Ffurflen

Nodiadau ar lenwi’r ffurflen

Diweddarwyd 1 July 2022

Peidiwch â defnyddio’r ffurflen A58 os yw’r plentyn rydych eisiau ei fabwysiadu yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu os ydych yn bwriadu gwneud cais am orchymyn mabwysiadau dan y Cytundeb. Yn hytrach, dylech ddefnyddio Ffurflen A60 (Cais am orchymyn mabwysiadu (ac eithrio gorchymyn mabwysiadu dan y Cytundeb) lle bo plentyn wedi’i dwyn i mewn i’r DU ar gyfer ei fabwysiadu) neu Ffurflen A59 (Cais am orchymyn mabwysiadu dan y Cytundeb).

Mae unrhyw gyfeiriad at dystysgrif geni, tystysgrif marwolaeth, tystysgrif priodas neu dystysgrif partneriaeth sifil yn golygu copi ardystiedig o’r cofnod yn y Gofrestr Genedigaethau Byw, y Gofrestr Marwolaethau, y Gofrestr Priodasau neu’r Gofrestr Partneriaethau Sifil, fel y bo’n briodol. Nid yw llungopi’n dderbyniol. Rhaid i’r dystysgrif geni yr anfonwch i’r llys ar gyfer y plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu, fod yn gopi ardystiedig o’r cofnod llawn yn y Gofrestr Genedigaethau Byw. Os ydych yn atodi unrhyw orchymyn gan yr Uchel Lys neu lys teulu (Cymru a Lloegr) neu orchymyn a wnaed gan lys yn Yr Alban (gorchymyn sefydlogrwydd) neu Ogledd Iwerddon (gorchymyn rhyddhau), rhaid iddo fod yn gopi wedi’i selio o’r gorchymyn (hynny yw, copi a stampiwyd gyda sêl y llys).

Os ydych chi’n atodi gorchymyn a wnaed gan lys ynadon, rhaid iddo fod yn gopi ardystiedig (copi yr ardystiwyd gan swyddog y llys ei fod yn gopi cywir o’r gorchymyn gwreiddiol) neu gopi sydd â stamp y llys gwreiddiol arno. Rhaid i orchymyn a gyflwynwyd gan unrhyw awdurdod arall gael ei ddilysu’n iawn gan yr awdurdod hwnnw. Os ydych yn ansicr ynghylch beth sydd ei angen, cysylltwch â’r llys am gymorth. Anfonwch neu ewch â 3 chopi o’r ffurflen gais wedi’i llenwi i’r llys ynghyd â ffi’r llys ac unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu hatodi i gefnogi’ch cais.

Fel arfer, dylech wneud eich cais i’r Ganolfan Deulu Ddynodedig yn eich ardal.

Dod o hyd i Lys neu Dribiwnlys

Ffioedd y Llys

Mae yna ffi yn daladwy gyda’ch cais. Efallai na fydd rhaid i chi dalu rhan o’r ffi neu’r ffi gyfan. Mwy o wybodaeth am ffioedd yn y Llysoedd Sifil a Theulu (EX50). Mae’n rhaid i chi dalu’r ffi berthnasol pan fyddwch yn cyflwyno eich cais, oni bai y nodir fel arall.

Os oes gennych ychydig neu ddim cynilion o gwbl, os ydych yn cael rhai budd-daliadau penodol neu os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael help i dalu eich ffi llys, a elwir yn Help i Dalu Ffioedd.

Gwybodaeth bellach, gan gynnwys sut i wneud cais am help i dalu ffioedd.

Os nad oes gennych fynediad i’r rhyngrwyd, gallwch gael ffurflen bapur EX160 – Gwneud cais am help i dalu ffioedd, gan staff y llys mewn unrhyw swyddfa llys teulu.

Os ydych yn atodi datganiad ffeithiau i’ch cais, bydd angen ichi ddarparu 2 gopi ychwanegol o’r datganiad.

Os ydych yn atodi adroddiadau iechyd, bydd angen ichi ddarparu 2 gopi ychwanegol.

