Mabwysiadu plentyn o wlad dramor

Gallwch fabwysiadu plentyn o wlad dramor os:

  • na ellir gofalu amdanynt mewn amgylchedd diogel yn eu gwlad eu hunain
  • byddai o fudd pennaf iddynt gael eu mabwysiadu
  • mae’r unigolyn sy’n dymuno mabwysiadu’r plentyn wedi’i asesu’n gymwys ac yn addas i fabwysiadu plentyn o wlad dramor gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU

Os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad dramor, dylech gysylltu ag asiantaeth fabwysiadu yn y DU drwy:

Mae’r broses yn wahanol os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad dramor ac rydych yn byw yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r broses fabwysiadu yn debyg i’r broses ar gyfer mabwysiadu plentyn yn y DU a bydd y gwaith yn cael ei wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU a allai godi ffi arnoch.

Os cewch eich asesu a’ch cymeradwyo fel unigolyn addas ar gyfer mabwysiadu plentyn gan asiantaeth fabwysiadu yn y DU, byddant yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud nesaf ac yn eich arwain drwy’r camau hynny.

  1. Fe anfonir eich cais i’r Adran Addysg (DfE) neu i’ch Awdurdod Canolog perthnasol yn y DU i wirio ei fod yn diwallu’r meini prawf cymhwysedd.

  2. Bydd yr Adran Addysg neu eich Awdurdod Canolog perthnasol yn y DU yn cyhoeddi Tystysgrif Cymhwysedd i Fabwysiadu ac yn ei hanfon gyda’ch cais i fabwysiadu i’r awdurdod perthnasol dramor - mae’n ofynnol mewn rhai gwledydd bod ceisiadau i fabwysiadu a’r dogfennau ategol yn cael eu hardystio gan notari, eu cyfreithloni a’u cyfieithu.

  3. Unwaith y byddwch chi wedi adnabod plentyn yr ydych chi’n dymuno ei fabwysiadu, bydd angen ichi ymweld â’r plentyn yn ei wlad ei hun. Bydd angen ichi gadarnhau yn ysgrifenedig eich bod wedi gwneud hynny a’ch bod eisiau parhau â’r cais i fabwysiadu.

  4. Efallai y bydd rhaid i chi fynd drwy brosesau llys yn y wlad lle mae’r plentyn yn byw ar hyn o bryd ac yn y DU.

  5. Unwaith y bydd y prosesau ar gyfer lleoli’r plentyn wedi’u cwblhau, bydd angen i chi drefnu cliriad mynediad i’r plentyn ddod i’r DU.

Ffioedd

Mae’r Adran Addysg yn codi ffi na ellir ei had-dalu o £2,500 ar gyfer prosesu cais i fabwysiadu plentyn o wlad dramor. Nid oes rhaid talu TAW ar y ffi.

Bydd yr Adran Addysg yn cysylltu â chi gyda manylion sut i dalu’r ffi unwaith y bydd eich cais wedi’i gymeradwyo.

Mae cost rheoli’r achos wedi’i gynnwys yn y ffi ond nid yw’n cynnwys costau’r notari, costau cyfreithloni’r cais neu’r costau cyfieithu.

Cysylltwch â’r awdurdod perthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y ffioedd a’r broses yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyfyngiadau

Mae’r DU wedi gosod cyfyngiadau ar fabwysiadu plant o’r gwledydd canlynol:

  • Cambodia
  • Guatemala
  • Nepal
  • Haiti
  • Ethiopia
  • Nigeria

Gallwch ddarllen y rhesymau dros osod cyfyngiadau ar bob gwlad.

Sut i wneud cais am esemptiad

Os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn o wlad sydd ar y rhestr o wledydd cyfyngedig, bydd angen i chi gyflwyno rhesymau ysgrifenedig pam bod eich achos yn eithriadol (er enghraifft, mabwysiadu aelod o’r teulu) a darparu tystiolaeth ategol. Darllenwch fwy am sut i wneud cais am esemptiad i fabwysiadu plentyn o wlad sydd ar y rhestr o wledydd cyfyngedig.

Bydd angen ichi ddilyn proses wahanol ar gyfer delio â gwledydd cyfyngedig yn yr Alban. Cysylltwch â Llywodraeth yr Alban i gael rhagor o wybodaeth am y cyfyngiadau yno.

Tîm mabwysiadu trawswladol Llywodraeth yr Alban
intercountryadoption@gov.scot

Os ydych chi’n byw dramor

Mae’n rhaid i chi ddilyn cyfreithiau mabwysiadu’r wlad yr ydych ynddi os ydych chi’n byw fel arfer yn y wlad honno ac eisiau mabwysiadu plentyn.

Mae’n rhaid i chi ddilyn cyfraith fabwysiadu’r DU os ydych chi’n byw fel arfer yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.  Weithiau gelwir hyn yn ‘preswylio’n arferol’ a gallwch wneud cais hyd yn oed os ydych chi’n byw dramor adeg gwneud y cais i fabwysiadu. Os nad ydych chi’n siŵr o’ch statws preswylio, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol cyn parhau â’ch cais i fabwysiadu.

Efallai y bydd rhaid i chi dyngu datganiad ar lw o flaen cyfreithiwr i ddweud nad ydych chi mwyach yn preswylio’n arferol yn y DU, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel os bydd y wlad yn gofyn am lythyr ‘dim gwrthwynebiad’ gan lywodraeth y DU. Rhaid i chi anfon y datganiad hwn, ynghyd â chopi o’ch pasbort, i naill ai’r Tîm Mabwysiadu Trawswladol yn yr Adran Addysg neu’r Llysgenhadaeth Prydain agosaf.

Os ydych chi wedi mabwysiadu plentyn naill ai yn y DU neu dramor, ac yna’n teithio neu’n symud i drydydd gwlad, efallai na fydd y wlad honno yn cydnabod bod y plentyn wedi’i fabwysiadu gennych. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.

Cofrestru’r mabwysiad

Gallwch wneud cais i gofrestru mabwysiad o wlad dramor yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ar gyfer Cymru a Lloegr os:

  • digwyddodd y mabwysiad mewn gwlad dramor benodol
  • roedd y rhiant neu’r rheini yn preswylio’n arferol yng Nghymru a Lloegr pan gafodd y plentyn ei fabwysiadu
  • gall y rhiant neu’r rhieni ddarparu’r holl ddogfennau ategol perthnasol

Dylech ddarllen y nodiadau canllaw cyn llenwi’r ffurflen gofrestru gyda’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (GRO).