Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfnod rhybudd

Nid oes rhaid i rybudd fod ar bapur oni bai eich bod y gofyn am hynny.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion roi 28 diwrnod o rybudd cyn eu bod am gael eu talu Tâl Mabwysiadu Statudol, oni bai bod yr amser rhwng paru’r plentyn a’i leoli yn llai na hynny.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogai roi gwybod y canlynol i chi cyn pen 7 diwrnod o gael ei baru â phlentyn:

  • faint o absenoldeb mae am gael
  • dyddiad dechrau ei absenoldeb mabwysiadu
  • ‘dyddiad y lleoli’ - y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn â hwy

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Mae yna wahanol reolau ar gyfer mabwysiadu o dramor a threfniadau â mam fenthyg sydd dramor.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael eu ‘hysbysiad swyddogol’, rhaid i gyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor roi gwybod i chi ddyddiad yr hysbysiad a phryd y maent yn disgwyl i’r plentyn gyrraedd y DU.

Os ydynt wedi gweithio i chi am lai na 26 wythnos, gallant roi gwybod i chi cyn pen 28 diwrnod o’r dydd Sul yn eu 26ain wythnos yn lle hynny.

Rhaid iddynt roi gwybod y canlynol i chi:

  • y dyddiad mae’r plentyn yn cyrraedd y DU mewn gwirionedd - cyn pen 28 diwrnod o’r dyddiad hwn
  • faint o absenoldeb y maent eisiau a pryd maent am iddo ddechrau - gan roi o leiaf 28 diwrnod o rybudd i chi

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau gyda mam fenthyg

O leiaf 15 wythnos cyn y dyddiad disgwyl, mae’n rhaid i cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg roi gwybod i chi pryd mae’r babi i fod i gael ei eni a phryd y maent eisiau dechrau eu habsenoldeb. Gallwch ofyn i gael hyn yn ysgrifenedig.

Mae gennych 28 diwrnod i ysgrifennu atynt i gadarnhau dyddiad dechrau a dyddiad dod i ben eu habsenoldeb.

Newidiadau i ddyddiadau absenoldeb

Rhaid i cyflogeion roi gwybod i chi am newidiadau i ddyddiadau absenoldeb o leiaf 28 diwrnod cyn eu dyddiad dechrau gwreiddiol neu’r dyddiad dechrau newydd - p’un bynnag sydd gynharaf.

Rhaid i chi ysgrifennu atynt os oes rhaid i chi newid dyddiadau dechrau a dyddiadau dod i ben eu habsenoldeb.

Rhaid i gyflogeion roi 8 wythnos o rybudd os ydynt am newid y dyddiad y maent am ddychwelyd i’r gwaith.