Llenwi’r ffurflen gais

Nodwch enw’r plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu, gyda’r cyfenw’n olaf. Rhaid i chi roi’r enw(au) cyntaf yn llawn a chyfenw’r plentyn yn union fel y dangosir hwy ar y dystysgrif geni (neu, os yw’r plentyn wedi’i fabwysiadu’n flaenorol, y copi ardystiedig o’r cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig) yr ydych yn ei anfon gyda’ch cais.

Rhan 1: Amdanoch chi

Os yw’r enw a roddwyd gennych yn wahanol i’ch enw fel y mae’n ymddangos ar unrhyw dystiolaeth o briodas neu bartneriaeth sifil yr ydych yn ei hanfon gyda’ch ffurflen gais (er enghraifft, oherwydd eich bod wedi newid eich enw drwy weithred newid enw), atodwch ddalen barhau os yn dda, yn egluro’r rheswm dros y gwahaniaeth a chopi o unrhyw ddogfennau cefnogol (megis y weithred).

Bydd yr alwedigaeth a nodwch yma’n ymddangos ar y gorchymyn mabwysiadu ac fe’i nodir wedyn yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig. Nodwch, os gwelwch yn dda, y gallai methiant i roi manylion llawn olygu oedi yng nghyhoeddi tystysgrif mabwysiadu’r plentyn. Mae’n bwysig eich bod yn nodi teitl llawn eich galwedigaeth (neu alwedigaeth flaenorol os ydych wedi ymddeol), er enghraifft, ‘athro/athrawes ysgol uwchradd’, neu ‘athro/athrawes bale’ nid ‘athro/athrawes’; ‘saer hunangyflogedig’ nid ‘hunangyflogedig’; ‘plismon wedi ymddeol’, nid ‘wedi ymddeol’. Ni ellir derbyn talfyriadau neu ddisgrifiadau cyffredinol megis ‘hunangyflogedig’, ‘gweithiwr rhan-amser’ neu ‘wedi ymddeol’.

Nodwch hefyd na ellir rhoi enwau cwmnïau yn y Gofrestr ac nid yw’n ddigonol nodi eich bod yn ‘gyflogai’ neu’n ‘weithiwr’ gydag unrhyw gwmni penodol; rhaid i chi roi eich galwedigaeth. Os ydych chi’n ddi-waith ar hyn o bryd, neu’n methu gweithio oherwydd anabledd, dylech nodi eich galwedigaeth ddiwethaf. Os ydych chi’n aelod o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi, dylech nodi eich rheng a/neu eich proffesiwn.

Nodwch eich perthynas i’r plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu, er enghraifft llys-riant, rhiant maeth, taid neu nain, modryb, ewythr, perthynas arall (manylwch os gwelwch yn dda). Os nad oes gennych unrhyw berthynas i’r plentyn ar hyn o bryd, ar wahân i fod yn ddarpar fabwysiadwr, nodwch ‘dim’ os gwelwch yn dda.

Ni ellir gwneud gorchymyn mabwysiadu oni bai: bod eich domisil chi (yn achos 2 geisydd, o leiaf un ohonoch) yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, neu:

eich bod chi (yn achos 2 geisydd, y ddau ohonoch) wedi bod yn preswylio’n arferol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, neu Ynys Manaw, am gyfnod o flwyddyn o leiaf, gan ddiweddu gyda dyddiad eich cais. Mae’r Deyrnas Unedig yn golygu Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Gan amlaf, cymerir fod ‘domisil’ yn golygu lleoliad eich cartref parhaol. Gan amlaf, cymerir fod ‘preswylio’n arferol’ yn cyfeirio at fyw yn arferol, ac fel rheol mewn man penodol. Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch a ydych yn bodloni’r gofynion hyn ai pheidio, dylech geisio cyngor cyfreithiol.

Os ydych chi’n gwneud cais i fabwysiadu ar eich pen eich hun a’ch bod yn bartner (gan gynnwys priod neu bartner sifil) i dad neu fam neu riant arall y plentyn, dylech lenwi paragraff (l) ac yna fynd yn eich blaen i Rhan 2 Ynghylch y plentyn. Nid yw paragraffau (m) i (r) yn berthnasol i chi.

Dyma’r diffiniadau ar gyfer ‘Rhiant Arall’;

Menyw a oedd mewn Partneriaeth Sifil â’r fam adeg y cenhedlu â chymorth ac sy’n rhiant yn rhinwedd adran 42 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008.

