Absenoldeb a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth: arweiniad i gyflogwyr

Neidio i gynnwys y canllaw

Cymhwystra

Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth a Thâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, mae’n rhaid i gyflogai fodloni’r meini prawf fel rhiant (gan gynnwys os oedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd) ac fel cyflogai. Efallai na fydd yn gymwys ar gyfer y ddau.

Os oedd y cyflogai’n rhiant i’r plentyn neu’n bartner i’r rhiant

Bydd cyflogai yn gymwys os oedd, ar adeg marwolaeth neu farw-enedigaeth y plentyn:

  • yn rhiant i’r plentyn neu’r baban – naill ai’n fiolegol, yn fabwysiadol, neu’n rhiant i blentyn a aned i fam fenthyg
  • yn bartner i riant y plentyn neu’r baban

Nid yw rhieni biolegol yn gymwys ar ôl i orchymyn mabwysiadu neu orchymyn rhiant gael ei wneud, oni bai bod gorchymyn cyswllt ar waith ar ôl y mabwysiadu.

Os nad y cyflogai oedd rhiant y plentyn, ond roedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am y plentyn

Gall cyflogai fod yn gymwys os oedd y canlynol yn wir amdano neu ei bartner:

  • roedd y plentyn neu’r baban yn byw gydag ef yn ei gartref am 4 wythnos barhaus, gan ddod i ben gyda dyddiad y farwolaeth
  • roedd ganddo gyfrifoldeb o ddydd i ddydd am ofal y plentyn neu’r baban yn ystod yr adeg honno

Os talwyd y cyflogai, neu ei bartner, i ofalu am y plentyn, nid oes ganddo hawl i absenoldeb na thâl oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • roedd yn rhiant maeth a oedd yn cael ffi neu lwfans gan gyngor lleol
  • cafodd ad-daliad am dreuliau sy’n ymwneud â gofal y plentyn neu’r baban
  • roedd yn cael taliadau o dan delerau ewyllys neu ymddiriedolaeth ar gyfer gofal y plentyn neu’r baban

Nid yw cyflogai yn gymwys os oedd un o rieni’r plentyn neu’r baban, neu rywun oedd â chyfrifoldeb rhiant (yn agor tudalen Saesneg) (cyfrifoldebau rhieni yn yr Alban) ar gyfer y plentyn, hefyd yn byw ar yr aelwyd.

Os oedd y cyflogai’n rhiant mabwysiadol

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn rhiant mabwysiadol, mae cyflogai yn gymwys:

  • ar ôl i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei roi
  • cyn i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei roi, os cafodd y plentyn ei leoli gydag ef i’w fabwysiadu ac nad amharwyd ar y lleoliad (er enghraifft, y plentyn yn cael ei leoli rywle arall dros dro) ac na stopiwyd y lleoliad chwaith

Os oedd y cyflogai yn rhiant mabwysiadol i blentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn mabwysiadu plentyn o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad oedd y gorchymyn llys eto wedi ei wneud, gallai fod yn gymwys o hyd. Rhaid i’r naill a’r llall o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • roedd y plentyn yn byw gydag ef ar ôl cyrraedd y Deyrnas Unedig
  • mae ganddo’r ‘hysbysiad swyddogol’ sy’n cadarnhau ei fod yn cael mabwysiadu

Os cafodd y cyflogai faban gyda chymorth rhiant benthyg

Os oedd y cyflogai, neu ei bartner, yn rhiant i blentyn a aned i fam fenthyg, mae cyflogai yn gymwys:

  • ar ôl i orchymyn rhiant gael ei wneud
  • cyn i orchymyn rhiant gael ei wneud os oedd wedi gwneud cais – neu wedi bwriadu gwneud cais – am orchymyn rhiant cyn pen 6 mis i enedigaeth y plentyn a’i fod yn disgwyl i’r gorchymyn gael ei roi

Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Absenoldeb Rhieni mewn Profedigaeth, rhaid i’r cyflogai hefyd:

Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

I gael Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth, mae’n rhaid i’r cyflogai fod wedi’i gyflogi’n barhaus gennych (yn agor tudalen Saesneg) am o leiaf 26 wythnos hyd at ddiwedd yr ‘wythnos berthnasol’. Yr ‘wythnos berthnasol’ yw’r wythnos (sy’n dod i ben gyda dydd Sadwrn) yn union cyn wythnos y farwolaeth neu’r farw-enedigaeth.

Mae’n rhaid i’r cyflogai hefyd:

  • parhau i fod wedi’i gyflogi gennych hyd at y diwrnod y mae’r plentyn yn marw neu’n farw-enedigol
  • ennill, ar gyfartaledd, £123 yr wythnos (gros)
  • rhoi’r rhybudd cywir i chi ar gyfer Tâl Statudol Rhieni mewn Profedigaeth

Defnyddiwch yr arweiniad ar sut i wneud cyfrifiad â llaw (yn agor tudalen Saesneg) i wirio’r hawl ac i gyfrifo’r wythnos berthnasol.

Mae rheolau arbennig (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw’r cyflogai yn gadael neu’n mynd yn sâl.