Trosolwg

Efallai y bydd cyflogeion yn gallu cael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP) os ydynt wedi cael babi neu wedi mabwysiadu plentyn.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Gall cyflogeion ddechrau SPL os ydynt yn gymwys a’u bod nhw neu eu partner yn dod â’u cyfnod mamolaeth neu fabwysiadu i ben yn gynnar. Bydd yr absenoldeb sy’n weddill ar gael fel SPL. Mae’n bosibl y bydd y tâl sy’n weddill ar gael fel ShPP.

Gall cyflogeion gymryd SPL mewn hyd at 3 bloc ar wahân. Gallant hefyd rannu’r absenoldeb gyda’u partner os ydynt hefyd yn gymwys. Gall rhieni ddewis faint o’r SPL fyddant yn ei gymryd yr un.

Enghraifft Mae mam a’i phartner yn gymwys i gael SPL a ShPP. Mae’r fam yn dod â’i chyfnod absenoldeb a thâl mamolaeth i ben ar ôl 12 wythnos, gan adael 40 wythnos ar gael ar gyfer SPL a 27 wythnos ar gael ar gyfer ShPP. Gall y rhieni ddewis sut i rannu hyn.

Rhaid i SPL a ShPP gael ei gymryd rhwng genedigaeth y babi a’i ben-blwydd cyntaf (neu cyn pen 1 blwyddyn o’r mabwysiad).

Mae SPL a ShPP ond ar gael yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.