Cymhwystra

Bydd rhai cyflogeion ddim yn gymwys am absenoldeb a thâl efo’i gilydd.

Absenoldeb Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion:

Nid oes yn rhaid iddynt roi tystiolaeth o’r mabwysiadu neu o’r trefniant â mam fenthyg oni bai eich bod yn gofyn amdano.

Absenoldeb ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Rhaid i gyflogai hefyd lofnodi ffurflen SC6 os yw’n mabwysiadu plentyn o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.

Tâl Mabwysiadu Statudol

Mae’n rhaid i gyflogeion:

Os yw’ch cyflogai fel arfer yn ennill £123 neu fwy yr wythnos ar gyfartaledd, a gwnaeth ond ennill llai mewn rhai wythnosau oherwydd ei fod yn cael ei dalu ond ddim yn gweithio (‘ar ffyrlo’) o dan y Cynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws), gall fod yn gymwys o hyd.

Defnyddiwch y cyfrifiannell tâl mabwysiadu er mwyn gwirio cymhwystra’r cyflogai ac i gyfrifo’i wythnos paru, cyfnod perthnasol, cyfnod hysbysu a thâl mabwysiadu.

Mae rheolau arbennig ar gyfer rhai sefyllfaoedd, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl, neu mae ei blentyn yn marw.

Tâl ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu plentyn o dramor

Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sy’n mabwysiadu o dramor, ar wahân i fod rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos ar ddechrau’r wythnos pan fydd y tâl yn cychwyn.

Rhaid iddynt hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydynt yn mabwysiadu â phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad yw’n cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.

Tâl ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg

Mae’r gofynion yr un peth ar gyfer cyflogeion sydd â threfniadau mam fenthyg, ar wahân i fod rhaid iddynt fod wedi’u cyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod yn y 15fed wythnos cyn bod y baban i fod i gyrraedd.

Os ydych yn gofyn amdano, mae’n rhaid iddynt hefyd roi tystiolaeth i chi eu bod yn bwriadu dod yn rhiant cyfreithiol y baban.

Pwy sydd ddim yn gallu bod yn gymwys

Ni fydd cyflogeion yn gymwys ar gyfer absenoldeb na thâl mabwysiadu os yw’r canlynol yn wir:

  • mae’n dod yn warcheidwad arbennig neu ofalwr sy’n berthynas
  • mae’n mabwysiadu llysblentyn neu aelod o’r teulu
  • mae’n mabwysiadu’n breifat, er enghraifft heb ganiatâd oddi wrth awdurdod yn y DU neu asiantaeth mabwysiadu