Menyw nad oedd mewn Partneriaeth Sifil â’r fam adeg y cenhedlu â chymorth ac sy’n rhiant yn rhinwedd adran 43 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008.

Os ydych chi’n gwneud cais i fabwysiadu ar eich pen eich hun, a’ch bod yn bartner (ond heb fod yn briod neu’n bartner sifil) i unigolyn nad yw’n rhiant i’r plentyn yr ydych yn dymuno’i fabwysiadu, dylech lenwi paragraff (m). Rhowch eich rhesymau dros wneud cais i fabwysiadu ar eich pen eich hun, os gwelwch yn dda. Os nad oes digon o le ar gyfer eich ateb, gallwch barhau ar ddalen ar wahân. Dylech wedyn fynd yn eich blaen i Ran 2 Ynghylch y plentyn. Nid yw paragraffau (n) i (r) yn berthnasol i chi.

Os ydych chi’n gwneud cais i fabwysiadu ar eich pen eich hun ac:

  • ni fuoch erioed yn briod/â phartner sifil, llenwch baragraff (n)
  • eich bod wedi ysgaru, neu fod eich partneriaeth sifil wedi’i diddymu, llenwch baragraff (o) ac atodwch gopi o’r Dyfarniad Absoliwt neu’r Gorchymyn Diddymu i’ch cais
  • eich bod yn wraig weddw neu’n ŵr gweddw neu’n bartner sifil sy’n goroesi, llenwch baragraff (p) ac atodwch dystysgrif marwolaeth eich diweddar briod neu bartner sifil i’ch cais

Os ydych chi’n gwneud cais i fabwysiadu ar eich pen eich hun a’ch bod yn briod neu fod gennych bartner sifil, bydd yn rhaid i chi fodloni’r llys o’r canlynol:

  • ni ellir dod o hyd i’ch priod neu bartner sifil, neu
  • eich bod wedi gwahanu oddi wrth eich priod neu bartner sifil, eich bod yn byw ar wahân a bod y gwahanu’n debygol o fod yn barhaol, neu
  • nid oes gan eich priod neu bartner sifil y gallu corfforol i wneud cais neu’r gallu meddyliol (o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005) i wneud hynny

Rhaid i chi nodi ar y ffurflen gais pa un o’r 3 seiliau hyn sy’n berthnasol yn eich achos chi drwy roi tic yn y blwch priodol. Dylech atodi eich tystysgrif priodas (neu dystiolaeth arall o briodas), neu eich tystysgrif partneriaeth sifil (neu dystiolaeth arall o’r bartneriaeth sifil) i’ch cais ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ddogfennol arall y bwriadwch ddibynnu arni, megis dyfarniad o wahaniad swyddogol, neu dystiolaeth feddygol o analluogrwydd corfforol neu ddiffyg galluedd o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005. Dylech hefyd roi enw a chyfeiriad (os gwyddys) eich priod neu bartner sifil.

Os ydych chi’n gwneud cais ar eich pen eich hun am orchymyn mabwysiadu mewn perthynas â’ch plentyn eich hun, bydd angen i chi fodloni’r llys:

  • fod y rhiant naturiol arall wedi marw, neu
  • ni ellir dod o hyd i’r rhiant naturiol arall, neu
  • nid oes neb arall sy’n rhiant yn rhinwedd adran 28 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 1990, (gan ddiystyru isadrannau (5A) i (5I) yr adran honno) ac adrannau 34 i 47 Deddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg 2008 (gan ddiystyru adrannau 39, 40 a 46 y Ddeddf honno), neu
  • fod rhyw reswm arall (y mae’n rhaid i chi ei nodi ar eich ffurflen gais) i gyfiawnhau eithrio’r rhiant arall o’ch cais

Rhaid i chi nodi ar y ffurflen gais pa un o’r seiliau hyn sy’n berthnasol yn eich achos chi drwy roi tic yn y blwch priodol. Dylech hefyd atodi i’ch cais unrhyw dystiolaeth ddogfennol yr ydych yn bwriadu dibynnu arni, megis tystysgrif marwolaeth.

