Tâl ac Absenoldeb Mabwysiadu Statudol: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Tystiolaeth o fabwysiadu

Mae’n rhaid i gyflogeion roi tystiolaeth i chi o’r mabwysiadu er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Tâl Mabwysiadu Statudol. Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer Absenoldeb Mabwysiadu Statudol oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Ar gyfer mabwysiadu rhaid i’r dystiolaeth ddangos y canlynol:

  • enw a chyfeiriad yr asiantaeth a’r cyflogai
  • y dyddiad y cafodd y plentyn ei baru, er enghraifft y dystysgrif paru
  • y dyddiad disgwyliedig neu’r dyddiad gwirioneddol y lleolir y plentyn, er enghraifft llythyr gan yr asiantaeth
  • ‘hysbysiad swyddogol’ yr awdurdod DU perthnasol yn cadarnhau bod y rhiant yn cael mabwysiadu (mabwysiadu o dramor yn unig)
  • y dyddiad cyrhaeddodd y plentyn yn y DU, er enghraifft ticed awyren (mabwysiadu o dramor yn unig)

Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’r dystiolaeth.

Trefniadau mam fenthyg

Nid oes angen tystiolaeth ar gyfer absenoldeb neu dâl oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Os ydych yn gofyn amdano mae’n rhaid i gyflogeion roi datganiad ysgrifenedig i chi (‘datganiad statudol’) er mwyn cadarnhau’r canlynol:

  • eu bod yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni yn ystod y 6 mis ar ôl enedigaeth y baban
  • maent yn disgwyl i’r gorchymyn cael ei roi (er enghraifft oherwydd nid oes ganddynt unrhyw euogfarnau yn eu herbyn yn ymwneud â phlant, ac mae’r fam fiolegol neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant)