Ffurflen

Gwneud cais am orchymyn mabwysiadu: Ffurflen A58

Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais i fabwysiadu plentyn sy'n byw yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw.

Dogfennau

Cais am orchymyn mabwysiadu: Ffurflen A58

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch hmctsforms@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Adnabyddir y DU, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw yn gyfreithiol fel ‘Ynysoedd Prydain’; y term a ddefnyddir ar y ffurflen.

Cael mynediad i’r ffurflen PDF

I gael mynediad i’r ffurflen a’i llenwi ar eich cyfrifiadur, bydd angen i chi ddefnyddio Adobe Acrobat Reader. Dilynwch y camau hyn:

  • lawrlwythwch Adobe Reader am ddim
  • defnyddwyr Windows – pwyswch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save target as’ neu ‘Save link as’
  • defnyddwyr Mac – pwyswch botwm dde y llygoden ar ddolen y ffurflen a dewiswch ‘Save linked file as’ neu ‘Save link as’
  • cadwch y ffurflen (yn eich ffolder ‘documents’, er enghraifft)
  • agorwch Adobe Reader ac yna dewiswch y ffurflen y gwnaethoch ei chadw

Os nad yw’r ffurflen yn agor, anfonwch neges e-bost i hmctsforms@justice.gov.uk.

Darllenwch y nodiadau ar y dudalen hon i gael gwybod sut i lenwi’r ffurflen.

Darganfyddwch fwy am fabwysiadu plentyn.

I wneud cais am orchymyn mabwysiadu dan y Cytundeb (lle mae’r plentyn a’r mabwysiadwyr yn preswylio’n arferol mewn gwahanol wledydd, a’r gwledydd hynny yn wladwriaethau sy’n bartïon i Gonfensiwn Hague 1993), defnyddiwch Ffurflen A59.

I wneud cais i fabwysiadu plentyn sydd wedi’i ddwyn i’r DU i’w fabwysiadu o wlad nad yw’n wladwriaeth sy’n barti i Gonfensiwn Hague 1993, defnyddiwch Ffurflen A60.

Gwiriwch y ffioedd llys a thribiwnlys a chanfod a allwch gael help i dalu ffioedd. Dod o hyd i fwy o ffurflenni llys a thribiwnlys yn ôl categori.

Darganfyddwch sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn defnyddio gwybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi wrth lenwi ffurflen.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 July 2022 + show all updates
  1. Uploaded new Welsh language version of A58.

  2. Added a Welsh page and Welsh version of the HTML

  3. The eligibility criteria for applying at note 13 has been amended in the English and Welsh A58 notes documents.

  4. Statement of truth amended on the form.

  5. First published.