Rhan 2: Ynghylch y plentyn

Os yw’r plentyn wedi cael ei fabwysiadu’n flaenorol, dylid atodi copi ardystiedig o’r cofnod yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig ac nid copi ardystiedig o’r cofnod llawn yn y Gofrestr Genedigaethau Byw. Lle nad oes modd i chi atodi tystysgrif, nodwch leoliad geni’r plentyn (gan gynnwys y wlad), os gwyddoch.

Ni ellir gwneud cais mewn perthynas ag unigolyn sy’n 18 oed neu’n hŷn adeg gwneud y cais.

Ni all y llys wneud gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas ag unrhyw unigolyn sy’n briod neu sydd wedi bod yn briod, neu unrhyw unigolyn sy’n bartner sifil neu a fu’n bartner sifil.

Mae yna amodau penodol ynghylch am faint o amser y mae’n rhaid bod plentyn wedi byw gyda chi cyn y gallwch wneud y cais hwn. Dyma fanylion y senarios amrywiol:

Os ydych yn rhiant i’r plentyn, rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi (os ydych chi’n gwneud cais fel cwpl, gydag un neu’r ddau ohonoch) drwy’r amser yn ystod y 10 wythnos cyn i chi wneud y cais.

Os lleolwyd y plentyn gyda chi i’w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu, neu yn unol â gorchymyn Uchel Lys, rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi drwy’r amser yn ystod y ddeng wythnos cyn i chi wneud y cais i fabwysiadu.

Os ydych chi’n bartner i riant y plentyn, rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi drwy’r amser yn ystod y cyfnod o 6 mis cyn i chi wneud y cais.

Os ydych chi’n rhiant maeth i’r awdurdod lleol, rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi drwy’r amser yn ystod y flwyddyn cyn i chi wneud y cais. Fodd bynnag, os yw’r plentyn wedi byw gyda chi am lai na blwyddyn, efallai y byddwch yn gallu cael caniatâd y llys i wneud y cais yn gynt, defnyddiwch FP2 Rhybudd o Gais dan Ran 18 Rheolau Trefniadaeth Teulu 2020 i wneud cais am ganiatâd gan y llys.

Fel arall, rhaid bod y plentyn wedi byw gyda chi drwy’r amser am ddim llai na 3 blynedd (boed hynny’n barhaus neu beidio) yn ystod y cyfnod o 5 mlynedd cyn ichi wneud y cais. Fodd bynnag, os yw’r plentyn wedi byw gyda chi am lai na blwyddyn, efallai y byddwch yn gallu cael caniatâd y llys i wneud y cais yn gynt (defnyddiwch FP2 Rhybudd o Gais dan Ran 18 Rheolau Trefniadaeth Teulu 2020 i wneud cais am ganiatâd gan y llys).

Os na chafodd y plentyn yr ydych yn dymuno ei fabwysiadu ei leoli gyda chi i’w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu, rhaid i chi hysbysu’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi yn ysgrifenedig o’ch bwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu. Rhaid i chi hysbysu’r awdurdod lleol o’ch bwriad ddim mwy na 2 flynedd a ddim llai na 3 mis cyn dyddiad eich cais i’r llys.

Pan fo gorchymyn lleoli, gorchymyn rhyddhau neu orchymyn sefydlogrwydd wedi’i wneud, rhowch fanylion am enw’r llys a wnaeth y gorchymyn, rhif yr achos a’r dyddiad gwnaethpwyd y gorchymyn. Mae yna ddisgrifiad o’r gwahanol orchmynion isod, a manylir ym mhle y gwnaethpwyd y gorchymyn llys:

  • Gorchymyn Lleoli yw gorchymyn a wnaed yng Nghymru a Lloegr dan adran 22 Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002
  • Gorchymyn Rhyddhau yw gorchymyn a wnaed yng Nghymru a Lloegr dan adran 10 Deddf Mabwysiadu 1976 cyn 30 Rhagfyr 2005

Neu:

  • Gorchymyn Rhyddhau yw gorchymyn a wnaed yng Ngogledd Iwerddon dan Ddeddf Mabwysiadu (Gogledd Iwerddon) 1987. Rhaid i chi ddarparu manylion yn yr adran hon os gwnaethpwyd eich gorchymyn
    • dan Erthygl 17 (1) Deddf 1987, neu
    • dan Erthygl 18 (1) Deddf 1987
  • Gorchymyn Sefydlogrwydd yw gorchymyn a wnaed yn Yr Alban dan adran 80 Deddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2009.

