Gwneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys

I fabwysiad fod yn gyfreithiol, mae angen ichi wneud cais am orchymyn mabwysiadu gan y llys. Bydd hyn yn rhoi hawliau a chyfrifoldebau rhiant i chi ar gyfer y plentyn.

Sut i wneud cais

Os ydych eisiau mabwysiadu plentyn sydd eisoes yn byw gyda chi ar ôl i’r llys wneud gorchymyn lleoli (a elwir yn ‘mabwysiad ar ôl lleoli’), gallwch wneud cais ar-lein.

Mae’n rhaid ichi wneud cais drwy’r post ar gyfer pob math arall o fabwysiadu megis mabwysiadu llysblentyn neu fabwysiadu plentyn o wlad dramor.

Ffioedd

Mae’r llys yn codi ffi o £201 i brosesu cais.

Os byddwch yn gwneud cais am fabwysiad ar ôl lleoli ar-lein, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd.

Os byddwch yn gwneud cais drwy’r post, gallwch dalu â cherdyn credyd neu gerdyn debyd, arian parod, siec neu BACS.

Os ydych chi’n mabwysiadu mwy nag un plentyn

Bydd angen i chi lenwi cais ar wahân ar gyfer pob plentyn. Dim ond un ffi y bydd rhaid ichi dalu os byddwch yn cyflwyno:

  • pob cais ar yr un diwrnod, gan ddefnyddio’r un cyfrif ar-lein
  • pob cais ar yr un pryd drwy’r post

Gwneud cais ar-lein am fabwysiad ar ôl lleoli

Rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi am o leiaf 10 wythnos cyn ichi wneud cais.

Fe ofynnir am rywfaint o wybodaeth bersonol gennych am:

  • chi eich hun a’ch partner, os oes gennych un
  • y plentyn, gan gynnwys ers faint mae wedi bod yn byw gyda chi

Dim ond y llys a’r asiantaethau neu’r awdurdodau mabwysiadu perthnasol fydd yn gweld eich cais.

Fe ofynnir ichi hefyd am wybodaeth sydd ar orchymyn lleoli’r plentyn, er enghraifft:

  • enw’r awdurdod lleol wnaeth leoli’r plentyn yn eich gofal
  • y llys a wnaeth y gorchymyn
  • enw eich gweithiwr cymdeithasol
  • enw gweithiwr cymdeithasol y plentyn

Os nad yw’r gorchymyn lleoli gennych, bydd yr wybodaeth hon gan eich gweithiwr cymdeithasol neu asiantaeth fabwysiadu.

Gallwch gadw eich cais a dychwelyd ato ar unrhyw adeg.

Gwneud cais nawr

Gwneud cais drwy’r post

Gwneir y mwyafrif o geisiadau am orchmynion mabwysiadu yn y Llys Teulu.

Mae angen ichi anfon cais am orchymyn mabwysiadu - Ffurflen A58 wedi’i lenwi i’r llys.

Ar ôl ichi wneud cais

Gall gymryd hyd at 6 wythnos i’r llys gysylltu â chi gyda manylion dyddiad gwrandawiad. Nid oes rhaid ichi fynychu unrhyw wrandawiad.

Pan fydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:

Unwaith y bydd y gorchymyn wedi’i ganiatáu:

  • bydd y mabwysiad yn dod yn barhaol
  • bydd gan y plentyn yr un hawliau a phe baech wedi rhoi genedigaeth iddo/i, er enghraifft hawl i etifeddu

Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:

  • rhiant neu rieni genedigol y plentyn
  • unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Cael tystysgrif mabwysiadu

Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gofrestru Gyffredinol yn cynhyrchu tystysgrif mabwysiadu. Bydd y ddogfen hon yn disodli’r dystysgrif geni wreiddiol, a bydd enw newydd y plentyn i’w gweld arni.

Os ydych eisiau copi o’r dystysgrif newydd, bydd angen i chi brynu un - ni chewch gopi yn awtomatig.

Mae copi ‘llawn’ o’r dystysgrif yn costio £11. Gallwch archebu:

Byddwch angen y fersiwn llawn i allu gwneud y rhan fwyaf o bethau cyfreithiol ar gyfer eich plentyn, er enghraifft cael pasbort.