Cael help ariannol gyda Thâl Statudol

Neidio i gynnwys y canllaw

Yr hyn y gallwch ei adennill

Fel cyflogwr, fel arfer gallwch adennill 92% o Dâl Mamolaeth Statudol, Tadolaeth Statudol, Tâl Mabwysiadu, Tâl Rhieni Mewn Profedigaeth a Thâl Ar y Cyd i Rieni.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gallwch adennill 103% os yw’ch busnes yn gymwys i gael Rhyddhad Cyflogwr Bach. Cewch hyn os gwnaethoch dalu £45,000 neu lai mewn Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (gan anwybyddu unrhyw ostyngiadau fel Lwfans Cyflogaeth) yn y flwyddyn dreth gyflawn ddiwethaf cyn:

  • yr ‘wythnos gymhwysol’ - y 15fed wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn wythnos y dyddiad disgwyl
  • yr ‘wythnos baru’ - yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) yr hysbyswyd eich cyflogai ei fod wedi cael ei baru â phlentyn gan yr asiantaeth fabwysiadu
  • y dyddiad ar yr hysbysiad swyddogol os yw’ch cyflogai yn mabwysiadu plentyn o wlad arall
  • yr ‘wythnos gymhwysol’ - yr wythnos (dydd Sul i ddydd Sadwrn) cyn marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Sut i adennill

Cyfrifwch faint fyddwch yn ei gael yn ôl gan ddefnyddio’ch meddalwedd gyflogres. I adennill y taliadau, dylech eu cynnwys mewn Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwyr (EPS) i Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Gallwch ysgrifennu i Swyddfa’r Cyflogwyr TWE i ofyn am ad-daliad os na allwch osod y taliadau yn erbyn rhwymedigaethau’r flwyddyn gyfredol. Ni allwch wneud hyn tan ddechrau’r flwyddyn dreth nesaf.

Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
HMRC
BX9 1ST