---|
| Car | At ddibenion treth — 45 ceiniog ar gyfer y 10,000 cyntaf o filltiroedd busnes yn ystod blwyddyn dreth, yna 25 ceiniog am bob milltir ddilynol At ddibenion Yswiriant Gwladol — 45 ceiniog ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
| Beic modur | 24 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
| Beic | 20 ceiniog at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol ac ar gyfer yr holl filltiroedd busnes |
Lwfans Cyflogaeth
Mae’r Lwfans Cyflogaeth yn caniatáu i gyflogwyr cymwys (yn agor tudalen Saesneg) ostwng eu rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol flynyddol hyd at swm y lwfans blynyddol.
Y Lwfans Cyflogaeth ar gyfer 2026 i 2027 yw £10,500.
Ardoll Brentisiaethau
Mae cyflogwyr a chwmnïau cysylltiedig sydd â chyfanswm bil cyflogau blynyddol o dros £3 miliwn yn agored i dalu’r Ardoll Brentisiaethau, sy’n daladwy bob mis. Bydd gan gyflogwyr nad ydynt yn gysylltiedig â chwmni neu elusen arall lwfans blynyddol sy’n gostwng y swm o Ardoll Brentisiaethau y mae’n rhaid i chi ei thalu. Codir yr Ardoll Brentisiaethau ar sail canran o’ch bil cyflog blynyddol.
| Lwfans neu dâl | Cyfradd 2026 i 2027 |
|---|---|
| Lwfans Ardoll Brentisiaethau | £15,000 |
| Tâl Ardoll Brentisiaethau | 0.5% |