Asesiad mabwysiadu

Unwaith bydd yr asiantaeth wedi cael eich cais bydd yn gwneud y canlynol:

  1. Eich gwahodd i gyfres o ddosbarthiadau paratoi - gan amlaf fe’u cynhelir yn lleol ac fe roddir cyngor i chi ar effeithiau mabwysiadu arnoch chi.

  2. Trefnu i weithiwr cymdeithasol ymweld â chi nifer o weithiau i gynnal asesiad - diben hyn yw gwirio eich bod yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.

  3. Trefnu gwiriad heddlu - ni chaniateir i chi fabwysiadu os ydych chi, neu aelod o’ch teulu sy’n oedolyn, wedi’ch cael yn euog o drosedd difrifol, er enghraifft yn erbyn plentyn.

  4. Gofyn i chi ddarparu enw 3 canolwr a fydd yn rhoi geirda personol ar eich cyfer. Gall un o’ch canolwyr fod yn perthyn i chi.

  5. Trefnu i chi gael archwiliad meddygol llawn.

Os ydych eisiau mabwysiadu plentyn rydych wedi bod yn ei faethu, bydd dal angen i chi gael eich asesu a’ch cymeradwyo fel rhieni mabwysiadu.

Eich asesiad

Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn anfon adroddiad yr asesiad at banel mabwysiadu annibynnol. Grŵp o bobl ydyw sydd â llawer o brofiad o fabwysiadu.

Bydd y panel yn gwneud argymhelliad i’r asiantaeth fabwysiadu yn seiliedig ar eich asesiad.

Gallwch fynychu cyfarfod y panel i ofyn cwestiynau ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gan y panel am eich cais.

Bydd y panel mabwysiadu yn anfon ei argymhelliad i’r asiantaeth a fydd wedyn yn penderfynu p’un a ydych chi’n addas i fabwysiadu plentyn.

Os caniateir i chi fabwysiadu plentyn

Unwaith y bydd eich asiantaeth yn penderfynu y cewch fabwysiadu, bydd yn dechrau’r broses o ddod o hyd i blentyn i chi. Bydd yr asiantaeth yn egluro sut mae’r broses yn gweithio a sut allwch chi gymryd rhan.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru gall eich asiantaeth eich cyfeirio at Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru. Mae’r asiantaeth hon yn cadw manylion plant sydd angen eu mabwysiadu ar draws Cymru.

Os bydd asiantaeth fabwysiadu yn dweud na chewch fabwysiadu plentyn

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad asiantaeth fabwysiadu, gallwch naill ai:

Gallwch hefyd gysylltu ag asiantaethau mabwysiadu eraill - ond bydd rhaid i chi ddechrau’r broses eto.