Trosolwg

I fod yn gymwys ar gyfer gallu cael ei fabwysiadu, mae’n rhaid i blentyn:

  • fod o dan 18 oed pan wneir y cais i fabwysiadu
  • peidio â bod (neu erioed wedi bod) yn briod neu mewn partneriaeth sifil

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae yna gyfarwyddyd gwahanol os ydych yn:

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Rhieni genedigol y plentyn

Gan amlaf mae’n rhaid i’r ddau riant genedigol gytuno (rhoi caniatâd) i’r mabwysiad, oni bai:

  • ni ellir dod o hyd iddynt
  • nid ydynt yn gallu rhoi caniatâd, er enghraifft oherwydd anabledd meddyliol
  • byddai’r plentyn mewn risg petai ddim yn cael ei fabwysiadu

Pwy all fabwysiadu plentyn

Mae’n bosib y gallwch fabwysiadu plentyn os ydych chi’n 21 oed neu’n hŷn (nid oes uchafswm oed) ac rydych naill ai:

  • yn sengl
  • yn briod
  • mewn partneriaeth sifil
  • yn gwpl di-briod (cwpl o’r un rhyw a chwpl o ryw arall)
  • yn bartner rhiant y plentyn

Mae yna reolau gwahanol ar gyfer mabwysiadu plant a edrychir ar eu hôl a mabwysiadau preifat.

Byw yn y DU

Nid oes rhaid i chi fod yn ddinesydd Prydeinig i fabwysiadu plentyn, ond:

  • rhaid bod gennych chi (neu eich partner, os ydych yn gwpl) gartref sefydlog a pharhaol yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
  • rhaid eich bod chi (a’ch partner, os ydych yn gwpl) wedi bod yn byw yn y DU am o leiaf 1 blwyddyn cyn i chi ddechrau’r broses fabwysiadu

Cronfa Cymorth Mabwysiadu

Efallai y gallwch gael cymorth ariannol gan y Gronfa Cymorth Mabwysiadu. Mae’n cynnig arian ar gyfer therapi i blant a theuluoedd i helpu i wella perthnasau, hyder ac ymddygiad. Gall eich gweithiwr cymdeithasol wneud cais ar eich rhan.

Os nad ydych chi’n hapus gyda sut mae’r gweithiwr cymdeithasol wedi ymdrin â’ch cais, gallwch wneud cwyn i’r cyngor. Os nad ydych chi’n hapus ag ymateb y cyngor, cysylltwch â thîm y Gronfa Cymorth Mabwysiadu.

Tîm y Gronfa Cymorth Mabwysiadu
asf@mottmac.com
01223 463 517