Hawl

Os yw cyflogai’n gymwys a’i fod ef neu ei bartner yn dod â’i absenoldeb a thâl mamolaeth neu fabwysiadu (neu Lwfans Mamolaeth) i ben yn gynnar, gall:

  • gymryd gweddill y 52 wythnos o absenoldeb (hyd at uchafswm o 50 wythnos) fel Absenoldeb Rhiant a Rennir (SPL)
  • gymryd y gweddill o’r 39 wythnos o dâl (hyd at uchafswm o 37 wythnos) fel Tâl Statudol ar y Cyd i Rieni (ShPP)

Rhaid i fam gymryd o leiaf 2 wythnos o absenoldeb mamolaeth ar ôl yr enedigaeth (4 os yw’n gweithio mewn ffatri).

Telir ShPP ar gyfradd o £184.03 yr wythnos neu 90% o enillion wythnosol cyfartalog cyflogai, pa un bynnag sy’n is.