Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Gall cyflogai fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn wir:

  • mae gan y cyflogai neu ei bartner blentyn o dan 18 oed sydd wedi marw
  • cafodd y cyflogai neu ei bartner farw-enedigaeth ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd

Rhaid i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth fod wedi digwydd ar neu ar ôl:

  • 6 Ebrill 2020 os ydych yn gyflogedig yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban
  • 6 Ebrill 2022 os ydych yn gyflogedig yng Ngogledd Iwerddon

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Absenoldeb Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai gymryd absenoldeb o 2 wythnos o ddiwrnod cyntaf ei gyflogaeth ar gyfer pob plentyn sydd wedi marw neu a oedd yn farw-anedig.

Gall ddewis cymryd:

  • 2 wythnos gyda’i gilydd
  • 2 wythnos o absenoldeb ar wahân
  • un wythnos o absenoldeb yn unig

Mae’r absenoldeb:

  • yn gallu dechrau ar neu ar ôl dyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth
  • yn gorfod dod i ben cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

Cymryd absenoldeb gyda mathau eraill o absenoldeb statudol

Os oedd y cyflogai yn cymryd math arall o absenoldeb statudol pan ddigwyddodd y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, mae’n rhaid i Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau ar ôl i’r absenoldeb arall ddod i ben. Mae hyn yn cynnwys os yw’r absenoldeb statudol ar gyfer plentyn arall.

Os yw dechrau math arall o absenoldeb statudol yn torri ar draws Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth cyflogai, gall gymryd ei hawl i Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill ar ôl i’r absenoldeb arall hwnnw ddod i ben.

Rhaid cymryd yr Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth sy’n weddill cyn pen 56 wythnos i ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Gellir cymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth rhwng cyfnodau o absenoldeb ar y cyd i rieni a oedd eisoes wedi’u trefnu pan fu farw’r plentyn, hyd yn oed os yw’r absenoldeb ar y cyd i rieni ar gyfer plentyn arall.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth ar gyfer cyflogai cymwys naill ai’n £184.03 yr wythnos neu’n 90% o’i enillion wythnosol cyfartalog (pa un bynnag sydd isaf). Mae angen didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.

Cyfrifo Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyflogai gan ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol neu arweiniad ar sut i wneud cyfrifiad â llaw.

Mae gan rai mathau o gyflogaeth, megis gweithwyr asiantaeth, cyfarwyddwyr a gweithwyr addysgol, wahanol reolau o ran hawl.

Absenoldeb neu dâl ychwanegol

Gall eich cwmni gynnig mwy o absenoldeb a thâl, ond gallwch ond adennill 2 wythnos o daliad ar gyfer pob cyflogai ac ar gyfer pob marwolaeth.

Dylech sicrhau bod eich polisïau o ran Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth yn glir ac yn hygyrch i staff.

Hawliau cyflogaeth

Diogelir hawliau’r cyflogai (fel yr hawl i godiad cyflog, gwyliau a dychwelyd i swydd) yn ystod Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth.

Rydych yn dal i orfod talu Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth hyd yn oed os ydych yn rhoi’r gorau i fasnachu.