Mabwysiadu llysblentyn

Mae angen i chi hysbysu’ch cyngor lleol os ydych chi eisiau mabwysiadu plentyn eich priod neu’ch partner. Mae’n rhaid i chi wneud hyn o leiaf 3 mis cyn i chi wneud cais i’r llys am orchymyn mabwysiadu.

Hefyd, mae’n rhaid bod y plentyn wedi bod yn byw gyda’r ddau ohonoch am o leiaf 6 mis.

Yr asesiad mabwysiadu

Mae’r broses fabwysiadu yn debyg i asesiad gan asiantaeth fabwysiadu.

Fe ddefnyddir yr asesiad i helpu’r llys i benderfynu a allwch chi fabwysiadu’r plentyn (yn hytrach nag anfon y cais i’w benderfynu gan banel mabwysiadu annibynnol).

Bydd y llys yn gofyn i’ch cyngor lleol ddarparu adroddiad ar:

  • eich partner
  • y plentyn
  • y rhiant genedigol arall

Bydd yr adroddiad yn cael ei baratoi gan weithiwr cymdeithasol ac fe’i ddefnyddir i helpu’r llys i wneud penderfyniad.

Os cymeradwyir y cais, bydd y gorchymyn llys mabwysiadu yn rhoi cyfrifoldeb rhiant i chi am y plentyn - ochr yn ochr â’ch priod neu’ch partner.

Bydd y gorchymyn hefyd yn dileu cyfrifoldeb rhiant:

  • rhiant genedigol arall y plentyn
  • unrhyw un arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn

Mae gorchymyn mabwysiadu yn canslo unrhyw fath arall o orchymyn llys, er enghraifft, sut a phryd all rhiant genedigol plentyn ymweld â’r plentyn.