Absenoldeb a Thâl ar y Cyd i Rieni: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Blociau o wyliau

Gall cyflogai sy’n cymryd Absenoldeb ar y Cyd i Rieni (SPL) rannu ei absenoldeb mewn i hyd at 3 bloc ar wahân yn hytrach na chymryd y cyfan ar yr un pryd, hyd yn oed os nad yw’n rhannu’r absenoldeb gyda’i bartner.

Os yw’r ddau riant yn cymryd SPL yna gallant gymryd eu habsenoldeb ar yr un pryd â’i gilydd neu ar wahanol adegau.

Rhaid i’r cyflogai roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i chi cyn i floc o absenoldeb ddechrau.

Rhannu blociau

Os ydych yn cytuno, gall y cyflogai rannu bloc o absenoldeb mewn i gyfnodau byrrach o wythnos o leiaf. Er enghraifft, gall y cyflogai weithio bob yn ail wythnos yn ystod bloc 12 wythnos, gan ddefnyddio cyfanswm o 6 wythnos o’i SPL.

Ni allwch wrthod cais am floc o absenoldeb os yw’r cyflogai’n gymwys ac yn rhoi’r rhybudd cywir i chi. Nid oes rhaid i chi gytuno i’r cyflogai’n torri’r bloc o absenoldeb yn gyfnodau byrrach.