Dylech atodi copi o’r gorchymyn lleoli (Cymru a Lloegr), gorchymyn rhyddhau (Cymru a Lloegr neu Ogledd Iwerddon) neu orchymyn sefydlogrwydd (Yr Alban) i’ch cais. Rhaid i’r gorchymyn fod yn gopi wedi’i selio o’r gorchymyn.

Os oes unigolyn neu gorff yn atebol i dalu tâl cynhaliaeth ar gyfer y plentyn dan orchymyn llys neu gytundeb cynhaliaeth neu gynhaliaeth cynnal plant a ddyfarnwyd gan y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (yr Asiantaeth Cynnal Plant yn flaenorol), rhowch enw a chyfeiriad yr unigolyn neu’r corff sy’n atebol i dalu. Yn achos gorchymyn cynhaliaeth, rhowch enw’r llys a dyddiad gwneud y gorchymyn; fel arall, rhowch ddyddiad y cytundeb cynhaliaeth neu’r dyfarniad cynhaliaeth cynnal plant.

Os yw’n bosibl, dylech atodi copi o unrhyw orchymyn cynhaliaeth neu gopi o’r cytundeb cynhaliaeth neu ddyfarniad cynhaliaeth, i’ch cais.

Os oes achosion blaenorol, neu gyfredol yn ymwneud â’r plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu (er enghraifft, gwrandawiadau am orchymyn gofal, gorchymyn cyswllt, gorchymyn cyfrifoldeb rhiant neu orchymyn trefniadau plant), rhowch enw’r llys, natur yr achos a dyddiad ac effaith unrhyw orchymyn a wnaed, neu ddyddiad y gwrandawiad nesaf os yw’r achosion yn gyfredol. Nid oes angen i chi nodi unwaith eto fanylion unrhyw orchymyn lleoli, gorchymyn rhyddhau, gorchymyn sefydlogrwydd neu orchymyn cynhaliaeth neu gytundeb rydych eisoes wedi’i nodi yn yr adrannau perthnasol blaenorol.

Os oeddech chi’n barti i unrhyw achos a gwblhawyd, dylech atodi copi o’r gorchymyn terfynol i’ch cais.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am orchymyn mabwysiadu mewn perthynas â’r un plentyn ac y gwrthodwyd y gorchymyn, bydd angen i chi fodloni’r llys y bu newid mewn amgylchiadau ers i chi wneud y cais diwethaf, neu fod rhyw reswm arall paham y dylai’r llys wrando ar eich cais presennol. Nodwch eich rhesymau dros wneud y cais hwn ar ddalen ar wahân os gwelwch yn dda, gan egluro paham y credwch y dylai’r cais gael ei wrando. Rhowch enw llawn y plentyn, rhif y rhan a’r paragraff ar frig y daflen a’i atodi i’ch ffurflen gais. CTA

Rhan 3: Ynghylch rhiant/rheini neu warcheidwad y plentyn

Os yw’r plentyn wedi cael ei fabwysiadu’n flaenorol, rhowch enwau’r rhieni a fabwysiadodd ef/hi, ac nid y rhieni naturiol. Os nad oes gennych yr wybodaeth hon, efallai yr hoffech gysylltu â’r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth leoli’r plentyn i gael yr wybodaeth hon.

Bydd rhaid i chi hefyd nodi galwedigaeth eich partner sy’n rhiant y plentyn yr ydych chi’n gwneud cais i’w fabwysiadu.

Os nad oedd rhieni’r plentyn yn briod â’i gilydd neu mewn partneriaeth sifil adeg ei enedigaeth ef/ei genedigaeth hi, gallai tad y plentyn neu’r rhiant arall fod wedi cael cyfrifoldeb rhiant oherwydd:

  • bod tad y plentyn a mam y plentyn wedi priodi ers i’r plentyn gael ei eni
  • bod rhiant arall y plentyn a mam y plentyn mewn partneriaeth sifil ers i’r plentyn gael ei eni
  • bod gan tad y plentyn neu’r rhiant arall gytundeb cyfrifoldeb rhiant gyda’r fam, neu wedi cael dyfarniad o orchymyn cyfrifoldeb rhiant o’i blaid, neu
  • bod tad y plentyn neu’r rhiant arall wedi cofrestru genedigaeth y plentyn ar y cyd â mam y plentyn (ers 1 Rhagfyr 2003).

