Hawl

Pan fo cyflogai’n cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith er mwyn mabwysiadu plentyn neu i gael plentyn drwy drefniant mam fenthyg, mae’n bosibl bod ganddo hawl i Dâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Gall cyflogeion cymryd hyd at 52 wythnos o Absenoldeb Mabwysiadu Statudol. Gelwir y 26 wythnos gyntaf yn ‘Absenoldeb Mabwysiadu Cyffredin’, a’r 26 olaf fel ‘Absenoldeb Mabwysiadu Ychwanegol’.

Gall absenoldeb ddechrau:

  • ar y dyddiad mae’r plentyn yn dechrau byw gyda’r cyflogai neu hyd at 14 diwrnod cyn y dyddiad lleoli disgwyliedig (mabwysiadu yn y DU)
  • pan fo cyflogai wedi’i baru â phlentyn i’w leoli â hwy gan asiantaeth mabwysiadu yn y DU
  • pan fo plentyn yn cyrraedd y DU neu cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn (mabwysiadu o dramor)
  • y diwrnod y cafodd y plentyn ei eni neu’r diwrnod wedyn (rhieni sydd â threfniadau mam fenthyg)

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae Tâl Mabwysiadu Statudol (SAP) ar gyfer cyflogeion yn:

  • 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros am y 6 wythnos gyntaf
  • £172.48 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog gros (pa un bynnag sydd isaf) ar gyfer y 33 wythnos nesaf

Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Cyfrifo absenoldeb a thâl mabwysiadu cyflogai gan ddefnyddio cyfrifiannell mamolaeth a thadolaeth.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl.

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gallwch gynnig mwy na’r symiau statudol os oes gennych gynllun cwmni ar gyfer absenoldeb a thâl mabwysiadu. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr bod polisïau eich cynlluniau yn eglur ac ar gael i staff.

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau cyflogaeth cyflogai (fel yr hawl i gyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod absenoldeb mabwysiadu. Rydych yn dal i orfod talu Tâl Mabwysiadu Statudol hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.