Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr
Cadw cofnodion
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer Cyllid a Thollau EM (CThEM), gan gynnwys:
- tystiolaeth o fabwysiadu
- y dyddiad y dechreuodd Tâl Mabwysiadu Statudol
- y taliadau Tâl Mabwysiadu Statudol rydych wedi’u gwneud - yn cynnwys dyddiadau
- y taliadau rydych wedi’u hadennill
- unrhyw wythnosau ni wnaethoch dalu a pam
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion am 3 blynedd o ddiwedd y flwyddyn dreth y maent yn berthnasol iddi (er enghraifft drwy ddefnyddio ffurflen SAP2 neu drwy gadw cofnodion eich hun).