Rhowch fanylion unrhyw orchymyn llys neu gytundeb mewn perthynas â chyfrifoldeb rhiant ym mharagraff (m) yn Rhan 2 - Ynghylch y plentyn ar y ffurflen gais.

Os nad oes gan y plentyn warcheidwad, nodwch ‘amherthnasol’. Fel arall, rhowch fanylion unrhyw unigolyn a benodwyd i fod yn warcheidwad i’r plentyn drwy weithred neu ewyllys neu fel arall yn ysgrifenedig yn unol ag adran 5(5) Deddf Plant 1989 neu drwy orchymyn a wnaed dan adran 5(1) neu 14A y Ddeddf honno. Os oes gan y plentyn fwy nag un gwarcheidwad, rhowch enw a chyfeiriad unrhyw warcheidwad arall/gwarcheidwaid eraill ar ddalen ar wahân, gan nodi enw llawn y plentyn, rhif y Rhan berthnasol a chyfeirnod y paragraff ar frig y ddalen.

Os yw’r plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu eisoes yn destun gorchymyn lleoli cyfredol, bod yr asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli’r plentyn gyda chi ac nad oes unrhyw riant neu warcheidwad yn gwrthwynebu i’r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud, nid oes angen i chi ofyn i’r llys hepgor caniatâd rhiant (rhieni) neu warcheidwad (gwarcheidwaid) y plentyn i’ch cais. Nid oes rhaid i chi lenwi paragraff (l), ond sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod wedi nodi manylion y gorchymyn lleoli yn Rhan 2 - Ynghylch y plentyn ar y ffurflen gais.

Os yw’r plentyn yr ydych yn gwneud cais i’w fabwysiadu eisoes yn destun gorchymyn rhyddhau cyfredol neu orchymyn sefydlogrwydd, nid oes angen i chi ofyn i’r llys hepgor caniatâd rhiant (rhieni) neu warcheidwad (gwarcheidwaid) y plentyn i’ch cais. Nid oes rhaid i chi lenwi paragraff (l) ond sicrhewch, os gwelwch yn dda, eich bod wedi nodi manylion y gorchymyn rhyddhau neu’r gorchymyn sefydlogrwydd yn Rhan 2 - Ynghylch y plentyn ar y ffurflen gais.

Nid oes angen i chi ofyn i’r llys hepgor caniatâd rhiant (rhieni) neu warcheidwad (gwarcheidwaid) y plentyn i’ch cais os:

  • yw rhiant/rhieni/gwarcheidwad/gwarcheidwaid y plentyn wedi cytuno i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud; neu
  • yw rhiant/rhieni/gwarcheidwad/gwarcheidwaid y plentyn wedi rhoi caniatâd ymlaen llaw i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud yn y dyfodol (ac nid yw/nid ydynt wedi tynnu’r caniatâd hwnnw’n ôl) ac nid yw/nid ydynt yn gwrthwynebu i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud; neu
  • lleolwyd y plentyn gyda chi i’w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu gyda chaniatâd pob rhiant/gwarcheidwad (a rhoddwyd caniatâd y fam pan oedd y plentyn o leiaf 6 wythnos oed), ac nid oes unrhyw riant/warcheidwad yn gwrthwynebu i orchymyn mabwysiadu gael ei wneud.

Llenwch baragraff (l), os gwelwch yn dda, gan ddangos pa un o’r amodau hyn sy’n berthnasol yn eich achos chi.

Os nad oes gan tad y plentyn neu’r rhiant arall gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, nid ydych angen caniatâd y rhiant hwnnw er mwyn gallu gwneud cais am orchymyn mabwysiadu.

Os ydych chi’n gofyn i’r llys hepgor caniatâd unrhyw riant neu warcheidwad, ni all y llys hepgor caniatâd yr unigolyn hwnnw dim ond os yw’n fodlon:

  • ni ellir dod o hyd iddo ef/hi, neu
  • nid oes ganddo ef neu hi y gallu (o fewn ystyr Deddf Galluedd Meddyliol 2005) i roi caniatâd, neu
  • fod lles y plentyn yn mynnu hynny

Rhaid i chi lenwi paragraff (l) gan nodi pa un o’r tair sail hyn sy’n berthnasol i’ch cais. Hefyd, bydd y llys angen datganiad ffeithiau byr gennych yn rhoi crynodeb o hanes yr achos ac unrhyw ffeithiau eraill i fodloni’r llys fod y rhesymau dros eich cais yn berthnasol. Gelwir y datganiad hwn yn ‘ddatganiad ffeithiau’. Os na ellir dod o hyd i riant, dylai eich datganiad ffeithiau roi manylion y camau a gymerwyd i geisio dod o hyd iddo ef/iddi hi. Rhaid i’r datganiad ffeithiau gael ei lofnodi gan eich cyfreithiwr, neu gennych chi (y ddau ohonoch) os nad oes gennych gyfreithiwr.

Dylech atodi eich datganiad ffeithiau, ynghyd â 2 gopi o’r datganiad, i’ch ffurflen gais. Dylech hefyd atodi unrhyw ddogfennau yr ydych yn eu cyflwyno i gefnogi eich datganiad.

$CTA Bydd y llys yn anfon copi o’ch datganiad ffeithiau at bob rhiant neu warcheidwad y plentyn. Dylech sicrhau nad yw’r datganiad ffeithiau yn cynnwys unrhyw wybodaeth allai ddatgelu pwy ydych chi, ble rydych yn byw na ble mae’r plentyn yn mynd i’r ysgol neu’r feithrinfa.

Rhan 4: Cyffredinol

Nodwch yr enw y dymunwch i’r plentyn gael ei adnabod ganddo yn dilyn y mabwysiadu. Dyma’r enw a roddir yn y Gofrestr Plant Mabwysiedig. Efallai y byddwch yn dymuno i’r plentyn gael enw newydd ar ôl iddo gael ei fabwysiadu, ond nid oes unrhyw reidrwydd i newid enw’r plentyn os nad ydych eisiau gwneud hynny.

Nid oes angen i chi anfon adroddiad ar eich iechyd (neu iechyd y ceisydd arall, os oes un), neu iechyd y plentyn gyda’ch cais:

  • os lleolwyd y plentyn gyda chi i’w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu; neu
  • os yw ef/hi’n blentyn i chi, neu’n blentyn i’r ymgeisydd arall; neu
  • rydych yn gwneud cais ar eich pen eich hun fel partner (gan gynnwys priod neu bartner sifil) mam neu dad neu riant arall y plentyn.

Fel arall, rhaid i chi atodi adroddiadau iechyd ar wahân mewn perthynas â phob ceisydd a’r plentyn, a 2 gopi o’r adroddiadau. Dylai’r adroddiadau iechyd ymdrin â’r materion a nodir yn y Cyfarwyddyd Ymarfer ‘Adroddiadau gan ymarferydd meddygol cofrestredig (adroddiadau iechyd), ac ni ddylent fod wedi’u llunio ynghynt na 3 mis cyn dyddiad eich cais am orchymyn mabwysiadu.

Cymorth os byddwch yn mynychu’r llys

Os byddwch chi/un ohonoch angen cymorth ar gyfer anabledd neu nam, nodwch eich gofynion yn llawn os gwelwch yn dda. Bydd staff y llys angen gwybod, er enghraifft, a ydych eisiau i ddogfennau gael eu darparu mewn fformat gwahanol, megis Braille neu brint bras. Byddant hefyd angen gwybod am unrhyw ofynion penodol allai fod gennych ar ddiwrnod y gwrandawiad, megis mynediad i gadair olwyn, system dolen clyw, neu ddehonglydd iaith arwyddion.

Efallai y bydd staff y llys yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion os bydd angen. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth y llys am eich holl anghenion. Os na wnewch hynny, efallai y bydd rhaid gohirio’r gwrandawiad.