Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra

Weithiau dim ond un rhiant mewn cwpl fydd yn gymwys i gael Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) a Thâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP). Mae hyn yn golygu na allant rannu’r absenoldeb.

Os yw’ch cyflogai’n gymwys, gall ddefnyddio SPL i archebu ei wyliau mewn blociau ar wahân.

Absenoldeb ar y Cyd i Rieni

I fod yn gymwys ar gyfer SPL, rhaid i’ch cyflogai rannu’r cyfrifoldeb am y plentyn gydag un o’r canlynol:

  • ei ŵr, gwraig, partner sifil neu fabwysiadwr ar y cyd
  • rhiant arall y plentyn
  • ei bartner (os yw’n byw gydag ef)

Rhaid i’ch cyflogai neu ei bartner fod yn gymwys i gael tâl mamolaeth neu absenoldeb, tâl neu absenoldeb mabwysiadu neu Lwfans Mamolaeth.

Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:

  • dal i gael ei gyflogi gennych tra bydd yn cael SPL
  • rhoi’r rhybudd cywir i chi gan gynnwys datganiad bod ei bartner yn bodloni’r gofynion cyflogaeth ac incwm sy’n caniatáu i’ch cyflogai gael SPL
  • fod wedi cael ei gyflogi’n barhaus gennych am o leiaf 26 wythnos hyd at unrhyw ddiwrnod o’r ‘wythnos gymhwysol’, neu’r wythnos y caiff ei baru â phlentyn i’w fabwysiadu yn y DU

Yr ‘wythnos gymhwyso’ yw’r 15fed wythnos cyn y disgwylir i’r babi gael ei eni.

Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni

Mae’n gallu cael ShPP os yw’n gyflogai ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

Mae’r cyflogai hefyd yn gallu cael ShPP os yw’n weithiwr ac yn gymwys i gael SMP neu SPP.

Gwrthod SPL neu ShPP

Gallwch wrthod SPL neu ShPP os nad yw’r cyflogai’n gymwys.

Rhaid i chi roi gwybod i’r cyflogai am y rheswm os ydych yn gwrthod ShPP. Nid oes rhaid i chi roi rheswm dros wrthod SPL.