Cael help ariannol gyda Thâl Statudol

Neidio i gynnwys y canllaw

Os na allwch fforddio gwneud taliadau

Gallwch wneud cais am i Gyllid a Thollau EM (CThEM) eich talu ymlaen llaw os na allwch fforddio gwneud taliadau statudol.

Sut i wneud cais am daliad ymlaen llaw

Gwnewch gais ar-lein i gael eich talu ymlaen llaw am y canlynol:

  • Tâl Mamolaeth Statudol (SMP)
  • Tâl Tadolaeth Statudol
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Tâl Statudol ar y cyd i Rieni (ShPP)

Gallwch wneud cais hyd at 4 wythnos cyn eich bod am gael y taliad cyntaf - gall CThEM ddychwelyd eich cais os byddwch yn gwneud cais yn gynharach.

Mae ffordd wahanol o wneud cais am daliad ymlaen llaw ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Gellir codi cosb arnoch (o hyd at £3,000 y cyflogai ar gyfer pob blwyddyn dreth) os ydych yn cynnwys gwybodaeth anghywir yn eich cais.

Ad-dalu’ch taliad ymlaen llaw

Anfonwch Grynodeb o Daliadau’r Cyflogwr (EPS) ar gyfer pob cyfnod cyflog rydych yn adennill taliadau statudol - hyd yn oed os cawsoch daliad ymlaen llaw gan CThEM i dalu taliadau statudol i’ch cyflogeion.

Os yw’r taliadau statudol rydych yn eu hadennill yn fwy na’ch didyniadau TWE ar gyfer y mis hwnnw, bydd CThEM yn defnyddio’n awtomatig yr hyn sydd ar ôl i ostwng yr hyn sy’n ddyledus gennych ar eich taliad ymlaen llaw.

Enghraifft

Mae gennych £2,500 mewn didyniadau TWE i’w talu ar ôl anfon eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).

Rydych yn adennill £3,000 mewn taliadau statudol yn eich Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr.

Bydd eich taliad ymlaen llaw yn gostwng £500 (£3,000 llai £2,500).

Os oes arnoch unrhyw beth o hyd i CThEM ar ddiwedd y cyfnod y mae’r taliad ymlaen llaw yn ei gwmpasu, talwch nhw erbyn dyddiad talu arferol y mis hwnnw.

Cyllid ymlaen llaw ar gyfer blynyddoedd treth blaenorol

I wneud cais am daliad ymlaen llaw ar gyfer taliad statudol sy’n ymwneud â blwyddyn dreth flaenorol nad ydych wedi’i thalu eto, ysgrifennwch i CThEM.

Cyllid a Thollau EM / HM Revenue and Customs
Trysorlys Corfforaethol / Corporate Treasury
BX9 1BG

Yr hyn i’w gynnwys yn eich cais

Gwybodaeth eich cyfrif CThEM:

  • eich cyfeirnod yn y Swyddfa Gyfrifon (dangosir hwn ar glawr blaen eich llyfryn taliadau P30BC neu lythyr P30B ‘Talu TWE yn electronig’)
  • eich cyfeirnod TWE (mae hwn hefyd ar eich llyfryn taliadau P30BC, neu’r llythyr sydd â’r pennawd ‘Rhif cofrestru a chyfeirnod cyflogwr newydd’)

Manylion eich cais:

  • enw a rhif Yswiriant Gwladol y cyflogai rydych yn gwneud y taliadau statudol iddo
  • y dyddiad y dechreuodd y cyflogai gyflogaeth gyda chi (yn achosion TUPE y dyddiad y dechreuodd gyflogaeth gyda’r busnes, nid y dyddiad y gwnaethoch gymryd drosodd)
  • y dyddiadau y mae eich cais yn ymwneud â hwy
  • manylion unrhyw ostyngiad i’ch taliadau misol neu chwarterol rydych wedi’i wneud
  • y cyfanswm y mae gennych hawl i’w hadennill
  • y swm rydych yn hawlio cyllid ymlaen llaw ar ei gyfer

Gwybodaeth benodol ar gyfer y taliad statudol perthnasol:

  • ar gyfer tâl mamolaeth a thâl mabwysiadu, y dyddiad geni neu fabwysiadu disgwyliedig
  • ar gyfer tâl tadolaeth, y dyddiad geni neu fabwysiadu gwirioneddol
  • ar gyfer tâl mabwysiadu, p’un a yw’r mabwysiadu yn y DU neu dramor
  • ar gyfer Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol, y dyddiad y mae’r fam neu’r mabwysiadwr ar y cyd yn dychwelyd i’r gwaith ac yn rhoi’r gorau i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol

Dylech hefyd gynnwys y canlynol:

  • y dyddiad y dechreuodd eich busnes (yn achosion TUPE, y dyddiad y dechreuodd y busnes, nid y dyddiad y gwnaethoch gymryd drosodd)
  • eich manylion cyswllt - er enghraifft enw, rhif ffôn
  • manylion y cyfrif banc yr hoffech i CThEM dalu iddo - dylech gynnwys cod didoli, enw a rhif cyfrif (neu rif rôl y gymdeithas adeiladu)

Os ydych yn ansolfent

Bydd CThEM yn talu Tâl Mamolaeth Statudol, Tâl Tadolaeth, Tâl Mabwysiadu neu Dâl Rhieni Mewn Profedigaeth os oedd eich cyflogeion yn cael y taliadau hyn pan fyddwch yn mynd yn fethdalwr.

Bydd CThEM hefyd yn talu tâl mamolaeth i gyflogeion beichiog sydd wedi pasio’r wythnos gymhwysol ond sydd heb ddechrau cael SMP.

Mae’n rhaid i chi (neu rywun arall fel y gweinyddwr neu’r ddatodwr) gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM a rhoi gwybod iddynt eich bod yn fethdalwr.

Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Ffôn: 0300 200 1900
Dydd Llun i Dydd Gwener, 8:30am i 5pm

Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau

Mae’n rhaid i chi hefyd ddweud wrth eich cyflogai i gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM.