Skip to main content

Lawrlwytho Offer TWE Sylfaenol CThEF

Mae Offer TWE Sylfaenol yn feddalwedd gyflogres sy’n rhad ac am ddim gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) ar gyfer busnesau sydd â llai na 10 cyflogai.

Mae’r arweiniad hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Yr hyn y mae’n ei wneud

Mae’r feddalwedd yn eich galluogi i weithredu rhan fwyaf o dasgau’r gyflogres, gan gynnwys cyfrifo’r dreth a’r Yswiriant Gwladol ar gyfer eich cyflogeion ac anfon yr wybodaeth hon at CThEF.

Os oes gennych feddalwedd gyflogres na all wneud rhai tasgau, gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol ochr yn ochr â hi er mwyn gwneud y canlynol:

  • gwirio rhif Yswiriant Gwladol cyflogai newydd
  • anfon Crynodeb o Daliadau’r Cyflogwr

Mae gan Offer TWE Sylfaenol rai cyfyngiadau. Nid yw wedi’u cynllunio ar gyfer asiantau na llyfrifwyr. Mae meddalwedd gyflogres (yn agor tudalen Saesneg) arall ar gael.

Cyn i chi ddechrau

Mae’n rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru gyda CThEF fel cyflogwr a bod â’r gallu i fewngofnodi ar gyfer TWE Ar-lein cyn y gallwch ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol.

Lawrlwytho’r fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol

Bydd y feddalwedd yn gweithio gyda’r rhan fwyaf o gyfrifiaduron newydd a’r porwyr diweddaraf.

Os yw’ch cyfrifiadur yn rhan o rwydwaith o gyfrifiaduron, efallai na fydd modd i chi lawrlwytho unrhyw feddalwedd. Cysylltwch â Gwasanaethau TG eich rhwydwaith i gael cymorth.

Os ydych yn cael trafferth lawrlwytho neu agor Offer TWE Sylfaenol, gwiriwch y canllaw ynghylch argaeledd y gwasanaeth ac unrhyw broblemau a allai fod wedi codi (yn agor tudalen Saesneg) i wybod beth i’w wneud.

Mae’r arweiniad ynghylch sut i ddefnyddio Offer TWE Sylfaenol yn esbonio sut i lawrlwytho’r feddalwedd, ei gosod, a’i defnyddio i ddechrau anfon gwybodaeth am y gyflogres at CThEF.

Diweddaru’r feddalwedd

Bydd y fersiwn ddiweddaraf o Offer TWE Sylfaenol yn gwirio am ddiweddariadau yn awtomatig, fel arfer pan fydd y flwyddyn dreth yn newid neu pan ddaw rheolau newydd i rym. Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn dewis yr opsiwn i ddiweddaru yng nghosodiadau’r feddalwedd pan fyddwch yn ei gosod am y tro cyntaf.

Y fersiwn ddiweddaraf yw 26.1.26134.173934. Caiff rhif y fersiwn ei ddangos o fewn ‘Gosodiadau/Settings’ yng nghornel dde uchaf yr offeryn.

Peidiwch â dadosod y fersiwn o’r feddalwedd yr ydych wedi bod yn ei defnyddio, neu byddwch yn colli data’r gyflogres.

Gofynion sylfaenol ar gyfer y caledwedd

Er mwyn gallu defnyddio Offer TWE Sylfaenol, mae’n rhaid bod gan eich caledwedd y nodweddion canlynol (o leiaf):

  • Intel(R) Core (i3/i5/i7/i9), cyfwerth ag AMD, neu’n uwch
  • 4GB RAM
  • disg caled 80 GB, 7200 rpm
  • caledwedd fideo sy’n gallu defnyddio DirectX 11 (neu’n uwch)

Systemau gweithredu sy’n cael eu cynnal

Mae’r systemau gweithredu canlynol yn cael eu cynnal:

  • Windows 10 ac 11
  • macOS fersiwn 15 ‘Sequoia’ a 26 ‘Tahoe’
  • Ubuntu Linux fersiwn 24.04 LTS a 25.10

Dim ond systemau gweithredu sy’n cydweddu â fersiynau 64-bit Intel/AMD sy’n cael eu cynnal. Mae MacOS hefyd wedi’i gynnal ar broseswyr Apple Silicon.

Porwyr sy’n cael eu cynnal

Gallwch ddefnyddio’r porwyr canlynol os oes angen meddalwedd gynorthwyol arnoch:

  • Microsoft Edge (Windows yn unig)
  • Google Chrome
  • Mozilla Firefox
  • Apple Safari (macOS yn unig)

Anghenion eraill

Mae angen cysylltiad gweithredol â’r rhyngrwyd arnoch ar gyfer y canlynol:

  • cyflwyno gwybodaeth am y gyflogres ar-lein
  • diweddariadau awtomatig
  • nodweddion e-bost
  • cysylltiadau i’r we

Bydd angen Adobe Reader, neu feddalwedd gyfatebol sy’n cydweddu, i allu agor ffurflenni argraffadwy.