Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cyfnod rhybudd

Mae’n rhaid i gyflogai roi rhybudd ynghylch Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth yn ogystal â thystiolaeth ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth.

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Mae gan gyflogai 56 wythnos i gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae hyn yn dechrau o ddyddiad marwolaeth y plentyn.

Rhennir y 56 wythnos yn 2 gyfnod:

  • o ddyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth hyd at 8 wythnos ar ôl hynny
  • 9 i 56 wythnos ar ôl dyddiad y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth

Gall cyflogai gymryd ei absenoldeb fel bloc unigol o bythefnos, neu fel 2 wythnos ar wahân.

Mae’n rhaid i chi gael rhybudd gan y cyflogai cyn iddo gymryd Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth. Mae faint o rybudd y mae’n rhaid iddo ei roi yn dibynnu ar ba bryd y mae’n cymryd yr absenoldeb.

0 i 8 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i gyflogai roi rhybudd i chi cyn yr amser y byddai fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod y mae’n dymuno ei gymryd i ffwrdd o’r gwaith.

9 i 56 wythnos ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Mae’n rhaid i gyflogai roi o leiaf un wythnos o rybudd i chi cyn dechrau’r wythnos neu’r wythnosau y mae’n dymuno eu cymryd i ffwrdd o’r gwaith.

Sut y dylai cyflogeion roi rhybudd i chi

Dylent roi gwybod i chi am y canlynol:

  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn
  • pryd yr hoffent i’w Habsenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth ddechrau
  • faint o absenoldeb maent yn ei gymryd – naill ai 1 neu 2 wythnos

Gall cyflogai roi rhybudd i chi yn anffurfiol, er enghraifft dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost.

Ni allwch ofyn am y canlynol:

  • rhybudd am absenoldeb yn ysgrifenedig (megis cadarnhad ysgrifenedig o absenoldeb mewn e-bost, llythyr neu ffurflen)
  • rhybudd i ganslo absenoldeb yn ysgrifenedig
  • tystiolaeth o hawl i absenoldeb
  • manylion am berthynas y cyflogai â’r plentyn neu’r baban

Canslo Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai ganslo’i Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth os yw wedi rhoi mwy na’r rhybudd gofynnol i chi ar gyfer cymryd absenoldeb.

Os oedd yn dechrau’r absenoldeb cyn pen 8 wythnos i’r farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid iddo roi gwybod i chi am y canslo – a hynny heb fod yn hwyrach na’r amser y byddai fel arfer yn dechrau’r gwaith ar ddiwrnod cyntaf yr absenoldeb a gynlluniwyd.

Os oedd yn dechrau’r absenoldeb 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth, rhaid iddo roi gwybod i chi ddim hwyrach nag un wythnos cyn dechrau’r absenoldeb a gynlluniwyd.

Gall y cyflogai aildrefnu wythnos arall o absenoldeb os yw’n canslo cyn bod yr absenoldeb i fod i ddechrau, ac os yw’n rhoi’r rhybudd cywir i chi.

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Mae’n rhaid i gyflogai ofyn am Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth cyn pen 28 diwrnod, gan ddechrau gyda diwrnod cyntaf yr wythnos y mae’n dymuno hawlio tâl amdani.

Rhaid iddo roi i chi yn ysgrifenedig (er enghraifft, llythyr neu e-bost) bob tro:

  • dyddiadau’r cyfnod y mae’n dymuno hawlio Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth amdano
  • ei enw
  • dyddiad marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn

Bydd hefyd angen i’r cyflogai roi hunan-ddatganiad i chi i gadarnhau ei fod yn gymwys oherwydd ei berthynas â’r plentyn neu’r baban – dim ond pan fydd yn gofyn am dâl yn gyntaf y mae angen iddo roi hyn.

Canslo Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Gall cyflogai ganslo’i Dâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth os yw wedi rhoi mwy na’r rhybudd gofynnol i chi ar gyfer hawlio tâl.

Os oedd ei dâl i fod i ddechrau cyn pen 8 wythnos i farwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, mae’n rhaid iddo roi rhybudd i chi ar ddiwrnod cyntaf yr wythnos o dâl y mae’n dymuno ei chanslo.

Os oedd ei dâl i fod i ddechrau 9 wythnos neu’n hwyrach ar ôl marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn, mae’n rhaid iddo roi gwybod i chi ei fod am ganslo un wythnos cyn bod ei dâl i fod i ddechrau.